Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Y prynhawn yma cadeiriais yr ail Uwchgynhadledd Costau Byw lle ymunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol â mi, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru.
Roedd ein Huwchgynhadledd Costau Byw gyntaf ym mis Chwefror yn fodd i ni ddatblygu dealltwriaeth gliriach o'r effaith yr oedd yr argyfwng costau byw yn ei chael ar lawr gwlad – yng nghartrefi pobl, yn ein cymunedau ac ar gyfer sefydliadau. Fe wnaeth yr adborth a gafwyd roi’r wybodaeth yr oedd ei hangen arnom i dargedu adnoddau lle byddent yn cael yr effaith fwyaf.
Heddiw, pwysleisiais unwaith eto mai Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol am y pwerau a'r adnoddau cyllidol sydd eu hangen i helpu pobl gyda chostau ynni cynyddol a chostau byw cynyddol. Serch hynny, mae'r dystiolaeth wedi dangos bod ein hymyriadau'n gwneud gwahaniaeth.
Ers i ni gyfarfod ddiwethaf, rydym wedi cynnal ail ymgyrch genedlaethol Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi. Ymatebodd dros 8,000 o bobl i’r ymgyrch a oedd yn annog pobl i gysylltu â Advicelink Cymru ac maent wedi cael cymorth i hawlio dros £2.1m o incwm ychwanegol.
Fe wnaeth yr adborth o'r Uwchgynhadledd gyntaf ein helpu i benderfynu sut i fuddsoddi'r pecyn cymorth gwerth £330 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ym mis Chwefror.
Bydd y cyllid yn cefnogi Cynllun Cymorth Tanwydd arall i Gymru y gaeaf hwn a fydd yn rhoi taliad o £200, nad oes yn rhaid ei ad-dalu, tuag at filiau ynni mwy o bobl ar incwm isel yn nes ymlaen eleni. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar hyn yr wythnos nesaf. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ar hyn yr wythnos nesaf. Cefnogodd y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf blaenorol dros 166,000 o aelwydydd.
Hefyd buddsoddwyd o bron i £4 miliwn mewn taleb tanwydd a chynllun Cronfa Gwres a fydd yn cefnogi cwsmeriaid agored i niwed sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu tanwydd.
Yn ein cyllideb ym mis Mawrth, gwnaed buddsoddiad ychwanegol o £14.9 miliwn yn y Gronfa Cymorth Dewisol, gan ymestyn yr hyblygrwydd sy'n sicrhau bod mwy o bobl yn cael cymorth ariannol brys pan fydd ei angen arnynt.
Mewn ymateb i adborth o'r Uwchgynhadledd, cynhaliais Gyfarfod Bord Gron ar Dlodi Bwyd ym mis Mai a wnaeth ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i drafod effaith prisiau bwyd cynyddol a chostau ynni cynyddol ar lefelau tlodi bwyd. Mae’r adborth wedi helpu i benderfynu sut y dylid cyfeirio'r cyllid yn fwy effeithiol i gefnogi pobl sy'n profi tlodi bwyd nawr a sut y gallwn leihau ac atal yr angen am ddarpariaeth bwyd brys yn y tymor hwy.
Mae'r argyfwng wedi tynnu sylw at bwysigrwydd atebion cynaliadwy i fynd i'r afael â thlodi bwyd a galluogi rhwydweithiau lleol i ymateb i anghenion lleol.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu partneriaethau bwyd traws-sector a chryfhau’r partneriaethau bwyd sy'n bodoli eisoes a all helpu i feithrin gwydnwch mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydlynu gweithgarwch ar lawr gwlad sy'n gysylltiedig â bwyd i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Bydd y rhwydweithiau hyn yn hybu gweithredu gan ddinasyddion, yn gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd prosiectau ac yn sicrhau bod adnoddau'n cael eu targedu i’r mannau lle mae’r angen mwyaf.
Byddant yn darparu gwasanaeth cydgysylltiedig, gan ddefnyddio cymorth ac arbenigedd o wasanaethau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, cymdeithasau tai Cymru a gwasanaethau cynghori, i ddeall a mynd i'r afael ag angen lleol. Byddant yn sicrhau bod anghenion uniongyrchol a chynyddol aelwydydd sy'n profi tlodi bwyd yn cael eu diwallu tra hefyd yn canolbwyntio adnoddau ar atal a chynaliadwyedd i gefnogi gwydnwch yn y tymor hwy.
Bydd y dull hwn hefyd yn cefnogi cronfa uniongyrchol ar gyfer cymorth brys i helpu i ateb y galw cynyddol am ddarpariaeth bwyd brys o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.
Mae adborth ar fynediad at fudd-daliadau a rhannu gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael wedi arwain at sefydlu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynyddu Incwm sy'n edrych ar ffyrdd o helpu pobl i gael gafael ar yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo a chefnogi pobl sy'n ei chael yn anodd ad-dalu eu dyledion.
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cytuno i roi £6m ychwanegol i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer Cronfa Atal Digartrefedd Ddewisol. Bydd y gronfa hon yn darparu cymorth ar unwaith i atal a lliniaru digartrefedd a bydd yn helpu i liniaru'r gostyngiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i'r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.
Fodd bynnag, nid ydym wedi gorffen ein gwaith. Gyda chynnydd pellach yn y cap ar brisiau ynni ym mis Hydref, gwyddom y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddynt wella.
Trafodwyd yn yr Uwchgynhadledd heddiw beth arall y mae angen inni ei wneud. Roedd yr adborth a gafwyd yn cydnabod bod angen datblygu camau gweithredu sydd nid yn unig yn mynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol aelwydydd sy'n agored i niwed ond hefyd yn eu cefnogi i feithrin gwydnwch yn wyneb yr heriau sydd i ddod.
Roedd y cynrychiolwyr yn cydnabod yr angen i gryfhau effaith ein hymdrechion ar y cyd drwy weithio fel partneriaid gyda nod cyffredin. Unwaith eto, fe wnaethant rannu eu barn a’u syniadau ar yr hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio.
Rydym wedi gwrando a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein pwerau i amddiffyn pobl rhag effeithiau'r argyfwng hwn a chefnogi ein cymunedau drwy'r cyfnod heriol hwn.