Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r pandemig coronafeirws wedi tynnu sylw at y ffordd yr ydym yn gofalu am rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas.

Rwyf yn croesawu adroddiad diweddar y Comisiynydd Pobl Hŷn Lleisiau Cartrefi Gofal, sy'n manylu ar brofiadau staff cartrefi gofal, preswylwyr, eu ffrindiau a'u teuluoedd. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr adroddiad – mae'n rhoi cipolwg gwerthfawr ar effaith y coronafeirws ar rai o aelodau ein cymunedau a glywir leiaf.

Mae'n tynnu sylw at waith caled a dygnwch staff cartrefi gofal yn ystod y pandemig ac at fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio. Er enghraifft, mae technoleg ddigidol wedi helpu llawer o bobl mewn cartrefi gofal i aros mewn cysylltiad ac rwyf yn gobeithio y gallwn ddysgu o'r profiadau newydd hyn wrth inni gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio i gydbwyso hawliau pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal â'r angen i'w diogelu rhag y coronafeirws. Mae hyn wedi cynnwys cyfyngu ar ymweld â chartrefi gofal, ac fe wn nad yw hyn wedi bod yn hawdd - bydd pobl yn gweld eisiau gweld eu ffrindiau a'u teuluoedd wyneb yn wyneb. Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd i alluogi ymweliadau diogel o dan y cyfyngiadau presennol. Rwyf yn ddiolchgar i'r Comisiynydd Pobl Hŷn a rhanddeiliaid eraill am gymryd rhan yn y gwaith hwn.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid gofal cymdeithasol a staff cartrefi gofal i gefnogi pobl agored i niwed sy'n byw mewn cartrefi gofal. Rydym hefyd wedi cynnal proses pwyso a mesur ac  adolygu barhaus, a fydd yn helpu i lywio cynllun gweithredu cyn unrhyw gynnydd yn y dyfodol yn y coronafeirws a phwysau’r gaeaf.

Rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad cyflym arbenigol ac annibynnol o brofiad gweithredol cartrefi gofal rhwng Mawrth a Mehefin. Bydd yn cael ei gwblhau ym mis Medi.

Rhaid i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, eu ffrindiau a'u teuluoedd gael y cyfle i gyfrannu at ein dull gweithredu a byddaf yn parhau i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u hadlewyrchu yn ein penderfyniadau polisi.

Mae cartrefi gofal yn gymaint o ran o'n cymunedau ag ysgolion a gweithleoedd – drwy wrando ar leisiau preswylwyr, gallwn gynllunio ar gyfer dyfodol mwy cydlynus a mwy diogel i bawb.