Mark Drakeford AC, Prif Weinidog
Heddiw rydw i yn cyhoeddi fframwaith i arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws.
Mae mynd i’r afael â’r argyfwng coronafeirws wedi golygu newidiadau mawr i fywydau pob un ohonom ar draws Cymru. Rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn achub bywydau a diogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Mae’n amlwg bod gweithredoedd pob un ohonom wedi cyfrannu at y gostyngiad yn y lefelau haint yng Nghymru, ond mae’r feirws yn parhau i fod yn fygythiad difrifol iawn i bob un ohonom ac ni allwn laesu dwylo o gwbl.
Oherwydd hyn, wrth inni ystyried codi rhai o’r cyfyngiadau, mae’n rhaid inni wneud hynny yn ofalus iawn, gan ystyried y data a’r dadansoddiadau gwyddonol gorau.
Mae pob un ohonom wedi chwarae ein rhan drwy gadw at y cyfyngiadau. Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffwn fod yn agored gyda phobl Cymru wrth i mi a’m cydweithwyr yn y Cabinet ystyried sut y gellir llacio’r cyfyngiadau. Hoffwn gynnal sgwrs gyda phobl Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf, i esbonio sut y byddwn yn gwneud penderfyniadau a phwyso a mesur y
risgiau a’r manteision o godi’r cyfyngiadau ar symud.
Rwy’n ymwybodol o’r effaith ar deuluoedd, swyddi, iechyd a llesiant pob un ohonom, ond ni allwn chwaith beryglu effaith yr holl aberth rydym eisoes wedi’I wneud. Ni fyddwn ni’n gwneud unrhyw beth heb fod mor siŵr ag y gallwn na fydd perygl y daw ail don sylweddol o’r haint, ac yna gorfod ailgyflwyno rhai cyfyngiadau.
Rwy’n sylweddoli y bydd llawer o bobl yn bryderus am ddychwelyd i ryw fath o fywyd arferol – felly mae’r fframwaith hwn hefyd yn amlinellu’r dystiolaeth, yr egwyddorion a’r mesurau iechyd y cyhoedd a fydd yn gwneud yn siŵr y gall pawb fod yn hyderus yn y dull o lacio’r cyfyngiadau.
Mae’r fframwaith hwn felly yn seiliedig ar dri philer.
Yn gyntaf, mae’n amlinellu’r mesurau a’r dystiolaeth y byddwn yn eu defnyddio i farnu’r lefelau haint presennol a chyfraddau trosglwyddo coronafeirws yng Nghymru.
Yn ail, mae’n amlinellu cyfres o egwyddorion y byddwn yn eu defnyddio i ymchwilio i’r dulliau arfaethedig o lacio’r cyfyngiadau presennol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Yn drydydd, byddwn yn gwella ein system ar gyfer cadw golwg ar Iechyd y cyhoedd ac ymateb i’r sefyllfa, i’n galluogi i fedru olrhain y feirws yn ofalus wrth i’r cyfyngiadau godi, ac yn edrych ar sut y bydd y system hon yn diogelu iechyd pobl.
Mae Cymru wedi cynnal system Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol gyda phresenoldeb lleol cryf ym mhob rhan o Gymru, a byddwn yn adeiladu ar y cryfderau hyn.
Bydd y cynllun adferiad iechyd y cyhoedd hwn yn defnyddio tystiolaeth ryngwladol ac yn adeiladu ar ein rhwydweithiau cryf presennol. Gyda’i gilydd, y pileri hyn yw’r sail ar gyfer arwain Cymru allan o’r argyfwng hwn mewn ffordd a fydd yn cadw pawb yn ddiogel ac yn adfywio ein heconomi cyn gynted â phosibl.
Cyflwynwyd y cyfyngiadau ar symud yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ledled y Deyrnas Unedig, a’n dewis ni fel llywodraeth fyddai bod pob un o’r pedair gwlad yn mynd ati i godi’r cyfyngiadau yn yr un ffordd. Serch hynny, rydym wedi dweud yn gyson y byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir er lles pobl Cymru.
Ein nod yma yw bod yn agored ynglŷn â’r penderfyniadau hynny a defnyddio’r amser sydd gennym i ystyried ac adolygu’r cyfyngiadau, gan gynnwys pobl yn y gwaith hwnnw a gofyn eu barn. Mae’r ddogfen hon yn egluro sut y byddwn yn gwneud hynny, yn ogystal â chyfrannu at y gwaith sy’n mynd rhagddo ledled y DU i fapio’r ffordd ymlaen.