Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n bleser gen i gyhoeddi fy mod heddiw yn cyhoeddi drafft o Fil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Mae nifer o bobl yng Nghymru yn cymryd camau yn barod i leihau ein dibyniaeth ar ddefnyddio plastigau untro, newid arferion a gwneud cynnyrch a gwasanaethau'n fwy cynaliadwy. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eu hymdrechion. Y Bil fydd y cam cyntaf mewn rhaglen o fesurau sydd â'r nod o fynd i'r afael â llygredd plastig a chyflawni ymrwymiad Rhaglen y Llywodraeth i ddiddymu cynhyrchion plastig untro sy'n cael eu taflu'n rheolaidd. Mae Aelodau ar draws y Senedd wedi bod yn galw ar frys i ffrwyno'r defnydd o blastigau untro nad ydynt yn hanfodol nac yn feddygol, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phob plaid i sicrhau bod gweithredu ar blastigau mor uchelgeisiol â bo modd, gan adeiladu ar ein pryderon cyffredin a rhai'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli.
Mae'r Bil yn cynnig gwahardd neu gyfyngu ar werthiant rhai o'r plastigau untro a deflir fwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae'r Bil drafft i'w weld drwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://llyw.cymru/bil-diogelur-amgylchedd-cynhyrchion-plastig-untro-cymru. Nod cyhoeddi y Bil drafft heddiw yw rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil cyn ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr hydref. Nid yw'n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori pellach ar hyn o bryd. Mae'r gwaith ar baratoi'r Bil yn parhau ac mae'n debyg y bydd newidiadau cyn ei gyflwyno i'r Senedd. Nid fersiwn derfynol yw hon felly.
Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau Senedd Cymru ar ddarpariaethau'r Bil wrth graffu arno ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno yn yr hydref.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.