Neidio i'r prif gynnwy

Deddf i fynd i’r afael â llygredd plastig a chyflawni ein hymrwymiad i gael gwared â chynhyrchion plastig untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) rhai cynhyrchion plastig untro i ddefnyddwyr yng Nghymru oni bai bod esemptiad. 

Fe welwch fanylion y Ddeddf a’r dogfennau a gefnogodd ei datblygu isod: 

Canllawiau

I’ch helpu i ddeall sut mae’r Ddeddf yn gweithio a sut y gall effeithio arnoch chi, mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol. I’w gweld, cliciwch ar y ddolen: 

Amserlenni

Dechreuodd Cyfnod 1 y gwaharddiadau ar gynhyrchion plastig untro ar 30 Hydref 2023 a byddant yn cynnwys:

  • Platiau plastig untro –yn cynnwys platiau papur sydd ag araen blastig wedi’i lamineiddio
  • Cytleri plastig untro – er enghraifft ffyrc, llwyau a chyllyll 
  • Troellwyr plastig untro ar gyfer diodydd 
  • Cwpanau sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog 
  • Cynwysyddion bwyd tecawê sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog
  • Ffyn balwnau plastig untro
  • Ffyn cotwm plastig untro
  • Gwellt yfed plastig untro – gydag esemptiadau er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny sy’n dibynnu arnynt i fwyta ac yfed yn gallu parhau i’w cael

Rydym am gyflwyno cyfnod 2 erbyn Gwanwyn 2026 a bydd hynny’n cynnwys: 

  • Bagiau siopa plastig untro – gydag esemptiadau sy’n cynnwys bagiau siopa ar gyfer pysgod, cig neu ddofednod amrwd a bwyd heb ei becynnu
  • Caeadau cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê sydd wedi’u gwneud o bolystyren
  • Cynhyrchion plastig ocso-ddiraddiadwy

O dan y Ddeddf, mae gan Weinidogion Cymru bwerau hefyd i ychwanegu neu i dynnu cynhyrchion o’r rhestr o gynhyrchion plastig untro sydd wedi’u gwahardd. Bydd Gweinidogion Cymru’n cadw golwg ar y rhestr o gynhyrchion wedi’u gwahardd ac yn ei newid os oes angen rhagor o weithredu i fynd i’r afael â llygredd plastig.

Pam ein bod wedi newid y gyfraith?

Mae llawer o bobl yng Nghymru eisoes yn ceisio lleihau ein dibyniaeth ar blastigion untro a hynny drwy newid arferion a gwneud cynhyrchion a gwasanaethau yn fwy cynaliadwy. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’u hymdrechion.

Mae graddfa’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn golygu bod rhaid rhoi blaenoriaeth i iechyd ein hamgylchedd. 

Bydd y Ddeddf hon yn rhoi hyd yn oed mwy o adnoddau inni leihau ein dibyniaeth ar blastigion untro cyn gynted â phosibl. Dyma un o’r ystod o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn annog pobl i roi’r gorau i ddefnyddio cynhyrchion plastig untro ac i fod yn fwy cyfrifol wrth eu gwaredu. Er enghraifft, byddwn yn cyflwyno Cynllun Dychwelyd Cynhwysyddion erbyn 2025 ac yn sefydlu cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer pecynnu. Mae cyflwyno’r gyfraith newydd hon wedi cyfrannu at ein huchelgeisiau ehangach a nodir yn ein Strategaeth Economi Gylchol - Mwy nag Ailgylchu ac yn ein Cynllun drafft ar Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon.

Mae hwn yn gyfle i bobl Cymru feddwl yn wahanol ynghylch sut y maen nhw’n byw o ddydd i ddydd gan ddewis cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio a defnyddio eitemau untro ond pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol. Gall hyn fod o gymorth i arbed arian yn ogystal â bod o fudd i’r amgylchedd.

Ar bwy y bydd yn effeithio?

Gall y canlynol gyflawni’r drosedd o gyflenwi cynnyrch plastig untro sydd wedi’i wahardd: 

  • busnes
  • sefydliad fel cwmni neu gorff llywodraeth
  • partneriaeth
  • person sy’n unig fasnachwr
  • darparwr gwasanaeth cyhoeddus
  • elusen, clwb, syndicat neu fudiad gwirfoddol.

Nid yw’r gwaharddiad yn effeithio ar gynnyrch y mae busnes yn ei gyflenwi i fusnes arall. 

Esemptiadau

Rydym yn deall ambell waith y bydd angen esemptiadau i’r gwaharddiadau. Felly, mae’r Ddeddf yn caniatáu i ni beidio â chadw at y gwaharddiadau o dan rai amgylchiadau. Fe welwch fwy o wybodaeth am yr eithriadau yn ein canllawiau statudol. 

Gwybodaeth i fusnesau

Pan ddaw’r gwaharddiadau i rym

Pan ddaw’r gwaharddiadau i rym, bydd yn rhaid i fusnesau: 

  • Beidio â rhoi cynnyrch plastig untro sydd wedi’u gwahardd i gwsmeriaid
  • Dweud wrth eu staff am y newidiadau hyn. 

Pan fydd y gwaharddiadau wedi dod i rym, os bydd gan fusnesau gynnyrch gwaharddedig ar ôl, dylent siarad â’u cyflenwyr, eu cyngor lleol neu eu cymdeithas fasnach ynghylch sut i’w hailgylchu. 

Mae llawer o gynnyrch eraill y gellir eu defnyddio yn lle’r cynnyrch plastig untro sydd ar y farchnad. Fe welwch fwy o fanylion yn ein canllawiau drafft. 

Help i fusnesau

Gwasanaeth dwyieithog Llywodraeth Cymru ar gyfer helpu busnesau yw Busnes Cymru. Mae’n cynnig cyngor, gwybodaeth a gwasanaeth atgyfeirio i fusnesau, gan annog creu ac ehangu micro fusnesau a busnesau bach a chanolig a’u datblygu’n gynaliadwy.

Am ragor o gymorth neu gyngor i fusnesau, cysylltwch â:

Ffoniwch: 03000 603 000

E-bost: Businesssupport@gov.wales

Neu ewch i wefan Busnes Cymru

Gallwch ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru rhwng 10am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau cyhoeddus.

Cysylltwch â ni

Cymorth a Chyngor

Os oes angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch ynghylch y gwaharddiadau hyn, cysylltwch â ni:

E-bost: 

plastiguntro@llyw.cymru 

Post:

Is-adran Ansawdd yr Amgylchedd Lleol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ