Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae hi wedi bod yn wythnos brysur arall i’n Rhaglen Frechu COVID-19. Rwy’n falch o roi gwybod bod 70% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a bod un o bob pedwar oedolyn yng Nghymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos. Mae data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod ein timau brechu rhagorol nawr wedi darparu 1,785,347 o ddosau cyntaf a 701,099 o ail ddosau. Golyga hyn eu bod wedi darparu cyfanswm o 2,486,446 o frechiadau.
Rydym yn gwneud cynnydd da o ran brechu oedolion iau – mae bron i 70% o bobl yn eu 40au a thros 35% o bobl yn eu 30au wedi cael dos cyntaf. Mae adroddiad brechu manylach Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dangos bod cynnydd wedi bod ers mis Chwefror yn y gyfran o bobl sydd wedi’u brechu yn yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol a grwpiau ethnig a nodwyd. Mae bylchau anghydraddoldeb o ran darparu o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 rhwng grwpiau ethnig a grwpiau economaidd-gymdeithasol ymysg oedolion hŷn yng Nghymru wedi lleihau ers mis Mawrth. Mae gwaith i’w wneud o hyd i gau’r bylchau hyn ymhellach ac, fel y nodir yn ein diweddariadau ar y strategaeth frechu, bydd y rhaglen frechu yn parhau i ganolbwyntio ar hyn.
Hoffwn hefyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyngor diweddar gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynglŷn â menywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron, a hefyd bobl a chanddynt systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau.
Mae’n bwysig fy mod yn ailadrodd bod y Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylid cynnig brechlyn i fenywod beichiog yr un pryd â menywod nad ydynt yn feichiog, ar sail eu grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol. Erbyn hyn, mae tystiolaeth helaeth ar gael o’r defnydd o’r brechlynnau Pfizer a Moderna yn yr Unol Daleithiau ar ôl eu rhyddhau ar y farchnad, heb unrhyw signalau diogelwch hyd yma. Felly, y brechlynnau hyn yw’r rhai a ffefrir ar gyfer menywod beichiog. Dylai clinigwyr drafod risgiau a manteision brechu â’r fenyw, a dylid dweud wrthi am y dystiolaeth gyfyngedig, ond sy’n dod i’r amlwg, ynghylch diogelwch brechu yn ystod beichiogrwydd. Nid oes angen ichi wneud y penderfyniad ar eich pen eich hun, a byddem yn eich annog i’w drafod â’ch meddyg neu’ch bydwraig. Y cyngor i fenywod beichiog sydd wedi dechrau cael eu brechu gyda’r brechlyn AstraZeneca yw parhau â’u cwrs brechu gyda’r un brechlyn.
Mae pennod 14a y Llyfr Gwyrdd hefyd yn cadarnhau y gall menywod sy’n cynllunio beichiogrwydd, sydd newydd roi geni, neu sy’n bwydo ar y fron gael eu brechu gydag unrhyw frechlyn, yn unol â’u grŵp oedran a’u grŵp risg glinigol.
Mae oedolion sydd ag imiwnedd ataliedig yn ei chael yn anoddach i ymladd heintiau'n naturiol ac maent yn fwy tebygol o gael canlyniadau gwaeth yn dilyn haint COVID-19. Mae tystiolaeth gynyddol y gallai brechlynnau COVID-19 leihau'r siawns i rywun sydd wedi cael ei frechu drosglwyddo'r feirws. Bydd brechu cysylltiadau aelwydydd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws i’r bobl hyn.
O ganlyniad, mae’r Cyd-bwyllgor wedi cynghori y dylai pobl dros 16 oed sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau'n ddifrifol gael cynnig brechiad COVID-19 fel blaenoriaeth. Mae Llywodraeth Cymru, fel gwledydd eraill y DU, wedi derbyn y cyngor hwn ac mae bellach ffurflen ar-lein ar gael i unigolion sy’n byw gyda rhywun ag imiwnedd ataliedig ei llenwi.
Bydd diogelwch pobl bob amser yn dod yn gyntaf, a byddwn yn parhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor. Mae’n bwysig bod pawb yn derbyn eu gwahoddiad i gael brechiad; mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod y brechlyn cywir ar gael ar yr adeg iawn i bob unigolyn. Nid yw byth yn rhy hwyr i rywun yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf ddod ymlaen i gael eu brechu. Mae cynlluniau ar waith bob amser i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Dylai unrhyw rai yng ngrwpiau 1-9 sydd heb eto glywed am eu hapwyntiad gysylltu â’u bwrdd iechyd. Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.