Rebecca Evans MS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd a’r Vaughan Gething MS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn sefydlogi gwerth £800m i helpu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru i barhau i ymateb i effaith COVID-19. Mae’r pecyn diweddaraf hwn yn golygu bod cyfanswm y cymorth COVID-19 gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau’r GIG yn fwy na £1.3bn.
Rydym yn cydnabod yr heriau mawr, na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, y mae’r pandemig yn eu cyflwyno i’n gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Bydd y cyllid yn helpu sefydliadau’r GIG ledled Cymru i baratoi ar gyfer yr heriau a ragwelir yn ystod y gaeaf – ymateb i ail don bosibl o’r feirws ochr yn ochr â phwysau arferol y gaeaf – wrth barhau i gynyddu mynediad at wasanaethau hanfodol.
Rydym wrthi’n gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i ddeall y pwysau y maent yn eu hwynebu ac i’w helpu gyda’u gwaith cynllunio. Bydd y pecyn sefydlogi yn ein galluogi i gyflwyno dull strategol o gaffael cyfarpar diogelu personol ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, fel y gellir cael cyflenwad priodol wrth gefn i ymateb i ail don o achosion. Bydd hefyd yn sicrhau bod cyflenwad dibynadwy o gyfarpar diogelu personol ar gael i ddarparwyr gofal sylfaenol - gan gynnwys meddygon teulu, deintyddion ac optometryddion, fel y gall y gweithwyr iechyd proffesiynol hyn gael yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt i gyflawni eu gwasanaethau hanfodol.
Gyda phosibilrwydd go iawn o ragor o achosion yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu dychwelyd yn gynt er mwyn cefnogi’r gwaith o olrhain cysylltiadau fel y gall Cymru ymateb yn gyflym i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Bydd hefyd yn sicrhau bod gan fyrddau iechyd ddigon o gapasiti, ar safleoedd ysbytai sy’n bodoli eisoes ac mewn ysbytai maes wrth gefn, os oes angen. Mae’r pecyn cyllid hefyd yn cynnwys ein rhaglen frechu uchelgeisiol rhag y ffliw, gwerth £11.7m, a gyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau bod mwy o bobl nag erioed yn elwa ar y rhaglen frechu am ddim rhag y ffliw wrth baratoi ar gyfer y gaeaf.
Rydym hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau sylweddol y maent yn eu hwynebu a’u blaenoriaethau fel y gallwn roi rhagor o gymorth iddynt.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr aelodau eisiau i’r Gweinidogion wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddem yn falch o wneud hynny.