Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi’r ail set o ystadegau alldro blynyddol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru, gan nodi cam pwysig arall yn y broses o ddatganoli trethi i Gymru. Mae’r ystadegau alldro yn dangos y codwyd £2,140m drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn 2020-21, sy’n gynnydd o 4.9% o gymharu â 2019-20.
Dyma ddolen at yr ystadegau:
https://www.gov.uk/government/statistics/welsh-income-tax-outturn-statistics-2020-to-2021
Mae’r ystadegau alldro ar gyfer treth incwm yn darparu refeniw cyfraddau treth incwm Cymru a’r refeniw Treth Incwm cyfatebol ar gyfer gweddill y DU. Defnyddir y ffigurau hyn i gyfrifo’r Addasiad i Grant Bloc Llywodraeth Cymru a’r gostyngiad yn y cyllid gan Lywodraeth y DU i ystyried y refeniw y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael yn uniongyrchol o’r trethi datganoledig. Dyma’r flwyddyn gyntaf y bydd yr alldro yn effeithio ar Gyllideb Llywodraeth Cymru.
Yn unol â’r Cytundeb Fframwaith Cyllidol, bydd y gwahaniaeth rhwng yr alldro a’r rhagolygon a ddefnyddiwyd yng Nghyllideb 2020-21 yn cael ei ychwanegu at y grant bloc ar gyfer 2023-24 fel addasiad cysoni. Effaith net y cysoniad yw cynnydd o £48m yng nghyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
Dyma ddolen at ddatganiad, y cytunodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru arno, sy’n egluro sut y cyfrifwyd yr addasiad cysoni hwn. Mae’r datganiad yn dangos uchelgais barhaus y ddwy lywodraeth i sicrhau tryloywder llawn yn y Fframwaith Cyllidol, ac i wella dealltwriaeth ehangach ohono.