Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y datganiad hwn yw rhoi gwybod ichi am y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol yn y sefyllfa sydd ohoni o ran COVID-19. Bydd yr aelodau wrth gwrs yn ymwybodol bod y wlad nawr yn y cam oedi, o ran yr ymdrech i fynd i’r afael â’r haint hwn ac mae ymdrechion ar y cyd yn mynd rhagddynt i sicrhau diogelwch pawb, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed yn sgil y clefyd. Rhan o’r gwaith hwn yw sicrhau bod cyflenwad o Gyfarpar Diogelu Personol ar gael ac yn cael ei ddosbarthu i’w ddefnyddio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Rwy’n ymwybodol o’r pryderon ynghylch argaeledd Cyfarpar Diogelu Personol a faint ohono sydd ei angen. Yn y mwyafrif o achosion, mae Cyfarpar Diogelu Personol safonol yn briodol ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol. Bydd angen Cyfarpar Diogelu Personol ar staff gofal cymdeithasol sy’n darparu gofal uniongyrchol i bobl yn eu cartrefi eu hunain, neu mewn cartrefi gofal pan fo amheuaeth neu gadarnhad bod ganddynt COVID-19, yn ôl y diffiniad presennol ar gyfer achosion yn y gymuned.

Hoffwn fod yn glir ynghylch y canllawiau ar ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol ym maes gofal cymdeithasol. Os nad oes symptomau gan y gweithiwr gofal na’r unigolyn sy’n cael gofal a chymorth, yna nid oes angen Cyfarpar Diogelu Personol y tu hwnt i arferion hylendid da arferol. Mae’n bwysig iawn bod pob aelod o staff yn defnyddio’r Cyfarpar Diogelu Personol cywir, tra maent yn rhoi gofal uniongyrchol i unrhyw un sydd â symptomau anadlu a allai fod yn sgil COVID-19, gan gynnwys tymheredd uchel a pheswch cyson.

Os na ellir cael at stoc Cyfarpar Diogelu Personol ac wrth inni baratoi i ddosbarthu stoc Cyfarpar Diogelu Personol i awdurdodau lleol, rydym wedi gwneud trefniadau i ddarparwyr gofal ofyn i’r byrddau iechyd lleol am gymorth brys. Dim ond os oes achos o COVID-19 wedi’i gadarnhau y dylid defnyddio’r trefniadau hyn.

Bydd dosbarthu stoc Cyfarpar Diogelu Personol yn cael ei gydlynu gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a fydd yn dosbarthu’r cyflenwad i Storfeydd Cyfarpar ar y Cyd/Storfeydd Cyfarpar Cymunedol sy’n gwasanaethu awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdod yn rheoli unrhyw geisiadau am stoc ynghyd â’r Storfa Cyfarpar ar y Cyd a’r darparwr gofal.

Rydym yn gweithio gyda Chydwasanaethau’r GIG ac awdurdodau lleol i ddosbarthu’r stoc hwn cyn gynted â phosibl. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i roi canllawiau i ddarparwyr gofal ar sut i ofyn am stoc Cyfarpar Diogelu Personol pan fo’r angen yn codi.

Cynghorir i’r holl wasanaethau gadw llygad ar y cyngor diweddaraf ar COVID-19 drwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae canllawiau cyffredinol pellach ar gyfer lleoliadau gofal preswyl, byw â chymorth a gofal yn y cartref ar GOV.UK.

Rwy’n amgáu copi o lythyr oddi wrth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am y mater hwn.