Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd pawb yn cydnabod y pwysau unigryw y mae pandemig COVID-19 yn ei roi ar adnoddau'r rheng flaen ac, yn arbennig, y rhai hynny sy'n gweithio ym maes gofal critigol.

Mae ein cydweithwyr ym maes gofal critigol ledled Cymru wedi gweithio'n galed iawn dros yr wythnosau diwethaf i gynllunio'r ffordd orau o sicrhau'r capasiti gofal critigol mwyaf posibl i'r cleifion sy’n ddifrifol wael â COVID-19 . Mae hyfforddiant wedi'i ddarparu ledled Cymru er mwyn uwchsgilio cannoedd o staff nad ydynt fel arfer yn gweithio ym maes gofal critigol. Roedd yr amser a'r lle yr oedd eu hangen i gynnal yr hyfforddiant hwn yn ystyriaeth allweddol yn fy mhenderfyniad i oedi llawer iawn o weithgarwch y GIG ar 13 Mawrth.

Mae ardaloedd ychwanegol wedi'u clustnodi mewn ysbytai er mwyn darparu mwy o gymorth anadlu mewnwthiol i gleifion yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael fel arfer mewn unedau gofal critigol. Mae hyn yn ychwanegol at yr ardaloedd hynny sydd wedi'u clustnodi'n ddarpariaeth ymchwydd ar gyfer cleifion difrifol wael fel rhan o'r cynlluniau presennol i ddyblu capasiti pan fydd angen.

Hoffwn ddiolch, nid yn unig i'n holl gydweithwyr yn y GIG sydd fel arfer yn gweithio ym maes gofal critigol, ond hefyd i'r staff hynny sydd wedi ailhyfforddi ac sy'n cael eu hadleoli i weithio mewn lleoliadau gofal critigol.

Yn ogystal, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cyhoeddi 'COVID-19 rapid guideline: critical care in adults' (NG159), er mwyn diogelu cleifion y mae angen gofal critigol arnynt yn ystod pandemig COVID-19 i'r eithaf, yn ogystal ag amddiffyn staff rhag yr haint a galluogi gwasanaethau i wneud y defnydd gorau o adnoddau'r GIG hefyd.  

Mae gennym tua 153 o welyau gofal critigol yng Nghymru fel arfer. Ar 3 Ebrill, roedd gennym 353 o welyau gofal critigol neu welyau cymorth anadlu mewnwthiol. Mae'r nifer hwn yn cynyddu'n ddyddiol. Ar hyn o bryd, mae tua 48% o'r gwelyau hyn yn cael eu defnyddio, gydag ychydig dros eu hanner yn cael eu defnyddio i drin cleifion â diagnosis a gadarnhawyd o COVID-19. Mae'r gyfradd defnydd gwelyau yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Mae popeth posibl yn cael ei wneud i ddarparu cymorth i'r ysbytai sy'n wynebu'r pwysau mwyaf, fel y rhai hynny yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweithio i gadarnhau faint o beiriannau anadlu sydd gan GIG Cymru ar hyn o bryd – boed yn rhai mewnwthiol neu anfewnwthiol. Mae peiriant anadlu mewnwthiol yn helpu claf i anadlu; caiff tiwb ei osod yn y geg, y trwyn neu drwy doriad bach yn y gwddf (traceostomi). Mae peiriannau anadlu anfewnwthiol yn cysylltu â mwgwd sy'n gorchuddio'r trwyn neu'r wyneb. Cânt eu defnyddio i gefnogi'r ysgyfaint a'i gwneud yn haws anadlu.

Mae gan GIG Cymru eisoes 415 o beiriannau anadlu mewn ysbytai yng Nghymru a all ddarparu cymorth anadlu mewnwthiol. Mae gennym hefyd 349 o beiriannau anesthetig â chapasiti anadlu a 207 o beiriannau anadlu anfewnwthiol.

Yn ychwanegol at hynny, mae 1,035 o beiriannau anadlu wrthi’n cael eu caffael gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a thrwy drefniadau yn y DU. Fel rhan o'r trefniadau caffael hyn yn y DU, rydym yn disgwyl y bydd Cymru'n cael cyfran sy'n seiliedig ar y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys 385 o beiriannau anadlu mewnwthiol, 270 o beiriannau deuddiben (mewnwthiol ac anfewnwthiol) a 380 o beiriannau anfewnwthiol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gaffael peiriannau a allai helpu i leihau'r baich ar unedau gofal dwys a helpu cleifion i anadlu.

Hyd yma, rydym eisoes wedi cael 100 o beiriannau deuddiben ac maent yn cael eu dosbarthu. Rydym yn disgwyl 75 yn ychwanegol o beiriannau anadlu erbyn dechrau'r wythnos nesaf, gyda 40 ohonynt yn rhai mewnwthiol a 35 yn rhai anfewnwthiol.

Gwn y byddwch i gyd yn gwerthfawrogi bod angen mwy na dim ond peiriant anadlu i ddarparu gwely gofal critigol ychwanegol yng Nghymru. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod gennym ddigon o staff, meddyginiaethau a chyfarpar angenrheidiol arall. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen yn gyflym tu hwnt i ddod â'r holl elfennau hyn ynghyd er mwyn darparu'r nifer mwyaf posibl o welyau gofal critigol neu welyau cymorth anadlu mewnwthiol yng Nghymru.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a'r cyhoedd yn rheolaidd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Rwy'n pwyso arnoch i: Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau.