Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth sydd â’r prif ddiben o’i gwneud yn orfodol yn Lloegr i bobl gael eu hynysu, gyda chefnogaeth. Rwyf wrthi’n ystyried ar hyn o bryd a yw ein deddfwriaeth ni yn ddigonol er mwyn amddiffyn y cyhoedd yn gyffredinol rhag y coronafeirws neu heintiau eraill a allai gael effaith fawr, ynteu a ddylem wneud darpariaethau cyffelyb yng Nghymru.

Mae’r sefyllfa sy’n esblygu o ran 2019-nCoV, y nifer cynyddol o wledydd sy’n cofnodi bod ganddynt achosion, a’r newid i’r diffiniad achos, wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr unigolion y mae gofyn eu hasesu a’u profi. Y nod yw rheoli cymaint o bobl ag y bo modd y tu allan i adrannau brys yr ysbytai. Ddoe, ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol at y byrddau iechyd yn eu cynghori ynghylch pwysigrwydd rhoi gwasanaethau asesu a phrofi cymunedol ar waith ar unwaith, a sefydlu Unedau Profi Coronafeirws ar wahân i’r adrannau brys.

Hyd yma, ni chafwyd unrhyw achos o’r coronafeirws newydd yn cael ei gludo i Gymru. Mae ffigurau'r DU ar nifer y bobl a brofir yn cael eu cyhoeddi’n ddyddiol ar wefan Public Health England.

Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn rhoi diweddariad personol i Aelodau’r Cynulliad yn nes ymlaen heddiw, i roi gwybod iddynt am y sefyllfa bresennol. Byddaf yn parhau i roi diweddariad ysgrifenedig i Aelodau’r Cynulliad bob dydd Mawrth, neu’n amlach os bydd angen.