Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (‘y Rheoliadau’), yn gosod cyfyngiadau ar ymgynnull, symudiadau pobl a gweithrediad busnesau, gan gynnwys cau busnesau, yng Nghymru. Maent hefyd yn gosod gofynion ar fusnesau sy’n dal yn agored i sicrhau eu bod yn cymryd camau rhesymol i sicrhau pellter corfforol rhwng pobl. Gwnaed hyn i leihau’r achlysuron y bydd angen i bobl adael eu cartrefi neu ddod i gyswllt agos ag eraill, er mwyn helpu i ddiogelu’r cyhoedd rhag lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2). 

O dan reoliad 3(2) mae angen i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y Rheoliadau bob 21 diwrnod, gyda’r adolygiad cyntaf erbyn 16 Ebrill.

Rydym wedi cynnal adolygiad gan ddefnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) a chyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Yn unol â’r dystiolaeth a’r cyngor hwnnw,  rydym wedi penderfynu, er y bydd yn rhaid i’r gofynion a’r cyfyngiadau a nodwyd yn y Rheoliadau barhau mewn grym, y byddwn yn cyflwyno diwygiadau bychain cyn hir er mwyn rhoi mwy o eglurder ynghylch rhag agweddau ar y Rheoliadau.

Rydym yn adolygu’r Rheoliadau’n barhaus fel y gallwn ymateb i’r dystiolaeth ddiweddaraf ar drosglwyddiad y feirws, effeithiolrwydd y gofynion a’r cyfyngiadau, a’r lefelau cydymffurfiaeth cyn gynted ag y bydd angen.

Er fy mod yn deall bod rhywfaint o bwyslais ar ganfod pa bryd y bydd cyfyngiadau’n cael eu codi, hoffwn nodi’n glir, os yw’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw’r mesurau presennol yn cael yr effaith a ddymunir, efallai y bydd angen inni ystyried tynhau’r gofynion neu’r cyfyngiadau neu osod rhai newydd. Bydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu harwain gan y dystiolaeth ddiweddaraf gan SAGE a chyngor y Prif Swyddog Meddygol.

Rydym yn disgwyl cael tystiolaeth fanylach ar effeithiolrwydd ac effaith y cyfyngiadau presennol o’r wythnos hon ymlaen. Bydd unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol i ddileu gofynion neu gyfyngiadau, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yn debygol o fod yn raddol ac wedi’u llywio gan dystiolaeth.

Rydym yn parhau i gydlynu ein hymateb gyda gweddill gwledydd y DU i sicrhau eglurder a chysondeb y negeseuon i’r cyhoedd ac i fusnesau.