Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.
Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r unfed ar ddeg o’r datganiadau hynny.
Ar 1 Hydref, yn fy natganiad a oedd yn nodi fy mhenderfyniadau ynglŷn â Chaerdydd a Chaerffili, nodais y gofynion a osodwyd ar Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer adolygiadau etholiadol yng Nghymru.
Mae’r datganiad hwnnw ar gael yma.
Yn achos yr adolygiad ar gyfer Sir y Fflint, gofynnodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol blaenorol am wybodaeth ychwanegol gan y Comisiwn yn sgil nifer sylweddol o sylwadau a ddaeth i law mewn perthynas ag argymhellion penodol.
Rwyf bellach wedi ystyried yr holl wybodaeth a oedd ar gael imi, gan gynnwys yr wybodaeth ychwanegol. Rwyf wedi penderfynu gweithredu argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau.
Rwyf o’r farn bod y Comisiwn wedi cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’i ddogfen Polisi ac Arfer gyhoeddedig. Serch hynny, ar ôl ystyried y sylwadau a gafwyd mewn perthynas â nifer o’r argymhellion, credaf fod yr addasiadau hyn er lles llywodraeth effeithiol a chyfleus.
Rwyf felly wedi penderfynu peidio â gweithredu’r argymhellion mewn perthynas â’r ardaloedd canlynol:
- Kinnerton Uchaf a’r Hôb
- Caergwrle, Llanfynydd a Threuddyn
Ar 13 Hydref ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir y Fflint i gadarnhau fy mhenderfyniad i weithredu argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau.
Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir y Fflint ar gael yma.
Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.
Rwyf bellach wedi gwneud penderfyniadau ar gyfer pob un o’r 22 o adolygiadau etholiadol ledled Cymru. Mae’r naw Gorchymyn trefniadau etholiadol cyntaf wedi’u gwneud ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y gwneir pob un o’r Gorchmynion eraill cyn gynted â phosibl, a hynny mewn da bryd erbyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai y flwyddyn nesaf.
Atodiad
Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardal ganlynol.
Sir y Fflint
Bydd y canlynol yn cael ei weithredu:
Kinnerton Uchaf a’r Hôb
Argymhellodd y Comisiwn y dylid cyfuno Cymuned Kinnerton Uchaf â ward Yr Hôb yng Nghymuned yr Hôb i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd, gyda’r enw Cymraeg Kinnerton Uchaf a’r Hôb a’r enw Saesneg Higher Kinnerton and Hope. Y ward etholiadol fydd Kinnerton Uchaf wedi’i chynrychioli gan un cynghorydd a’i henw Cymraeg fydd Kinnerton Uchaf a’i henw Saesneg fydd Higher Kinnerton. Hefyd, bydd ward etholiadol ar sail ward Yr Hôb yng Nghymuned yr Hôb wedi’i chynrychioli gan un cynghorydd a’i henw Cymraeg fydd Yr Hôb a’i henw Saesneg fydd Hope.
Caergwrle, Llanfynydd a Threuddyn
Argymhellodd y Comisiwn y dylid creu ward etholiadol drwy gyfuno Cymunedau Llanfynydd a Threuddyn â ward cymuned Caergwrle yng Nghymuned yr Hôb i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd, gyda’r enw Cymraeg Caergwrle, Llanfynydd a Threuddyn a’r enw Saesneg Caergwrle, Llanfynydd and Treuddyn. Bydd tair ward etholiadol sef ward etholiadol ar sail ward Caergwrle yng Nghymuned yr Hôb wedi’i chynrychioli gan un cynghorydd, gyda’r enw unigol Caergwrle; ward etholiadol ar sail Cymuned Llanfynydd wedi’i chynrychioli gan un cynghorydd, gyda’r enw unigol Llanfynydd, a ward etholiadol Treuddyn ar sail Cymuned Treuddyn wedi’i chynrychioli gan un cynghorydd, gyda’r enw unigol Treuddyn.
Enwau wardiau etholiadol
- Argymhellodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw Saesneg Greenfield ac argymhellodd yr enw Cymraeg Maes Glas. Bydd yr enw Saesneg Greenfield a’r enw Cymraeg Maes- glas yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
- Argymhellodd y Comisiwn yr enw Cymraeg Gwernaffield a Gwernymynydd a’r enw Saesneg Gwernaffield and Gwerymynydd. Bydd yr enw Cymraeg Y Waun a
Gwernymynydd a’r enw Saesneg Gwernaffield and Gwerymynydd yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.
- Argymhellodd y Comisiwn y dylai enw ward etholiadol Ewloe aros yr un fath. Bydd yr enw Cymraeg Penarlâg: Ewloe a’r enw Saesneg Hawarden: Ewloe yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.