Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r degfed o’r datganiadau hynny.

Trosolwg deddfwriaethol

Efallai ei bod yn werth atgoffa’r Aelodau o’r gofynion a roddwyd ar Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer adolygiadau etholiadol yng Nghymru.

Mae adran 30(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Deddf 2013) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn, wrth ystyried a fydd yn gwneud argymhellion ynghylch newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal, wneud y canlynol:

(a) ceisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal, neu’n agos at fod felly; a

(b) rhoi sylw i’r canlynol:

  (i)  dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sydd yn hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly;

  (ii) dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

Yn unol ag adran 30(2) o’r Ddeddf, wrth ystyried cymhareb yr etholwyr llywodraeth leol i nifer yr aelodau, rhaid rhoi sylw i’r canlynol:

(a) unrhyw anghysondeb rhwng nifer etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sydd yn gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol); a

(b)  unrhyw newid yn nifer neu yn nosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhelliad.

Mae’n ofynnol i’r Comisiwn, cyn cynnal arolwg, ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol ynghylch y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ar gyfer yr arolwg, ac yn benodol, ynghylch sut mae’n bwriadu penderfynu ar y nifer priodol o aelodau ar gyfer unrhyw brif gyngor yn y brif ardal neu ardaloedd dan sylw. Nodir trefniadau manwl yn nogfen y Comisiwn ‘Arolygon Etholiadol: Polisi ac Arfer’, y cytunwyd arni yn ystod y paratoadau ar gyfer y rhaglen bresennol o adolygiadau etholiadol.

Opsiynau ar gyfer penderfyniad Gweinidogol

Caiff Gweinidogion Cymru wneud Gorchymyn i weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu heb addasiadau, neu cânt benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau.

Mae’n bwysig nodi bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru weithredu argymhelliad gydag addasiad dim ond pan fyddant wedi’u bodloni bod hynny er lles llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Penderfyniadau

Wrth wneud fy mhenderfyniadau, roedd rhaid imi yn gyntaf benderfynu a yw’r Comisiwn wedi cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a’r trefniadau manwl yn ei ddogfen Polisi ac Arfer y cytunwyd arni. Rwyf wedi fy modloni bod y Comisiwn wedi cydymffurfio â’r gofynion hyn.

Yna, ystyriais yr argymhellion unigol a’r sylwadau a ddaeth i law gan ystod o unigolion ynglŷn â phob argymhelliad.

Er nad yw’r meini prawf y mae rhaid i’r Comisiwn eu hystyried wrth ddatblygu argymhellion wedi’u pwysoli, rwyf wedi rhoi cryn bwys ar farn cymunedau lleol wrth fantoli’r wybodaeth amrywiol sydd wedi dod i law.

Yn achos y 19 o benderfyniadau cyntaf a wnaed, penderfynais weithredu’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Comisiwn. Ar ôl trafodaethau helaeth, gan gynnwys gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, yr unig addasiadau a wnes i mewn perthynas â’r penderfyniadau hynny oedd rhai’n ymwneud ag enwau Cymraeg a Saesneg nifer o wardiau etholiadol.

Caerdydd / Caerffili

Yn achos yr adolygiadau hyn, gofynnodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol blaenorol am wybodaeth ychwanegol gan y Comisiwn oherwydd bod niferoedd sylweddol o sylwadau wedi dod i law ynglŷn â rhai argymhellion.

Rwyf bellach wedi ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael imi, gan gynnwys yr wybodaeth ychwanegol. Yn achos y ddau adolygiad, rwyf wedi penderfynu gweithredu argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau.

Fel y nodir uchod, rwyf o’r farn bod y Comisiwn wedi cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’i ddogfen Polisi ac Arfer gyhoeddedig. Serch hynny, ar ôl ystyried y sylwadau a gafwyd mewn perthynas â nifer o’r argymhellion, credaf fod yr addasiadau hyn er lles llywodraeth effeithiol a chyfleus.

Rwyf felly wedi penderfynu ar nifer o addasiadau gan gynnwys peidio â gweithredu’r argymhellion mewn perthynas â’r ardaloedd canlynol:

  • Caerdydd – Llanrhymni, Pontprennau a Phentref Llaneirwg
  • Caerffili – Ystrad Mynach a Llanbradach
  • Caerffili – Crosskeys ac Ynysddu

Ar 30 Medi ysgrifennais at Arweinwyr a Phrif Weithredwyr Dinas a Sir Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Caerffili i gadarnhau fy mhenderfyniadau i dderbyn argymhellion y Comisiwn gydag addasiadau.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd ar gael - https://cffdl.llyw.cymru/adolygiadau/11-20/argymhellion-terfynol-ar-gyfer-caerdydd. Mae’r addasiad i’r argymhellion hyn wedi’i nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gael - https://cffdl.llyw.cymru/adolygiadau/11-20/argymhellion-terfynol-ar-gyfer-caerffili. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Dinas a Sir Caerdydd

Trefniadau wardiau etholiadol

Llanrhymni, Pentref Llaneirwg a Phontprennau

Argymhellodd y Comisiwn y dylai Cymunedau Llanrhymni a Phentref Llaneirwg gyfuno i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan dri chynghorydd, gyda’r enw Cymraeg Llanrhymni a Phentref Llaneirwg a’r enw Saesneg Llanrumney and Old St Mellons.

Bydd y trefniadau presennol yn cael eu cadw:

  • Ward etholiadol Pontprennau a Phentref Llaneirwg wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd a’i henw Cymraeg fydd Pontprennau a Phentref Llaneirwg a’i henw Saesneg fydd Pontprennau and Old St Mellons.
  • Ward etholiadol Cymuned Llanrhymni wedi’i chynrychioli gan dri chynghorydd a’i henw Cymraeg fydd Llanrhymni a’i henw Saesneg fydd Llanrumney. 

Bwrdeistref Sirol Caerffili

Trefniadau wardiau etholiadol

Hengoed – Argymhellodd y Comisiwn y dylid cyfuno rhan o wardiau Cefn Hengoed a Hengoed yng Nghymuned Gelligaer i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd.

Y ward etholiadol fydd wardiau presennol Cefn Hengoed a Hengoed yng Nghymuned Gelligaer, wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd, gyda’r enw unigol Hengoed.

Llanbradach – Argymhellodd y Comisiwn y dylid cyfuno rhan o ward Ystrad Mynach yng Nghymuned Gelligaer â Chymuned Llanbradach a Phwllypant i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd.

Y ward etholiadol fydd ward bresennol Cymuned Llanbradach a Phwllypant, wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd, gyda’r enw unigol Llanbradach.

Sant Catwg – Argymhellodd y Comisiwn y dylid cyfuno rhan o ward Cefn Hengoed yng Nghymuned Gelligaer â wardiau Cascade, Greenhill a Thir-y-berth yng Nghymuned Gelligaer i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan dri chynghorydd.

Y ward etholiadol fydd wardiau presennol Cascade, Greenhill a Thir-y-berth yng Nghymuned Gelligaer, wedi’i chynrychioli gan dri chynghorydd. Bydd yr enw Saesneg St Cattwg yn cael ei gadw. Bydd yr enw Cymraeg Sant Catwg yn cael ei roi i’r ward etholiadol.

Ystrad Mynach – Argymhellodd y Comisiwn y dylid cyfuno rhan o ward Cefn Hengoed yng Nghymuned Gelligaer â rhan o ward Ystrad Mynach yng Nghymuned Gelligaer i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd.

Y ward etholiadol fydd ward bresennol Ystrad Mynach yng Nghymuned Gelligaer, wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd, gyda’r enw unigol Ystrad Mynach.

Crosskeys ac Ynysddu – Argymhellodd y Comisiwn y dylid cyfuno Cymunedau Crosskeys ac Ynysddu i ffurfio ward etholiadol wedi’i chynrychioli gan dri chynghorydd.

Crosskeys – Y ward etholiadol fydd ward etholiadol bresennol Crosskeys, wedi’i chynrychioli gan un cynghorydd, gyda’r enw unigol Crosskeys.

Ynysddu – Y ward etholiadol fydd ward etholiadol bresennol Ynysddu, wedi’i chynrychioli gan ddau gynghorydd. Bydd yr enw Saesneg Ynysddu yn cael ei gadw. Bydd yr enw Cymraeg Ynys-ddu yn cael ei roi i’r ward etholiadol.

Enwau wardiau etholiadol

  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw etholiadol unigol Abercarn. Bydd yr enw Cymraeg Aber-carn yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn y dylid cadw’r enw etholiadol unigol Maesycwmmer. Bydd yr enw Cymraeg Maesycwmwr yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Argymhellodd y Comisiwn yr enw unigol Pontllan-fraith. Bydd yr enw Cymraeg Pontllan-fraith a’r enw Saesneg Pontllanfraith yn cael eu rhoi i’r ward etholiadol.