Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod pandemig coronafeirws yn cael effaith anghymesur ar bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig (BAME). Mae hyn y peri cryn bryder, yn enwedig gan fod pobl o'r cymunedau hyn yn gwneud cyfraniad mor sylweddol i'n GIG a'n gwasanaethau gofal.
Fis diwethaf, gwnaethom lansio ymchwiliad brys i geisio deall y rhesymau pam mae cymunedau BAME yn wynebu risg uwch, a gwnaethom sefydlu grŵp cynghori arbenigol, wedi'i gadeirio ar y cyd gan y Barnwr Ray Singh a Dr Heather Payne. Mae hyn yn gysylltiedig â gwaith ehangach a wneir gan Public Health England ac NHS England.
Roedd y grŵp cynghori'n cynnwys dau is-grŵp – un yn edrych ar ffactorau economaidd-gymdeithasol wedi ei gadeirio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna – ac is- grŵp i ddatblygu'r gwaith o greu adnodd asesu risg ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol wedi ei gadeirio gan yr Athro Keshav Singhal.
Heddiw, mae Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu yn cael ei gyflwyno i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Mae dau gam i'r asesiad risg, ac mae'n addas i'w ddefnyddio ar gyfer pob aelod o staff sy'n agored i niwed neu'n wynebu risg o gael y coronafeirws, gan gynnwys pobl o gefndiroedd BAME.
Fe'i cynlluniwyd i fod yn broses sensitif a chefnogol. Gall pobl gwblhau'r hunanasesiad ac yna gael sgwrs gefnogol a strwythuredig â'u rheolwr llinell i drafod eu lefel risg er mwyn cymryd camau gweithredu i sicrhau y cânt eu diogelu cymaint â phosibl. Gall hyn gynnwys mesurau diogelu ychwanegol, newid arferion gwaith neu weithio gartref.
Hoffwn ddiolch i'r grŵp cynghori am ei waith ar yr asesiad risg hwn. Cafodd ei ddatblygu mewn cyfnod byr a bydd ar gael ym mhob rhan o'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Byddwn yn monitro ac yn adolygu'r ffordd y caiff ei ddefnyddio er mwyn inni allu parhau i ddysgu a rhoi pob mesur ar waith i ddiogelu'r rhai sy'n gweithio mor galed i gefnogi a gofalu am bobl eraill.