Coronafeirws (2019-nCoV): diweddariad gan Dr Frank Atherton, Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Oherwydd bod nifer cynyddol o achosion yn dod i’r amlwg yn China, mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y Deyrnas Unedig yn credu y byddai’n ddoeth i lywodraethau ddwysáu eu cynlluniau a’u paratoadau rhag ofn y bydd yr achosion yn lledaenu.
Oherwydd hyn, rydym yn cynghori y dylid codi’r lefel risg yn y Deyrnas Unedig o isel i gymedrol. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn meddwl bod y risg i unigolion yn y Deyrnas Unedig wedi newid ar hyn o bryd, ond dylai llywodraethau gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd.
Rydym yn awr yn argymell y dylai pob teithiwr sy’n datblygu symptomau fel y ffliw, gan gynnwys twymyn, peswch, neu anawsterau anadlu, difrifol neu beidio, o fewn 14 diwrnod i ddychwelyd o China, aros yn eu cartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, a ffonio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG). Dylai trigolion Cymru ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu ffonio 111 os yw’r rhif ar gael yn yr ardal (Hywel Dda, Aneurin Bevan a Bae Abertawe). Rydym eisoes yn argymell y dylai teithwyr o Wuhan aros gartref ac osgoi cysylltiad ag eraill am 14 diwrnod, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau, oherwydd y risg uwch o’r ardal honno.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi cadarnhau ei hachosion cyntaf o’r coronafeirws newydd – rhywbeth y mae Gweinidogion Iechyd y Deyrnas Unedig, y Prif Swyddogion Meddygol, asiantaethau iechyd y cyhoedd a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi bod yn paratoi ar ei gyfer. Mae’n debygol y bydd Cymru yn gweld achosion o’r coronafeirws newydd, ac rydym wedi gweithredu’r ymateb a baratowyd gennym, gan roi mesurau rheoli haint cadarn ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Mae Prif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig yn gweithio’n agos ar draws y pedair gwlad i gydlynu camau gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau bod Cymru a’r Deyrnas Unedig yn barod i ymateb i ragor o ddatblygiadau yn yr achos hwn sy’n gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd.
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n barhaus a byddaf yn rhoi diweddariad rheolaidd ichi o’r datblygiadau.
Yn Tsieina neu’n bwriadu teithio
Os ydych yn Tsieina neu’n bwriadu teithio yno darllenwch y cyngor ar deithio i Tsieina ar GOV.UK.
Rhagor o wybodaeth am y coronafeirws
Sut mae’r ymateb i’r coronafeirws yn cael ei reoli ar draws y DU ar GOV.UK.