Neidio i'r prif gynnwy

1. Cadw pellter cymdeithasol

Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Ers y cyfnod atal byr mae symudedd wedi bod yn sefydlog, ond gyda chynnydd mewn manwerthu a hamdden ac archfarchnadoedd.

Image
Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Ers y cyfnod atal byr mae symudedd wedi bod yn sefydlog, ond gyda chynnydd mewn manwerthu a hamdden ac archfarchnadoedd.

Ffynhonnell: Adroddiadau Symudedd Cymunedol COVID-19 Google

Data ar: 4 Rhagfyr 2020

2. Y Gronfa Cymorth Dewisol

Rhwng 18 Mawrth a 3 Rhagfyr gwnaed 118,575 o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng yn ymwneud â COVID-19, gwerth cyfanswm o £7.73 miliwn.

Dechreuwyd cofnodi ar 18 Mawrth. Mae’r rhesymau cysylltiedig â COVID-19 y mae ymgeiswyr yn eu rhoi yn cynnwys:

  • gorfod rhoi’r gorau i weithio neu leihau gwaith
  • oedi o ran hawlio budd-dal
  • costau ynni/bwyd uwch (teulu gartref)
Image
Mae’r siart yn dangos y nifer o daliadau wythnosol mewn argyfwng o’r Gronfa Cymorth Dewisol o fis Mawrth hyd heddiw, wedi’u rhannu rhwng taliadau arferol a COVID-19.

Nifer ddyddiol o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng (MS Excel)

Yn dilyn cyhoeddiad 1 Mai o fwy o gyllid, bydd ceisiadau'n cael eu trin â mwy o ddisgresiwn a hyblygrwydd, wrth ddelio â hawliadau caledi COVID-19. Cefndir pellach i’r Cronfa Cymorth Dewisol.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Data ar: 4 Rhagfyr 2020

3. Cymorth i fusnesau

Ar 9 Rhagfyr 2020, mae trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cynnig 46.4 mil o grantiau sef cyfanswm o £149.3 miliwn. Mae hyn yn cynnwys Grantiau Datblygu Busnes a'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Data ar: 9 Rhagfyr 2020

4. Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i sefydliadau yn y trydydd sector sydd angen help i ymdopi â'r argyfwng hwn er mwyn talu eu biliau a lliniaru problemau llif arian.

Mae 114 o geisiadau wedi'u cymeradwyo a £4.85 miliwn wedi'i dalu drwy gronfa cadernid y trydydd sector.

Ffynhonnell: Gwirfoddoli Cymru

Data ar: 4 Rhagfyr 2020

5. Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cadw pellter cymdeithasol

Mae’r wybodaeth yn cael ei chreu gyda setiau data cyfanredol, dienw oddi wrth ddefnyddwyr sydd wedi galluogi’r gosodiad ar eu dyfeisiau symudol sy’n dangos eu lleoliad. Y gwerth canolrifol yw’r gwaelodlin, ar gyfer y diwrnod cyfatebol o’r wythnos, yn ystod y cyfnod 5 wythnos o 3 Ionawr - 6 Chwefror 2020. Mae’r data yn dangos newidiadau sydd wedi’u dadansoddi yn ôl chwe maes: siopa a hamdden, parciau, archfarchnadoedd a fferyllfeydd, gweithleoedd, preswyl a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r data ar gael ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Defnyddir cyfartaledd o’r rhain i ddod o hyd i ffigur ar gyfer Cymru. Nid yw’r data yn cael eu pwysoli gan ystyried maint pob awdurdod lleol - nid yw’r wybodaeth honno ar gael gan Google, yr un beth sy’n cael ei ddangos yw’r newid cymharol.

Adroddiadau symudedd cymunedol COVID-19

Y Gronfa Cymorth Dewisol

Mae data DAF yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth Northgate Public Services (NPS). Data gweithredol yw'r data a dynnir o'u system TGCh yn ddyddiol. Nid yw'r data'n mynd drwy unrhyw brosesau dilysu ffurfiol ac felly nid yw'n cael ei gyhoeddi fel Ystadegyn Cenedlaethol.

Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Mae data Cronfa Ymateb Trydydd Sector yn monitro data a gymerwyd o’r gronfa ddata Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

6. Manylion cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR: 231/2020