Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd, yn ogystal â sut y mae'r system gynllunio yn cyfrannu at ddarparu'r unedau hyn ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Dull o gyhoeddi ystadegau tai fforddiadwy ar gyfer 2019-20

Ar 3 Chwefror 2021, cyhoeddwyd yn flaenorol penawd ystadegold dros dro ar gyfer 2019-20, gyda ffigurau ar lefel Cymru yn unig. Rydym yn diweddaru'r ffigurau hynny gydag ystadegau terfynol ar gyfer 2019-20 a gyhoeddwyd ar 11 Mawrth 2021. Mae hyn yn cynnwys y datganiad ystadegol manwl gyda dadansoddiadau pellach o’r data, a data manwl ar StatsCymru.

Mae'r gwaith o gasglu a chyhoeddi'r ystadegau hyn wedi'i ohirio oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau (data terfynol)

  • Darparwyd 2,942 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ar draws Cymru(a). Mae hyn yn cynnydd 14% ar y 2,592 unedau a ddarparwyd yn y flwyddyn flaenorol, ac mae ffigwr ar gyfer 2019-20 yn y cyfanswm blynyddol uchaf hyd yma.
  • Darparwyd 60 o unedau tai ychwanegol o dan y cynllun Rhentu i Brynu - Cymru(b) a gyflwynwyd yn Chwefror 2018.
  • Darparodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) 84% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol (2,470 o unedau).
  • Darparwyd 62% unedau tai fforddiadwy ychwanegol gyda chyllid grantiau cyfalaf.

(a) Mae'r ffigurau'n cwmpasu pob uned tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol. Nid ydynt yn ystyried unrhyw golled o ran stoc tai fforddiadwy drwy ddymchweliadau neu werthiannau yn ystod y flwyddyn.
(b) Nid yw unedau Rhentu i Brynu – Cymru'n cydymffurfio â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfanswm o dai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn y datganiad hwn. Mae'r ffigurau, fodd bynnag, yn cyfrannu at y targed tai fforddiadwy (gweler yr adran yn isod).

Mesur gwelliant ar ymrwymiad y Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod 2016-21

Mae’r rhaglen waith bresennol y Llywodraeth Cymru ‘Symud Cymru Ymlaen 2016-2021’ yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod 2016-21. Mae’r ymrwymiad hwn yn cynnwys cynnal yr adeiladu o fwy na 6,000 o gartrefi drwy’r cynllun Cymorth i Brynu.

Cyfranna’r cyfansymiau o dair cyfres ystadegol at fesur y targed hwn:

  1. Tai fforddiadwy, fel diffinio yn Nodyn cyngor technegol (TAN) 2: rhwng 2016-17 a 2019-20, darparwyd 10,396(r) o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ar draws Cymru.
  2. Cynllun ‘Rhenti i Berchnogi - Cymru’: rhwng Chwefror 2018 a Mawrth 2020, darparwyd 105 o unedau tai ychwanegol o dan y cynllun hwn.
  3. Cynllun ‘Cymorth i Brynu - Cymru’: rhwng Chwefror 2016 a Rhagfyr 2020, gwnaed 8,503 o bryniannau o dan y cynllun hwn.

(r) Wedi'i ddiwygio ar 21 Mai 2021 i ddiweddaru'r ffigur dros dro.

Unedau tai fforddiadwy (TAN 2) a gynlluniwyd ar gyfer 2020-21

Adroddwyd gan awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSLs) fod 4,001 o unedau tai fforddiadwy eraill wedi'u cynllunio ar gyfer cyflawni yn ystod 2020-21.

Mae cymharu ystadegau ar unedau a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd mewn blynyddoedd blaenorol, ynghyd â gwybodaeth am ddarparu unedau tai fforddiadwy yn yr hanner cyntaf o 2020-21, yn dangos pa mor ddibynadwy yw'r ystadegau ar unedau a gynlluniwyd yn 2020-21 yn debygol o fod.

Yn blynyddoedd diweddar, mae’r ffigurau ar unedau a gynlluniwyd wedi gorbwysleisio'r hyn a ddarperir mewn gwirionedd mewn blwyddyn, felly dylid ei drin yn ofalus. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran 'Cywirdeb' yr adroddiad ansawdd ar gyfer y datganiad Ystadegol Tai Fforddiadwy.

O ystyried y tair cyfres ystadegol a ddisgrifir uchod, yn ogystal ag unedau tai fforddiadwy (TAN 2) a gynlluniwyd yn 2020-21, mae'n dangos y disgwylir i dros 20,000 o gartrefi fforddiadwy gael eu darparu erbyn mis Mawrth 2021.

Adroddiadau

Darpariaeth tai fforddiadwy, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 897 KB

PDF
Saesneg yn unig
897 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.