Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, ei Gabinet a’i Weinidogion newydd wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ar ei rhaglen uchelgeisiol i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Prif Weinidog

“Mae’n bleser cael cyflwyno’r tîm a fydd yn symud Cymru ymlaen yn ystod y pum mlynedd nesaf. Bydd gan bob un rôl hanfodol wrth fynd ati i gyflawni ein blaenoriaethau, gan arwain a chyfarwyddo gwaith Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru.

“Fel y dywedais yn fy natganiad i’r Cynulliad ddoe, bydd hon yn weinyddiaeth agored, gynhwysol a thryloyw, a fydd yn barod i gydweithio ag eraill pan fo hynny er budd y genedl.

“Mae pum mlynedd allweddol o’n blaenau ni. Fe fydda i, y Cabinet a’r Gweinidogion yn mynd ati’n diflino i wella ein heconomi a’r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae pobl Cymru yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.

“Rydw i’n hyderus mai hwn yw’r tîm sydd â’r doniau, y weledigaeth a’r syniadau i roi cyfle i bawb, ac i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy – heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Y Cabinet a’r Gweinidogion

Y Cabinet

Y Gwir Ahrh Carwyn Jones AC 
Prif Weinidog Cymru

Ken Skates AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Vaughan Gething AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Mark Drakeford AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Lesley Griffiths AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Carl Sargeant AC
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Jane Hutt AC
Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Ministers

Julie James AC
Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

Alun Davies AC
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Rebecca Evans AC
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol