Dadansoddiad o fantais gymharol Cymru wrth allforio nwyddau: cyfartaledd 2015 hyd 2017
Methodoleg a chanlyniadau dadansoddiad o fantais gymharol Cymru mewn allforion nwyddau ar gyfer cyfartaledd 2015 hyd 2017.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae canlyniadau’r dadansoddiad hwn wedi cael eu defnyddio fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i ddogfen Llywodraeth Cymru, y Cynllun Gweithredu Allforio a gyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2020.
Cefndir
Er mwyn deall cryfderau Cymru yn well o ran allforio nwyddau, mae data masnach wedi cael ei ddadansoddi i sefydlu meysydd o fantais gymharol hy lle mae Cymru’n perfformio’n well na chyfartaledd y byd o ran allforio mewn sectorau penodol. Roedd diffyg data manwl am wasanaethau yng Nghymru yn golygu bod y dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar allforio nwyddau Cymru yn unig. Cafodd y dadansoddiad hwn ei wneud drwy ddefnyddio Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEM a COMTRADE y Cenhedloedd Unedig (CU) ar gyfer mewnforion (a) y byd, gan ddefnyddio cyfartaledd tair blynedd (2015 i 2017) i wrthweithio anwadalrwydd data masnach.
Cafodd perfformiad allforio Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd hefyd ei gymharu â gwledydd â mantais gymharol debyg i Gymru.
Mae damcaniaeth economaidd mantais gymharol sy’n seiliedig ar waith David Ricardo yn creu cysylltiadau rhwng cynhyrchiant ac allforion. Mae’n dadlau y dylai gwledydd ganolbwyntio eu hadnoddau ar gynhyrchu nwyddau y mae ganddynt fantais gymharol o ran cost ar eu cyfer. Mae’r ddamcaniaeth yn rhagdybio bod patrymau masnachu rhwng gwledydd yn cael eu llywodraethu gan wahaniaethau mewn cynhyrchiant. Er bod iddi gyfyngiadau, mae’r ddamcaniaeth yn creu sail ar gyfer archwilio data masnach i ddatgelu’r gwahaniaethau hyn mewn cynhyrchiant a’r fantais neu’r anfantais gymharol sydd gan wlad mewn dosbarth penodol o nwyddau. Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddamcaniaeth mantais gymharol.
(a) Defnyddir data mewnforio i fesur y fasnach sy’n llifo rhwng gwledydd, a ddefnyddir i gyfrifo gwerth allforion. Ystyrir bod data mewnforion yn fwy cywir gan y gall mewnforion gynhyrchu refeniw tariff, ond yn gyffredinol nid yw allforion yn gwneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio data COMTRADE ar gael o The World Bank: World Integrated Trade Solution.
Methodoleg
Data
Gwnaed y dadansoddiad hwn gan ddefnyddio data a oedd ar gael yn gyhoeddus, Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEM ar gyfer allforion Cymru a COMTRADE (CU) ar gyfer mewnforion y byd. Defnyddiwyd cyfartaledd tair blynedd i wrthbwyso anwadalrwydd data masnach. Cafodd y dadansoddiad ei gynnal yn wreiddiol yn 2019, ac roedd yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael ar y pryd, ac nid yw’n adlewyrchu data mwy diweddar sydd wedi dod ar gael ers hynny. Fodd bynnag, mae’r profion anwadalrwydd a gynhaliwyd ar sail cyfres hirach cyn-2017 yn awgrymu mai bach iawn yw’r newidiadau mewn mantais gymharol dros amser.
Adroddir ar ddata Comtrade y Cenhedloedd Unedig mewn doleri’r Unol Daleithiau ($), felly defnyddiwyd y cyfraddau cyfnewid canlynol i drosi i £ sterling.
2015 | 2016 | 2017 | |
---|---|---|---|
£/$ | 1.529 | 1.354 | 1.289 |
Ffynhonnell: Banc Lloegr
Ymagwedd
Roedd y dadansoddiad yn cynnwys dau gam, y cyntaf i nodi mantais gymharol Cymru (gan ganolbwyntio ar gryfderau allforio) a’r ail i nodi bylchau mewn gwerth allforio a modelu cyfleoedd posibl ar gyfer cynyddu allforion nwyddau Cymru.
Dadansoddiad o’r Fantais Gymharol a Ddatgelwyd
Perfformiad Cymru ar allforio o’i gymharu â chyfartaledd y byd ar gyfer y sector hwnnw i ganfod meysydd allweddol lle y mae Cymru’n dangos cryfder o ran allforio. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio data gwerth masnach ryngwladol.
Lluniwyd y mynegai mantais gymharol (RCA) ar gyfer nwydd i yng Nghymru gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:
RCA(i) [(Allforion Cymru o nwydd i i’r byd)/(Allforion Cymru o bob nwydd i’r byd)] [(Allforion y Byd o nwydd i i’r byd)/(Allforion y Byd o bob nwydd i’r byd)]
O’r fan hon, lluniwyd fersiwn wedi’i normaleiddio o RCA (o’r enw NRCA) gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:
NRCA(i) = (RCA(i) – 1)/(RCA(i) + 1)
Roedd hyn yn golygu bod modd dehongli’r canlyniadau’n rhwydd gan fod gwerth positif yn dangos mantais gymharol tra bod gwerth negyddol yn dangos anfantais gymharol.
Model Bwlch Gwerth Allforio
Perfformiad allforio Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd o’i gymharu â pherfformiad gwledydd cymharol penodol i nodi ‘bwlch gwerth allforio’, hy gwerth ychwanegol allforion y gallai Cymru eu cyflawni, pe baent yn gwella eu perfformiad i gyfateb i’r wlad gymharol yn y sector a’r farchnad honno.
Mae’r model Bwlch Gwerth Allforio yn defnyddio data ar lefel Cymru ac yn ei gysylltu â data masnach ryngwladol a gasglwyd gan UN COMTRADE. Mae’r cyfateb hwn yn ei gwneud yn bosibl cymharu allforion Cymru â rhai gwlad sy’n cystadlu ar draws gwahanol sectorau a gwledydd. Lle mae Cymru’n tanberfformio o’i chymharu â gwlad debyg sy’n cystadlu, mae’r model yn meintioli ‘bwlch gwerth allforio’, hy y gwerth ychwanegol y gellid ei sicrhau pe bai Cymru’n gwella ei pherfformiad allforio i gyfateb â pherfformiad y cystadleuydd.
Mae’r model yn cael ei gyfrifo ar draws 66 o sectorau nwyddau a 99 o wledydd gan ddefnyddio cyfartaledd tair blynedd (2015 i 17).
Dewis gwledydd cymharol
Mae’r model yn gofyn am ddetholiad o wledydd cymharol rhyngwladol tebyg i gymharu allforion Cymru yn eu herbyn. Dewiswyd y cymaryddion ar sail bod ganddynt boblogaeth debyg, cymysgedd o allforion a threfniadau masnachu cyfredol gyda gwledydd eraill. Maent hefyd yn cael eu dewis ar sail eu lleoliad daearyddol, mae’r llenyddiaeth economaidd yn cefnogi’n gryf y syniad bod y pellter daearyddol rhwng dwy wlad yn benderfynydd pwysig o ran y swm y maent yn ei fasnachu, felly mae’r holl wledydd a ddewiswyd yn Ewrop.
Oherwydd anawsterau o ran canfod cymaryddion o faint tebyg i Gymru, roedd y rhai a ddewiswyd yn seiliedig yn bennaf ar gymysgedd allforio ac amodau masnachu. Er mwyn sicrhau cymhariaeth deg, cafodd y bylchau mewn gwerth allforio eu haddasu i gyfrif am wahaniaethau maint rhwng Cymru a’r wlad a ddewiswyd i gymharu.
Dewiswyd y cystadleuydd mwyaf tebyg o grŵp o gymaryddion drwy nodi’r wlad sydd â’r NRCA tebycaf i Gymru ar gyfer pob grŵp cynnyrch. Ni chafodd gwledydd cymharol gyda mantais gymharol fwy o lawer na Chyrmu eu hystyried. Roedd hyn yn un cam i sicrhau bod y bylchau gwerth a nodwyd yn parhau’n realistig ac nad oedd cymhariaeth yn cael ei gwneud â gwledydd â mantais sylweddol dros Gymru.
Mae’r dadansoddiad hwn wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r canlynol fel gwledydd cymharol:
- Norwy
- Y Ffindir
- Denmarc
- Iwerddon
- Yr Alban
Gwlad | GDP, 2017 (£bn) | Gwahaniaeth maint o gymharu â Chymru |
---|---|---|
Cymru | 70.3 | 1.0 |
Y Ffindir | 176.9 | 2.5 |
Norwy (a) | 215.4 | 3.1 |
Denmarc | 217.2 | 3.1 |
Yr Alban | 156.2 | 2.2 |
Ffynhonnell: Eurostat
(a) Mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2016.
I sicrhau bod y gymhariaeth â phob cystadleuydd a ddewiswyd yn deg, caiff y dewis o gystadleuydd ei sgrinio i gael gwared ar barau cyffiniol (e.e. byddai’n gymhariaeth annheg cymharu allforion Cymru âi’r Almaen â’r rhai i Ddenmarc, gan fod Denmarc yn rhannu ffin tir â’r Almaen). Os yw’r cystadleuydd a’r farchnad darged a ddewiswyd yn gyffiniol, caiff y cystadleuydd sy’n ail ddewis gorau ei ddewis yn lle hynny. Mae gwybodaeth am y wlad gystadleuol a ddewiswyd ar gyfer pob grŵp cynnyrch ar gael yn Atodiad 5.
Cyfrifo’r bwlch gwerth allforio
Diffinnir y ‘bwlch gwerth allforio’ fel y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng allforion Cymru i farchnad benodol ac allforion y cystadleuydd a ddewiswyd i’r un farchnad. Mae ‘bylchau gwerth allforio’ yn cael eu cyfrifo ar gyfer pob pâr sector-gwlad. Gellir agregu’r rhain wedyn drwy grynhoi’r gwledydd neu’r sectorau.
Nid yw’r bylchau gwerth a nodwyd gan y model yn edrych yn unig ar faint o werth ychwanegol y mae’r cystadleuwr tebycaf yn ei allforio i farchnad benodol. Mae maint cymharol cyfanswm yr allforion rhwng y cystadleuydd a Chymru hefyd yn cael ei ystyried ac mae’r bwlch gwerth yn cael ei addasu yn unol â hynny. Er enghraifft, y Ffindir yw cystadleuydd tebycaf Cymru ar gyfer Haearn a Dur. Fodd bynnag, mae gan y Ffindir economi fwy na Chymru, felly er bod ganddi NRCA tebyg, dim ond 35% o allforion y Ffindir yw Haearn a Dur. I gyfrif am y gwahaniaeth hwn ym maint y sector, mae’r bwlch gwerth rhwng Cymru a’r Ffindir yn cael ei leihau i’r un ganran. Mae’r bylchau gwerth wedi’u haddasu yn cael eu rhoi yn eu cyd-destun yn y model drwy gyflwyno’r cynnydd yng nghyfanswm allforion sector Cymru sydd ei angen i gau’r bwlch gwerth wedi’i addasu.
Ffactorau i’w hystyried a chyfyngiadau
Dylid edrych ar ganlyniadau’r dadansoddiad hwn yng nghyd-destun ffactorau ehangach nad ydynt yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y gwaith hwn. Amlinellir y rhain yn fyr isod.
Twf byd-eang
Mae twf masnach byd-eang wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi’i ysgogi’n rhannol gan ddiffyndollaeth masnach a chynnydd cysylltiedig mewn ansicrwydd byd-eang, sydd wedi’i waethygu ymhellach gan bandemig Covid-19. Mae amcangyfrifon WTO yn dangos bod masnach eisoes yn arafu; roedd nifer y nwyddau a fasnechir wedi gostwng 0.1% yn 2019, ac roedd cyflymder yr ehangu ym masnachu gwasanaethau byd-eang wedi arafu i 2% (i lawr o 9% yn 2018). Byddai twf arafach yn y byd yn awgrymu bod llai o alw am allforion yn gyffredinol, ac felly’n lleihau’r potensial i Gymru gyflawni’r perfformiad allforio gwell a amlinellir yn Nhabl 2.
Twf sector
Mae’r llwybrau twf yn y sectorau penodol a nodwyd angen eu hystyried, gan fod sector sy’n profi twf sefydlog neu sy’n dirywio yn dangos y gallai’r posibiliadau ar gyfer tyfu allforion o Gymru yn y sector hwn fod yn gyfyngedig.
Effaith amnewid
Mae Cymru’n wlad lai o’i chymharu â rhai o’i chystadleuwyr, o ran maint y boblogaeth a’r economi. Mae’r cyfyngiadau hyn ar gapasiti Cymru yn golygu y gallai’r cyfle i sicrhau cynnydd mawr mewn allforion mewn cyfnod byr fod yn heriol. O ystyried hyn, mae’n debygol, er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a nodwyd, y bydd rhywfaint o amnewid yn digwydd lle y gall allforwyr symud eu ffocws tuag at sectorau penodol ac oddi wrth sectorau eraill. Wrth wneud hyn, dylid ystyried gwerth ychwanegol y sectorau hyn o ran Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) a chyflogaeth er mwyn cynyddu i’r eithaf effaith y cyfleoedd hyn ar yr economi ddomestig.
Amodau masnachu
Bydd gallu allforwyr Cymru i wella eu perfformiad yn dibynnu ar delerau eu cysylltiadau masnachu â gwledydd eraill hy pa rwystrau masnach maent yn eu hwynebu. Mae hwn yn ffactor allweddol i’w ystyried wrth sefydlu gwir botensial y cyfleoedd a nodwyd, yn enwedig yng nghyd-destun ymadael â’r UE.
Elastigedd y galw
Mae dadansoddiad gan BEIS yn dangos bod elastigedd y galw yn wahanol ar draws cynnyrch a gwledydd, felly bydd angen ystyried hyn wrth ddehongli gwir werth y cyfleoedd posibl ar gyfer allforio nwyddau o Gymru.
Sefydlogrwydd dros amser
Mae data masnach nwyddau lefel Cymru ar gael o 2007, ond newidiodd CThEM ei fethodoleg yn 2013. Felly, er ein bod yn gwybod bod mantais gymharol Cymru wedi parhau’n sefydlog dros y 5 mlynedd diwethaf (2013 i 2017), nid ydym yn gwybod llawer am ba mor sefydlog ydyw dros gyfnod hwy o amser.
Cafeatau
Er bod y dadansoddiad hwn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gryfderau allforio Cymru 2015 i 2017, mae nifer o gafeatau sy’n golygu mai dangosol yn unig yw’r canfyddiadau hyn. Mae’r cafeatau hyn yn cynnwys:
Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar ystadegau masnach ranbarthol CThEM sy’n dosrannu masnach nwyddau’r DU i ranbarthau ar sail cyflogaeth – gall y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r dull dosrannu olygu bod cryfder Cymru mewn rhai sectorau wedi’i amcangyfrif yn rhy uchel neu’n rhy isel.
Er gwaethaf llunio’r mynegeion yn seiliedig ar gyfartaledd o 3 blynedd i leihau effaith anwadalrwydd masnach, mae’r ffaith bod allforio nwyddau o Gymru yn seiliedig ar nifer cymharol fach o gwmnïau yn golygu y gall fod cysylltiad agos rhwng mantais gymharol Cymru mewn rhai sectorau a gweithgareddau nifer fach o gwmnïau.
Nid yw dadansoddi ond yn rhoi cipolwg ar fantais gymharol Cymru yn y gorffennol – nid yw’n rhoi llawer o syniad o beth fydd mantais gymharol Cymru yn y dyfodol, er bod dadansoddiad pellach yn dangos bod y fantais gymharol yn weddol sefydlog dros amser.
Mae’r dadansoddiad wedi’i ddiffinio ar lefel dosbarthiad SITC2 ar gyfer nwyddau, sef y lefel fwyaf manwl o ddata sydd ar gael ar gyfer allforion nwyddau o Gymru. Er bod hyn yn darparu lefel resymol o ddadgyfuno, mae’r categorïau’n dal i gynnwys amrywiaeth o gynnyrch sydd weithiau’n eithaf gwahanol. Mae hyn yn awgrymu y byddai’n bosibl i’r dadansoddiad ddefnyddio cystadleuydd sy’n eithaf tebyg i Gymru ar lefel y sector ehangach, ond sydd mewn gwirionedd yn cynhyrchu nwyddau o fewn cod y sector hwnnw sy’n eithaf gwahanol i’r rhai y mae busnesau Cymru’n eu cynhyrchu. Er enghraifft, mae ‘79 - Cyfarpar trafnidiaeth arall’ yn cynnwys masnachu mewn cerbydau rheilffordd, awyrennau, llongau a chychod ymysg eraill. Felly, mae’n bwysig deall y cynnyrch mae cystadleuydd yn ei fasnachu ym mhob dosbarthiad SITC2.
Ac ystyried y cyfyngiadau hollbwysig hyn, mae’n bwysig nodi mai bwriad y dadansoddiad hwn yw tynnu sylw at gyfleoedd posibl ar gyfer allforio nwyddau o Gymru, y dylid eu hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth arall.
Canlyniadau
Grwpiau cynnyrch gyda mantais gymharol
Yn ôl cam cyntaf y dadansoddiad hwn, roedd gan Gymru fantais gymharol mewn 8 o’r 66 grŵp cynnyrch eang dros gyfnod 2015 i 2017. Mae Atodiad 2 yn cynnwys rhestr gyflawn o grwpiau cynnyrch a’u sgôr mantais (neu anfantais) gymharol.
Y fantais gymharol fwyaf oedd o fewn ‘Darnau arian (ac eithrio aur), nad ydynt yn arian cyfreithiol’ a ‘chyfarpar trafnidiaeth arall’. Ceir rhestr lawn o fantais gymharol Cymru yn Nhabl 2.
Grwpiau Cynnyrch | Mantais Gymharol a Ddatgelwyd wedi’i Normaleiddio (cyfartaledd 2015 i 2017) (a) |
---|---|
96 Darnau Arian (ac eithrio darnau arian aur), nad ydynt yn arian cyfreithlon | 0.91 |
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall | 0.86 |
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer | 0.66 |
67 Haearn a dur | 0.41 |
35 Cerrynt trydanol | 0.20 |
02 Cynnyrch llaeth ac wyau adar | 0.19 |
58 Plastigion mewn ffurfiau nad ydynt yn rhai sylfaenol | 0.15 |
82 Celfi a rhannau ohonynt; dillad gwely, matresi ac ati | 0.12 |
00 Anifeiliaid byw ac eithrio anifeiliaid adran 03 | 0.12 |
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach a Ranbarthol CThEM a comtrade y CU
(a) Defnyddiwyd fersiwn wedi’i normaleiddio o fantais gymharol i helpu i ddehongli, roedd gwerth cadarnhaol yn dangos mantais gymharol, gan dyfu’n gryfach wrth ddynesu at 1. Er mwyn osgoi camadnabod y fantais gymharol, dim ond grwpiau cynnyrch sydd â sgorau NRCA o > 1.10 a gafodd eu hamlygu fel rhai â mantais gymharol. Mae cyfyngiadau a chafeatau’r data yn golygu y dylid dehongli’r canlyniadau hyn gan ddefnyddio gwybodaeth y sector a’r farchnad i archwilio eu hygrededd.
Bylchau gwerth allforio
Roedd ail ran y dadansoddiad yn cynnwys cymharu perfformiad allforio nwyddau Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd unigol â pherfformiad gwledydd cymharol tebyg ar sail ffactorau yn cynnwys cysylltiadau masnachu, lleoliad daearyddol a chymysgedd allforio. Roedd natur gymharol unigryw Cymru ar draws y ffactorau hyn yn golygu bod dewis gwledydd cymharol addas yn heriol. Fodd bynnag, y gwledydd cymharol addas a nodwyd oedd Norwy, y Ffindir, Denmarc, Iwerddon a’r Alban. O’r grŵp hwn o wledydd cymharol, dewiswyd y cystadleuydd tebycaf. Dyma’r wlad sydd â’r NRCA agosaf at Gymru.
Roedd y dadansoddiad yn cynnwys 66 o sectorau nwyddau a 99(b) o wledydd ac yn golygu bod modd adnabod bylchau mewn gwerth allforio nwyddau ar gyfer Nghymru (hy gwerth ychwanegol allforio nwyddau y gallai gwlad ei sicrhau o fewn sector a marchnad benodol pe baent yn gwella eu perfformiad i gyfateb i berfformiad y wlad sy’n gystadleuydd agosaf iddynt). Roedd hyn yn helpu i ddod o hyd i feysydd a allai gynnig cyfleoedd posibl ar gyfer tyfu allforion nwyddau o Gymru
(b) Cafodd y data ar gyfer 13 o’r gwledydd hyn eu hatal, mae Atodiad 3 yn cynnwys rhestr gyflawn o’r gwledydd sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad yr oedd data ar gael ar ei gyfer
O gofio’r anhawster o ran canfod gwledydd cymharol addas i Gymru, ychwanegwyd cymhariaeth rhwng maint y sectorau cymharol rhwng y gwledydd cymharol a Chymru at y model, gan addasu’r bwlch i roi amcangyfrif mwy realistig o’r cynnydd yn y gwerth posibl i allforion Cymru, yn seiliedig ar faint cymharol yr economi. Cyfrifwyd hefyd y cynnydd canrannol sydd ei angen ym mherfformiad allforio nwyddau Cymru i gau’r bwlch er mwyn darparu cyd-destun pellach.
Gellir dadansoddi’r cyfleoedd a nodwyd ar gyfer allforio mwy o nwyddau o Gymru yn ôl gwlad neu sector. Dangosir yr 20 bwlch allforio uchaf yn ôl gwerth yn Nhabl 3 isod ac mae Atodiad 4 yn cynnwys crynodeb o ddadansoddiadau bylchau gwerth allforion ar gyfer marchnadoedd allweddol.
Er enghraifft, dangosodd y dadansoddiad hwn mai’r bwlch mwyaf o ran gwerth allforion Cymru oedd Haearn a Dur i’r Iseldiroedd. Wrth gyfateb perfformiad y Ffindir (y wlad gymharol) o ran allforio haearn a dur i’r Iseldiroedd, gallai Cymru fod wedi ychwanegu £280m at ei hallforion. I gyflawni hyn, byddai angen i sector Haearn a Dur Cymru gynyddu ei allforion 35%.
Grwpiau cynnyrch (b) | Marchnad | Y cystadleuydd tebycaf | Bwlch gwerth wedi’i addasu gyda’r cystadleuydd, (£miliynau) | Cynnydd yn allforion sector Cymru er mwyn cau’r bwlch gwerth wedi’i addasu |
---|---|---|---|---|
67 Haearn a dur | Yr Iseldiroedd | Y Ffindir | 280.6 | 35% |
77 Peiriannau, cyfarpar a chyfarpar trydanol, n.e.s a rhannau trydanol ohonynt. | Yr Unol Daleithiau | Iwerddon | 266.2 | 37% |
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall | Norwy | Yr Alban | 232.9 | 6% |
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig | Yr Iseldiroedd | Y Ffindir | 166.6 | 12% |
77 Peiriannau, cyfarpar a chyfarpar trydanol, n.e.s a rhannau trydanol ohonynt. | Tsieina | Iwerddon | 153.7 | 21% |
67 Haearn a dur | Yr Almaen | Y Ffindir | 128.9 | 16% |
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig | Gwlad Belg | Y Ffindir | 116.6 | 8% |
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall | Yr Unol Daleithiau | Yr Alban | 101.5 | 3% |
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig | Latfia | Y Ffindir | 87.3 | 6% |
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall | Saudi Arabia | Yr Alban | 75.1 | 2% |
77 Peiriannau, cyfarpar a chyfarpar trydanol, n.e.s a rhannau trydanol ohonynt. | Israel | Iwerddon | 73.9 | 10% |
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig | Yr Almaen | Y Ffindir | 68.0 | 5% |
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer | Singapôr | Yr Alban | 64.7 | 4% |
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer | India | Yr Alban | 62.8 | 3% |
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer | Malaysia | Yr Alban | 62.2 | 3% |
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall | India | Yr Alban | 62.1 | 2% |
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig | Estonia | Y Ffindir | 59.7 | 4% |
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer | Canada | Yr Alban | 52.4 | 3% |
72 Peiriannau arbennig ar gyfer diwydiannau penodol | Norwy | Yr Alban | 51.8 | 17% |
68 Metel anfferrus | Gweriniaeth Gogledd Macedonia | Yr Alban | 51.2 | 15% |
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach Ranbarthol a CThEM a comtrade y CU
(a) Er mwyn sicrhau cymhariaeth deg, addaswyd y bylchau gwerth allforio i gyfrif am wahaniaethau maint rhwng Cymru a'r wlad gymharol a ddewiswyd.
(b) n.e.s. = heb ei nodi mewn man arall.
Atodiad 1: Model Ricardaidd
Mae damcaniaeth economaidd mantais gymharol sy’n seiliedig ar waith David Ricardo yn cynnig dadl o blaid gwledydd sy’n canolbwyntio eu hadnoddau ar gynhyrchu nwyddau y mae ganddynt fantais gymharol o ran cost ar eu cyfer ac yn allforio’r rhain i weddill y byd. Dylent hwythau, yn eu tro, fewnforio’r nwyddau hynny y mae ganddynt anfantais gymharol wrth eu cynhyrchu. Dylai hyn, mewn theori, arwain at gynnydd yng nghyfanswm yr enillion masnach a lles, gan fod y cynhyrchu wedi’i leoli lle mae’n fwyaf effeithlon.
Mae’r Model Ricardaidd yn tybio bod dwy wlad, sy’n cynhyrchu dau fath o nwyddau, gan ddefnyddio un ffactor cynhyrchu, fel arfer llafur. Mae’r model yn fodel cydbwysedd cyffredinol lle mae pob marchnad yn gwbl gystadleuol a’r holl nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu yn unffurf ar draws gwledydd. Mae llafur yn unffurf ac yn gwbl symudol o fewn gwlad ond efallai fod cynhyrchiant yn wahanol ac yn ddisymud ar draws gwledydd. Rhagdybir defnydd llawn o lafur. Gellir cludo nwyddau rhwng gwledydd heb unrhyw gostau cludo.
Mae prif gyfyngiadau’r ddamcaniaeth hon yn cynnwys tybiaethau afrealistig ynghylch costau hy ni roddir cyfrif am yr holl gostau cynhyrchu nad ydynt yn gysylltiedig â llafur, ac ni roddir ystyriaeth i rôl costau trafnidiaeth. Tybir bod y costau’n gyson, ac felly methir rhoi cyfrif am effeithiau o ran darbodion maint wrth i lefelau cynhyrchu gynyddu.
Atodiad 2: mantais gymharol a ddatgelwyd wedi’i normaleiddio (cyfartaledd 2015 i 2017)
Grŵp Cynnyrch (SITC 2) (a) | Mantais Gymharol a Ddatgelwyd wedi’i Normaleiddio (cyfartaledd 2015-17) |
---|---|
00 Anifeiliaid byw ac eithrio anifeiliaid adran 03 | 0.12 |
01 Cig a pharatoadau chig | -0.09 |
02 Cynnyrch llaeth ac wyau adar | 0.19 |
03 Pysgod, cramenogion, molysgiaid ac anifeiliaid dŵr di-asgwrn-cefn a pharatoadau ohonynt | -0.61 |
04 Grawnfwydydd a pharatoadau grawnfwydydd | -0.37 |
05 Llysiau a ffrwythau | -0.94 |
06 Siwgr, paratoadau siwgr a mêl | -0.64 |
07 Coffi, te, coco, sbeisys a’u cynnyrch | -0.80 |
08 Deunyddiau bwydo anifeiliaid (heb gynnwys grawnfwyd heb ei falu) | -0.48 |
09 Cynnyrch a pharatoadau bwytadwy amrywiol | -0.07 |
11 Diodydd | -0.46 |
12 Tybaco a chynnyrch tybaco | -1.00 |
21 Crwyn a chrwyn ffwr, crai | -0.05 |
22 Hadau olew a ffrwythau oeliog | -1.00 |
23 Rwber crai (gan gynnwys synthetig ac adferedig) | -0.61 |
24 Corc & phren | -0.95 |
25 Mwydion a gwastraff papur | -0.85 |
26 Ffibrau tecstilau heb eu gweithgynhyrchu a’u gwastraff ac ati | -0.79 |
27 Gwrtaith crai a mwynau crai (ac eithrio tanwyddau ac ati) | -0.82 |
28 Mwynau metelog a metel sgrap | -0.22 |
29 Deunyddiau crai anifeiliaid a llysiau n.e.s. | -0.78 |
32 Glo, golosg a brics glo | -0.83 |
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig | 0.07 |
34 Nwy, naturiol a gwneuthuredig | -0.85 |
35 Cerrynt trydanol | 0.20 |
41 Olewau a brasterau anifeiliaid | -0.67 |
42 Brasterau ac olewau llysiau sefydlog, crai, puredig, wedi’u ffracsiynu | -0.97 |
43 Brasterau ac olewau anifeiliaid neu lysiau, wedi’u prosesu, a chwyrau | -0.87 |
51 Cemegion organig | -0.16 |
52 Cemegau anorganig | -0.52 |
53 Deunyddiau lliwio a barcio | 0.05 |
54 Cynnyrch meddyginiaethol a fferyllol | 0.08 |
55 Olewau hanfodol a deunyddiau persawr; paratoadau toiled ac ati | 0.02 |
56 Gwrteithiau (heblaw am rai grŵp 272) | -0.83 |
57 Plastigion ar ffurfiau sylfaenol | -0.11 |
58 Plastigion ar ffurfiau nad ydynt yn sylfaenol | 0.15 |
59 Deunyddiau a chynhyrchion cemegol n.e.s. | 0.09 |
61 Lledr, cynhyrchion lledr n.e.s. a chrwyn ffwr wedi’u trin | -0.92 |
62 Cynhyrchion rwber n.e.s. | 0.02 |
63 Cynhyrchion corc a phren (ac eithrio dodrefn) | -0.72 |
64 Papur, byrddau papur a chynhyrchion ohonynt | -0.07 |
65 Edafedd tecstilau, ffabrigau, eitemau wedi’u gwneud ac ati | -0.70 |
66 Cynhyrchion mwynau anfetelaidd n.e.s. | -0.32 |
67 Haearn a dur | 0.41 |
68 Metelau anfferrus | 0.07 |
69 Cynhyrchion metel n.e.s. | -0.02 |
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer | 0.66 |
72 Peiriannau arbennig ar gyfer diwydiannau penodol | -0.08 |
73 Peiriannau trin metel | -0.32 |
74 Peiriannau ac offer diwydiannol cyffredinol a rhannau peiriannau n.e.s | -0.39 |
75 Peiriannau swyddfa a pheiriannau adp | -0.50 |
76 Offer a chyfarpar telegyfathrebu, recordio sain ac atgynhyrchu sain | -0.76 |
77 Peiriannau trydanol, offer a chyfarpar a darnau trydanol ohonynt n.e.s. | -0.35 |
78 Cerbydau ffordd (gan gynnwys cerbydau clustogau aer) | -0.44 |
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall | 0.86 |
81 Adeiladau p/fab; gosodiadau glanhau, plymio, gwresogi a goleuo | -0.35 |
82 Celfi a rhannau ohonynt; dillad gwely, matresi ac ati | 0.12 |
83 Nwyddau teithio, bagiau llaw a chynwysyddion tebyg | -0.66 |
84 Eitemau dillad ac ategolion dillad | -0.57 |
85 Esgidiau | -0.65 |
87 Gosodiadau a chyfarpar proffesiynol, gwyddonol a rheoli n.e.s. | 0.01 |
88 Nwyddau ffotograffig a gweledol, n.e.s.; oriorau a chlociau | -0.40 |
89 Amrywiol eitemau cynnyrch n.e.s. | -0.15 |
93 Trafodiadau arbennig a nwyddau heb dosbarthu yn ôl math | -0.70 |
96 Darnau Arian (ac eithrio darnau arian aur), nad ydynt yn arian cyfreithlon | 0.91 |
98 Bwledi a chetris milwrol | .. |
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach a Ranbarthol CThEM a comtrade y CU
(a) n.e.s. = heb ei nodi mewn man arall.
Atodiad 3: gwledydd sydd wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad bwlch gwerth allforio
Algeria | Gweriniaeth Dominica | Kuwait | Rwsia |
Angola | Ecwador | Latfia | Sawdi-Arabia |
Ariannin | Yr Aifft | Lithwania | Senegal |
Awstralia | Estonia | Lwcsembwrg | Serbia |
Awstria | Ethiopia | Malaysia | Singapôr |
Azerbaijan | Y Ffindir | Malta | Slofacia |
Bahrain | Ffrainc | Mauritius | Slofenia |
Bangladesh | Georgia | Mecsico | De Affrica |
Gwlad Belg | Yr Almaen | Moroco | Sbaen |
Brasil | Ghana | Yr Iseldiroedd | Sri Lanka |
Bwlgaria | Gwlad Groeg | Seland Newydd | Sweden |
Camerŵn | Hwngari | Nigeria | Y Swistir |
Canada | Gwlad yr Iâ | Norwy | Gweriniaeth Gogledd Macedonia |
Chile | India | Oman | Gwlad Thai |
Tsieina | Indonesia | Pacistan | Trinidad a Tobago |
Hong Kong | Gweriniaeth Iwerddon | Panama | Twrci |
Colombia | Israel | Periw | Yr Wcrain |
Costa Rica | Yr Eidal | Gwlad Pwyl | Yr Emiraethau Arabaidd Unedig |
Croatia | Japan | Portiwgal | Uruguay |
Cyprus | Gwlad Iorddonen | Qatar | Yr Unol Daleithiau |
Y Weriniaeth Tsiec | Kazakhstan | De Korea | Fietnam |
Denmarc | Cenia | Rwmania |
Atodiad 4: trosolwg o ddadansoddiad o’r bwlch gwerth allforio ar gyfer marchnadoedd allweddol
Mae perfformiad allforio Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd wedi cael ei gymharu â chystadleuwyr byd-eang eraill er mwyn dod o hyd i feysydd a allai gynnig cyfleoedd i allforio o Gymru, sy’n cael eu galw yn ‘fylchau gwerth allforio’. Mae modd defnyddio’r dadansoddiad hwn i helpu i benderfynu ar y prif wledydd sydd â blaenoriaeth ar gyfer allforio o Gymru, er enghraifft, drwy edrych ar y 10 marchnad allforio uchaf ar gyfer 2019, a’r rheini lle mae gan Lywodraeth Cymru swyddfa:
Yr Almaen
Y brif gyrchfan ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£2.87bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Haearn a dur, Celfi a Phlastigion lle mae gan Gymru fantais gymharol gymedrol.
Ffrainc
Cyrchfan rhif 2 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (2.81bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.
Unol Daleithiau America
Cyrchfan Rhif 3 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (2.74bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Phlastigion lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.
Iwerddon
Cyrchfan rhif 4 ar gyfer allforio o Gymru (£1.69bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall a Pheiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.
Yr Iseldiroedd
Cyrchfan Rhif 5 ar gyfer allforio o Gymru (£0.97bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau. Allforio haearn a dur i’r Iseldiroedd sydd â’r bwlch gwerth mwyaf o’r holl gyfuniadau marchnad-sector. Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer, lle mae gan Gymru fantais gymharol gref, mae hefyd yn dangos bwlch gwerth.
Gwlad Belg
Cyrchfan Rhif 6 ar gyfer allforio o Gymru (£0.54bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.
Sbaen
Cyrchfan Rhif 7 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.46bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Plastigion a Chelfi lle mae gan Gymru fantais gymharol gymedrol.
Yr Emiraethau Arabaidd Unedig
Cyrchfan Rhif 8 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.46bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.
Tsieina
Cyrchfan Rhif 9 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.41bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.
Twrci
Cyrchfan rhif 10 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (0.34bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.
Japan
Cyrchfan Rhif 11 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.30bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.
Canada
Cyrchfan Rhif 14 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.23bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer a Chyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.
Qatar
Cyrchfan Rhif 17 ar gyfer allforio o Gymru (£0.20bn). Mae ein perfformiad allforio eisoes yn rhagori ar ein cystadleuwyr yn y sectorau lle mae gennym fantais gymharol. Mae nifer o sectorau eraill yn dangos bwlch gwerth wrth gymharu â’n cystadleuwyr.
India
Cyrchfan Rhif 21 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.13bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer a Chyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.
Gwledydd eraill i’w hystyried wrth ddadansoddi’r bwlch gwerth allforio. Gan edrych ar sectorau penodol lle mae gan Gymru fantais gymharol, gwelir bylchau gwerth allforio gyda’r gwledydd canlynol:
Haearn a dur
Mae gan Gymru fantais gymharol gymedrol.
Wrth gymharu â’r Ffindir, y cystadleuydd sydd fwyaf tebyg i ni, mae’n datgelu bylchau gwerth allforio > £10miliwn ar gyfer y gwledydd ychwanegol hyn; yr Eidal, Rwsia, Gwlad Pwyl, Denmarc, Norwy.
Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer
Mae gan Gymru fantais gymharol gref.
Wrth gymharu â’r Alban, y cystadleuydd sydd fwyaf tebyg i ni, mae’n datgelu bylchau gwerth allforio > £10miliwn ar gyfer y gwledydd ychwanegol hyn; Singapôr, Malaysia, Hong Kong, Gwlad Thai, Norwy.
Cyfarpar trafnidiaeth arall
Mae gan Gymru fantais gymharol gref.
Wrth gymharu â’r Alban, y cystadleuydd sydd fwyaf tebyg i ni, mae’n datgelu bylchau gwerth allforio > £10miliwn ar gyfer y gwledydd ychwanegol hyn; Norwy, Saudi Arabia, Brasil, Oman, yr Eidal, Malaysia, Twrci.
Atodiad 5: gwledydd cymharu ar gyfer grwpiau cynnyrch SITC 2
Grŵp Cynnyrch (SITC 2) (a) | Y cystadleuydd tebycaf |
---|---|
00 Anifeiliaid byw ac eithrio anifeiliaid adran 03 | Yr Alban |
01 Cig a pharatoadau chig | Yr Alban |
02 Cynnyrch llaeth ac wyau adar | Y Ffindir |
03 Pysgod, cramenogion, molysgiaid ac anifeiliaid dŵr di-asgwrn-cefn a pharatoadau ohonynt | Y Ffindir |
04 Grawnfwydydd a pharatoadau grawnfwydydd | Y Ffindir |
05 Llysiau a ffrwythau | Norwy |
06 Siwgr, paratoadau siwgr a mêl | Yr Alban |
07 Coffi, te, coco, sbeisys a chynhyrchion ohonynt | Yr Alban |
08 Deunyddiau bwydo anifeiliaid (heb gynnwys grawnfwyd heb ei falu) | Y Ffindir |
09 Cynnyrch a pharatoadau bwytadwy amrywiol | Norwy |
11 Diodydd | Y Ffindir |
12 Tybaco a chynnyrch tybaco | Norwy |
21 Crwyn a chrwyn ffwr, crai | Yr Alban |
22 Hadau olew a ffrwythau oeliog | Norwy |
23 Rwber crai (gan gynnwys synthetig ac adferedig) | Y Ffindir |
24 Corc & phren | Yr Alban |
25 Mwydion a gwastraff papur | Yr Alban |
26 Ffibrau tecstilau heb eu cynhyrchu a’u gwastraff ac ati | Norwy |
27 Gwrtaith crai a mwynau crai (ac eithrio tanwyddau ac ati) | Yr Alban |
28 Mwynau metelog a metel sgrap | Y Ffindir |
29 Deunyddiau crai anifeiliaid a llysiau n.e.s. | Y Ffindir |
32 Glo, golosg a brics glo | Iwerddon |
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig | Y Ffindir |
34 Nwy, naturiol a gwneuthuredig | Y Ffindir |
35 Cerrynt trydanol | Denmarc |
41 Olewau a brasterau anifeiliaid | Y Ffindir |
42 Brasterau ac olewau llysiau sefydlog, crai, puredig, wedi’u ffracsiynu | Yr Alban |
43 Brasterau ac olewau anifeiliaid neu lysiau, wedi’u prosesu, a chwyrau | Iwerddon |
51 Cemegion organig | Y Ffindir |
52 Cemegau anorganig | Denmarc |
53 Deunyddiau lliwio a barcio | Denmarc |
54 Cynnyrch meddyginiaethol a fferyllol | Yr Alban |
55 Olewau hanfodol a deunyddiau persawr; paratoadau toiled ac ati | Denmarc |
56 Gwrteithiau (heblaw am rai grŵp 272) | Y Ffindir |
57 Plastigion ar ffurfiau sylfaenol | Y Ffindir |
58 Plastigion mewn ffurfiau nad ydynt yn rhai sylfaenol | Denmarc |
59 Deunyddiau a chynhyrchion cemegol n.e.s. | Denmarc |
61 Lledr, cynhyrchion lledr n.e.s. a chrwyn ffwr wedi’u trin | Norwy |
62 Cynhyrchion rwber n.e.s. | Y Ffindir |
63 Cynhyrchion corc a phren (ac eithrio dodrefn) | Yr Alban |
64 Papur, byrddau papur a chynhyrchion ohonynt | Denmarc |
65 Edafedd tecstilau, ffabrigau, eitemau wedi’u gwneud ac ati | Norwy |
66 Cynhyrchion mwynau anfetelaidd n.e.s. | Denmarc |
67 Haearn a dur | Y Ffindir |
68 Metelau anfferrus | Yr Alban |
69 Cynhyrchion metel n.e.s. | Yr Alban |
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer | Yr Alban |
72 Peiriannau arbennig ar gyfer diwydiannau penodol | Yr Alban |
73 Peiriannau trin metel | Denmarc |
74 Peiriannau ac offer diwydiannol cyffredinol a rhannau peiriannau n.e.s | Iwerddon |
75 Peiriannau swyddfa a pheiriannau adp | Yr Alban |
76 Offer a chyfarpar telegyfathrebu, recordio sain ac atgynhyrchu sain | Norwy |
77 Peiriannau trydanol, offer a chyfarpar a darnau trydanol ohonynt n.e.s. | Iwerddon |
78 Cerbydau ffordd (gan gynnwys cerbydau clustogau aer) | Denmarc |
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall | Yr Alban |
81 Adeiladau p/fab; gosodiadau glanhau, plymio, gwresogi a goleuo | Norwy |
82 Celfi a rhannau ohonynt; dillad gwely, matresi ac ati | Norwy |
83 Nwyddau teithio, bagiau llaw a chynwysyddion tebyg | Yr Alban |
84 Eitemau dillad ac ategolion dillad | Y Ffindir |
85 Esgidiau | Y Ffindir |
87 Gosodiadau a chyfarpar proffesiynol, gwyddonol a rheoli n.e.s. | Denmarc |
88 Nwyddau ffotograffig a gweledol, n.e.s.; oriorau a chlociau | Denmarc |
89 Amrywiol eitemau cynnyrch n.e.s. | Yr Alban |
93 Trafodiadau arbennig a nwyddau heb dosbarthu yn ôl math | Yr Alban |
96 Darnau Arian (ac eithrio darnau arian aur), nad ydynt yn arian cyfreithlon | Y Ffindir |
98 Bwledi a chetris milwrol | Dim |
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach a Ranbarthol CThEM a comtrade y CU
(a) n.e.s. = heb ei nodi mewn man arall.
Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol
Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:
- cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
- dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
- tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
- dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau
Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
- ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
- resymau eraill a nodir
Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.
Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol, ond gellir ei ddefnyddio gydag allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.
Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.
Mae symbolau gwerth coll a ddefnyddir yn yr erthygl yn dilyn y safonau a ddefnyddir mewn allbynnau ystadegol eraill, fel yr amlinellir isod.
.. Nid yw'r eitem o ddata ar gael
. Nid yw'r eitem o ddata yn gymwys
- Nid yw'r eitem o ddata yn cyfateb i sero'n union, ond fe'i hamcangyfrifwyd yn sero neu'n llai na hanner y digid terfynol a ddangosir
* Mae'r eitem o ddata yn ddatgelol neu nid yw'n ddigon cadarn i'w chyhoeddi
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Matt Evans
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099