Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Troi'n Organig – yn cyfrannu at y themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar lefel fferm
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli tir ar lefel tirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu sy'n ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael dros y tair blynedd nesaf, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru (ar Busnes Cymru).

Adran A – Cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Troi'n Organig. Darllenwch nhw'n ofalus. Os ydych yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn, a'ch bod am wneud cais, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn Adran E a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 18 Gorffennaf 2022 ac yn cau ar 26 Awst 2022.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £5 miliwn dros ddwy flynedd galendr, sef 2023 a 2024.

Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn gynllun cymorth sy'n seiliedig ar arwynebedd. Mae ar gael i gynhyrchwyr amaethyddol presennol ledled Cymru sy'n dymuno newid o gynhyrchu confensiynol i gynhyrchu organig. Drwy gefnogi ffermwyr yn ystod y cyfnod pontio o ddwy flynedd, wrth iddynt droi'n organig, nod y cynllun yw darparu cymorth i sicrhau manteision cadarnhaol o ran rheoli tir mewn ffordd sydd o fudd i'r amgylchedd. Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn gontract pum mlynedd a ariennir am y ddwy flynedd gyntaf.

Bydd y Cynllun Troi'n Organig yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r nodau cyffredinol isod:

  • Lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • Gwneud busnesau fferm yn fwy cadarn drwy addasu i newid yn yr hinsawdd.
  • Gwella adnoddau dŵr er mwyn gwella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
  • Cyfrannu at wneud ffermydd a’r gymuned wledig ehangach yn fwy economaidd gynaliadwy.
  • Diogelu a gwella'r dirwedd naturiol a'r amgylchedd hanesyddol.
  • Datblygu a gwella bioamrywiaeth frodorol Cymru.

Mae busnesau fferm yn cael eu dewis ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig yn dilyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn cael ei sgorio ar ei allu i gyfrannu at gyflawni nodau'r Cynllun Troi'n Organig. Y datganiadau sy'n gallu gwneud y cyfraniad mwyaf at amcanion y cynllun a fydd yn cael y sgôr uchaf. Gweler Adran E (Dethol)

Darllenwch y Llyfryn Rheolau hwn ynghyd â'r canllawiau ar y Cynllun Troi'n Organig cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Bydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B: Y Cynllun Troi’n Organig – Cymhwysedd

Rydych yn gymwys i wneud cais os ydych yn bodloni’r meini prawf isod

  • Rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004
  • Rydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol
  • Mae gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu
  • Rydych yn gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol

Byddwn yn gwirio a oes gennych hawliad cymwys o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol i gadarnhau a ydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi cyflwyno cais i Gynllun y Taliad Sylfaenol, bydd rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch datganiad o ddiddordeb i gadarnhau eich bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a'ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd naill ai ar sail tri hectar o dir neu ar sail 550 o oriau llafur safonol.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • llaeth
  • geifr
  • garddwriaeth
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

Rhaid i'r holl dir sy'n cael ei gynnwys mewn contract o dan y Cynllun Troi'n Organig gael ei ardystio'n barhaus gan Gorff Rheoli Organig am bum mlynedd y contract, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2023.

Caiff cynhyrchwyr organig presennol wneud cais ar gyfer tir nad yw wedi'i ardystio'n organig ar hyn o bryd neu nad yw'n cael ei droi'n organig ar hyn o bryd.

Nid ydych yn gymwys:

  • os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • os ydych yn gwsmer coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
  • os ydych yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithasau Cynhyrchwyr)

Fodd bynnag, os yw dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau’n cael eu rheoli ar y cyd, a bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwydo cyffredin, byddant yn cael eu hystyried yn un busnes.

Tir Cymwys

Rhaid ichi nodi’r holl dir y mae gennych reolaeth lwyr drosto, nad yw eisoes wedi’i gofrestru’n organig, yn eich datganiad o ddiddordeb. Os cynigir contract ichi, a gwelir yn nes ymlaen na wnaethoch gynnwys eich holl dir cymwys, mae’n bosibl y bydd eich contract yn cael ei ganslo a gellir adennill unrhyw daliadau a wnaed, gan gynnwys llog.

I fod yn gymwys i dderbyn taliadau trosi am ddwy flynedd, rhaid bod parsel tir sy’n cael ei gynnwys mewn contract o dan y Cynllun Troi’n Organig wedi dechrau troi’n organig ar ôl i’r contract o dan y Cynllun Troi’n Organig gael ei gynnig, a chyn 1 Ionawr 2023.

Mae angen i dir fod wedi’i droi’n organig am o leiaf ddwy flynedd i fod yn gymwys.

Dim ond os gallwch warantu y bydd gennych reolaeth barhaus am bum mlynedd y contract o dan y Cynllun Troi’n Organig y bydd tir a rentir yn gymwys.

Fel arfer gall y canlynol fodloni meini prawf rheolaeth lwyr:

  • Perchennog-feddiannydd y tir
  • Tenant sydd â Thenantiaeth Busnes Fferm neu denantiaeth o dan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 neu Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • Trwyddedwr

Dim ond parseli cae cyfan sy’n gymwys ar gyfer contract o dan y Cynllun Troi’n Organig.

Rhaid i bob parsel tir fod yng Nghymru.

Bydd Tir Comin sy’n cael ei bori lle mai chi yw’r unig borwr cofrestredig yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer contract o dan y Cynllun Troi’n Organig. Rhaid i’r parseli hyn fod wedi’u cofrestru ar system adnabod parseli caeau RPW.

Codau Cnydau Cymwys

Rhestrir codau cnydau cymwys o dan eu Dosbarthiad Gorchudd Tir yn Atodiad 1:Tabl 1 o'r canllawiau hyn.

Bydd codau cnydau a restrir o dan y golofn Dosbarthiad Gorchudd Tir yn Atodiad 1: Tabl 1 sy'n cael eu datgan ar Ffurflen Cais Sengl 2022 yn gymwys ar gyfer y taliadau canlynol:

Cyfraddau talu

Cyfradd Dalu Disgrifiad Dosbarthiad Gorchudd Tir
1 Tir cylchdro Cylchdro
2 Cnydau parhaol / glaswelltir

Glaswellt parhaol / cnydau parhaol

3 Glaswelltir parhaol a thros dro gyda menter laeth

Glaswellt parhaol

Glaswellt dros dro

4 Tir heb ei amgáu

Glaswellt parhaol

Os nad ydych wedi datgan rhan o'ch tir, neu'r cyfan, ar unrhyw Ffurflen Cais Sengl 2022, bydd yn ofynnol ichi gyflwyno'r codau cnydau ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ddogfennol fel cofnodion cnydio, derbynebau, anfonebau ac ati.

Tir Anghymwys

Tir sydd eisoes wedi'i ardystio'n organig.

Tir sydd eisoes yn cael ei droi'n organig cyn i gontract gael ei gynnig o dan y Cynllun Troi'n Organig.

Rhannau o barseli tir (Dim ond parseli tir cyfan y gellir eu cynnwys yn y Cynllun Troi'n Organig.)

Ni chewch ddefnyddio'r Cynllun Troi'n Organig i ail-droi tir yn organig os ydych wedi derbyn cymorth yn y gorffennol i droi'r tir hwnnw'n organig. Os ydych yn berchen newydd ar dir sydd wedi cael ei droi'n organig yn y gorffennol, ac wedyn ei droi yn ôl i dir ffermio confensiynol gan fusnes ffermio arall, mae'n bosibl y byddwch yn cael troi'r tir yn ôl i dir ffermio organig unwaith eto gan ddefnyddio cymorth gan y Cynllun Troi’n Organig.

Tir comin lle mae nifer o borwyr cofrestredig ar y comin.

Rhestrir nodweddion anghymwys parhaol yn Atodiad 1:Tabl 2 o'r canllawiau hyn.

Tir sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal gweithgareddau chwaraeon a/neu hamdden

Ystyrir eich bod yn cynnal maes chwarae neu hamdden parhaol os yw unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol:

  • Mae'r tir wedi cael ei neilltuo ac yn cael ei gadw gydol y flwyddyn i gynnal chwaraeon neu weithgareddau hamdden arno. Er enghraifft, cwrs golff, cae pêl-droed neu ménage (arena marchogaeth). Mae’r tir yn anghymwys hyd yn oed os yw gweithgareddau amaeth yn cael ei gynnal arno os nad amaeth yw ei brif ddefnydd.
  • Mae’r tir yn cynnwys un neu fwy o adeileddau parhaol sy’n cael eu defnyddio er mwyn i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu hamdden - neu adeileddau parhaol ar gyfer gwylwyr i’w gwneud yn fwy cyfforddus (er enghraifft, ystafelloedd newid, cawodydd neu doiledau, caffi, seddi i wylwyr neu gaban gwylio). Ni chynhwysir meysydd parcio.

Os bydd manège ar bwys ysgol farchogaeth neu stablau llog, ystyrir bod eisteddle neu gaban gwylio’r manège yn adeiledd parhaol, ond nid adeiladau’r stablau llog neu’r ysgol.

  • Nid yw’r tir na’r cyfleusterau at ddefnydd personol yn unig

Codau Cnydau Anghymwys

Rhestrir codau cnydau anghymwys ar gyfer taliadau'r Cynllun Troi'n Organig yn Atodiad 1:Tabl 2 o'r canllawiau hyn.

Y Cyllid Sydd ar Gael

Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn gontract pum mlynedd, a fydd yn rhoi cymorth i drosi tir cymwys i gynhyrchu organig ac yn cyfrannu at gost ardystio yn ystod dwy flynedd gyntaf y contract yn unig.  Un o amodau'r taliadau hyn yw bod rhaid ichi gynnal ardystiad organig parhaus am y tair blynedd sy'n weddill o'r contract, wedi i'r tir gael ei drosi yn llawn ar ôl y ddwy flynedd gyntaf.

Cyfraddau’r Taliadau

Bydd y cyfraddau talu yn seiliedig ar y defnydd tir a gyflwynwyd ar eich SAF 2022. Os nad ydych wedi datgan rhan o'ch tir neu'r cyfan ar unrhyw Ffurflen Cais Sengl 2022, bydd y cyfraddau talu yn seiliedig ar y codau cnydau wedi'u cadarnhau a gyflwynir gennych ynghyd â'r dystiolaeth berthnasol.

Tabl cyfraddau

Cyfradd Dalu Disgrifiad

Taliad

1 Tir cylchdro £202/hectar
2 Cnydau parhaol / glaswelltir £101/hectar
3 Glaswelltir parhaol a thros dro gyda menter laeth £345/hectar
4 Tir heb ei amgáu £12.60/hectar

Diffinio’r Cyfraddau Talu

Cyfradd Dalu 1

Tir cylchdro:

Tir sydd o fewn cylchdro fel tir âr, glaswelltir o fewn cylchdro âr, glaswelltir dros dro neu gnydau garddwriaethol o fewn cylchdro, fel bresych, tatws.

Bydd y defnydd tir yn cael ei nodi ar sail cyflwyniadau SAF 2022.

  • Tir âr – codau amrywiol
  • Glaswellt dros dro – GR1
  • Cnydau garddwriaethol o fewn cylchdro – amryw godau.

Cyfradd Dalu 2

Cnydau parhaol / glaswelltir:

Tir nad yw o fewn cylchdro cnydau, cnydau parhaol, glaswelltir parhaol.

Cnydau garddwriaethol parhaol, fel perllannau, ffrwythau meddal ac ati.

Bydd y defnydd tir yn cael ei nodi ar sail cyflwyniadau SAF 2022:

  • Glaswelltir parhaol – GR2 a GR8
  • Cnydau parhaol – amryw godau.

Cyfradd Dalu 3

Glaswelltir parhaol a thros dro gyda menter laeth:

Tir nad yw o fewn cylchdro cnydau a glaswelltir parhaol. Glaswelltir dros dro.

Bydd y defnydd tir yn cael ei nodi ar sail cyflwyniadau SAF 2022.

  • Glaswelltir parhaol – GR2 a GR8
  • Glaswelltir dros dro – GR1

Dim ond i dir sy'n cefnogi menter laeth y bydd y gyfradd dalu hon yn berthnasol. (da byw godro a stoc odro ifanc)

Dim ond ar gyfer tir a ddefnyddir gan y fenter laeth y telir cyfradd dalu 3 i ffermydd sydd â nifer o fentrau, er enghraifft, uned laeth a defaid ucheldir. Bydd y taliad ar gyfer tir a ddefnyddir gan y fenter ddefaid yn cael ei dalu ar gyfradd dalu 1, 2 neu 4, yn dibynnu ar gyflwyniadau SAF 2022 neu godau cnydau wedi'u cadarnhau a gyflwynir, ynghyd â thystiolaeth.

Bydd arwynebedd y tir cymwys sy'n gymwys ar gyfer cyfradd dalu 3 yn cael ei gyfrifo ar sail nifer yr anifeiliaid godro ar y daliad gan ddefnyddio cyfrifiad uned da byw safonol. Bydd yr anifeiliaid sy'n cael eu datgan ar eich datganiad o ddiddordeb yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion EID Cymru a BCMS.

Cyfrifiad

Da byw Unedau Da Byw
Gwartheg godro (dros 24 mis) 1 uned da byw
Gwartheg godro – stoc ifanc (6–24 mis) 0.6 uned da byw
Geifr godro (6 mis neu'n hŷn 0.16 uned da byw
Geifr godro – stoc ifanc (llai na 6 mis) 0.04 uned da byw
Defaid godro (6 mis neu’r hŷn) 0.11 uned da byw
Defaid godro – stoc ifanc (llai na 6 mis) 0.04 uned da byw

Bydd yr arwynebedd mwyaf sy'n derbyn cymorth ar gyfradd dalu 3 yn cael ei gyfrifo ar sail nifer yr anifeiliaid godro ar y daliad gan ddefnyddio uchafswm dwysedd stocio o ddwy uned da byw / Hectar.

Er enghraifft:

Enghraifft 1:

Bydd gan fferm sydd â 100 o wartheg godro (dros 12 mis) a 60 o wartheg godro ifanc (6 – 12 mis) 136 o unedau da byw godro. Yn seiliedig ar ddefnyddio'r arwynebedd porthi ar gyfradd o ddwy uned da byw/hectar, yr arwynebedd mwyaf a fyddai'n derbyn cyfradd dalu 3 fyddai 68 ha. (136 wedi'i rannu â 2).

Byddai'r taliad am unrhyw laswelltir parhaol ychwanegol dros yr 68 hectar ar gyfradd dalu 2.

Enghraifft 2:

Bydd gan fferm â 120 o wartheg godro (dros 12 mis) ac 80 o wartheg godro ifanc (6–12 mis) 168 o unedau da byw godro. Yn seiliedig ar ddefnyddio'r arwynebedd porthiant ar gyfradd o ddwy uned da byw/hectar, yr arwynebedd mwyaf a fyddai'n derbyn cyfradd dalu 3 fyddai 84 hectar (168 wedi'i rannu â 2). Fodd bynnag, os mai dim ond 50 hectar o laswelltir parhaol sydd gan y fferm hon a bod gweddill yr arwynebedd sy'n cefnogi'r fenter laeth yn dir cylchdro, byddai cyfradd dalu 3 yn berthnasol i laswelltir dros dro hyd at yr uchafswm o 84 hectar.

Pe bai'r tir cylchdro yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cnydau ar wahân i laswelltir dros dro (e.e. indrawn neu gnwd cyfan) byddai'r tir hwn yn parhau i fod ar gyfradd dalu 1 a dim ond i'r 50 hectar o laswelltir parhaol y byddai cyfradd dalu 3 yn berthnasol.

Enghraifft 3:

Bydd gan fferm sydd â 200 o eifr godro (6 mis neu’n hŷn) a 50 o eifr godro ifanc (llai na 6 mis) 34 o unedau da byw godro. Yn seiliedig ar ddefnyddio'r arwynebedd porthiant ar gyfradd o ddwy uned da byw/ hectar, yr arwynebedd mwyaf a fyddai'n derbyn cyfradd dalu 3 fyddai 17 hectar (34 wedi'i rannu â 2).

Byddai'r taliad am unrhyw laswelltir parhaol ychwanegol dros yr 17 hectar ar gyfradd dalu 2. 

Os yw nifer yr unedau da byw godro cymwys (yn seiliedig ar ddefnyddio'r arwynebedd porthiant ar gyfradd o ddwy uned da byw/hectar yn fwy na'r arwynebedd o laswelltir parhaol a glaswelltir dros dro sydd ar gael, ni fydd glaswelltir heb ei amgáu yn cael ei ystyried ar gyfer cyfradd dalu 3.

Nid yw tir a ddefnyddir i fagu anifeiliaid godro o dan gontract yn gymwys ar gyfer cyfradd dalu 3.

Cyfradd Dalu 4

Bydd y ffurflen gais yn nodi bod ucheldir heb ei amgáu a thir comin sy’n cael ei bori gan un porwr yn gymwys ar gyfer cyfradd dalu 4.  Bydd ffurflen gais ar-lein y Cynllun Troi’n Organig yn nodi bod ucheldir heb ei amgáu a thir comin sy’n cael ei bori gan un porwr yn gymwys ar gyfer cyfradd dalu 4.

  • Ucheldir heb ei amgáu yw tir sy’n uwch na’r tir amaethyddol sydd wedi’i amgáu. Mae’n agored ei natur ac nid yw wedi cael ei wella at ddiben amaethyddol.
  • Tir Comin sy’n cael ei bori lle mai chi yw’r unig borwr cofrestredig (Tir Comin ag Un Porwr).
  • Caeau lle mae 50% neu fwy o’r holl gae yn orgors sy'n cael ei phori, gweundir arfordirol, gweundir yr iseldiroedd a morfa heli.

Wedi'i nodi drwy SAF 2022:

  • Glaswellt parhaol – GR2 (heb ei amgáu ac uwchben llinell derfyn yr ucheldir)
  • Morfeydd heli – SM2
  • Grug – HE9
  • Gweundiroedd sy'n cael eu pori – HE7

Costau Ardystio Corff Rheoli Organig

Rhoddir cyfraniad at gostau ardystio o £500 y flwyddyn am y cyfnod trosi o ddwy flynedd.

Ni fydd ymgeiswyr sydd eisoes ag ardystiad organig ond sy'n gwneud cais i droi tir ychwanegol yn dir cynhyrchu organig yn gymwys i gael y cyfraniad o £500 at gostau ardystio.

Arwynebedd y tir y gellir ei gynnwys yn y Cynllun Troi'n Organig a'r gyfradd dalu uchaf.

Nid oes terfyn uchaf ar arwynebedd y tir y gellir ei gyflwyno ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig.

Bydd uchafswm y taliad yn cael ei gapio yn ôl y canlynol:

Tabl uchafswm y taliad

Arwynebedd Taliad
0 – 200 hectar o dir cymwys 100% o'r gyfradd dalu.
200 – 400 hectar o dir cymwys 50% o'r gyfradd dalu
Dros 400 hectar 10% o'r gyfradd dalu

Wrth gyrraedd unrhyw drothwy talu, bydd y gyfradd dalu uchaf yn cael ei hystyried gyntaf.

Er enghraifft, mae ymgeisydd yn cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer 300 hectar, sy'n cynnwys 50 hectar o dir cylchdro, 200 hectar o laswelltir parhaol a 100 hectar o dir heb ei amgáu.

Bydd y contract yn cynnig:

Arwynebedd Taliad
50 hectar ar gyfradd dalu 1 (£202/hectar) £10,100
150 hectar ar gyfradd dalu 2 (£101/hectar) £15,150
50 hectar ar 50% o gyfradd dalu 1 (£101) £5,050
100 hectar ar 50% o gyfradd dalu 4 (£6.30) £630
Cyfanswm y contract a gynigir £30,930

Pan fydd y gyfradd dalu wedi cael ei chyfrifol, bydd yn aros yr un fath am ddwy flynedd y contract.

Pan fydd nodweddion anghymwys parhaol yn cael eu cyflwyno neu eu nodi ar barseli mewn contract o dan y Cynllun Troi'n Organig (e.e. coetir neu adeiladau) bydd yr arwynebedd hwnnw'n dod yn anghymwys ar gyfer taliad ac yn cael ei dynnu o'r contract. Oni bai bod unrhyw newid i ddefnydd tir yn cynnig manteision amgylcheddol ychwanegol, cawn ni adennill unrhyw daliadau a wnaed yn flaenorol.

Os bydd y defnydd tir yn newid yn ystod 2023, (o gnwd parhaol i gnwd cylchdro, neu i'r gwrthwyneb) ni fydd hyn yn effeithio ar daliadau.

Gofynion Allweddol

Er mwyn bodloni rhwymedigaethau'r Cynllun Troi'n Organig, rhaid i’r holl dir sydd o dan y contract gael ei ardystio gan Gorff Rheoli Organig yn ddi-dor am hyd y Contract, gan ddechrau ar 1 Ionawr 2023. Rhaid cyflwyno'r dystysgrif ddiweddaraf gan y Corff Rheoli Organig a'r Rhestrau Tir diweddaraf erbyn 31 Rhagfyr 2023.

Ni wneir unrhyw daliadau oni bai bod pob tystysgrif berthnasol wedi cael chyflwyno.

Os bydd eich cais yn cael ei ddewis a'ch bod yn derbyn y contract, bydd gofyn ichi gyflwyno copi o’ch cais i Gorff Rheoli Organig, gan gynnwys cynllun troi’n organig a baratowyd fel rhan o’r cais, os yw’n berthnasol.

Dylid cyflwyno'r dogfennau pan fyddwch yn cyflwyno eich cais fel rhan o SAF 2023.

I fod yn gymwys ar gyfer cyfradd dalu 3, ar ôl derbyn contract o dan y Cynllun Troi'n Organig, bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus sydd â menter laeth gyflwyno'r canlynol:

  • Llythyr o fwriad, gan brynwr / prosesydd llaeth yn datgan, mewn egwyddor, y bydd yn prynu'r llaeth organig ar ôl i'r tir gael ei droi at gynhyrchu organig. 
  • I'r rhai sy'n prosesu llaeth ar y daliad, bydd angen iddynt gadarnhau ac esbonio sut maent yn bwriadu newid eu dulliau prosesu a'u cynhyrchion mewn ymateb i'r llaeth organig sydd ar gael.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus sydd â menter laeth i barhau i gynhyrchu llaeth am gyfnod y contract a chyflwyno tystiolaeth o hyn fel rhan o’r hawliad blynyddol.

Lle na chaiff llaeth ei gynhyrchu am y 5 mlynedd, gellid adennill rhywfaint o’r grant, neu'r grant cyfan.

Pan na roddir digon o dystiolaeth i ddangos bod gofynion y cynllun wedi cael eu bodloni, gellir atal y taliad, gwrthod yr hawliad ac adennill unrhyw daliadau blaenorol.

Adran C – Tir o dan Gynlluniau Eraill

Isod mae manylion y berthynas rhwng y Cynllun Troi’n Organig a thir o dan gynlluniau eraill:

Glastir Uwch (annibynnol ac ar y cyd â Glastir Sylfaenol)

Gellir cynnwys tir sydd wedi'i gynnwys yng nghontract Glastir Uwch yn y Cynllun Troi'n Organig.

Glastir – Tir Comin

Nid yw tir sy'n dir comin cofrestredig yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig, ac eithrio tir comin unig borwr sydd wedi'i gofrestru yn system adnabod parseli tir RPW.

Mae tir a ddefnyddir fel tir comin ond nad yw’n dir comin cofrestredig yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi’n Organig. Ond os oes gennych gontract Glastir – Tir Comin eisoes ar dir o'r fath, bydd cyfyngiadau yn berthnasol. Ni chewch ddatgan diddordeb ar gyfer gwaith fydd yn newid amodau rheoli contract Glastir – Tir Comin sydd gennych eisoes.

Glastir Organig

Ni ellir cynnwys tir sydd wedi'i gynnwys yng nghontract Glastir Organig yn y Cynllun Troi'n Organig.

Cynlluniau Coetir Glastir a Chynlluniau Coetir Olynol

Ni fydd parseli tir o dan Gynllun Creu Coetir Glastir a Chynllun Adfer Coetir Glastir, nac unrhyw gynlluniau olynol, yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig.

Gellir defnyddio parseli'r Cynllun Troi'n Organig i wneud cais i gynlluniau creu coetir a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.  Os bydd eich cais am gymorth o dan y cynllun Creu Coetir yn llwyddiannus, ni fydd unrhyw daliadau eraill yn cael eu gwneud gan y Cynllun Troi'n Organig ar gyfer yr arwynebedd tir wedi'i blannu.

Grantiau Bach Glastir a  Grantiau Bach – Yr Amgylchedd

Gellir cynnwys tir mewn contract o dan y Cynllun Troi'n Organig yng nghynlluniau Grantiau Bach Glastir neu Grantiau Bach – Yr Amgylchedd. Os bydd tir yn dod yn anghymwys h.y. os nad yw bellach yn laswelltir parhaol, cnydau parhaol neu dir cylchdro ar ôl cwblhau prosiect Grantiau Bach Glastir neu Grantiau Bach – Yr Amgylchedd, bydd cymorth gan y Cynllun Troi'n Organig yn cael ei ganslo ar y tir hwnnw a gellir adennill unrhyw daliadau blaenorol.

Cyllido Dwbl

Ni ddylech wneud cais am y Cynllun Troi'n Organig os ydych yn derbyn cyllid at yr un diben gan unrhyw ffynhonnell arall.  Os cawsoch gontract o dan Glastir Organig, ni fyddwch yn gymwys i gael cyllid. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn gyllido dwbl ar gyfer yr un tir.

Os gwelir eich bod yn derbyn cyllid gan ffynhonnell arall ar gyfer gwaith o dan y Cynllun Troi'n Organig, gallai hyn arwain at gosbau ariannol ac adennill taliadau eich contract o dan y Cynllun Troi'n Organig, a gallech gael eich gwahardd yn y dyfodol.

Adran D – Ymgynghoriadau a Chaniatadau

Mae'n ofynnol sicrhau nad yw unrhyw weithrediadau a wneir i gyflawni amcanion y Cynllun Troi'n Organig yn torri rhwymedigaethau amgylcheddol o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol arall, gan gynnwys Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, nac yn niweidio unrhyw nodweddion neu ardaloedd tirwedd hanesyddol. Rhaid ichi gadw at amodau unrhyw ganiatâd a gewch gan yr awdurdod perthnasol.  Gall peidio â gwneud hynny arwain at eich erlyn.

Os na ellir cael caniatâd, rhaid peidio â chyflawni'r gwaith.

Adran E – Gwneud cais i'r Cynllun Troi'n Organig

RPW Ar-lein

Dim ond drwy gael mynediad at Daliadau Gwledig Cymru (RPW) y gallwch gyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig.  Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Actifadu arno fel y gallwch agor cyfrif. Os nad yw’r cyfeirnod hwn gennych, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8.30am – 5.00pm, Gwener 8.30am – 4.30pm) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd Cod Actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Cyfeiriwch at y canllawiau ar sut i gofrestru i gael rhagor o fanylion. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Pan fyddwch wedi cofrestru, gallech gael mynediad i'ch cyfrif RPW Ar-lein.  Mae'r cais i'r Cynllun Troi'n Organig ar gael o adran 'Ceisiadau a Hawliadau' eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW.  Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Actifadu Ar-lein ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Rhoi Caniatâd i Asiant ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddant yn gallu rhoi cyngor ichi a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am gymorth digidol.

Mae rhagor o fanylion am Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Ymatebwch i unrhyw ymholiadau gan Lywodraeth Cymru ynghylch eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig yn brydlon. Gall methu ag ymateb o fewn yr amser a roddir atal contract o dan y Cynllun Troi'n Organig rhag cael ei gynnig ichi.

Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer datganiadau o ddiddordeb sy'n dal i fod yn y broses ddrafftio drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Y Broses Ymgeisio

Mae dau gam i'r broses ymgeisio ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig.

  1. Dylid cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein.
  2. Ar ôl i'r cyfnod ar gyfer datgan diddordeb ddod i ben, bydd proses ddethol yn cael ei chynnal. Os cewch eich dewis, bydd contract yn cael ei gynnig ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. 

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein ar gael yma Sut i Lenwi

Bydd yr holl dir mae gennych reolaeth lwyr drosto am fwy na 365 diwrnod yn cael ei lenwi ymlaen llaw ar eich datganiad o ddiddordeb ar-lein. Bydd gofyn ichi ddewis pob parsel cae sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig. Ni fyddwch yn gallu dileu unrhyw barseli cae o'ch cais. Rhaid ichi ddad-ddewis y parsel gan roi'r rheswm dros wneud hynny ar eich cais. Cewch hefyd ychwanegu rhagor o barseli cae at eich cais.

Dylai niferoedd y da byw rydych chi'n eu cofnodi ar eich cais gyfateb i'r niferoedd ar y daliad fel y'u cofnodir ar Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS).

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y datganiad o ddiddordeb wedi’i gwblhau’n gywir a bod y wybodaeth a roddir i gefnogi eich cais yn gywir.

Rhaid cwblhau'r datganiad o ddiddordeb yn llawn a chyflwyno’r holl ddogfennau sydd eu hangen i gefnogi'r cais.

 Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa am geisiadau sy'n dal i fod yn y broses ddrafftio drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Tynnu Datganiadau o Ddiddordeb yn ôl

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, ni allwch ei ddiwygio. Os bydd angen ichi newid unrhyw un o'r codau cnydau ar ôl cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, cewch dynnu eich datganiad o ddiddordeb gwreiddiol yn ôl ac ailgyflwyno un newydd gyda'r parseli tir cywir wedi'u dewis, ar yr amod nad yw'r cyfnod datgan diddordeb wedi cau.

Pan fyddwch wedi cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, cewch ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. Gallwch dynnu eich datganiadau o ddiddordeb yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein. Cewch wneud cais arall mewn unrhyw rowndiau yn y dyfodol, os bydd cyfnod ymgeisio arall yn agor.

Sgorio a Dethol

Bydd y Cynllun Troi'n Organig yn ceisio dewis datganiadau o ddiddordeb sy'n cyflawni arferion rheoli tir sy'n arwain at y canlyniadau amgylcheddol gorau ac yn cyfrannu at nodau cyffredinol:

  • Lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • Gwneud busnesau fferm yn fwy cadarn drwy addasu i newid yn yr hinsawdd.
  • Gwella adnoddau dŵr er mwyn gwella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
  • Cyfrannu at wneud ffermydd a’r gymuned wledig ehangach yn fwy economaidd gynaliadwy.
  • Diogelu a gwella'r dirwedd naturiol a'r amgylchedd hanesyddol.
  • Datblygu a gwella bioamrywiaeth frodorol Cymru.

Meini Prawf Sgorio

I gael eich ystyried ar gyfer cymorth o dan y Cynllun Troi'n Organig, rhaid cyflwyno datganiad o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru.  Bydd pob datganiad o ddiddordeb cymwys a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ystyried i'w ddewis.

Bydd y broses ddethol yn dadansoddi gallu pob datganiad o ddiddordeb i gyfrannu at amcanion amgylcheddol allweddol y Cynllun Troi'n Organig. Gwneir hyn drwy fesur y rhan o'r arwynebedd o dir sydd wedi'i gynnwys yn y datganiad â nifer o fapiau digidol, a elwir yn haenau System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), lle maent yn bodoli, ledled Cymru. Mae'r haenau GIS hyn yn dangos yr ardaloedd gorau ar gyfer cyflawni amcanion penodol y Cynllun Troi'n Organig. Er enghraifft, gall arferion ffermio organig wella ansawdd dŵr a gwella safleoedd dynodedig, megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a, lle mae rhagor o flaenoriaeth i gyfrannu at yr amcanion hyn, bydd datganiadau o ddiddordeb mewn ardaloedd â blaenoriaeth uchel yn cael sgôr uwch na'r rhai mewn ardaloedd â blaenoriaeth isel.

Rhoddir sgôr i bob haen GIS, sy'n cael ei phennu gan flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru.  Wedyn mae'r datganiad yn cael ei asesu yn erbyn pob haen GIS.  Rhoddir sgôr yn seiliedig ar yr arwynebedd sy'n cyfateb i'r haen a gyfrifir gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol:

Arwynebedd (hectarau) Haen yr Amcan Targed * x Pwysoliad y Targed
-------------------------------------------------------------------------------------         = Sgôr
Arwynebedd (hectarau) y Datganiad o Ddiddordeb

*O fewn arwynebedd (hectarau) y datganiad o ddiddordeb 

Er enghraifft:

Mae datganiad o ddiddordeb ar gyfer 90.24, y mae 65.64 hectar yn yr haen Afonydd Sensitif, yn cael pwysoli o 4 yr hectar. Mae cyfraniad yr haen at y cyfanswm sgôr ar gyfer y datganiad o ddiddordeb yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

65.64 x 4   =   2.9
-----------------------
90.27

Mae’r haen Afonydd Sensitif felly yn cyfrannu 2.9 o bwyntiau at sgôr y datganiad o ddiddordeb.

Bydd y fformiwla hon yma yn cael ei defnyddio ar gyfer pob haen GIS y mae’r datganiad o ddiddordeb yn cyfateb iddi. Wedyn mae sgôr pob haen yn cael ei chyfuno i roi cyfanswm sgôr y datganiad o ddiddordeb. Bydd datganiad o ddiddordeb sy’n cyfateb i nifer uwch o haenau GIS sy’n addas ar gyfer bodloni amcanion y cynllun, yn benodol rhai ag iddynt flaenoriaeth uchel, yn cael sgôr uwch.  

Wedyn mae cyfanswm y sgôr a roddwyd am yr haenau amcanion yn cael ei rannau ag arwynebedd y datganiad o ddiddordeb. Dyma'r sgôr derfynol a ddefnyddir i raddio'r holl ddatganiadau o ddiddordeb a dderbyniwyd.

Mae'r holl ddatganiadau o ddiddordeb yn cael eu graddio yn ôl eu sgôr derfynol, ac wedyn bydd y datganiadau â'r sgôr uchaf yn cael eu dewis a'u prosesu.

Mae tabl yn rhestru’r holl haenau amcanion a’r pwysoliad cysylltiedig yn Atodiad 2. 

Os nad oes digon o gyllid ar gael i gynnig contract i bob ymgeisydd, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio proses ddethol gystadleuol i benderfynu pa ymgeiswyr y cynigir contract iddynt. Pan fydd gan geisiadau'r un sgôr, ynghyd â'r un gwerth a'r un safle ar y trothwy cyllid sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, yn dibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.

Byddwch yn cael eich hysbysu a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus neu beidio ac am yr amcanion a nodwyd ar eich fferm a ddefnyddiwyd i gyfrifo eich sgôr.

Cynnig Contract

Os cynigir contract ichi, rhaid ichi dderbyn neu wrthod y cynnig o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y cynnig.

Pan fydd contract wedi cael ei gynnig, ni chewch wneud unrhyw newidiadau.

Os nad ydych yn derbyn eich contract o fewn 30 diwrnod calendr, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa ichi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Ar ôl derbyn y contract, er mwyn bod yn gymwys i hawlio a derbyn taliad bydd angen ichi ddarparu'r dystysgrif berthnasol gan y Corff Rheoli Organig a'r Rhestr Tir, a copi o’ch cais i’r Corff Rheoli Organig gan gynnwys cynllun troi’n organig a baratowyd fel rhan o’r cais, os yw’n berthnasol erbyn 31 Rhagfyr 2023.

Ni thelir cymorth o dan y Cynllun Troi'n Organig oni bai bod yr holl ddogfennau ategol wedi cael eu derbyn a'u gwirio i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion y cynllun.

Adran F – Amodau'r Grant

Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn ddarostyngedig i amrediad o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran M). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae contract o dan y Cynllun Troi'n Organig yn cael ei gynnig yn ddarostyngedig i delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y rhai a nodir isod. Gall methu bodloni telerau ac amodau’r contract arwain at ganslo eich contract a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi cael eu talu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Gwneir y dyfarniad yn seiliedig ar y datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr yn eich datganiad o ddiddordeb a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Mae unrhyw un sy’n gwneud datganiad ffug neu sy'n methu rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y datganiadau o ddiddordeb hwn yn agored i gael ei erlyn. Gall rhoi datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y datganiad o ddiddordeb hwn arwain at ddod â’r contract i ben a/neu adennill unrhyw daliadau.

Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Mae’r manylion rydych wedi’u rhoi yn y datganiadau o ddiddordeb ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â'r ceisiadau, a'ch bod yn llwyr gyfrifol am y penderfyniadau busnes a wneir.  

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu'r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau yn dilyn newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.

Rhaid ichi hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r manylion a roddir yn adran Manylion yr Ymgeisydd ar y ffurflen.

Rhaid ichi roi mynediad i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu ei hasiantiaid awdurdodedig priodol, archwilio tir a'r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau eich bod yn gymwys a chywirdeb y wybodaeth a roddwyd wrth wneud y datganiad o ddiddordeb hwn.

Ni ddylech wneud gwaith cyn ymrwymo i'r Cynllun Troi'n Organig sy'n niweidio'r amgylchedd a rhaid deall y gallai gwneud hynny arwain at wrthod eich datganiad o ddiddordeb.

Ni ddylech fod wedi cynnwys tir sydd o dan gytundebau rheoli eraill neu sy’n destun grant neu gais am grant arall, a allai arwain atoch yn derbyn cyllido dwbl

Rhaid ichi gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a all godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.

Mae'n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Troi’n Organig â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno inni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth angenrheidiol.

Gall Llywodraeth Cymru ofyn hefyd am wybodaeth amdanoch oddi wrth sefydliadau eraill, neu roi gwybodaeth amdanoch iddyn nhw er mwyn gwirio cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae'r sefydliadau eraill hynny'n cynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, fel sy'n briodol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Mae'n bosibl y caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith.

Adran G – Taliadau

Hawliadau

Dim ond yn y flwyddyn hawlio berthnasol y bydd taliadau o dan y Cynllun Troi’n Organig ar gael i'w hawlio ar Ffurflen y Cais Sengl; gwneir taliadau pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gofynion o ran trosi ac ardystio tir wedi cael eu bodloni y telir hawliadau. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn derbyn taliadau o dan y Cynllun Troi'n Organig, rhaid ichi:

  • Fod wedi ymrwymo i gontract o dan y Cynllun Troi'n Organig a chadw at yr holl ofynion.
  • Peidio â gwneud gosodiad na datganiad ffug neu gamarweiniol, na rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.
  • Peidio â bod wedi creu'n artiffisial yr amodau sydd eu hangen i gael y taliadau.
  • Caniatáu i dir gael ei archwilio ar unrhyw adeg yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw un arall sydd â chaniatâd a darparu unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gall Llywodraeth Cymru neu’r sawl sydd â chaniatâd ofyn amdanynt.
  • Cyflwyno hawliadau dilys a chyflawn erbyn y dyddiad a bennwyd gan ddefnyddio Ffurflen y Cais Sengl yn y flwyddyn hawlio berthnasol.  Ni fydd hawliad yn ddilys nes bod yr holl wybodaeth ategol hefyd wedi cael ei chyflwyno.
  • Rhaid hawlio’r taliad cyn y dyddiad terfyn wedi’i nodi yn eich contract. Caiff hawliadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau eu gwrthod yn awtomatig.

Hawliadau Anghywir a Chosbau

Os byddwn yn canfod anghysondebau yn eich hawliad, bydd taliadau'n cael eu lleihau yn unol â gwerth yr anghysondebau.

Gorddatgan

Bydd cosbau am orddatgan yn cael eu rhoi os yw'r arwynebedd a ddatganwyd ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig ar y Ffurflen Cais Sengl (SAF) yn fwy na'r arwynebedd a nodir. Cyfrifir cosbau gan ddefnyddio'r arwynebedd a ddatganwyd ar eich SAF sy'n derbyn yr un gyfradd gymorth (y cyfeirir ati fel grwpiau cnydau).  Yn achos y Cynllun Troi'n Organig, mae pob cyfradd dalu yn grŵp cnydau ar wahân.

Os yw'r arwynebedd yr hawlir amdano o dan y Cynllun Troi'n Organig yn fwy na'r arwynebedd cymwys (e.e. mae nodwedd anghymwys wedi cael ei hychwanegu at arwynebedd y contract), os na chaiff hyn ei ddatgan yn Ffurflen y Cais Sengl yn y flwyddyn hawlio berthnasol, bydd unrhyw grant a delir ar gyfer yr arwynebedd anghymwys yn cael ei adennill.

Os yw'r arwynebedd yn fwy na naill ai 3% neu ddau hectar o arwynebedd y contract, bydd yr arwynebedd sy'n gymwys ar gyfer taliad yn cael ei leihau 1.5 gwaith y gwahaniaeth wedi'i nodi

Ni fydd y gosb yn fwy na 100% o'r symiau sy'n seiliedig ar yr arwynebedd a ddatganwyd.

Isod mae enghreifftiau o gosbau am orddatgan.

Enghraifft 1:

Mae cynllun o dan y Cynllun Troi'n Organig a hawliodd gyfradd dalu 1 wedi datgan 100 hectar, ond gwelwyd mai 98.5 hectar yw'r arwynebedd gan fod yr hawliwr wedi codi adeilad amaethyddol newydd ar dir o fewn arwynebedd y contract. Ni fydd gostyngiad yn berthnasol gan nad yw'r gwahaniaeth yn fwy na 3% neu ddau hectar, ond bydd taliad y Cynllun Troi'n Organig yn seiliedig ar 98.5 hectar.

Enghraifft 2:

Mae cynllun o dan y Cynllun Troi'n Organig a hawliodd gyfradd dalu 1 wedi datgan 100 hectar, ond gwelwyd mai 90 hectar yw'r arwynebedd gan fod yr hawliwr wedi plannu coetir newydd ar dir o fewn arwynebedd y contract. Gan fod y gwahaniaeth yn fwy na 3% neu ddau hectar, bydd cosb yn berthnasol. Bydd taliad y Cynllun Troi'n Organig yn seiliedig ar 75 hectar, sef 90 hectar minws 15 hectar (10 hectar x 1.5).

Gwahardd yn y Dyfodol

Diben gwahardd yn y dyfodol yw sicrhau bod manteision amgylcheddol yn cael eu sicrhau drwy'r Cynllun Troi'n Organig, drwy annog pobl nad ydynt wedi ymrwymo i gynnal y newid i gynhyrchu organig drwy gydol y contract i beidio â chyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Gallai peidio â chwblhau contract hefyd atal rheolwyr tir a busnesau ffermio eraill heb gael eu dewis ar gyfer y Cynllun Troi’n Organig.

Os yw Llywodraeth Cymru yn derbyn na allwch gwblhau unrhyw ymrwymiadau yn y Cynllun Troi'n Organig oherwydd amgylchiadau eithriadol, a bod tystiolaeth o hynny, bydd yr ymrwymiad yn cael ei ddileu o'r contract. Caiff pob cais ei asesu fesul achos.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Troi'n Organig.  Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H – Trosglwyddo neu Werthu Tir o dan Gontract

Byddwch yn ymwybodol y gellir trosglwyddo contractau o dan y Cynllun Troi'n Organig os yw'r busnes fferm sy'n derbyn rheolaeth dros y tir yn cytuno i barhau â thelerau ac amodau'r contract. Fodd bynnag, os byddwch yn gwerthu neu'n trosglwyddo tir (cytundeb tenantiaeth ysgrifenedig neu anysgrifenedig) heb i'r busnes fferm arall gytuno i barhau â'r contract, cyn cwblhau'r contract, bydd eich contract yn cael ei ganslo ac ni fydd taliad yn cael ei wneud. At hynny, mae'n bosibl y bydd taliadau a wnaed ichi eisoes yn ystod y contract yn cael eu hadennill.

Adran I – Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Gall deddfwriaeth newid o bryd i'w gilydd a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i Reolau neu Gontract y Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen inni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran J - Rheoliadau, Monitro a Chadw Cofnodion

Mesurau Rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Troi'n Organig.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad, i gadarnhau eich bod yn bodloni telerau'r contract, cyn ichi dderbyn y taliad neu ar ôl ichi dderbyn y taliad.

Bydd yr holl fanylion yn eich datganiad o ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’ch datganiad o ddiddordeb a’ch hawliad i gyd yn cael eu harchwilio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai gwiriadau yn gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, a gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi ei dalu ichi yn ôl a gallech gael eich erlyn.

Monitro

Mae'n ofyniad bod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r tir ar unrhyw adeg resymol o fewn y pum mlynedd hyn.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd yn ofynnol ichi hefyd:

  • Roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract o dan y Cynllun Troi’n Organig a hynny o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Caniatáu i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a'i hasiantiaid weld cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich contract o dan y Cynllun Troi’n Organig.  Caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfennau neu gofnodion i wneud copïau neu i godi darnau ohonynt .

Adran K - Y Drefn Apelio a Chwyno

Y Drefn Apelio

Nid oes sail dros apelio yn y cam datgan diddordeb.

Os cewch eich dewis, mae'r 'Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn caniatáu ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ar ein gwefan: Apeliadau grantiau a thaliadau gwledig |  Is-bwnc

Y Weithdrefn Gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd,
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost complaints@llyw.cymru  

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Adran L – Hysbysiad Preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant ichi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol ichi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais ag awdurdodau Rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau EM, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Heddlu.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael cymorthdaliadau sy’n gyfwerth â llai na £1,250. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi cael ei wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu rhoi.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • Gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch.
  • Gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw.
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu eich data personol (o dan rai amgylchiadau).
  • Gofyn inni 'ddileu' eich data (o dan rai amgylchiadau).
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru  

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru

Adran M – Gofynion Cyfreithiol

Mae’r Cynllun Troi'n Organig yn cyflawni yn erbyn amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth, ac maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r Cynllun Troi'n Organig yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif  808/2014 a rhif  809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a Ddargedwir ar waith yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o bryd i’w gilydd), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Mae'r Cynllun Troi'n Organig yn gynllun amlflwyddyn sy'n seiliedig ar y tir sydd ar gael i reolwyr tir a busnesau ffermio ledled Cymru. Mae'r opsiynau talu sydd ar gael wedi cael eu dewis am eu bod yn dod â manteision helaeth a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ynghylch pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • Gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol
  • Cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • Sicrhau cadernid hinsawdd.
  • Sicrhau bod cymunedau ac economïau gwledig yn cael eu datblygu mewn ffordd diriogaethol a chytbwys, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig, sef:

  • Lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd ac addasu iddi.
  • Arloesi
  • Yr amgylchedd

Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth ac mewn ardaloedd gwledig;
  2. gwneud amaethyddiaeth yn fwy hyfyw a chystadleuol ar bob math o fferm, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth.
  4. Adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth
  5. hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gwaith i leihau tlodi a datblygu’r economi mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  • 1.    Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u categoreiddio’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  • 2.    O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro’r DU.

Adran N – Cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl i ddiwallu eich anghenion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Drwy fynd i'r wefan cewch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-newyddlen Gwlad yw e-newyddlen Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf, cofrestrwch i dderbyn e-newyddlen Gwlad drwy fynd i Cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru neu 
Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth (Gwlad).

Cysylltiadau defnyddiol eraill:

Cyfoeth Naturiol Cymru: Ar gyfer tir ar SoDdGA, Gwarchodfa Natur Genedlaethol, ACA neu AGA:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd CF24 0TP

Ffôn 0300 065 3000

Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun – Gwener, 8am – 6pm)

Ymholiadau cyffredinol: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk

Cadw: Ar gyfer Henebion Rhestredig a Pharciau a Gerddi Cofrestredig:

Cadw
Llywodraeth Cymru
Plas Carew
Uned 5/7 Parc Cefn Coed
Nantgarw
Caerdydd

CF15 7QQ

Ffôn 01443 33 6000
Ffacs: 01443 33 6001

E-bost Cadw@Wales.gsi.gov.uk

Ymddiriedolaethau Archaeolegol: Ar gyfer henebion neu nodweddion hanesyddol heb eu rhestru, cysylltwch â'r Ymddiriedolaeth Archeolegol berthnasol yn eich ardal:

Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys

41 Broad Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7RR

Ffôn: 01938 553670 
Ffacs: 01938 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk 
Gwefan: www.cpat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent

Heathfield House
Heathfield
Abertawe
SA1 6EL

Ffôn 01792 655208 
Ffacs: 01792 474469 
E-bost: enquiries@ggat.org.uk 
Gwefan: www.ggat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed

Neuadd y Sir
Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
Dyfed
SA19 6AF

Ffôn 01558 823121 
Ffacs: 01558 823133 
E-bost  info@dyfedarchaeology.org.uk 
Gwefan: www.dyfedarchaeology.org.uk

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Craig Beuno
Ffordd y Garth
Bangor 
Gwynedd
LL57 2RT

Ffôn 01248 352535 
Ffacs: 01248 370925 
E-bost: gat@heneb.co.uk 
Website: www.heneb.co.uk

Atodiad 1: Codau Cnydau Cymwys ac Anghymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig

Tabl 1: Codau Cnydau sy'n Gymwys ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig

Mae'r tabl hwn yn darparu'r holl godau cnydau cymwys ochr yn ochr â'u Dosbarthiad Gorchudd Tir perthnasol ar gyfer y Cynllun Troi'n Organig.

Annex 1: Tabl 1:

Disgrifiad o’r Cnwd / Gorchudd Tir
Cod y Cnwd

Categori Gorchudd Tir      

Taliad Troi’n Organig

Afalau

AP4

Cnwd Parhaol

Ydy

Cnydau Âr – cymysg

MC3

Cylchdro

Ydy

Artisiog

AR2

Cnwd Parhaol

Ydy

Merllys

AS1

Cnwd Parhaol

Ydy

Planhigyn wy

AU1

Cylchdro

Ydy

Bambŵ

BA2

Cnwd Parhaol

Ydy

Haidd – wedi'i hau yn y gwanwyn

BA5

Cylchdro

Ydy

Haidd – wedi'i hau yn y gaeaf

 

BA4

Cylchdro

Ydy

Basil

BA6

Cylchdro

Ydy

Ffa maes – wedi'i hau yn y gwanwyn

BN4

Cylchdro

Ydy

Ffa maes – wedi'i hau yn y gaeaf

BN5

Cylchdro

Ydy

Ffa gwyrdd

BN2

Cylchdro

Ydy

Ffa mwng

BE11

Cylchdro

Ydy

Coetir llydanddail – pori Opsiwn 176 Glastir

BG1

Porfa Barhaol

Ydy

Ffa soia

BN3

Cylchdro

Ydy

Betys/Mangolds

BT1

Cylchdro

Ydy

Llus / Llygaeron

BS2

Cnwd Parhaol

Ydy

Mwyar duon/Mwyar logan/Mafon

BS1

Cnwd Parhaol

Ydy

Maglys Du

ME6

Cylchdro

Ydy

Tafod yr ŷch

BO1

Cylchdro

Ydy

Gwenith y Gors

BU1

Cylchdro

Ydy

Bresych a brassica eraill – wedi'u hau yn y gwanwyn

CA21

Cylchdro

Ydy

Bresych a brassica eraill – wedi'u hau yn y gaeaf

CA22

Cylchdro

Ydy

Camelina

CA18

Cylchdro

Ydy

Had Pefrwellt/pefrwellt

CY1

Cylchdro

Ydy

Moron

CA20

Cylchdro

Ydy

Seleriac

CE2

Cylchdro

Ydy

Coetir conwydd – pori Opsiwn 176 Glastir

CG1

Porfa Barhaol

Ydy

Sicori

CH5

Cylchdro

Ydy

Chili

CI1

Cylchdro

Ydy

Chili - Goeden

CT1

Cylchdro

Ydy

Meillion

CL4

Cylchdro

Ydy

Meillion melys

CL3

Cylchdro

Ydy

Llysiau’r Cwlwm

CO5

Cylchdro

Ydy

Coedlan cylchdro byr

CO4

Cnwd Parhaol

Ydy

Crambe

CR2

Cylchdro

Ydy

Berwr - salad

CR4

Cylchdro

Ydy

Berwr dŵr

CR5

Cylchdro

Ydy

Ciwcymbrau

CU1

Cylchdro

Ydy

Cennin pedr

DA1

Cylchdro

Ydy

Dil

DL1

Cylchdro

Ydy

Ysgall bwyta

TH1

Cnwd Parhaol

Ydy

Melyn yr hwyr

EV1

Cylchdro

Ydy

Gwyndwn – aildyfiant naturiol

FA3

Cylchdro

Ydy

Gwyndwn – Porfa wedi'i hau

FA4

Cylchdro

Ydy

Gwyndwn – gorchudd bywyd gwyllt wedi'i hau

FA5

Cylchdro

Ydy

Ffenigrig

FE2

Cylchdro

Ydy

Ffenigl

FE1

Cylchdro

Ydy

Ymylon caeau

FM1

Arall

Ydy

Rêp Porthiant

RA9

Cylchdro

Ydy

Eirin Mair/Cyrens coch/Cyrens duon/Cyrens gwyn

BS3

Cnwd Parhaol

Ydy

Grawnwin

GR7

Cnwd Parhaol

Ydy

Porfa barhaol – dros 5 oed

GR2

Porfa Barhaol

Ydy

Porfa barhaol – wedi’i hailhau yn y 12 mis diwethaf

GR8

Porfa Barhaol

Ydy

Porfa dros-dro – llai na 5 oed

GR1

Cylchdro

Ydy

Grug

HE9

Porfa Barhaol

Ydy

Gweundir pori

HE7

Porfa Barhaol

Ydy

Cywarch

HE2

Cylchdro

Ydy

Had porthiant glas

HE8

Cylchdro

Ydy

Hopys

HO1

Cnwd Parhaol

Ydy

Rhuddygl

RA4

Cylchdro

Ydy

Lafant

LA1

Cylchdro

Ydy

Corbys

LE1

Cylchdro

Ydy

Letys

LE3

Cylchdro

Ydy

Had Llin – wedi'i hau yn y gwanwyn

LI4

Cylchdro

Ydy

Had Llin – wedi'i hau yn y gaeaf

LI5

Cylchdro

Ydy

Liwsérn

LU2

Cylchdro

Ydy

Bysedd y blaidd pêr

LU1

Cylchdro

Ydy

Indrawn

MA6

Cylchdro

Ydy

Maro/Pwmpenni/Sgwash/Courgette

MA5

Cylchdro

Ydy

Melonau

ME3

Cylchdro

Ydy

Melonau dŵr

ME5

Cylchdro

Ydy

Miled

MI1

Cylchdro

Ydy

Miscanthus

MI5

Cnwd Parhaol

Ydy

Garddwriaeth cynnyrch cymysg

MP1

Cylchdro

Ydy

Madarch

MU2

Cylchdro

Ydy

Mwstard

MU3

Cylchdro

Ydy

Mwstard – brown

MU5

Cylchdro

Ydy

Cnydau cloi nitrogen – cymysg

MN1

Cylchdro

Ydy

Meithrinfa – coed

NU11

Cnwd Parhaol

Ydy

Cnau castan

NU2

Cnwd Parhaol

Ydy

Cnau cyll / cob

NU5

Cnwd Parhaol

Ydy

Cnau pistasio

PI1

Cnwd Parhaol

Ydy

Cnau Ffrengig

NU4

Cnwd Parhaol

Ydy

Ceirch – wedi'i hau yn y gwanwyn

OA5

Cylchdro

Ydy

Ceirch – wedi'i hau yn y gaeaf

OA4

Cylchdro

Ydy

Rêp had olew – wedi'i hau yn y gwanwyn

RA8

Cylchdro

Ydy

Rêp had olew – wedi'i hau yn y gaeaf

RA7

Cylchdro

Ydy

Winwns/Cennin/Sialóts/Garlleg

ON2

Cylchdro

Ydy

Perllan – cymysg

OR3

Cnwd Parhaol

Ydy

Oregano

OR2

Cylchdro

Ydy

Helyg gwiail

OS1

Cnwd Parhaol

Ydy

Persli

PA1

Cylchdro

Ydy

Pannas

PA2

Cylchdro

Ydy

Gellyg

PE10

Cnwd Parhaol

Ydy

Pŷs - ffacbys

PE3

Cylchdro

Ydy

Pŷs (dringo ac eraill) – wedi'u hau yn y gwanwyn

PS2

Cylchdro

Ydy

Pŷs (dringo ac eraill) – wedi'u hau yn y gaeaf

PS3

Cylchdro

Ydy

Pupur

PP1

Cylchdro

Ydy

Llyriad

PL3

Cylchdro

Ydy

Eirin/Eirin Gwyrdd/Ceirios/Almonau

PL2

Cnwd Parhaol

Ydy

Tatws melys

PO2

Cylchdro

Ydy

Tatws

PO1

Cylchdro

Ydy

Radis

RA2

Cylchdro

Ydy

Riwbob

RH1

Cnwd Parhaol

Ydy

Berwr y Gerddi (rocet)

RO2

Cylchdro

Ydy

Rhosynnau

RO1

Cnwd Parhaol

Ydy

Rhyg – (gan gynnwys Meslin) – wedi'i hau yn y gwanwyn

RY4

Cylchdro

Ydy

Rhyg – (gan gynnwys Meslin) – wedi'i hau yn y gaeaf

RY5

Cylchdro

Ydy

Saffrwm

SA1

Cylchdro

Ydy

Saets

SA9

Cylchdro

Ydy

Ffawlys

SF1

Cylchdro

Ydy

Salsiffi

SA3

Cylchdro

Ydy

Morfa Heli – i’w phori

SM2

Porfa Barhaol

Ydy

Twyni tywod

SD1

Porfa Barhaol

Ydy

Scorzonera

SC1

Cylchdro

Ydy

Pwmpen - Siam

SP7

Cylchdro

Ydy

Sorgwm

SO3

Cylchdro

Ydy

Gwenith yr almaen – wedi'i hau yn y gwanwyn

SP8

Cylchdro

Ydy

Gwenith yr almaen – wedi'i hau yn y gaeaf

SP9

Cylchdro

Ydy

Sbinaets

SP3

Cylchdro

Ydy

Sgwash - Banana

SQ1

Cylchdro

Ydy

Sgwash - Cnau menyn

SQ2

Cylchdro

Ydy

Sgwash - Japan

SQ3

Cylchdro

Ydy

Mefus

ST1

Cnwd Parhaol

Ydy

Had Blodau’r Haul

SU2

Cylchdro

Ydy

Erfin

SW4

Cylchdro

Ydy

Tybaco

TO1

Cylchdro

Ydy

Tomatos

TO2

Cylchdro

Ydy

Traciau pori

GT1

Porfa Barhaol

Ydy

Coed â gorchymyn cadw coed

TP8

Arall

Ydy

Pŷs-y-Ceirw

TR5

Cylchdro

Ydy

Meillion – pys y ceirw

TR9

Cylchdro

Ydy

Rhygwenith – wedi'i hau yn y gwanwyn

TC4

Cylchdro

Ydy

Rhygwenith – wedi'i hau yn y gaeaf

TC3

Cylchdro

Ydy

Tiwlipau

TU4

Cylchdro

Ydy

Maip/Teiffon/Colza

TU5

Cylchdro

Ydy

Pupys

VE3

Cylchdro

Ydy

Gwenith – wedi'i hau yn y gwanwyn

WT2

Cylchdro

Ydy

Gwenith – wedi'i hau yn y gaeaf

WT1

Cylchdro

Ydy

Llysiau'r lliw

WO1

Cnwd Parhaol

Ydy

Iam

YA1

Cnwd Parhaol

Ydy

Tabl 2: Codau Cnydau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi’n Organig

Annex 1: Tabl 2:
Disgrifiad o’r Cnwd / Gorchudd Tir
Cod y Cnwd Categori Gorchudd Tir Taliad Troi’n Organig

Corneli caeau neu ymylon coetir di-stoc

GC3

Arall

Na

Porfa di-stoc )

GR9

Arall

Na

Gweundir di-stoc

HE6

Arall

Na

Llain clustogi pwll, ar gyfer Glastir

GC2

Arall

Na

Cors / gwely cyrs di-stoc

RE3

Arall

Na

Morfa Heli di-stoc

SM1

Arall

Na

Prysgwydd/eithin/mieri di-stoc

GS1

Arall

Na

Coridor glan nant

SC2

Arall

Na

Coridor glan nant – wedi’i greu ar gyfer Glastir

GC1

Arall

Na

Coetir llydanddail – di-stoc – yn gymwys am BPS

BW1

Arall

Na

Coetir conwydd – di-stoc – yn gymwys am

BPS

CW1

Arall

Na

Cyrs

RE1

Arall

Na

Brwyn

RU1

Arall

Na

Prysgwydd/Eithin/Mieri – di-stoc – ddim yn gymwys am BPS

GS2

Arall

Na

Coridor glan nant – heb fod yn BPS

SC3

Arall

Na

Tir nad oes modd ei ddefnyddio – dros dro

TT99

Arall

Na

Nodweddion Parhaol nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Cynllun Troi’n Organig

Annex 1: Tabl 2:
Disgrifiad o’r Cnwd / Gorchudd Tir
Cod y Cnwd Categori Gorchudd Tir Taliad Troi’n Organig

Coetir –  conwydd – grŵp

ZZ10

Arall

Na

Coetir – llydanddail – grŵp

ZZ11

Arall

Na

Coetir – conwydd – gwasgaredig

YY14

Arall

Na

Coetir – llydanddail – gwasgaredig

YY15

Arall

Na

Coetir – boncyffion

YY16

Arall

Na

Coetir – conwydd – di-stoc – ddim yn gymwys am BPS

TR2

Arall

Na

Coetir – llydanddail – di-stoc – ddim yn gymwys am BPS

WS1

Arall

Na

Rhedyn – grŵp

ZZ20

Arall

Na

Rhedyn – gwasgaredig

YY21

Arall

Na

Prysgwydd/eithin/mieri – grŵp

ZZ22

Arall

Na

Prysgwydd/eithin/mieri – gwasgaredig

YY23

Arall

Na

Pyllau – anghymwys

ZZ30

Arall

Na

Afonydd a Nentydd

ZZ31

Arall

Na

Sgri/creigiau/cnycau/tywod – grŵp

ZZ40

Arall

Na

Sgri/creigiau/cnycau/tywod – gwasgaredig

YY41

Arall

Na

Adeiladau a Buarthau

ZZ89

Arall

Na

Arwynebau caled

ZZ92

Arall

Na

Heolydd

ZZ94

Arall

Na

Traciau heb eu pori

ZZ97

Arall

Na

Gweithgareddau anamaethyddol

NO1

Arall

Na

Atodiad 2 – Haenau sgorio amcanion y Cynllun Troi'n Organig

Atodiad 2 – Haenau sgorio amcanion y Cynllun Troi'n Organig

Haen Sgôr

Llynnoedd sensitif

4

Afonydd sensitif

4

Pwll dŵr

1

Ffos

6

SoDdGAau Biolegol a 300m o lain glustogi

6

SoDdGA Biolegol ar Arfordir ac Iseldir  â Blaenoriaeth.

48

Madfall ddŵr gribog 1km

3

Gwyniad

6

Misglen berlog yr afon

4

Cen ar hen goed wrth ymylon ffyrdd a thir parc

3

Cardwenynen lwydfrown

4

Cardwenynen feinlais

4

Planhigion Tir Âr

1

Ardal Ansawdd Dŵr - Blaenoriaeth 1

30

Ardal Ansawdd Dŵr - Blaenoriaeth 2

10

Ardal Ansawdd Dŵr - Blaenoriaeth 3

3

Ardal Ansawdd Dŵr - Blaenoriaeth 4

2

Ardal Ansawdd Dŵr - Blaenoriaeth 5

1

Cyfran y dalgylch lle y gall rheoli tir leihau’r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 40-50%

1

Cyfran y dalgylch lle y gall rheoli tir leihau’r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau 50-60%

2

Cyfran y dalgylch lle y gall rheoli tir leihau’r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau 60-70%

10

Cyfran y dalgylch lle y gall rheoli tir leihau’r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau 70-80%

18

Cyfran y dalgylch lle y gall rheoli tir leihau’r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau 80-90%

32

Cyfran y dalgylch lle y gall rheoli tir leihau’r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau 90-100%

60

Lleihau'r perygl o lifogydd (Rheoliadau ynghylch storio dŵr a llif uchaf - adfer a chreu gwlyptir a golchdir)

20

Ardaloedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac ardaloedd gwarchodedig sydd â dyddiad cau ar gyfer cyflawni amcan amgylcheddol erbyn 2015

20

Materion Maethynnau â Thystiolaeth

8

Priddoedd carbon – Blaenoriaeth Iseldir 1

30

Priddoedd carbon – Blaenoriaeth Iseldir 2

15

Priddoedd carbon – Blaenoriaeth Iseldir 3

6