Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal: crynodeb o'r cynnydd
Sut rydym yn mynd i gefnogi cartrefi gofal yn ystod y gaeaf.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Nododd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol chwe thema ym mis Gorffennaf a fyddai'n cael eu hystyried dros yr haf i gefnogi cartrefi gofal. Mae'r themâu'n cwmpasu gwaith sy'n cael ei wneud gyda'n partneriaid gan gynnwys Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol sydd wedi nodi pa gymorth penodol y byddant yn ei ddarparu i gartrefi gofal yn eu hardaloedd. Dyma'r themâu hyn:
- atal a rheoli haint
- Cyfarpar Gwarchodol Personol (PPE)
- cymorth cyffredinol a chlinigol i gartrefi gofal
- llesiant preswylwyr
- Llesiant gweithwyr Gofal Cymdeithasol
- cynaliadwyedd ariannol
Mae'r Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal yn nodi ein camau gweithredu lefel uchel o dan y themâu hyn i sicrhau bod y sector cartrefi gofal yn cael cefnogaeth dda cyn pwysau'r gaeaf, gan ddysgu gwersi gan bandemig COVID-19. Mae'r cynllun hwn yn elfen o Gynllun Diogelu’r Gaeaf Llywodraeth Cymru.
Mae'r tabl isod yn crynhoi'r cynnydd sydd wedi'i wneud – ac yn parhau i gael ei wneud - yn erbyn y camau gweithredu lefel uchel yn y cynllun.
Atal a rheoli heintiau
Camau gweithredu a chynnydd cychwynnol | Y camau nesaf | Yddiad targed |
---|---|---|
Byddwn yn datblygu templed clinigol wrth gefn ac yn rhoi cyngor a chymorth pellach i gartrefi gofal unigol allu cwblhau'r templed, er mwyn galluogi eu tîm cyfan i baratoi ar gyfer rheoli unrhyw heintiau pellach yn y cartref. Bydd y templed, a fydd yn cynnwys rheoli'r amgylchedd a staff (lleihau symudiadau staff), cyfarpar diogelu personol (PPE) a phrofi preswylwyr a staff cartrefi gofal yn galluogi cartrefi gofal i ystyried eu grŵp preswyl, eu grŵp staff, eu cynllun amgylcheddol a'u gwasanaeth eu hunain. Rydym wedi gweithio gyda chydweithwyr o’r Grŵp Trosglwyddiad Nosocomiaidd i ddatblygu Rhestr Wirio Atal a Rheoli Heintiau er mwyn rheoli COVID-19 mewn cartrefi gofal. Mae’r grŵp wedi cymeradwyo’r Rhestr ac mae’n ystyried y logisteg o roi’r rhestr wirio ar waith mewn cartrefi gofal, a sicrhau bod darparwyr yn cael cefnogaeth i’w dilyn eu heiddo eu hunain. Bydd brechu ein gweithwyr gofal cymdeithasol hanfodol (h.y. staff cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref) a phreswylwyr cartrefi gofal yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod yr haint yn cael ei drosglwyddo cyn lleied â phosibl. Mae rhaglen frechu COVID-19 wedi dechrau, ac mae holl staff cartrefi gofal wedi cael gwahoddiad i gael y brechlyn. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithas ar hyn o bryd i benderfynu ar y ffordd orau o gyflwyno’r brechlyn i breswylwyr mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. |
Byddwn yn rhannu'r templed clinigol wrth gefn gyda darparwyr cartrefi gofal a manylion y cymorth a fydd ar gael i helpu i'w gwblhau. Byddwn yn dechrau dosbarthu rhywfaint o’r brechlyn i gartrefi gofal yr wythnos hon os bydd popeth yn iawn, ac yn rhoi’r rhaglen frechu ar waith ar raddfa fwy mewn cartrefi gofal cyn y Nadolig, gan gynnig lefel newydd o amddiffyniad i rai o’n pobl fwyaf agored i niwed. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar y rhaglen frechu ar gyfer preswylwyr a staff cartrefi gofal. Mae’r set nesaf o frechlynnau, rydym yn gobeithio y bydd yn cael ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Reoleiddio ar gyfer Meddyginiaethau a chynnyrch Gofal Iechyd o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, yn cael ei drosglwyddo a’i storio dan dymheredd mwy ymarferol na brechlyn Pfizer/BioNtech, ac yn cynnig mwy o hyblygrwydd wrth frechu preswylwyr a staff cartrefi gofal. |
Diwedd 2020/ dechrau 2021
Parhaus |
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Grŵp Trosglwyddiad Nosocomiaidd, dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Mae cyfathrebu a chymorth rheolaidd ar gyfer cartrefi gofal yn hanfodol. Rydym wedi parhau i weithio gyda’r Grŵp Trosglwyddiad Nosocomiaidd i godi ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant, canllawiau a chefnogaeth i gartrefi gofal. Mae grŵp gorchwyl a gorffen hyfforddi Atal a Rheoli Heintiau wedi bod yn datblygu deunyddiau hyfforddi cyson sy'n gysylltiedig â COVID ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan adrodd i'r Grŵp Trosglwyddiad Nosocomiaidd. Mae cymorth tymor byr a thymor hwy yn cael ei ystyried. Mae'r cyngor a'r arweiniad presennol yn cael eu rhannu ar draws y sector gofal cymdeithasol wrth iddo ddod ar gael. Mae strategaeth hyfforddi drafft wedi cael ei ddatblygu ac mae barn yn cael ei chasglu drwy arolwg. Gwnaethom hefyd gyflwyno cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol COVID-19 ar 1 Tachwedd. Mae hwn yn darparu cyllid i weithwyr gofal, staff ategol a staff asiantaeth mewn cartrefi gofal dderbyn tâl llawn pan y dylent aros i ffwrdd o’r gwaith er mwyn diogelu preswylwyr dan yr amgylchiadau canlynol:
Gall darparwyr hawlio cost cyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr, a ffi weinyddu fach, i gefnogi’r cynllun. Rydym wedi cynnal sawl digwyddiad mawr ar-lein i egluro ac ymateb i ymholiadau am y cynllun, sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol ar ein rhan. Cyhoeddwyd canllawiau pellach i awdurdodau lleol a darparwyr ar 14 Rhagfyr. |
Digwyddiadau ar-lein pellach gydag awdurdodau lleol, asiantaethau ac undebau i sefydlu’r cynllun ymhellach, i’w cynnal w/c 21 Rhagfyr. |
Parhaus
Rhagfyr 2020 |
Byddwn yn nodi'r trefniadau parhaus ar gyfer profi preswylwyr a staff cartrefi gofal yn unol â thystiolaeth wyddonol wrth iddi ddod i'r amlwg Mae rhaglen brofi genedlaethol wedi'i sefydlu ar gyfer cartrefi gofal sy'n cynnwys profion asymptomatig rheolaidd ar gyfer holl staff y cartref gofal a phrofion ar gyfer cartref cyfan (gan gynnwys preswylwyr) lle mae achosion wedi’u cofnodi. Bydd trefniadau profi lleol pwrpasol yn cael eu datblygu a'u gweithredu i ymateb i anghenion cymunedau lleol. Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi i Dimau Rheoli Digwyddiadau i gefnogi trefniadau llywodraethu da wrth wneud penderfyniadau’n lleol mewn perthynas â dulliau profi ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae’r cynllun profi wedi cael ei dreialu mewn 10 cartref gofal ledled Cymru er mwyn caniatáu ymweliadau dan do. Mae hwn yn cael ei roi ar waith ym mhob cartref gofal o 14 Rhagfyr ymlaen. |
Byddwn yn monitro cyfraddau mynychder mewn cartrefi gofal a chymunedau yn ofalus a bydd y rhaglen brofi yn cael ei diwygio'n unol â hynny. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gartrefi gofal am y trefniadau ar gyfer profi preswylwyr, staff ac ymwelwyr yn unol â thystiolaeth wyddonol sy'n dod i'r amlwg. |
Parhaus |
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Camau gweithredu a chynnydd cychwynnol | Y camau nesaf | Yddiad targed |
---|---|---|
Rydym yn parhau i gyflenwi PPE am ddim i'r sector gofal cymdeithasol Mae ein safbwynt yn parhau’n glir wrth i ni barhau i gyflenwi PPE am ddim i’r sector gofal cymdeithasol. |
Byddwn yn sicrhau bod digon o PPE yn parhau i fod ar gael, a hynny am ddim, ar gyfer pob cartref gofal yng Nghymru yn ystod y pandemig. |
Parhaus |
Rydym yn archwilio trefniadau caffael PPE ar draws y sector gofal cymdeithasol er mwyn deall patrymau cyflenwi a chynhyrchion yn well er mwyn cael sicrwydd y bydd cynhyrchion ar gael yn y tymor hwy. Mae partneriaid yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSSC) yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru i ystyried polisi, galw, caffael a dosbarthu PPE. Rydym wedi sefydlu Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i ddarparu PPE ar gyfer staff y maes Gofal Cymdeithasol o fewn ardaloedd awdurdodau lleol gan gynnwys darparwyr y sector preifat, y sector annibynnol a’r trydydd sector. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn parhau i ddarparu digon o PPE am ddim. |
Gweithio gyda Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar lefelau presennol PPE o fewn cartrefi gofal a Storfeydd Offer ar y Cyd, a ph’un a fydd y ddarpariaeth hon yn ddigon i gefnogi ymwelwyr yn ogystal â staff. Yn dilyn y trafodaethau hyn byddwn yn adolygu safbwynt NWSSP a’r Grŵp Cyrchu a Dosbarthu PPE i benderfynu a oes angen addasu’r niferoedd o PPE sy’n cael eu dosbarthu’n lleol. | Rhagfyr 2020 |
Rydym yn ystyried a fydd system gofnodi ddigidol yn helpu i wneud cais a derbyn eitemau PPE penodol Rydym wedi parhau i weithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i weithredu system rheoli stoc electronig genedlaethol o’r enw “Stockwatch” ar gyfer darparu PPE ar gyfer y sector gofal cymdeithasol er mwyn galluogi lefelau stoc i gael eu monitro a'u defnyddio i lywio'r broses ddosbarthu rheolaidd. Bwriedir i'r system fod yn fwy ymatebol i alw lleol, a bydd yn ein helpu i sicrhau y gall awdurdodau lleol gynnal eu cyflenwadau PPE priodol i ddarparwyr gofal cymdeithasol ar lefelau digonol i ddiogelu staff a'r unigolion agored i niwed y maent yn gofalu amdanynt rhag COVID-19. Bydd NWSSP yn mewnbynnu’r data i ddechrau gyda chynllun yn cynnwys hyfforddiant a chymorth i symud y cyfrifoldebau ar gyfer mewnbynnu data i bersonél y Storfeydd Offer ar y Cyd. Mae’r hyfforddiant bellach wedi’i gwblhau. Rydym wedi monitro’r broses o weithredu’r system 'Stockwatch'. |
Byddwn yn parhau i gefnogi staff Storfeydd Offer ar y Cyd yn uniongyrchol yn ogystal â thrwy gysylltiadau awdurdodau lleol i sicrhau bod pobl Storfa Offer ar y Cyd yn defnyddio’r e-system yn effeithiol. |
Rhagfyr 2020 |
Cymorth cyffredinol a chlinigol i gartrefi gofal
Camau gweithredu a chynnydd cychwynnol | Y camau nesaf | Dyddiad targed |
---|---|---|
Byddwn yn adolygu'r cymorth cyffredinol a chlinigol a ddarperir i gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni i nodi meysydd o arfer gorau a'r gwersi a ddysgwyd cyn i bwysau'r gaeaf ddechrau Comisiynwyd yr Athro John Bolton, ymgynghorydd ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, i gynnal adolygiad cyflym o brofiad gweithredol cartrefi gofal yn ystod pandemig COVID-19 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Cyhoeddwyd adroddiad cenedlaethol ym mis Hydref 2020 i sicrhau bod dysgu’n cael ei rannu ar draws Cymru. Arweiniodd yr argymhellion at Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn datblygu eu cynllun gweithredu ar gyfer cartref gofal pwrpasol eu hunain i sicrhau bod cymorth yn cael ei deilwra i ddiwallu anghenion lleol. Mae cynnydd wrth roi’r 7 cynllun gweithredu rhanbarthol ar gyfer cartrefi gofal ar waith yn dangos newid sylweddol yn y lefel o gymorth sy’n cael eu roi i gartrefi gofal. Mae mwy o waith partneriaeth a chyfathrebu â chartrefi gofal wrth i’r sector gael ei gynrychioli ar lefel strategol o fewn nifer o Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae rhannu arferion da a gwersi a ddysgwyd hefyd yn nodwedd gyffredin. Mae meysydd sy’n cael cymorth penodol yn cynnwys:
Cydnabyddir hefyd yr angen i barhau i gefnogi’r sector yn ariannol, nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys gwaith ar lefel ffioedd cynaliadwy a modelu rhanbarthol o ran sefydlogrwydd y farchnad. Mae’n amlwg bod y pandemig parhaus a’r galw ymatebol ar y ddarpariaeth o wasanaethau i gefnogi cartrefi gofal wrth brofi ac atal a rheoli heintiau yn arbennig, wedi golygu ei bod wedi bod yn heriol ar brydiau i ymgymryd â gwaith a drefnir, a hynny’n brydlon. Pwysleisiwyd bod problemau staffio mewn cartrefi gofal a chefnogi staff i atal a rheoli heintiau yn arbennig, yn defnyddio llawer o adnoddau. |
Gofynnir am adroddiad pellach ar y cynnydd yn erbyn y 7 cynllun gweithredu rhanbarthol ar gyfer cartrefi gofal gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. |
Mawrth 2021 |
Nodir bod cymorth ar gyfer cartrefi gofal yn garreg filltir allweddol ar gyfer adroddiadau chwarter 3/4 y GIG o dan y flaenoriaeth gofal sylfaenol a chymunedol, sy'n un o'r chwe blaenoriaeth a nodwyd gan Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol y Byrddau Iechyd ac y cytunwyd arnynt gan y Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol a Grŵp Goruchwylio Adferiad Gofal Sylfaenol a Chymunedol Llywodraeth Cymru Cyhoeddodd y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol Fframwaith ar gyfer Cartrefi Gofal ym mis Hydref 2020, yn edrych yn benodol ar rôl Gwasanaethau Iechyd Cymunedol a Sylfaenol Byrddau Iechyd. Cafodd hwn ei lunio ar y cyd â darparwyr y sector ac mae’n ceisio ategu’r camau gweithredu eraill yn y cynllun gweithredu ar gyfer cartrefi gofal. Drwy gyfarfodydd y fenter gydweithredol Cartrefi Gofal a’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, mae rhanddeiliaid ehangach hefyd wedi cael cyfle i roi mewnbwn. |
Bydd Byrddau Iechyd yn asesu eu darpariaeth yn erbyn y fframwaith gyda’r bwriad o fabwysiadu, addasu neu gyfiawnhau. |
Parhaus |
Llesiant preswylwyr cartrefi gofal
Camau gweithredu a chynnydd cychwynnol | Y camau nesaf | Dyddiad targed |
---|---|---|
Byddwn yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael cyfle i rannu eu profiadau o fyw mewn cartrefi gofal yn ystod pandemig COVID-19 Gwnaethom ystyried amrywiaeth o adroddiadau a gwybodaeth a gasglwyd megis y rhai gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a rhanddeiliaid eraill i ddeall profiad preswylwyr yn ystod cyfyngiadau symud na welwyd eu tebyg o'r blaen. Yn seiliedig ar y dadansoddiad hwn rydym wedi gofyn i Age Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru a Voice from Care Cymru i ymgysylltu â phobl hŷn, oedolion iau a phlant sy’n byw mewn cartrefi gofal i ofyn iddynt am eu profiad yn ystod y pandemig, ac y arbennig, beth sydd wedi bod o gymorth i’w llesiant yn ystod y cyfnod hwn. |
Caiff canlyniadau’r gwaith ymgysylltu hwn ei rannu gyda’n partneriaid cyn gynted ag y byddant ar gael i sicrhau eu bod yn gallu ymgysylltu'n uniongyrchol â phreswylwyr cartrefi gofal yn effeithiol. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i lunio canllawiau arfer da i hyrwyddo llesiant, sy’n ystyried beth sy’n bwysig i breswylwyr cartrefi gofal, yn seiliedig ar eu profiadau nhw eu hunain. |
Parhaus
Mawrth 2021 |
Byddwn yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael cymorth i gadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau a'u teulu. Byddwn yn parhau i adolygu ein canllawiau ymwelwyr cartrefi gofal yn barhaus, gan wneud newidiadau yn ôl yr angen Rydym yn ymwybodol bod y cyfyngiadau ar ymweliadau yn arbennig wedi bod yn anodd iawn i breswylwyr a'u hanwyliaid. Nid ar chwarae bach y gwnaethpwyd y penderfyniad i gyfyngu ar ymweliadau, ac ystyriwyd ei fod yn angenrheidiol yn ystod cyfnod brig yr achosion i ddiogelu pobl rhag risg COVID-19. Efallai y bydd angen i’r cyngor am ymweliadau newid yn gyflym wrth i wybodaeth am drosglwyddo firysau fod ar gael. |
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n grŵp rhanddeiliaid i adolygu ein canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal yn barhaus. Byddwn yn parhau i hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar hawliau o ran ymweld, a sicrhau bod y cydbwysedd yn cael ei daro rhwng amddiffyn preswylwyr rhag COVID-19 a hyrwyddo iechyd a lles preswylwyr cartrefi gofal drwy gysylltiad hanfodol ag anwyliaid. Byddwn yn parhau i weithio gyda chartrefi gofal i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd priodol ar gyfer ymweliadau, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynllun peilot i ddarparu podiau ymweld, am ddim i ddarparwyr cartrefi gofal am gyfnod o 6 mis. Mae’r podiau ymweld cyntaf bellach wedi cael eu darparu, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector, a chyflenwyr i roi mwy yn eu lle cyn y Nadolig. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynllun ar wahân ein hunain i gefnogi’r darparwyr hynny sy’n dewis canfod eu podiau ymweld eu hunain. Byddwn yn ystyried effeithiolrwydd prosiect Cymunedau Digidol Cymru ar gyfer cartrefi gofal pan fydd y gwerthusiad wedi'i gwblhau. |
Parhaus
Parhaus
Parhaus (Cwestiynau Cyffredinol ar gyfer ymweld dros y Nadolig – Rhagfyr 2020Rhagfyr 2020
Parhaus
Rhagfyr 2020
Parhaus
Rhagfyr 2020 |
Byddwn yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael y gofal a'r cymorth gan weithwyr proffesiynol yn y ffordd fwyaf priodol, naill ai drwy dechnoleg neu'n bersonol Mae cymorth meddygon teulu wedi'i wella gan y gwasanaeth ymgynghori fideo "Mynychu Unrhyw Le" sydd bellach ar gael yn rhad ac am ddim i'w fabwysiadu'n eang ym maes gofal eilaidd ledled Cymru, gan gynnwys cartrefi gofal. Mae Gwasanaeth Ychwanegol dan Gyfarwyddyd (DES) Cartrefi Gofal wedi cael ei adolygu i ailffocysu cymorth meddygon teulu i breswylwyr cartrefi gofal. Cafodd y Gwasanaeth hwn ei gyflwyno ym mis Gorffennaf 2020, ac mae’n gyfyngedig o ran amser, yn canolbwyntio ar gymorth meddygon teulu yn ystod y pandemig, yn arbennig drwy gyfnod y gaeaf. Prif nodau’r DES yw:
Mae 85% o bractisau ar draws Cymru wedi cofrestru ar gyfer y DES hyd yma. |
Caiff gwerthusiad o’r DES hwn sy’n gyfyngedig o ran amser ei gynnal yn y Gwanwyn, ond yn y cyfamser, byddwn yn parhau i fonitro faint sy’n cofrestru ar gyfer DES a sut y caiff ei weithredu, er mwyn sicrhau bod cartrefi gofal yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau meddygon teulu y maent eu hangen. |
Parhaus
Parhaus |
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi a rhannu arfer da Mae prosiect Cwtch wedi cynnig llwyfan i gartrefi gofal rannu arfer gorau a hunanreoli rhai o'r heriau sy’n gysylltiedig â darparu gofal drwy'r pandemig, yn ogystal â chynnig cymorth gan gymheiriaid. Rydym wedi hwyluso cyfres o gyfarfodydd cydweithredol cartrefi gofal ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi cartrefi gofal i ddod ynghyd i rannu arferion, osgoi dyblygu gwaith, ategu gwaith y naill a’r llall, nodi bylchau a gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu atebion. |
Byddwn yn parhau i annog prosiectau a ariennir drwy ein Grant Gwasanaethau Cynaliadwy trydydd sector i ymestyn eu cymorth i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal a'u gofalwyr. |
Llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol
Camau gweithredu a chynnydd cychwynnol | Y camau nesaf | Dyddiad targed |
---|---|---|
Rydym yn parhau i ddatblygu ystod eang o ddarpariaeth cymorth wyneb yn wyneb ar-lein a rhithwir i gynnig amrywiaeth o ffyrdd i staff allu cael cymorth ar yr adeg sensitif hon. Byddwn yn cyhoeddi'r ystod o gymorth sydd ar gael i staff gofal cymdeithasol ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru ochr yn ochr â'r adnoddau dysgu a gwella sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd. Bydd deunyddiau i'w dosbarthu mewn cartrefi gofal yn cael eu cynnwys. Cafodd manylion y cymorth lles emosiynol sydd ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol eu casglu, a chyhoeddwyd map i gyfeirio gweithwyr gofal cymdeithasol at adnoddau penodol ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn: https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/adnoddau-gefnogi-eich-iechyd-a-llesiant-yn-ystod-y-pandemig-coronafeirws-covid-19 Cafodd Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn darparu cymorth iechyd a llesiant, gan gynnwys cwnsela un i un ar gyfer holl staff gofal cymdeithasol y sector, ei lansio yn gynnar ym mis Rhagfyr. Mae’r cynllun yn cael ei reoli gan Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o’i becyn ehangach o gymorth llesiant ar gyfer y gweithlu. |
Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r pecyn llesiant sydd ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol a’u cyflogwyr drwy gyfres o ddeunyddiau hyrwyddo drwy’r post (electronig a thraddodiadol) a gweminarau. |
Parhaus |
Rydym yn monitro'r broses o weithredu adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, sy'n darparu seminarau i gefnogi'r defnydd ohono dros yr haf Datblygwyd Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu sy'n helpu gweithwyr i ystyried eu ffactorau risg personol ar gyfer COVID-19 ac yn awgrymu sut i gadw'n ddiogel. Mae'r gefnogaeth a gynigir i’r sector gofal cymdeithasol wrth ddefnyddio'r adnodd wedi cynnwys gweminarau arfer da, rhwydwaith hyrwyddwr gofal cymdeithasol, Cwestiynau Cyffredin ac animeiddio. Mae'r adnodd ar gael yn: https://llyw.cymru/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu |
Byddwn yn parhau i werthuso defnydd ac effeithiolrwydd yr adnodd drwy Grŵp Gweithredu Gofal Cymdeithasol COVID-19 y Prif Weinidog. Mae'r offeryn ar gael yn: Adnodd Asesu Risg COVID-19 Cymru Gyfan ar gyfer y Gweithlu |
Rhagfyr 2020 |
Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i nodi unrhyw gymorth penodol pellach sydd ei angen ar gyfer ein gweithlu gofal cymdeithasol gwerthfawr Mae rhwydwaith llesiant, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r sector, wedi'i sefydlu, wedi'i gydgysylltu gan Gofal Cymdeithasol Cymru. |
Mae'r rhwydwaith llesiant yn cyfarfod bob mis ac yn parhau i nodi'r cymorth y gallai fod ei angen ar weithwyr gofal cymdeithasol. |
Parhaus |
Cynaliadwyedd ariannol
Camau gweithredu a chynnydd cychwynnol | Y camau nesaf | Dyddiad targed |
---|---|---|
Byddwn yn ystyried y costau penodol y mae busnesau cartrefi gofal wedi'u hysgwyddo ynghyd â'r mesurau a'r camau gweithredu a oedd yn effeithiol o ran lliniaru pwysau ariannol Yr ydym wedi bod yn ystyried y costau penodol y mae busnesau cartrefi gofal a darparwyr gofal i oedolion eraill wedi bod yn eu hysgwyddo drwy'r pandemig. O ganlyniad, mae tua £68 miliwn hyd yma ar gael i awdurdodau lleol i gynorthwyo darparwyr gofal i oedolion gyda’r costau ychwanegol o ddarparu gofal cymdeithasol y maent wedi’u hysgwyddo o ganlyniad i’r pandemig. Mae hwn yn ychwanegol at dros £22 miliwn sydd ar gael i fyrddau iechyd i gynorthwyo cartrefi gofal a darparwyr gofal i oedolion eraill gyda’r costau ychwanegol y maent wedi’u hwynebu wrth ddarparu gofal iechyd. Mae’n bosibl y bydd darparwyr yn parhau i wynebu pwysau ariannol oherwydd COVID-19 am beth amser i ddod, a allai waethygu yn ystod y gaeaf. O ganlyniad, cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol £264 miliwn yn ychwanegol yn ddiweddar i awdurdodau lleol ar gyfer gweddill 2020-2021 er mwyn talu costau sy’n gysylltiedig â COVID-19, sy'n cynnwys cyllid pellach i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion. Ynghyd â hyn, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cadarnhau’n ddiweddar y bydd £22 miliwn ar gael tan ddiwedd 2020-21 i fyrddau iechyd, i barhau gyda’r cymorth ar gyfer y costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â gofal iechyd y bydd cartrefi gofal a darparwyr gofal eraill yn eu hwynebu. |
Byddwn yn parhau i fonitro'r pwysau ariannol sydd ar gartrefi gofal a darparwyr gofal i oedolion eraill. |
Monitro parhaus |
Byddwn yn adolygu'r ystod o gymorth a chyllid sydd ar gael i fusnesau cartrefi gofal drwy amrywiaeth o systemau ar draws adrannau Llywodraeth Cymru a'r effaith y maent wedi'i chael ar wella cynaliadwyedd yn ystod pandemig COVID-19 Rydym wedi adolygu'r ystod o systemau ariannol a chymorth a roddwyd ar waith. Roedd y cyllid a'r cymorth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys:
Bydd gwersi a ddysgwyd wrth ddefnyddio'r cronfeydd hyn yn helpu i ystyried mesurau hirdymor i wella cynaliadwyedd y sector.
|
Byddwn yn gwerthuso'r rhyddhad a gynigir gan yr ystod o systemau ariannu rydym wedi'u darparu. |
Mawrth 2021 |
Byddwn yn adolygu profiad sefydliadau a sefydlodd wasanaethau dros dro i ddarparu capasiti ymchwydd gofal cymdeithasol ychwanegol ac yn nodi gwersi ar faterion fel rheoli costau a llety Rydym wedi adolygu profiad sefydliadau sy'n sefydlu gofal preswyl brys dros dro i ymateb i'r pwysau a ragwelir. Datblygodd pum awdurdod lleol ddarpariaeth ychwanegol. Rydym wedi gweithio gyda nhw i ddeall y gwersi a ddysgwyd ar reoli costau a llety. |
Wedi'i gwblhau | |
Byddwn yn ystyried profiad unrhyw gartrefi gofal oedd angen cymorth wrth gefn i barhau i weithredu. Byddwn yn datblygu adnodd coeden penderfyniadau ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o fethiant neu gau busnes i helpu i nodi a datrys materion allweddol Cafodd coeden penderfyniadau ei datblygu a'i rhoi i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol i gefnogi eu cynlluniau wrth gefn ar gyfer cartrefi gofal. Roedd Byrddau Iechyd wedi cymryd camau tebyg mewn perthynas â chynllunio wrth gefn penodol ar gyfer cartrefi gofal â nyrsio. Mae cynlluniau wrth gefn gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn dangos dull gweithredu clir ar draws Cymru i gefnogi cartrefi gofal i barhau i weithredu yn ystod y pandemig lle bynnag y bo’n bosibl, a bod systemau yn eu lle i nodi cartrefi gofal sy’n cael trafferthion. Os bydd darparwyr yn methu, mae cynlluniau yn eu lle sy’n amlinellu proses gadarn mewn ymateb. Mae tystiolaeth glir o weithio mewn partneriaeth ar lefel ranbarthol rhwng awdurdodau lleol, byrddau iechyd, partneriaid y maes tai a’r trydydd sector, ac mae hyn yn amlwg yn y ffordd y mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wedi darparu staff brys ychwanegol i’r cartrefi hynny sydd wedi profi lefelau o absenoldeb staff nad oedd modd eu rhagweld. Mae’r cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cynaliadwyedd ariannol cartrefi gofal yn ystod COVID-19, yn cynnwys elfen i alluogi awdurdodau lleol i helpu cartrefi gofal gyda’r canlyniadau ariannol yn sgil lleoedd gwag y gallent fod yn eu profi o ganlyniad i COVID-19. |
Byddwn yn parhau i adolygu’r cynnydd gyda chynlluniau wrth gefn gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd. |
Wedi’i gwblhau
Parhaus |