Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan cymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Datblygu Garddwriaeth - yn cyflawni tuag at y themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar raddfa fferm
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu mewn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael dros y 3 blynedd nesaf, a llywio datblygiad parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: https://businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Adran A – Cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn esbonio'r Cynllun Datblygu Garddwriaeth a'r math o brosiectau a allai fod yn gymwys am gymorth grant. Darllenwch nhw'n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau buddsoddi fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler 'Sut i Wneud Cais' yn adran C a'r llyfryn Sut i Gwblhau.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 4 Ebrill 2022 ac yn cau ar 27 Mai 2022.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £1.5m.

Mae'r cynllun Datblygu Garddwriaeth yn gynllun grant Cyfalaf sydd ar gael i gynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol ledled Cymru. Nod y cynllun yw:

  • Cynorthwyo cynhyrchwyr garddwriaethol masnachol presennol i ddatblygu eu busnesau drwy fuddsoddi mewn cyfarpar a thechnoleg newydd sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r busnes garddwriaethol.
  • Galluogi busnesau garddwriaethol i ehangu cynhyrchiant yn gynaliadwy, arallgyfeirio i dyfu cnydau newydd, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu a gwella ansawdd y cynnyrch.
  • Galluogi cynhyrchwyr garddwriaethol i fynd i farchnadoedd newydd. Cynyddu cyflogaeth leol a chefnogi'r economi wledig fel rhan o'r adferiad gwyrdd o Covid-19.

Mae'r cynllun yn ddewisol. Byddai swm y grant a gynigir yn ymwneud ag amgylchiadau unigol, a bydd pob swm yn isafswm angenrheidiol i ganiatáu i'r buddsoddiadau fynd rhagddynt.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, Gwlad a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Adran B - Cymhwystra ar gyfer Datblygu Garddwriaeth

Rydych yn gymwys i wneud cais:

  • Os ydych chi'n gynhyrchydd cnydau garddwriaethol masnachol ar hyn o bryd.
  • Fel rhan o'r cais, bydd gofyn i chi ddangos eich bod yn cynhyrchu cnydau garddwriaethol masnachol. (Ystyrir ffrwythau a llysiau bwytadwy, planhigion addurnol a blodau yn gnydau garddwriaethol). Nid yw cnydau garddwriaethol yn cynnwys planhigfeydd coed.

    Byddai tystiolaeth yn cynnwys:
  1. Tystiolaeth yn eich cyfrifon masnachu a gyflwynwyd sy'n dangos gwerthiant cynnyrch garddwriaethol yn glir,
  2.  a/neu gopïau o anfonebau / derbynebau priodol ar gyfer y cynnyrch.

Mae'r cynllun yn agored i ystod eang o fusnesau Micro, BBaCh a Mawr sy'n ymwneud â chynhyrchu cynnyrch garddwriaethol, megis:

  • Busnes fferm gan gynnwys unig fasnachwyr
  • Cwmnïau cydweithredol
  • Sefydliadau'r sector gwirfoddol

Cwmnïau cyfyngedig preifat a chyhoeddus

Mae BBaCh yn fenter sy'n cyflogi llai na 250 o weithwyr cyflogedig (yn seiliedig ar staff cyfwerth ag amser llawn) ac sydd â throsiant blynyddol nad yw'n fwy na 50 miliwn ewro a/neu gyfanswm mantolen flynyddol nad yw'n fwy na 43 miliwn ewro. Dylid trin staff rhan-amser a gweithwyr tymhorol fel ffracsiwn o staff cyfwerth ag amser llawn.

Mae BBaChau yn cynnwys 3 is-gategori o fentrau: micro, bach a chanolig;

  • mae microfusnesau yn cyflogi llai na 10 o weithwyr,
  • mae busnesau bach yn cyflogi llai na 50 o weithwyr,
  • mae busnesau canolig yn cyflogi llai na 250 o weithwyr;

Mae maint y busnes hefyd yn cyfeirio at y trosiant blynyddol a chyfanswm y fantolen flynyddol mewn rhai sefyllfaoedd.

Cymhwystra Grŵp

Gall grŵp o Gynhyrchwyr Garddwriaeth Fasnachol gyflwyno cais ar gyfer y cynllun Datblygu Garddwriaeth. I wneud hynny, mae'n rhaid i bawb sy'n rhan o'r grŵp fodloni'r holl amodau cymhwystra uchod. Yn ogystal, rhaid i'r grŵp fod wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a bod â Chyfeirnod Cwsmer ar gyfer y grŵp. Rhaid cyflwyno'r cais o dan y Cyfeirnod Cwsmer fel y'i cyhoeddwyd ar gyfer y grŵp.

Costau Cymwys

Mae enghreifftiau o gostau cyfalaf cymwys wedi'u nodi isod, ond dylid cofio nad yw hon yn rhestr ddiffiniol, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • cyfarpar tyfu
  • peiriant creu gwelyau
  • driliau hadau trachywir, planwyr
  • cyfarpar taenu maethynnau trachywir
  • cyfarpar lluosogi
  • cyfarpar potio awtomatig / lled-awtomatig
  • cyfarpar chwynnu mecanyddol
  • cynaeafwyr
  • systemau storio a chludo
  • cyfarpar cynaeafu a storio dŵr
  • cyfarpar a/neu reolyddion dyfrhau
  • twnelau polythen a thai gwydr (yn amodol ar gynllunio)
  • cynfasau rheoli plâu
  • systemau a rheolyddion ffermio fertigol
  • acwaponeg/hydroponeg
  • systemau storio amgylchedd rheoledig
  • cyfarpar i gynhyrchu compost
  • cyfarpar GPS
  • technoleg ar gyfer awtomeiddio a defnyddio roboteg
  • porth a synwyryddion LoRaWAN IoTar gyfer monitro cnydau
  • gorsaf dywydd ddigidol

Mae cyfarpar ail-law yn gymwys os yw'r ymgeisydd yn gallu dangos y canlynol:

  • mae'n cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol
  • mae'n addas i'r diben
  • mae ganddo ddisgwyliad oes o bum mlynedd arall o leiaf

Costau Anghymwys

Mae'r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad ydynt yn gymwys am gymorth grant. Nid yw hon yn rhestr ddiffiniol, a bydd pob un o'r eitemau gwariant yn cael eu hystyried fesul achos:

  • buddsoddiadau i brynu eitemau a brynwyd yn flaenorol gyda chymorth grant yr UE neu Lywodraeth Cymru (yn yr un busnes)
  • gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chynhyrchu cynradd cynhyrchion amaethyddol nad ydynt yn cael eu cyflawni gan y cynhyrchydd cynradd, er enghraifft, gweithgareddau contractio neu brydlesu amaethyddol
  • prynu eitemau newydd o dan hawliad yswiriant
  • cyfarpar pecynnu a phrosesu
  • prynu tir 
  • prynu adeiladau parhaol 
  • adnewyddu adeiladau 
  • adeiladau dros dro at ddefnydd manwerthu  
  • prynu cerbydau
  • costau refeniw megis cyflogau staff
  • costau ceisiadau cynllunio
  • nwyddau traul (eitemau sydd fel arfer yn cael eu dileu o fewn blwyddyn)
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol
  • costau cynnal a chadw

Dim ond pan fydd yr hawliwr wedi talu'r gost yn gywir y mae costau sy'n gysylltiedig â phrynu cyfarpar yn gymwys. Felly, nid yw costau llawn unrhyw gyfarpar a sicrhawyd o dan gytundeb hurbwrcasu neu logi prydles neu unrhyw fath arall o drefniant ariannol yn gymwys am gymorth grant.

Cyfradd Uchaf a Throthwy Uchaf y Grant

Uchafswm y grant yw £50,000 a'r isafswm yw £3,000.

Mae'r grant yn darparu uchafswm o 40% fel cyfraniad tuag at fuddsoddiadau cyfalaf mewn cyfarpar a pheiriannau (ac eithrio TAW), y gellir dangos eu bod yn cynnig manteision clir a mesuradwy i fentrau garddwriaeth.

Gallwch wneud cais am swm sy'n fwy na'r uchafswm, ond os yw'n cael ei ddewis, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i'r uchafswm o £50,000.

Dewis Prosiectau Llwyddiannus

Asesir pob achos ar sail ei werth posibl i'r economi wledig, i ba raddau y bydd y buddsoddiad yn datblygu'r sector y mae'n canolbwyntio arno, a'r potensial ar gyfer cynaliadwyedd mwy hirdymor y farchnad a/neu'r busnes.

Bydd y broses ddethol gychwynnol yn cadarnhau bod yr holl feini prawf cymhwystra wedi'u bodloni'n foddhaol:

Yr angen am y gweithgarwch:

  • bydd angen yr allbynnau a chânt eu cyflawni yn unol ag allbynnau’r Mesur
  • mae’n ychwanegu at weithgarwch sy’n bod, heb gymryd ei le na’i ddyblygu’n ddiangen.

 Yr angen am y cyllid:

  • ni all fynd yn ei flaen heb y cymorth
  • nid yw’r costau’n ormodol o ystyried natur y gweithgarwch

Y gallu i sicrhau:

  • busnes hyfyw
  • cydymffurfiaeth â'r gyfraith
  • prosiect sy’n ariannol hyfyw ac yn gynaliadwy
  • cefnogaeth y prif randdeiliaid a’u hymrwymiad iddo 
  • trefniadau rheoli, monitro a gwerthuso ar gyfer y prosiect 
  • pwysica’n byd yw’r buddsoddiad yn y prosiect a’i gyfraniad at yr amcanion strategol a thematig dan sylw, mwya’n byd yw’r tebygolrwydd y caiff ei argymell ar gyfer ei ddewis.

Gofynion Allweddol

Bydd y Contract ar gyfer y prosiect yn para am uchafswm o 12 mis.

Ni fyddai'r Prosiect yn mynd yn ei flaen heb gymorth grant.

Mae’n rhaid i geisiadau ddangos eu bod wedi mynd i’r afael â’r canlynol hefyd:

Caniatâd Cynllunio 

Os oes angen caniatâd cynllunio ar eich buddsoddiad, ar gyfer buddsoddiadau fel tai gwydr neu dwnelau polythen, ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu hyd nes bod dogfennau caniatâd cynllunio wedi'u cyflwyno a'u dilysu gan Lywodraeth Cymru.

Os yw'r awdurdod cynllunio wedi penderfynu nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y prosiect, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan yr awdurdod cynllunio i gadarnhau hyn.

Cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB)

Os oes angen cymeradwyaeth SAB ar gyfer eich buddsoddiad, ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu hyd nes bod dogfennau cymeradwyo SAB wedi'u cyflwyno a'u dilysu gan Lywodraeth Cymru.

I gael trosolwg o'r hyn sydd angen cymeradwyaeth SAB ac i gael canllawiau manylach

Os yw'r SAB lleol wedi penderfynu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer y prosiect, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth gan y SAB i gadarnhau hyn. Er bod cymeradwyaeth SAB yn annibynnol ar ganiatâd cynllunio, bydd y dystiolaeth a gyflwynir gennych yn cael ei hasesu gan y tîm gwerthuso mewn modd sy'n gyson â'i brosesau yn ymwneud â chaniatâd cynllunio.

Ar gyfer rhai ceisiadau am waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio y mae angen cymeradwyaeth SAB ar eu cyfer, mae'n bosibl na fydd angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol (er enghraifft, datblygiadau a ganiateir sy'n llai na 100 metr sgwâr). Felly, ni ddylid tybio y byddai diffyg gofyniad am ganiatâd cynllunio yn dileu’r angen am gymeradwyaeth SAB.

  • mae pob cydsyniad, trwydded a chaniatâd arall wedi’i roi yn ôl yr angen
  • rhaid i fusnesau sy'n bodoli'n barod gadarnhau hyfywedd economaidd y prosiect a’r busnes, drwy ddarparu cyfrifon ar gyfer y tair blynedd cyn dyddiad y cais, a rhagolygon ariannol ar gyfer cyfnod y prosiect
  • cydymffurfiaeth â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol

Adran C – Gwneud cais am y Cynllun Datblygu Garddwriaeth

Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein

Rhaid cwblhau Cais am y Cynllun Datblygu Garddwriaeth drwy Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer eisoes, dylech fod wedi derbyn llythyr yn nodi eich Cod Actifadu i sefydlu’ch cyfrif. Os nad yw’r Cod gennych chi, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Dydd Llun – Dydd Iau 8:30 – 17:00, Dydd Gwener 8:30 – 16:30) gan nodi’ch Cyfeirnod Cwsmer i’r gweithredydd. Bydd yn anfon Cod Actifadu newydd atoch. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar-lein. Mae’r cais am y Cynllun Datblygu Garddwriaeth ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif.

Bydd angen i asiantwyr sy’n gweithredu ar ran cleient gofrestru fel asiant Taliadau Gwledig Cymru. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Actifadu Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Hefyd, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, neu am gwblhau’ch cais, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. Bydd yn gallu darparu cyngor, gan gynnwys y cymorth digidol sydd ar gael i chi.

Mae rhagor o wybodaeth am Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein ar gael ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Adran D: Y broses asesu dau gam

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn cystadlu yn uniongyrchol â’i gilydd. Yng Ngham 1, caiff rhannau canlynol y cais eu hasesu a’u sgorio yn ôl y meini prawf dewis:

  • cyweddu strategaethau
  • addasrwydd y buddsoddiad
  • cynaliadwyedd hirdymor
  • gwerth am arian

Bydd y ceisiadau â’r sgoriau uchaf yn cael eu dewis yn nhrefn eu teilyngdod hyd nes bod y cyllid sydd ar gael yn y cylch hwnnw wedi’i ddyrannu.

Byddwch yn cael gwybod a yw eich Cais wedi’i ddewis ai peidio trwy eich cyfrif RPW ar-lein.   

Os yw eich cais yn cael ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2 a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau gwerthusiad llawn y cais.

  • cyflawni’r prosiect
  • rheoli’r prosiect
  • themâu trawsbynciol
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • ariannol a chydymffurfiaeth

Cyflwyno cais

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno eich cais trwy RPW Ar-lein ar gael yn y ddolen hon.

Dylech anfon cwestiynau am gymhwystra yn ymwneud â’r cynllun i Garddwriaeth@llyw.cymru 

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais yn cael ei lenwi’n gywir a bod yr wybodaeth a ddarparwch i gefnogi’ch prosiect hefyd yn gywir.

Mae’n rhaid i chi gwblhau’r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i gefnogi’r cais fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu’r prosiect. Cofiwch ddilyn y canllawiau er mwyn osgoi oedi posibl i’r gwerthusiad.

Fel rhan o’r cais, bydd yn ofynnol i chi ddatgan, ar gyfer pob eitem cyfalaf, pa feini prawf canlynol y mae’r eitem yn berthnasol iddynt:

  • Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig (CEA) 
  • awtomeiddio a roboteg
  • twnelau polythen a thai gwydr
  • synwyryddion a monitro
  • trin y tir a phlannu
  • rheoli maethynnau
  • cyfarpar effeithlonrwydd dŵr
  • rheoli chwyn, plâu a chlefydau
  • cynaeafu
  • cyfarpar garddwriaethol arall

Mae’r cynlluniau a’r dogfennau y mae’n rhaid i chi eu cwblhau a’u cyflwyno yn cynnwys:

  • cais ar-lein y Cynllun Datblygu Garddwriaeth
  • cynllun busnes
  • 3 blynedd o Gyfrifon Ardystiedig
  • amcanestyniadau ariannol 3 blynedd
  • tystiolaeth o gyllid sydd ar gael (benthyciad banc, gorddrafft ac ati)
  • 3 dyfynbris ar gyfer pob eitem buddsoddi (dim ond un dyfynbris ar gyfer eitemau o dan £5,000)
  • tystiolaeth bod y busnes eisoes yn cynhyrchu cnydau garddwriaethol masnachol

Caniatâd Cynllunio a chymeradwyaeth Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau): Os oes angen caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth SDCau ar gyfer eich buddsoddiadau, dylech gynnwys unrhyw ganiatâd cynllunio presennol, os yw ar gael. (Bydd angen tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SDCau cyn y gellir prosesu unrhyw gais am grant). Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer ceisiadau drafft trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Gofynion y cynllun busnes

Dylai’r cynllun busnes ddarparu amlinelliad cyfannol o’ch busnes. Dylai’r cynllun gwmpasu’r 3 blynedd nesaf o leiaf a chynnwys y canlynol:

  • manylion y busnes
  • gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael, gweithgarwch y busnes a’r system amaethu
  • perfformiad ariannol diweddar (gan gyfeirio at gyfrifon ardystiedig)
  • perfformiad ffisegol ac ariannol diweddar y busnes garddwriaeth
  • amcanion a chynigion buddsoddi ar gyfer y dyfodol
  • gwerthuso ystyriaethau ac opsiynau’r cynnig ar gyfer y busnes a buddsoddi yn y dyfodol.

Ar gyfer menter arddwriaethol sy’n gweithredu mewn busnes amaeth ehangach, dylai’r cynllun gynnwys y busnes cyfan ac egluro sut mae’r mentrau garddwriaethol ac amaethyddol wedi’u cyfuno.

Ni fydd yr asesiad yn dechrau hyd nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais a’r HOLL ddogfennau ategol. Gallwch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ogystal â’r uchod er mwyn cefnogi’ch cais.

Cam 1 – Eich Asesu ar gyfer eich Dewis

Ar gyfer gwerthusiad cam 1 o’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth, caiff pob cais ei asesu yn ôl set o feini prawf a’i sgorio gan ddefnyddio graddfa 0 i 4, ac eithrio Gwerth am Arian, a lluosir y sgôr hon wedyn â’r ffactor pwysoli i roi sgôr derfynol.

Caiff y ceisiadau eu rhoi yn nhrefn eu teilyngdod. Caiff y prosiectau eu dewis yn eu trefn tan na fydd arian ar ôl neu tan y byddwn wedi cyrraedd uchafswm nifer y ceisiadau. Ni allwn warantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith y caiff uchafswm nifer y prosiectau eu dewis ar gyfer cam 2 y broses.

Dyma’r meini prawf ar gyfer dewis.

Yr Adran Cynllun Prosiect/Busnes i’w asesu Sgôr Ffactor pwysoli
Cyweddu Strategaethau 0 - 4 x 4
Addasrwydd y buddsoddiad 0 - 4 x 5
Cynaliadwyedd hirdymor 0 - 4 x 2
Gwerth am arian 0 - 4 x 3

Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen heb gael sgôr o 30 o leiaf. Byddai sgôr o 1 neu 0 mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais fynd yn ei flaen i gael ei ystyried yng ngham 2 y broses.

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar yr wybodaeth a’r esboniadau y byddwn wedi’u cael.

Bydd sgôr uwch yn cael ei rhoi am esboniadau llawn, gydag enghreifftiau o weithgareddau a gynigir a sut y rheolir y gweithgareddau hynny.

Rhoddir sgôr is am esboniadau sydd fawr gwell na datganiad syml o fwriad, er enghraifft “byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd gydol y prosiect”.

Cwestiynau a meini prawf asesu Cam 1:

Cyweddu Strategaethau

Er mwyn i brosiect fodloni gofynion Cyweddu Strategaethau y cynllun, bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut y bydd y buddsoddiad arfaethedig yn cyfrannu at nodau ac amcanion strategol y cynllun a dangos pam mae angen y buddsoddiad. Bydd angen i chi nodi sut y bydd y buddsoddiad yn cynyddu perfformiad technegol ac ariannol y busnes a sut y bydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes i ehangu cynhyrchiant mewn ffordd gynaliadwy.

Bydd angen i brosiectau ddangos eu lefel o arloesedd a sut y maent yn defnyddio dulliau arloesol. Gallent fod yn ddulliau newydd sy’n arwain at newid sylweddol yn y busnes unigol, neu gallai’r busnes fabwysiadu technoleg sy’n arwain y diwydiant.

Bydd ymgeiswyr yn cael sgôr uwch os gallant ddangos cysylltiadau clir rhwng y buddsoddiad a lefelau uwch o gynhyrchiant a throsiant, ac os ydynt yn cynnwys gwybodaeth am sut y nodwyd y flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. 

Sgôr  
4 Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth, o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun, gan arwain at welliannau sylweddol ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes. Mae technoleg a dulliau arloesol yn cael eu defnyddio.
3 Mae tystiolaeth gadarn yn cael ei darparu sy’n dangos bod y buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun, gan arwain at welliannau ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes. Mae’r defnydd o dechnoleg a dulliau arloesol yn cynyddu yn y busnes.
2 Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun. Ceir gwelliannau ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes. Prin yw’r defnydd o dechnoleg a dulliau arloesol.
1 Mae tystiolaeth sy’n cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i amcanion y cynllun ac yn arwain at welliannau sylweddol ym mherfformiad technegol ac ariannol y busnes yn wan neu’n annigonol. Ni ddefnyddir unrhyw dechnoleg a dulliau arloesol.
0 Nid oes unrhyw dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn bodloni amcanion y cynllun.

Addasrwydd y buddsoddiad

Mae defnyddio adnoddau yn effeithlon yn hollbwysig er mwyn helpu i sicrhau economi Llesiant, yn ogystal â lleihau allyriadau. Er mwyn sicrhau bod prosiect yn bodloni’r meini prawf hyn, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos effaith eu cynlluniau ar yr amgylchedd ac ar y newid yn yr hinsawdd. Bydd ceisiadau sy’n dangos bod y buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer yn cael sgôr uwch na’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i’r defnydd effeithlon o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.  

Sgôr  
4 Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae tystiolaeth yn dangos bod y buddsoddiad yn gwella’r defnydd o faethynnau, yn lleihau allyriadau ac yn gwella ecosystem y fferm.
3 Mae tystiolaeth gadarn yn cael ei darparu sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.
2 Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r cais yn darparu manylion cyfyngedig o sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Mae’r buddsoddiad yn darparu cyfraniad bach at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau a gwella ecosystem y fferm.
1 Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn ymateb i’r newid yn yr hinsawdd yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r cais yn nodi sut mae’r buddsoddiad yn gwella ansawdd dŵr, pridd ac aer. Nid yw’r buddsoddiad yn cyfrannu at wella’r defnydd o faethynnau, lleihau allyriadau neu wella ecosystem y fferm.
0 Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.

Cynaliadwyedd Hirdymor

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n ceisio darparu cyfleoedd swyddi am dâl ychwanegol, gan fod hyn yn dangos effaith economaidd ychwanegol. Bydd buddsoddiad sy’n cadw neu’n diogelu cyflogaeth bresennol yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol hefyd. Hefyd, gallai buddsoddiadau diogelu’r busnes at y dyfodol, gan sicrhau bod gweithgarwch yn gallu parhau mewn ymateb i bwysau’r farchnad neu bwysau amgylcheddol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol. Dylai ymgeiswyr nodi ac esbonio sut y gellid creu a diogelu unrhyw swyddi a ragwelir.

Bydd prosiectau sy’n sbarduno rhagor o fuddsoddiadau, e.e. sefydlu seilwaith tyfu i hwyluso rhagor o fuddsoddi mewn gweithgarwch marchnata, pecynnu neu werth ychwanegol yn cael sgôr uwch. Os oes buddsoddiad yn rhan o gynllun buddsoddi fesul cam, mae angen nodi hynny.

Sgôr  
4 Rhoddir esboniad clir, gan gynnwys tystiolaeth, o sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd. Mae’r buddsoddiad yn diogelu cyflogaeth bresennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes yn y tymor byr.
3 Mae tystiolaeth gadarn yn cael ei darparu sy’n dangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes, gan gynnwys creu swyddi newydd a/neu ddiogelu cyflogaeth bresennol. Hefyd, bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes yn y tymor canolig.
2 Mae rhywfaint o dystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes. Nid yw’r prosiect yn creu swyddi newydd, ond mae’n diogelu cyflogaeth bresennol. Ceir rhywfaint o dystiolaeth i ddangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno datblygiad a buddsoddiad posibl yn y busnes yn yr hirdymor.
1 Mae’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ddangos sut mae’r buddsoddiad arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes yn wan neu’n annigonol. Nid yw’r prosiect yn creu unrhyw swyddi newydd ac nid yw’n diogelu cyflogaeth bresennol. Nid yw’r ymgeisydd wedi dangos sut mae’r buddsoddiad yn sbarduno rhagor o ddatblygiad a buddsoddiad yn y busnes.
0 Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i darparu i ddangos bod y buddsoddiad yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd hirdymor y busnes.

Gwerth am arian

Mae angen i brosiectau ddangos eu bod yn rhoi gwerth am arian. Bydd prosiectau yn cael sgôr ar sail y cynnydd a ragwelir mewn trosiant o fewn tair blynedd i gwblhau’r prosiect (a), wedi’i rannu â gwerth y grant y gofynnwyd amdano (b).

Er enghraifft, gwerth (a/b) o 5.0 fyddai gan brosiect sy’n rhagweld cynnydd mewn trosiant gwerth £100,000 o fewn tair blynedd i gwblhau’r prosiect, sy’n gofyn am grant gwerth £20,000. Gwerth (a/b) o 1.25 fyddai gan brosiect sy’n rhagweld cynnydd mewn trosiant gwerth £50,000 o fewn tair blynedd i gwblhau’r prosiect, sy’n gofyn am grant gwerth £40,000.

Bydd gwerthoedd (a/b) holl brosiectau’r cyfnod yn arwain at ddyrannu sgôr fel y dangosir isod:

  Sgôr

Cynnydd a ragwelir mewn trosiant/grant (a/b) dros 4.1

4
Cynnydd a ragwelir mewn trosiant/grant (a/b) rhwng 2.1 a 4.0 3
Cynnydd a ragwelir mewn trosiant/grant (a/b) rhwng 1.1 a 2.0 2
Cynnydd a ragwelir mewn trosiant/grant (a/b) rhwng 0.1 a 1.0 1
Cynnydd a ragwelir mewn trosiant/grant (a/b) llai na 0 0

Mae tri chanlyniad posibl i gam 1 yr asesiad:

  1. Nid yw eich cais yn gymwys am grant.
  2. Nid yw eich cais wedi’i ddewis ar gyfer ail gam y broses ymgeisio.
  3. Mae’ch cais wedi llwyddo yn y cam cyntaf a chaiff fynd yn ei flaen i’r ail gam.

Os nad ydych yn cael eich dewis, ond bod eich cais yn bodloni’r trothwy sylfaenol, byddwn yn eich hysbysu trwy eich cyfrif RPW ar-lein nad ydych wedi cael eich dewis ond y bydd eich cais yn cael ei gadw wrth gefn.

Selection Cais sy'n llwyddiannus yng Ngham 1

Os caiff eich cais ei ddewis, rhoddir gwybod i chi ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid i chi dderbyn neu wrthod y cynnig trwy lenwi a dychwelyd yr Atodiad i’r Cais i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad fydd wedi’i nodi yn eich llythyr. Bydd yr Atodiad wedi’i atodi wrth y llythyr sy’n eich hysbysu eich bod wedi’ch dewis.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau a nodir yn eich llythyr.

Os byddwch yn hapus eich bod wedi’ch dewis, bydd eich cais yn mynd yn ei flaen i ail gam y broses arfarnu.

Nid yw’r llythyr dewis yn eich caniatáu i ddechrau gweithio ar y Prosiect. Ni allwch ddechrau unrhyw waith hyd nes y byddwch yn derbyn Contract trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Ni fydd unrhyw brosiect sy’n torri’r rheol hon yn cael ei ystyried am gymorth.

Os na fyddwch wedi derbyn y cynnig neu os na fyddwch yn ateb Llywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni chaiff eich cais fynd ymhellach a chaiff y cynnig i’ch dewis ei dynnu’n ôl.

Os nad yw eich cais yn bodloni meini prawf y cynllun neu os na chaiff ei ddewis, rhoddir gwybod i chi ar eich cyfrif ar-lein.

Cam 2 - Arfaniad llawn o'r cais ar ôl ei ddewis

Os yw’r cais yn cael ei ddewis, bydd yn symud ymlaen i Gam 2, a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau’r broses o werthuso’r cais ac ystyried cynnig grant.

  • cyflawni’r prosiect
  • rheoli’r prosiect
  • themâu trawsbynciol
  • dangosyddion a chanlyniadau
  • ariannol a chydymffurfiaeth

Dyma’r dangosyddion a’r canlyniadau a fydd yn cael eu monitro o ganlyniad i’r buddsoddiad:

  • nifer y busnesau a gefnogir
  • nifer y swyddi sy’n cael eu creu
  • effaith ar drosiant y busnes
  • arferion neu dechnoleg arloesol a gyflwynir

Hefyd, bydd y cais yn gofyn i ymgeiswyr egluro sut y bydd y prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a PHrif ffrydio rhywedd
  • Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol
  • yr Iaith Gymraeg

Caiff y cais ei arfarnu yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau cymhwystra. Caiff archwiliadau ac arfarniad llawn o’u diwydrwydd dyledus eu cynnal (os oes angen), a dim ond bryd hynny y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais.  Nid oes gwarant y caiff cynnig am brosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgeisio. Efallai y bydd angen mwy o amser os yw’r cais yn un cymhleth. Os ydych yn araf yn ymateb i geisiadau am ragor o wybodaeth, bydd yn cymryd mwy o amser i ni gwblhau arfarniad o’ch cais.

Sgorio Asesiadau Cam 2

Ar gyfer yr arfarniad Cam 2, bydd yr wybodaeth sy’n cael ei darparu yn y 5 adran arall yn cael ei hasesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol a fydd yn llywio’r penderfyniad i roi cymorth grant i’r prosiect ai peidio:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl o ran yr holl dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl o ran y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnir amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu’n annigonol o ran un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnir amdani

Y trothwy ansawdd yw sgôr Canolig ym mhob un o’r naw categori. Os nad yw’r cais yn bodloni’r gofyniad hwn, mae’n bosibl y gofynnir i chi ddarparu rhagor o wybodaeth. Os nad oes modd sicrhau sgôr foddhaol, bydd y prosiect yn cael ei wrthod.

Noder y gall gofyniad am ragor o wybodaeth arwain at oedi arfarniad y cais, felly rydym yn argymell y dylech ddilyn y canllawiau yn ofalus er mwyn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani.

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad Cam 2:

  1. Nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi’i gymeradwyo am ddyfarniad grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau nad oedd eich cais yn llwyddiannus trwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Gallwch wneud cais am yr un prosiect eto os oes cyfnodau ymgeisio eraill ar gael yn y dyfodol (gan ddiwygio’r cais os ydych yn dymuno) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
  2. Mae eich prosiect yn gymwys ac mae’n cael ei gymeradwyo am ddyfarniad. Bydd contract yn cael ei gyflwyno i chi trwy eich cyfrif RPW Ar-lein gan nodi telerau ac amodau’r grant. Gofynnir i chi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny. Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod i chi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen i chi dderbyn neu wrthod cynnig y contract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn y grant.

Os ydych chi’n penderfynu tynnu yn ôl o’r contract cyn cwblhau’r prosiect, neu os nad ydych yn prynu’r holl eitemau a gymeradwywyd yn eich contract, ni fyddwch yn gallu gwneud cais i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn y cylch nesaf, ac mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi’i dalu i chi.

Gallwch dynnu eich cais yn ôl unrhyw bryd cyn dyfarniad grant ac ni fydd hynny yn effeithio ar unrhyw geisiadau yn y dyfodol i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gyfrinachol. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Adran E – Amodau’r Grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth (gweler Atodiad A). Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd / derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth hon.

Mae’r cynnig o grant Datblygu Garddwriaeth yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y telerau ac amodau a nodir isod. Bydd y contract yn para 12 mis ar ôl dyddiad cyhoeddi’r contract. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo’ch dyfarniad a/neu at adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Mae’r dyfarniad hwn yn cael ei wneud ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu eich cynrychiolwyr yn y ffurflen gais, y ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth ddilynol. Mae’n drosedd gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol. Ni ddylech ddechrau gweithio ar y prosiect hyd nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru. Dylech fod wedi prynu’r cyfarpar a chysylltu ag RPW trwy RPW Ar-lein neu drwy’r post erbyn y dyddiad ar gyfer ceisiadau a nodir yn y cynnig.
Os nad ydych wedi cysylltu ag RPW erbyn y dyddiad hwn, bydd y cynnig grant yn cael ei wrthod yn awtomatig.

Rhaid i chi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a wneir o dan gyfraith y DU.

Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgarwch, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Ni ellir gwaredu, trosglwyddo neu werthu cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant yn ystod y prosiect ac am bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect heb ganiatâd ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ymlaen llaw. Rhaid ad-dalu’r grant a ddyfarnwyd yn llawn.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

Rhaid cwblhau prosiectau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech newid yr amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio ffurflen gais hawliadau Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sy’n angenrheidiol o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Ni chaniateir i chi newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi'r grant, hynny yw, taliadau sydd wedi’u clirio o gyfrif banc.

Rhaid prynu pob eitem yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.

Rhaid i chi gadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall (boed hynny o ffynonellau’r Undeb Ewropeaidd neu’r Deyrnas Unedig). Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Mae’n rhaid cadw cofnodion yn ymwneud â’r cais a’r hawliad am y grant hwn, gan gynnwys pob anfoneb wreiddiol ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill, am o leiaf saith mlynedd ar ôl dyddiad dod i ben y prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennaeth ategol yn destun gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran F – Caffael a Thendro Cystadleuol

​​​​Rhaid i chi ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a gofynion y Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol ar gyfer Caffael a Thendro Cystadleuol trwy’r canlynol:

Adran G – Taliadau

Hawliadau

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein i wneud cais i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth; bydd taliadau yn cael eu gwneud ar ôl dilysu eich hawliad yn llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Gallwch gyflwyno mwy nag un hawliad, ond mae’n rhaid i bob hawliad ymwneud ag eitem. Er enghraifft, os ydych wedi derbyn contract i brynu dwy eitem, cyfarpar cynaeafu dŵr a pheiriant cynaeafu, gallwch gyflwyno hawliadau ar wahân ar gyfer pob eitem, ond ni allwch gyflwyno hawliad ar gyfer rhan o gostau un eitem.

Er mwyn derbyn taliadau Datblygu Garddwriaeth mae’n rhaid i chi:

  • fod wedi derbyn contract Cynllun Datblygu Garddwriaeth o fewn 30 diwrnod calendr i ddyddiad y cynnig a chydymffurfio â’r holl ofynion
  • sicrhau na fyddwch yn prynu eitemau a restrir yn eich contract tan ar ôl i chi dderbyn y cynnig
  • sicrhau eich bod wedi prynu’r holl eitemau a restrir yn eich contract
  • sicrhau bod yr holl eitemau yn cael eu prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru
  • sicrhau bod yr holl eitemau a brynwyd ar y safle ar adeg cyflwyno’ch hawliad
  • cyflwyno’r hawliad trwy ddefnyddio’r dudalen Hawlio Grant yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawliadau, sef 12 mis ar ôl cyhoeddi contract
  • byddwn yn cyhoeddi uchafswm o 2 nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sy’n weddill trwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau
  • cyflwyno anfonebau ar gyfer pob eitem sy’n destun hawliad
  • cyflwyno tystiolaeth bod y gwariant wedi cael ei wneud ar gyfer pob eitem sy’n destun hawliad
  • cyflwyno tystiolaeth o ganiatâd cynllunio a chymeradwyaeth SDCau os oes angen

Nid yw hawliad yn cael ei ystyried yn hawliad dilys oni bai ei fod wedi’i gyflwyno trwy’r dudalen Hawlio Grantiau a hyd nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi’u cyflwyno.

Gallwch gyflwyno’ch hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r buddsoddiad. Bydd hawliadau yn cael eu prosesu i’w talu ar ôl 1 Ebrill 2023. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried talu hawliadau yn gynharach, yn amodol ar argaeledd cyllideb.

Dogfennau Ategol

Mae’n rhaid i chi gyflwyno anfoneb ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich contract.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno cyfriflenni banc fel tystiolaeth bod gwariant wedi’i wneud ar gyfer pob eitem o gyfarpar yn eich contract.  

Gallwch gyflwyno’r anfonebau a’r cyfriflenni banc trwy eu sganio a’u hanfon trwy “Fy negeseuon” yn eich cyfrif RPW Ar-lein.  

Er mwyn dangos bod manyleb yr eitem a gyflenwyd yn gywir a’i bod wedi’i dosbarthu i’ch safle, dylech ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • ffotograffau â geotag o eitemau ar eich safle
  • enw’r cynhyrchydd, rhif y model, rhif cyfresol, etc

Ni fydd taliad yn cael ei wneud os oes tystiolaeth annigonol yn cael ei darparu.

Hawliadau anghywir a chosbau

Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir, ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud yn unig (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc), bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno yn brydlon.

Mae’n rhaid i’r holl fuddsoddiadau a gymeradwywyd fod wedi eu cwblhau ar ôl derbyn y contract.

Mae eich hawliad yn anghywir yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • rydych wedi prynu eitemau cyn i’r contract gael ei dderbyn
  • nid ydych wedi prynu’r holl eitemau a restrir yn y contract
  • nid ydych wedi cyflwyno hawliad a dogfennau ategol erbyn dyddiad cau’r hawliad
  • nid yw pob un o’r eitemau a hawliwyd yn bresennol ar eich daliad yn ystod ymweliad â’ch safle.
  • nid yw eitemau wedi’u prynu yn unol â gofynion Caffael a Thendro Cystadleuol Llywodraeth Cymru.  

Mae’n rhaid i chi hawlio am yr holl fuddsoddiadau a restrir yn eich contract.

Os yw’r hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei leihau i’r cyfanswm cymwys a bydd y grant i’w dalu yn cael ei gyfrifo yn unol â hynny. Fodd bynnag, os yw’r camgymeriad yn fwy na 10% o’r cyfanswm sy’n cael ei hawlio, yna bydd cosb ariannol fel y disgrifir isod. Bydd swm y gwariant cymwys yn cael ei ostwng yn ôl swm y camgymeriad ac felly bydd cyfanswm y grant i’w dalu yn is na’r disgwyl.

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'i gymhwystra cyn i chi ysgwyddo’r costau.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H – Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (Gan gynnwys Newidiadau mewn Dehongli)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i Reolau neu Gontract y Cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y rhaglen. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I – Rheoliadau, Monitro a Chadw Cofnodion

Rheolaethau  

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y buddsoddiad wedi’i wneud cyn i chi dderbyn y taliad neu ar ôl i chi dderbyn y taliad.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai gwiriadau yn gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allwch gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau a brynwyd yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwn.

Bydd ymweliadau â safleoedd yn cael eu cynnal ar gyfer canran o’r prosiectau a gymeradwywyd o fewn pum mlynedd i gwblhau’r prosiect (Dyddiad Diwedd y Prosiect) er mwyn sicrhau bod yr ymgeisydd yn parhau i berchen ar y cyfarpar a brynwyd gyda’r grant, ac yn ei ddefnyddio, a bod y busnes yn perfformio yn ôl y disgwyl.

Un o ofynion y dyfarniad grant yw bod angen cadw’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant ar y safle, gan sicrhau ei fod yn weithredol ac mewn cyflwr da. Hefyd, rhaid iddo gael ei ddefnyddio at yr un diben â’r hyn a nodwyd yn y cais gwreiddiol, am o leiaf bum mlynedd ar ôl dyddiad cwblhau’r prosiect fel y nodir yn y contract. Gwneir hyn er mwyn sicrhau hirhoedledd y prosiect a sicrhau bod cynhyrchwyr cynradd yn cael cyfran barhaus o fanteision y prosiect.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd. 

Hefyd, bydd yn ofynnol i chi wneud y canlynol:

  • darparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract Datblygu Garddwriaeth yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch contract Datblygu Garddwriaeth i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantwyr. Caniatáu i Lywodraeth Cymru fynd ag unrhyw ddogfen neu gofnod o’r fath i wneud copi ohonynt neu ddarnau ohonynt.

Adran J – Gweithdrefn Apelio a Chwyno

Gweithdrefn Apelio

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun. Ni fydd y broses yn adolygu penderfyniadau yn ymwneud â Cam 1 – Asesiad ar gyfer Cais.

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • cam 1: adolygiad gan RPW
  • cam 2: adolygiad gan Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb Cam 1)

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg, a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn y Gymraeg os mai Cymraeg yw eich dewis iaith. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Gweithdrefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch ragor o gyngor ar sut i gwyno gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Adeiladau’r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378 

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.

E-bost: cwynion@llyw.cymru 
Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed 
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203 
Gwefan: Ombwdsmon

Adran K – Hysbysiad Preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gallai hyn arwain at bobl eraill yn gwrthod â darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwystra efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais gyda’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â'n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phob taliad wedi'i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • gofyn i ni gywiro unrhyw ddata anghywir
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (dan rai amgylchiadau)
  • gofyn i'ch data gael eu dileu (dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a sut mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am ymarfer eich hawliau o dan GDPR, mae'r manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421 
Gwefan: https://cy.ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru

Adran L - Cysylltiadau

Ymholiadau – Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad i swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Yna, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gorau i wneud trefniadau a fydd yn darparu ar gyfer eich gofynion.  

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru. Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen. Er mwyn clywed am yr holl newyddion a datblygiadau diweddaraf ym maes amaethyddiaeth, rydym yn eich annog i gofrestru i dderbyn e-gylchlythyr Gwlad. I gofrestru, ewch i https://llyw.cymru/hysbysiadau neu https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-newyddion-amaethyddiaeth-choedwigaeth-gwlad.

Atodiad A

Mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn cyflawni yn erbyn amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth, ac maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn cael ei lywodraethu gan Rheoliadau’r Cyngor Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013 Cyfraith yr UE a Ddargedwir, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 a 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o dro i dro).

Mae Cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei gweithredu yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (W.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (W.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (W.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • meithrin cystadleurwydd amaethyddiaeth;
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • sicrhau cadernid hinsawdd;
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae’r Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn cynnwys tri amcan trawsbynciol:

  • lliniaru newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu i newid hinsawdd;
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Fel rhan o’r cais, gofynnir i chi ddisgrifio sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Hefyd, bydd y Cynllun yn gofyn i ymgeiswyr nodi sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol canlynol Llywodraeth Cymru:

  • Cyfle cyfartal a Phrif ffrydio rhywedd
  • Trechu Tlodi ac Allgáu Cymdeithasol
  • Yr Iaith Gymraeg

Yn ogystal, bydd ceisiadau ar gyfer y Cynllun Datblygu Garddwriaeth yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau yn berthnasol i o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi ym meysyddamaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig;
  2. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  3. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  4. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  6. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.