Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Trosolwg

Y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022 i 2027 yw'r cynllun cyflawni 5 mlynedd cyntaf i Lywodraeth Cymru weithredu Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y cynllun drafft yng nghyd-destun y strategaeth wreiddiol. 

O fewn Llwybr Newydd rydym yn pennu ein gweledigaeth, tair prif flaenoriaeth 5 mlynedd a phedwar uchelgais llesiant sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ein gweledigaeth

System drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon.

Ein blaenoriaethau

  • Blaenoriaeth 1: dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio
  • Blaenoriaeth 2: galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws drwy ddarparu gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon.
  • Blaenoriaeth 3: annog pobl i newid i ddulliau teithio mwy cynaliadwy.

Ein huchelgeisiau llesiant

  • Yn dda i bobl a chymunedau: system drafnidiaeth sy'n cyfrannu at Gymru fwy cyfartal a Chymru iachach, y mae pawb yn teimlo'n hyderus i'w defnyddio.
  • Yn dda i'r amgylchedd: system drafnidiaeth sy'n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sylweddol, yn cynnal bioamrywiaeth ac yn gwella cadernid ecosystemau, ac sy'n lleihau gwastraff.
  • Yn dda i'r economi a lleoedd yng Nghymru: system drafnidiaeth sy'n cyfrannu at ein huchelgeisiau economaidd ehangach ac yn helpu cymunedau lleol, yn cefnogi cadwyn gyflenwi fwy cynaliadwy, yn defnyddio'r datblygiadau arloesol diweddaraf ac yn mynd i'r afael â fforddiadwyedd trafnidiaeth.
  • Yn dda i ddiwylliant a'r Gymraeg: system drafnidiaeth sy'n cefnogi'r Gymraeg, yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i gyrraedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannau a gweithgareddau chwaraeon ac yn gwella'r amgylchedd hanesyddol.

Cwestiynau'r ymgynghoriad

Cwestiwn 1:

Yn eich barn chi, a fydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau bod pobl yn newid i ddulliau teithio mwy cynaliadwy?  

  • cadarnhaol iawn
  • cadarnhaol
  • niwtral
  • negyddol
  • negyddol iawn

Cwestiwn 2:

Yn eich barn chi, a fydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth?  

  • cadarnhaol iawn
  • cadarnhaol
  • niwtral
  • negyddol
  • negyddol iawn

Cwestiwn 3:

Yn eich barn chi, i ba raddau, o fewn y cyllid sydd ar gael, y bydd y cynllun yn cyflawni'r prif flaenoriaethau 5 mlynedd a nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021? 

  • yn llwyr
  • yn rhannol
  • mewn ffordd gyfyngedig
  • ddim o gwbl
  • ddim yn siŵr

Cwestiwn 4:

Yn eich barn chi, i ba raddau, o fewn y cyllid sydd ar gael, y bydd y cynllun yn cyflawni'r uchelgeisiau llesiant a nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021? 

  • yn llwyr
  • yn rhannol
  • mewn ffordd gyfyngedig
  • ddim o gwbl
  • ddim yn siŵr

Cwestiwn 5:

Yn eich barn chi, i ba raddau, o fewn y cyllid sydd ar gael, y bydd y cynllun yn cyflawni'r prif flaenoriaethau 5 mlynedd a nodir ym mhob un o'r cynlluniau bach ar gyfer dulliau teithio a sectorau yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021? 

  • cytuno'n gryf
  • cytuno
  • niwtral
  • anghytuno
  • anghytuno'n gryf 

Cwestiwn 6:

Yn eich barn chi, a yw'r cynllun yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng y dulliau teithio a'r sectorau er mwyn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021?  

Cwestiwn 7:

Yn eich barn chi, a yw Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn nodi'r materion cynaliadwyedd pwysicach sy'n ymwneud â'r cynllun?

Cwestiwn 8:

A oes gennych unrhyw adborth neu sylwadau pellach ar y cynllun?

Sut i ymateb

Byddwch cystal â chyflwyno'ch sylwadau erbyn 11 Hydref, yn un o'r ffyrdd canlynol:

Cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth
Strategaeth Drafnidiaeth
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod i ni.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y Du ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.  Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.  Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol.  Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol).  Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath.  Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb.  Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif LlC: WG44313

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.