Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Rhagfyr 2020.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 742 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn chi ar gynigion i roi'r pŵer i Gyngor y Gweithlu Addysg dynnu enw unigolyn cofrestredig oddi ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg yng Nghymru dros dro fel mesur interim.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym am glywed eich sylwadau am y Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Gorchmynion Atal Dros Dro Interim) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2021 arfaethedig.
Byddai’r Gorchymyn yn roi'r pŵer i'r Cyngor wneud Gorchmynion Atal Dros Dro Interim. Byddai Gorchymyn Atal Dros Dro Interim yn caniatáu i’r Cyngor:
- dynnu enw unigolyn cofrestredig oddi ar y Gofrestr Ymarferwyr Addysg yng Nghymru dros dro fel mesur interim wrth aros am ymchwiliad a gwrandawiad disgyblu
- adolygu a dirymu Gorchmynion Atal Dros Dro Interim sydd wedi'u gosod.