Ynglŷn â CGA, cofrestru, y Pasbort Dysgu Proffesiynol ac achredu.
Cyngor y Gweithlu Addysg yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Prif nodau’r Cyngor yw:
- cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac unigolion sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru
Achrediad
Mae achredu rhaglenni AGA yn broses sicrhau ansawdd. O dan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) 2017, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol i:
- achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
- monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
- tynnu achrediad rhaglenni yn ôl
Caiff yr holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru eu hasesu, eu gwerthuso a'u monitro yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru. Cyflawnir hyn gan Fwrdd Achrediad AGA y Cyngor.
Cofrestru
Pan fyddwch wedi cofrestru gyda’r Cyngor, bydd gofyn i chi dalu ffi gofrestru flynyddol i’r Cyngor. Caiff ffioedd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd.
Rhaid i’r canlynol gofrestru gyda’r Cyngor:
- athro ysgol (mae’n rhaid bod gennych statws athro cymwysedig)
- athro ysgol annibynnol
- athro addysg bellach
- pennaeth neu uwch arweinydd yn gweithio mewn sefydliadau addysg bellach
- athro sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
- ymarferydd addysg oedolion
- ymarferydd dysgu'n seiliedig ar waith
- gweithiwr ieuenctid
- gweithiwr cymorth dysgu ysgol
- gweithiwr cymorth ysgol annibynnol
- gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach
- gweithiwr cymorth sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
- gweithiwr cymorth ieuenctid
Efallai y bydd angen i chi gofrestru mewn mwy nag un categori, gan ddibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud, neu’n bwriadu ei wneud, a rhai meini prawf penodol. Dim ond un ffi sy’n rhaid i chi ei dalu.
Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn adnodd ar-lein hyblyg a chwbl ddwyieithog sydd ar gael i bawb sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae eich PDP yn llawn o nodweddion i’ch cynorthwyo i gofnodi’ch dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ymarfer.
Chi sy’n berchen ar eich PDP: mae’n gyfrinachol ac yn gludadwy. Cyn belled ag y byddwch wedi cofrestru gyda’r Cyngor, gallwch fynd at unrhyw gynnwys rydych chi wedi’i greu yn eich PDP.
