Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â CGA, cofrestru, y Pasbort Dysgu Proffesiynol ac achredu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyngor y Gweithlu Addysg yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Prif nodau’r Cyngor yw:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac unigolion sy’n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru

Achrediad

Mae achredu rhaglenni AGA yn broses sicrhau ansawdd. O dan Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) 2017, mae gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol i:

  • achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
  • monitro cydymffurfiaeth rhaglenni achrededig yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru
  • tynnu achrediad rhaglenni yn ôl

Caiff yr holl raglenni AGA a gynigir gan bartneriaethau yng Nghymru eu hasesu, eu gwerthuso a'u monitro yn erbyn meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer achredu rhaglenni AGA yng Nghymru. Cyflawnir hyn gan Fwrdd Achrediad AGA y Cyngor.

Cofrestru

Pan fyddwch wedi cofrestru gyda’r Cyngor, bydd gofyn i chi dalu ffi gofrestru flynyddol i’r Cyngor. Caiff ffioedd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd. Ar gyfer 2024 i 2025 ni fydd unrhyw gymhorthdal yn cael ei ddarparu. Rhaid i’r canlynol gofrestru gyda’r Cyngor:

  • athrawon ysgol
  • athrawon addysg bellach
  • ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
  • gweithwyr ieuenctid
  • gweithwyr cymorth dysgu ysgolion (cynorthwywyr addysgu)
  • gweithwyr cymorth addysg bellach
  • gweithwyr cymorth ieuenctid

Efallai y bydd angen i chi gofrestru mewn mwy nag un categori, gan ddibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud, neu’n bwriadu ei wneud, a rhai meini prawf penodol. Dim ond un ffi sy’n rhaid i chi ei dalu.

Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)

Mae’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn adnodd ar-lein hyblyg a chwbl ddwyieithog sydd ar gael i bawb sydd wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae eich PDP yn llawn o nodweddion i’ch cynorthwyo i gofnodi’ch dysgu, myfyrio arno, ei rannu a’i gynllunio, gyda’r nod yn y pen draw o wella’ch ymarfer.

Chi sy’n berchen ar eich PDP: mae’n gyfrinachol ac yn gludadwy. Cyn belled ag y byddwch wedi cofrestru gyda’r Cyngor, gallwch fynd at unrhyw gynnwys rydych chi wedi’i greu yn eich PDP.