Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r cyngor hwn yn cael ei lywio gan allbynnau Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau a Chell Cyngor Technegol Cymru, canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy drafodaethau gyda Phrif Swyddogion Meddygol y pedair gwlad a Phrif Gynghorydd Economaidd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd yn ein galluog i lacio ymhellach ar y cyfyngiadau symud.  O ganlyniad i gydymffurfiad y cyhoedd â'n mesurau, mae nifer yr achosion (heintiau newydd), mynychder yr achosion (heintiau presennol) a marwolaethau o COVID-19 yn gostwng ac, o ganlyniad, mae'r capasiti wedi gwella o fewn y GIG.  Mae mynychder presennol COVID-19 yng Nghymru tuag 1 ym mhob 10,000.  Mae'r gwerth R yn is na 1 ond mae'n fesur llai dibynadwy oherwydd yr amrywiad dyddiol a welwn gyda niferoedd isel o achosion.  Yn ogystal, rydym bellach yn nhymor yr haf, sydd yn bwysig gan ein bod yn gwybod bod y risg o drosglwyddo’r feirws yn llawer is yn yr awyr agored nag o dan do, oherwydd golau'r haul ac awyru, a bod modd sicrhau cadw pellter cymdeithasol y tu allan.  Erbyn hyn, mae gennym weithdrefnau gwyliadwriaeth a rheoli achosion ar waith hefyd, gan gynnwys profion cymunedol ac olrhain cysylltiadau, a fydd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad yr haint yn lleol.

Yn ogystal ag effaith uniongyrchol y feirws, mae'n amlwg bod effeithiau cymdeithasol tymor hir COVID-19 yn debygol o fod yn sylweddol iawn oherwydd y niwed hysbys sy'n deillio o ddirywiad economaidd, ac yn enwedig o'r cynnydd cysylltiedig mewn diweithdra.  Dengys yr hyn a ddysgwyd o ddirwasgiadau blaenorol y gall hyn gael yr effaith fwyaf ar y rhai sydd eisoes o dan anfantais a bydd bron yn sicr o gynyddu anghydraddoldebau.  Mae effeithiau andwyol parhaol yn cynnwys mwy o berygl o gyfnodau cylchol o ddiweithdra, cyflog is, llesiant is a mwy o achosion o gyflyrau iechyd cronig.  Mae yn debygol y bydd effeithiau niweidiol arbennig o amlwg a pharhaol ar bobl ifanc sy'n ymuno â'r farchnad lafur am y tro cyntaf, a all arwain at gosbau economaidd-gymdeithasol gydol oes, gan gynnwys - yn achos rhai - ddisgwyliad oes llai. Mae plant a phobl ifanc yr amharwyd ar eu haddysg hefyd yn wynebu'r risg o ganlyniadau cymdeithasol-economaidd gwaeth.   Argymell y dylai  ein ffocws ar niwed gael ei ailgyfeirio bellach at leihau effeithiau economaidd a chymdeithasol y pandemig a hynny mewn ffordd ofalus.

Wrth sicrhau mesurau parhaus i osgoi niwed uniongyrchol yn sgil haint COVID-19, dylid mynd ati mewn ffordd bwyllog a doeth i lacio’r cyfyngiadau er mwyn lleihau effeithiau economaidd-gymdeithasol hirdymor y pandemig.

Un o’r manteision pwysig eraill sy’n deillio o lacio’r cyfyngiadau yw ailgysylltu teuluoedd a lleihau'r trallod a achosir gan unigrwydd a bod yn ynysig,  a all gael effeithiau negyddol ar bobl ifanc yn ogystal â'r henoed neu'r rhai sy'n agored i niwed.  Argymhellaf ein bod yn caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd o ran teithio er mwyn cael gwiriadau llesiant ar berthnasau, yn enwedig y rhai sy’n oedrannus  neu’n ofidus, ac ar gyfer y rhai sydd mewn amgylchiadau arbennig.  Os digwydd yr ymweliadau hyn y tu allan mewn gerddi neu barciau gyda phellter cymdeithasol priodol ni fyddai ganddynt fawr o risg o drosglwyddo’r feirws.

Gallai caniatáu i deuluoedd ymweld â’i gilydd yn yr awyr agored am resymau tosturiol helpu hyder y cyhoedd wrth baratoi ar gyfer llacio’r canllawiau presennol ar aros yn lleol.  Dylid caniatáu digon o amser i roi trefniadau diogelu ar waith mewn cyrchfannau i ymwelwyr - gallai'r rhain gynnwys meysydd parcio a chyfleusterau cyhoeddus yn ogystal â mesurau pellter cymdeithasol a hylendid dwylo.

Mae cyfnod yr haf yn cynnig cyfle mwy diogel i leddfu cyfyngiadau.  Er hynny, dylai’r  rhyddid uwch gael ei ategu gan bwyslais parhaus yn y cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru ar lefelau risg er mwyn galluogi'r cyhoedd i wneud penderfyniadau cyfrifol i lywio eu hymddygiad diogel.  Dylai negeseuon cryf barhau, megis y mae cyngor diweddar ar wisgo gorchuddion wyneb, ar gyfer mesurau ataliol fel cadw pellter  cymdeithasol a hylendid personol, a'r hyn y mae'n rhaid i unigolion ei wneud pan fydd ganddynt symptomau posibl o haint y coronafeirws, gan gynnwys hunanynysu a hunanatgyfeirio ar gyfer profi ac olrhain cysylltiadau.

Dylem gynghori'r cyhoedd, fel mewn gwledydd eraill, i osgoi'r canlynol

  • Lleoedd gorlawn
  • Lleoliadau caeedig (gydag awyru gwael)
  • Cyswllt agos

Yr Athro Chris Jones (gyda chyfraniad gan Jonathan Price, y prif Economegydd)
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol
Llywodraeth Cymru
18 Mehefin 2020