Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cyntaf o dri cham y gwerthusiad yn adolygu'r modd y cyflawnir y rhaglen ac yn amlinellu ei theori newid.

Nod y rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant gan Lywodraeth Cymru yw gweithio gyda sefydliadau i gefnogi dinasyddion a staff i fod yn ddigidol hyderus, gan ganolbwyntio ar allu rheoli a chael mynediad at wasanaethau iechyd hanfodol. Dechreuodd y contract ym mis Gorffennaf 2019 ac yn rhedeg tan fis Mehefin 2022, gydag opsiwn i ymestyn am dair blynedd arall.

Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn tri cham allweddol sy'n cynnwys:

  • y gwerthusiad proses a damcaniaeth newid hwn
  • gwerthusiad interim a gwerthusiad o ganlyniadau
  • a gwerthusiad terfynol crynodol

Prif nodau’r cam gyntaf hwn yn y gwerthusiad yw:

  • adolygu a chrynhoi'r dystiolaeth bresennol ynghylch y berthynas rhwng cynhwysiant digidol ac iechyd
  • adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ffordd y cyflwynwyd y rhaglen
  • cyflwyno model Damcaniaeth Newid ar gyfer y rhaglen.

Mae tair thema allweddol i ganfyddiadau'r cam hwn.

  1. Dylunio a gweithredu’r rhaglen.
  2. Recriwtio derbynyddion.
  3. Ymgysylltu â sefydliadau a’u cefnogi.

Mae'r gwerthusiad yn cynnig saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth gyflawni'r rhaglen.

Adroddiadau

Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (gwerthusiad proses a theori newid) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Siân Williams

Rhif ffôn: 0300 025 3991

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.