Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (crynodeb gwerthusiad proses a theori newid)
Mae'r cyntaf o dri cham y gwerthusiad yn adolygu'r modd y cyflawnir y rhaglen ac yn amlinellu ei theori newid.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Menter tair blynedd gan Lywodraeth Cymru yw'r rhaglen Cymunedau Digidol Cymru (CDC): Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant a ddarparwyd rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2022 a'i nod yw lleihau allgáu digidol a helpu i wella sgiliau digidol sylfaenol ledled Cymru. Ariennir y rhaglen £6-miliwn gan is-adran Dyfodol Ffyniannus ac is-adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Nod CDC yw cefnogi unigolion i feithrin y pum sgil sylfaenol a nodir yn fframwaith sgiliau digidol hanfodol y DU gan ganolbwyntio ar gefnogi pedwar grŵp blaenoriaeth (pobl hŷn 50+; pobl economaidd anweithgar a di-waith o oedran gweithio; pobl anabl a phreswylwyr tai cymdeithasol). Disgwylir i CDC gyflawni naw dangosydd perfformiad allweddol, gan gynnwys cefnogi 5,000 o bobl yn uniongyrchol drwy ymyriadau dwys a chefnogi 5,000 o staff iechyd a gofal i ymgysylltu â thechnoleg er mwyn gwella canlyniadau iechyd defnyddwyr yn flynyddol.
Yn dilyn proses dendro gystadleuol, darperir y rhaglen gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, gydag elfennau o waith wedi'u his-gontractio i'r Good Things Foundation a Phrifysgol Abertawe.
Nodau ac amcanion yr adolygiad
Penodwyd Ymchwil OB3, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen CDC: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant.
Nodau'r gwerthusiad yw:
- adolygu a chrynhoi'r dystiolaeth bresennol ynghylch y berthynas rhwng cynhwysiant digidol ac iechyd
- adolygu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ffordd y cyflwynwyd y rhaglen
- asesu i ba raddau y mae nodau'r rhaglen wedi'u cyflawni a'r targedau wedi'u cyrraedd
- darparu tystiolaeth o ganlyniadau'r rhaglen i unigolion a'r gwasanaethau y maent yn eu defnyddio
Mae'r gwerthusiad yn cael ei gynnal mewn tri cham allweddol sy'n cynnwys y Gwerthusiad Proses a Damcaniaeth Newid hwn; gwerthusiad interim a gwerthusiad o ganlyniadau; a gwerthusiad terfynol crynodol.
Dull
Mae'r gwerthusiad hwn o brosesau a damcaniaeth newid wedi cynnwys:
- cam cychwynnol, a oedd yn cynnwys cyfarfod cychwynnol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, cyfweliadau cwmpasu gyda chynrychiolwyr Canolfan Cydweithredol Cymru a pharatoi methodoleg a chynllun prosiect wedi'u mireinio
- ymchwil desg, a oedd yn cynnwys dadansoddi dogfennau polisi a dogfennau strategol perthnasol, adolygu dogfennau a llenyddiaeth y rhaglen CDC yn ymwneud â'r berthynas rhwng cynhwysiant digidol ac iechyd a chanlyniadau eraill
- paratoi canllawiau trafod ar gyfer cyfweld â chyfranwyr yn y cam hwn o'r gwerthusiad
- cyfweld â swyddogion Llywodraeth Cymru, a staff a oedd yn cyflawni'r rhaglen o Ganolfan Cydweithredol Cymru, Prifysgol Abertawe a'r Good Things Foundation
- cyfweld â chynrychiolwyr o 20 o sefydliadau sydd wedi cydweithio â CDC
- cyfuno canfyddiadau'r gwaith maes ac ymchwil desg i ddatblygu model rhesymeg Damcaniaeth Newid ar gyfer y rhaglen a pharatoi adroddiad gwerthuso terfynol a adolygwyd gan gymheiriaid
Cyflwynir model Damcaniaeth Newid ar gyfer y rhaglen ym Mhennod 9 yr adroddiad llawn. Mae model sy'n amlinellu'r hyn y disgwyliwyd i CDC ei gyflawni i'w weld yn Ffigur 9.1 ac mae model diwygiedig, sy'n ystyried canfyddiadau'r gwerthusiad proses, i'w weld yn Ffigur 9.2.
Canfyddiadau allweddol
Dylunio a gweithredu'r rhaglen
- Fod polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, pan ddyluniwyd rhaglen gyfredol CDC, yn cefnogi ymyrraeth barhaus gan y sector cyhoeddus i fynd i’r afael ag allgáu digidol a gwella sgiliau digidol sylfaenol ymhlith grwpiau allweddol. Canfuwyd bod dyfodiad pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cynyddu'r angen sylfaenol am y rhaglen CDC ac wedi cryfhau'r achos dros ymyrraeth.
- Bod y sail resymegol dros ganolbwyntio ymyriadau ar y sector iechyd a gofal yn glir ac yn dra hysbys. Roedd hefyd yn briodol i'r rhaglen ennyn diddordeb y cyfranogwyr mewn technoleg newydd drwy ganolbwyntio ar eu hobïau a meysydd o ddiddordeb iddynt. Canfuwyd bod hwn yn ddull effeithiol o ymgysylltu â grwpiau sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.
- Bod parch mawr tuag at y rhaglen CDC, a chydnabuwyd safon ac arbenigedd y tîm cyflawni yn eang.
- Er bod yr adnoddau staffio cyffredinol a ddyrannwyd i'r rhaglen yn briodol, gallai elwa o ymgysylltiad ar lefel uwch o fewn Canolfan Cydweithredol Cymru i gefnogi'r gwaith strategol gyda sefydliadau iechyd yn ogystal â deiliad swydd farchnata penodedig.
- Bod angen ystyried a oes angen gwneud newidiadau eraill i strwythur staffio'r rhaglen yng ngoleuni'r effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar y model gweithredu, megis twf parhaus yn y ddarpariaeth o hyfforddiant rhithiol.
- Bod llawer o ansicrwydd ynghylch elfen newydd o'r rhaglen, sef y Gynghrair Cynhwysiant Digidol, a sut y gall ychwanegu gwerth at y rhaglen a'r agenda cynhwysiant digidol ledled Cymru, o ystyried y diffyg cynnydd a wnaed hyd yma. Mae angen mwy o eglurder a chynnydd dros weddill cyfnod y rhaglen cyn y gellir asesu effeithiolrwydd y Gynghrair.
- Ers COVID-19, bod y gofynion ar y rhaglen gan sefydliadau a'u staff/defnyddwyr wedi newid. Dywedodd llawer o sefydliadau fod eu gallu i ymgysylltu â'r agenda cynhwysiant digidol a CDC wedi lleihau ond at ei gilydd, cynyddodd y galw am gymorth i helpu sefydliadau, staff a defnyddwyr i oresgyn effaith ddigidol COVID-19.
- Ei bod yn rhesymegol i'r rhaglen CDC fod wedi cefnogi cartrefi gofal gyda dyfeisiau ar fenthyg, gan ei bod mewn sefyllfa dda i gyfrannu at yr ymateb brys i COVID-19. Roedd y rhaglen ei hun dan bwysau mawr ond er gwaethaf hyn, ymatebodd i'r her mewn ffordd ystwyth a hyblyg.
- Bod COVID-19 wedi cael effaith weddnewidiol ar gynhwysiant digidol ledled Cymru ac mae angen i'r rhaglen CDC sicrhau ei bod yn parhau i fynd i'r afael â blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg yn gysylltiedig â'r gagendor digidol.
- Bod CDC wedi cyflawni pedwar o'r naw Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) blynyddol yn ystod y flwyddyn gyflawni gyntaf ond wedi tangyflawni yn erbyn y pum DPA arall. Mae'r gwerthusiad yn codi sawl mater sy'n ymwneud â natur a maint DPA y rhaglen ac mae'r adborth yn awgrymu bod angen adolygu'r rhain. Daw'r gwerthusiad i'r casgliad y dylai DPA y rhaglen fod yn fwy strategol a chyd-fynd yn well â'r canlyniadau tymor byr a ddisgwylir gan CDC, a nodir yn y model Damcaniaeth Newid, yn ogystal ag adlewyrchu cwmpas ehangach y rhaglen gyfredol wrth ymateb i'r pandemig COVID-19.
Recriwtio derbynyddion posibl
- Fod y galw wedi bod yn gyson gryf a chynyddol ers dyfodiad y pandemig COVID-19, gyda dibyniaeth gynyddol ar ddulliau recriwtio uniongyrchol ac ymgysylltu rhithiol, yn hytrach nag wyneb yn wyneb, ers mis Mawrth 2020.
- Y bydd yn bwysig bod y rhaglen yn ystyried sut y mae'n parhau i gefnogi'r garfan newydd, ac anhraddodiadol o bosibl, o bobl sydd wedi cael eu hallgáu'n ddigidol ers COVID-19 ac ymchwilio i sut y gall ganolbwyntio ar is-grwpiau penodol ar draws ei phedair carfan flaenoriaeth.
Ymgysylltu â sefydliadau a'u cefnogi
- Fod CDC wedi parhau i ymgysylltu ag ystod eang o sefydliadau ond mae cyfle i'r rhaglen gefnogi a chydweithio â sefydliadau mawr yn y sector preifat i recriwtio darpar dderbynyddion.
- Mai ymgysylltiad ar y lefel weithredol a gafwyd gan sefydliadau'r sector iechyd yn bennaf (e.e. ar lefel ward neu wasanaeth) ac er bod hyn wedi cael ei groesawu ac yn dechrau gwneud gwahaniaeth, mae diffyg tystiolaeth i ddangos bod y gweithgareddau hyn yn arwain at ymgysylltu'n effeithiol â chynrychiolwyr strategol ar lefel uwch o bob rhan o'r sector iechyd. Mae angen i'r rhaglen ystyried sut y gall ddatblygu perthnasoedd strategol ag uwch gynrychiolwyr ar draws y sector iechyd, gan fanteisio ar gymorth eiriolaeth gan swyddogion allweddol Llywodraeth Cymru, uwch staff Canolfan Cydweithredol Cymru yn ogystal ag eiriolwyr cynhwysiant digidol strategol eraill.
- Bod tystiolaeth gychwynnol i awgrymu bod CDC yn gwneud gwahaniaeth i ddulliau gweithredu ac arferion cynhwysiant digidol sefydliadau. Roedd y canlyniadau hyn yn ymwneud yn bennaf â newidiadau ar lefel staff e.e. uwchsgilio staff, newid agweddau staff tuag at dechnoleg; yn ogystal â chaniatáu i sefydliadau roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio a thechnoleg newydd i gefnogi gofal cleifion.
- Yn yr un modd, bod CDC yn cael effaith ar staff a gwirfoddolwyr sydd wedi ymgysylltu â'r rhaglen. Canfu'r gwerthusiad dystiolaeth fod staff a gwirfoddolwyr a oedd wedi ymgysylltu â CDC yn dweud bod eu sgiliau digidol a'u hyder wedi gwella; eu bod mewn gwell sefyllfa i drosglwyddo'r hyn y maent wedi'u ddysgu i eraill; a'u bod yn meddwl yn wahanol am sut y gellid defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi pobl yn eu cymuned.
- Bod y prif ganlyniadau i ddefnyddwyr a nodwyd gan y cyfranwyr yn cynnwys mwy o hyder i ddefnyddio gwahanol fathau o gyfarpar a thechnoleg TG at wahanol ddibenion, gwell iechyd a llesiant ynghyd â llai o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Argymhellion
Mae'r gwerthusiad yn cynnig saith argymhelliad i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth gyflawni'r rhaglen CDC.
Argymhelliad 1
Dylid ystyried canfyddiadau'r gwerthusiad er mwyn llywio blaenoriaethau'r rhaglen dros y cyfnod cyflawni sy'n weddill, gan sicrhau cydbwysedd priodol rhwng cwrdd â'r galw ychwanegol yn gysylltiedig â pholisi ar y naill law a chapasiti'r rhaglen ar y llaw arall.
Argymhelliad 2
Dylid archwilio i ba raddau y bu newid sylweddol yn y diffiniad o allgáu digidol o ganlyniad i COVID-19, a dylid ystyried y dylanwad y gallai hyn ei gael ar weithredu'r rhaglen.
Argymhelliad 3
Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i sut y gellir sicrhau ymgysylltiad strategol a lefel uchel â sefydliadau iechyd, ac ymrwymiad ganddynt, gan ddefnyddio tystiolaeth gadarn am y canlyniadau iechyd a llesiant y gellir eu cyflawni drwy atebion digidol yn ogystal â chymorth eiriolaeth ehangach gan gynnwys cymorth gan Swyddogion Llywodraeth Cymru, uwch staff Canolfan Cydweithredol Cymru, hyrwyddwyr digidol a'r Gynghrair Cynhwysiant Digidol.
Argymhelliad 4
Dylai'r rhaglen adolygu a fyddai budd o wneud newidiadau i'w strwythur staffio yng ngoleuni'r awgrymiadau a gofnodir yn y gwerthusiad hwn a darparu ar gyfer unrhyw effaith barhaus y mae COVID-19 yn ei chael ar gyflawni'r rhaglen.
Argymhelliad 5
Dylid adolygu DPA y rhaglen a ariennir gyda'r nod o bennu allbynnau mwy realistig a chyraeddadwy a dylid ystyried a mabwysiadu nifer fach o DPA yn ymwneud â chanlyniadau ansoddol, sy'n adlewyrchu'n ddigonol waith rheoli asedau ychwanegol a gwaith strategol y rhaglen gyda sefydliadau iechyd.
Argymhelliad 6
Dylid cyflymu'r gwaith o weithredu'r Gynghrair Cynhwysiant Digidol, a sicrhau mwy o eglurder ynghylch ei phwrpas a'i chylch gwaith.
Argymhelliad 7
Dylid ystyried y dystiolaeth y gall CDC ei chasglu i ddangos bod cynllun rheoli asedau'r rhaglen ar gyfer benthyca dyfeisiau, yn arwain at well cysylltedd digidol mewn cartrefi gofal.
Manylion cyswllt
Bryer, N; a Bebb, H; (2020). Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant: Gwerthusiad proses a Damcaniaeth Newid Caerdydd: Llywodraeth Cymru, adroddiad GSR rhif 7/2021
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Siân Williams
Is-adran Cymunedau
Llywodraeth Cymru
Rhyd y Car
Merthyr Tudful
Ffôn: 0300 025 3991
E-bost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru
ISBN 978-1-80082-842-1