Mae'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, wedi cadarnhau bod ail glaf yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf coronafeirws (COVID-19).
Mae'r claf yn byw yn ardal awdurdod lleol Caerdydd ac wedi dychwelyd o ogledd yr Eidal yn ddiweddar, lle'r oedd wedi dal y feirws. Mae'r claf yn cael ei drin mewn lleoliad clinigol addas.
Dywedodd Dr Atherton:
Gallaf gadarnhau bod ail glaf yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf coronafeirws (COVID-19).
Mae'r holl gamau priodol yn cael eu cymryd i ofalu am yr unigolyn ac i leihau'r risg o drosglwyddo'r feirws i eraill.
Gallaf gadarnhau hefyd bod yr ail glaf hwn, fel y claf cyntaf, wedi teithio’n ôl i Gymru o ogledd yr Eidal, lle’r oedd wedi dal y feirws.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle i sicrhau'r cyhoedd bod Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi paratoi'n dda ar gyfer digwyddiad o'r math hwn. Gan weithio gyda'n partneriaid yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig, rydym wedi gweithredu’r ymateb a baratowyd gennym, gan roi mesurau rheoli haint cadarn ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Er mwyn gwarchod cyfrinachedd y claf, ni fydd unrhyw fanylion pellach am yr unigolyn yn cael eu rhyddhau.