Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio
Beth fyddwn yn ei wneud i ddefnyddio potensial pobl hŷn heddiw a chefnogi ein cymdeithas sy'n heneiddio.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y gweinidog
Dechreuodd y gwaith i gydgynhyrchu'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio cyn yr achos cyntaf o COVID-19 pan oedd bywydau pobl hŷn yng Nghymru yn wahanol iawn. Mae'r pandemig wedi cyffwrdd â phawb mewn rhyw ffordd ond mae hyder llawer o bobl hŷn wedi cael ei ysgwyd i'w seiliau. Roedd y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus digynsail yn golygu nad oedd pobl hŷn yn gallu cysylltu â'u teuluoedd a'u ffrindiau nac ymgymryd â rolau gwirfoddoli, swyddi a gwaith cymunedol a gwyddom fod llawer yn nerfus ynglŷn â dychwelyd i normalrwydd. Heb os, bydd yr amharodrwydd hwn yn cael effaith negyddol ar unigolion hŷn, yn ogystal ag ar y teuluoedd, y ffrindiau a'r cymunedau y maen nhw'n eu cefnogi.
Nid oes amheuaeth bod y pandemig wedi newid ein ffordd o fyw ac wedi newid y gwasanaethau rydym yn eu defnyddio. Er bod bywyd yng Nghymru wedi newid yn sylweddol dros y misoedd diwethaf, mae ffocws a gweledigaeth y Strategaeth newydd hon ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn parhau i fod yn berthnasol. Mae creu Cymru o blaid pobl hŷn ac sy'n cynnal hawliau pobl hŷn ac yn hyrwyddo undod rhwng y cenedlaethau yn fwy perthnasol heddiw nag erioed o'r blaen. Felly rydym wedi diweddaru rhannau o'r ddogfen hon i adlewyrchu newidiadau polisi mewn ymateb i COVID-19 a'r ymatebion i'n hymgynghoriad cyhoeddus, ond mae elfennau craidd y strategaeth yn aros yr un fath.
Mae Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio, yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i elwa ar y ffaith bod niferoedd cynyddol o bobl hŷn yn ein cymunedau. Bydd hyn, yn ei dro, yn ein galluogi i gefnogi'n well bobl sy'n byw mewn amgylchiadau heriol. Er mwyn adlewyrchu natur aml ddimensiwn heneiddio a natur croestoriadol profiadau pobl, rydym wedi gweithio ar draws adrannau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r ystod o ffactorau sy'n dylanwadu ar sut yr ydym yn heneiddio - o'n systemau iechyd a thrafnidiaeth i'r ffordd yr ydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Nod y strategaeth yw datgloi potensial pobl hŷn yr oes sydd ohoni a chymdeithas sy'n heneiddio yn y dyfodol.
Mae'r pandemig hefyd wedi datgelu rhai agweddau cadarnhaol ar fywyd yng Nghymru. Er enghraifft, gallu cymunedau i ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd, gallu'r trydydd sector i fod yn hyblyg ac addasu ei wasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion ac ymrwymiad a gwytnwch gweithwyr proffesiynol sy'n gofalu am y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae hefyd wedi gwneud inni ganolbwyntio mwy ar y materion sydd bwysicaf i bobl hŷn, megis mynediad at wasanaethau iechyd, unigrwydd ac ynysigrwydd, camdriniaeth a chynhwysiant digidol.
Er bod llawer ohonom yn gweithio’n hwy nag o’r blaen, yn darparu mwy o ofal di-dâl ac yn treulio mwy o amser yn cyfrannu at ein cymunedau lleol, mae pobl hŷn yn aml yn cael eu portreadu fel baich ar gymdeithas. Mae angen inni newid y ffordd yr ydym yn meddwl ac yn teimlo am heneiddio. Mae pobl hŷn yn drethdalwyr, yn ddefnyddwyr, yn gynghorwyr lleol ac yn berchnogion busnes. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau'r holl bobl hŷn yng Nghymru, gallwn ymwrthod â rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws y cenedlaethau i greu Cymru o blaid pobl hŷn. Mae'n bwysig cofio na ddylai pobl gael eu barnu yn ôl eu gwerth economaidd yn unig - mae gan bawb y gallu i wneud gwahaniaeth.
Dylid dathlu ein cymdeithas sy'n heneiddio
Ni allwn gyflawni ein gweledigaeth o Gymru o blaid pobl hŷn ar ein pen ein hunain - mae cynllunio ymlaen llaw o fudd i bawb. Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yw creu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Nid oes lle i stereoteipiau sy'n dangos rhagfarn ar sail oedran ac yn creu tensiwn rhwng y cenedlaethau. Rwy’n awyddus i ymchwilio i sut y gallwn ddod â phobl o bob oed ynghyd - drwy gymryd camau i gefnogi pobl hŷn heddiw, gallwn greu dyfodol gwell i bawb.
Rwy’n falch bod y strategaeth hon yn mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ar draws ystod o feysydd polisi ac yn rhoi llais pobl hŷn wrth wraidd proses Llywodraeth Cymru o lunio polisïau. Wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio ac wrth i gymunedau ailagor, rhaid inni beidio â chaniatáu i'r pandemig roi cyfle i syniadau ystrydebol bod heneiddio'n gysylltiedig â salwch a dirywiad fwrw gwreiddiau.
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wedi llywio datblygiad y ddogfen hon a byddant yn arwain ei gweithrediad. Nid yw oedran yn lleihau hawl unigolyn i gael ei drin yn deg. Drwy ymwrthod â rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran, ein nod yw creu cymdeithas fwy cyfartal sy'n galluogi pobl o bob oed i gyflawni eu potensial, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.
Mae gwaith i gyd-gyflwyno cynllun cyflawni i gefnogi gweithrediad y Strategaeth hon eisoes ar y gweill. Bydd y cynllun yn ddogfen 'fyw' y gellir ei diweddaru unrhyw bryd, ond bydd adroddiadau cynnydd yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.
Un weledigaeth: Cymru o blaid pobl hŷn
Tair thema drawsbynciol
- Creu Cymru o blaid pobl hŷn
- Blaenoriaethu gwaith atal
- Dull sy'n seiliedig ar hawliau
Pedwar nod
- Gwella llesiant
- Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau
- Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl
- Trechu tlodi sy'n gysylltiedig ag oedran
Name of strategy/plan | Gwella llesiant | Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau | Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl | Trechu tlodi sy'n gysylltiedig ag oedran |
---|---|---|---|---|
Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Cynllun LHDTC+ | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Profedigaeth | Cefnogi polisi | Cefnogi polisi | Cefnogi polisi | Cefnogi polisi |
Strategaeth Drafnidiaeth | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Cymru Iachach | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol |
Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol |
Law yn Llaw at Iechyd Meddwl | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol |
Cymraeg 2050 | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach | Cyfle am gyfraniad ehangach |
Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol | Cyfraniad uniongyrchol |
Pwrpas a Gweledigaeth Hirdymor
Cyflwyniad - y cyfle a'r her
Yng Nghymru, mae'r ddemograffeg ganolog yn rhagfynegi y bydd 1 o bob 4 o'r boblogaeth dros 65 oed ymhen 20 mlynedd (erbyn 2038). Rhagfynegir y bydd y boblogaeth sydd dros 75 oed yng Nghymru hefyd yn cynyddu o 9.3% o'r boblogaeth yn 2018 i 13.7% yn 2038 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2019). Mae'n werth nodi, er gwaethaf y rhagfynegiadau hyn, bod gwelliannau mewn disgwyliadau oes wedi aros yn eu hunfan ers tua 2011 ac ychydig o newid a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Fodd bynnag, bu rhai newidiadau cymdeithasol amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, mae'r amcangyfrif o nifer y bobl sy'n byw ar eu pen eu hunain wedi bod yn cynyddu'n gyson dros y degawd diwethaf. Heddiw, mae pobl 65 oed a hŷn yn cyfrif am 45% o aelwydydd pobl sengl. Dengys ystadegau gan Alzheimer's Reserach UK, fod nifer y bobl ar y gofrestr dementia wedi codi o 9,550 i 13,617 rhwng 2006/07 a 2015/16, cynnydd o 43%. Mae nifer y gofalwyr di-dâl yng Nghymru hefyd yn cynyddu a phobl 65 oed a hŷn yw'r grŵp sy'n tyfu gyflymaf.
Mae'n anochel bod y ffaith bod pobl yn byw yn hwy yn golygu mwy o flynyddoedd o ymddeoliad ac i lawer, mae ymddeol yn gyfle i roi cynnig ar bethau newydd a byw'r bywyd a ddewiswn. Dengys Arolwg Cenedlaethol Cymru fod rhai canlyniadau cadarnhaol i bobl hŷn. Er enghraifft, dywedodd 69% o bobl dros 75 oed eu bod yn teimlo'n rhan o gymuned o gymharu â dim ond 51% o bobl 46 - 64 oed. Mae 35% o bobl 64-75 oed yn gwirfoddoli. Mae 90% o bobl hŷn yn teimlo bod ganddynt reolaeth dros eu bywydau ac mae 80% yn teimlo y gallant wneud yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bobl hŷn yn hirsefydlog. Mae gan Gymru hanes balch a nodedig o weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan. Cyhoeddwyd ein Strategaeth gyntaf ar gyfer Pobl Hŷn yn 2003 a heriodd y strategaeth honno stereoteipiau traddodiadol o bobl hŷn gan annog llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol i ystyried heneiddio fel cysyniad cadarnhaol.
Cydnabu’r Strategaeth gyntaf ar gyfer Pobl Hŷn y gall llywodraethau arwain newid diwylliannol a chreu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi ac yn dathlu ei dinasyddion hŷn. Dyna pam y bu inni sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf y byd yn 2008 i fod yn llais ac yn hyrwyddwr annibynnol i bobl hŷn ledled Cymru. Ni hefyd oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun teithio rhatach cenedlaethol yn 2002.
Mae ein Strategaeth newydd ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn ehangach ei chwmpas na’n strategaethau blaenorol ar gyfer pobl hŷn. Rydym yn fwriadol wedi ymatal rhag diffinio'r oedran pan fyddwn yn dod yn 'berson hŷn' - rydym am i bobl o bob oed ymgysylltu â'r gwaith hwn. Mae'r strategaeth hon hefyd yn cydnabod bod profiadau bywyd a realiti beunyddiol yn amrywio'n fawr i bobl, o'r rhai yn eu 50au i'r rhai yn eu 80au a throsodd. O'r herwydd, mae'r strategaeth hon yn rhychwantu ystod eang o feysydd polisi, o iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn sy'n byw gydag anghenion cymhleth i gefnogi gofalwyr o oedran gweithio a'r economi sylfaenol.
Yn 2018, canfu'r adroddiad, Byw yn Dda yn Hirach: Y ddadl economaidd dros fuddsoddi yn iechyd a llesiant pobl hŷn yng Nghymru, ( Tudur Edwards et al), fod yr amcangyfrif o werth economaidd y cyfraniad a wneir gan bobl hŷn yng Nghymru yn £2.19 biliwn y flwyddyn. Fodd bynnag, mae poblogaeth sy'n heneiddio yn cyflwyno heriau newydd i lywodraethau, cymunedau ac unigolion. Ni ellir anwybyddu effaith Covid 19, anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd dwfn, cyni a'r niferoedd cynyddol o bobl hŷn sy'n byw gyda chyflyrau cymhleth. Drwy weithredu nawr, gallwn fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal rhai pobl hŷn rhag byw'n dda a gwneud y gorau o botensial ein cymdeithas sy’n heneiddio.
Mae gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau Cymraeg, pryd bynnag a ble bynnag y mae eu hangen arnynt, mewn ffordd sy'n addas i'w gallu yn y Gymraeg; creu a chynnal cyfleoedd i ddefnyddio ein hiaith a meithrin gallu o ran sgiliau Cymraeg yn ganolog i greu Cymru sy'n gyfeillgar i oedran a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod polisi iaith Gymraeg yn treiddio drwy bob agwedd ar weithrediad y strategaeth.
Wrth gynllunio ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, mae'n rhaid inni ystyried sut mae technoleg yn newid y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu, y ffordd yr ydym yn byw a'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio ag eraill. Yn y ddogfen hon drwyddi draw, rydym yn darparu enghreifftiau o sut mae technoleg yn newid, neu sut y mae ganddi'r gallu i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru. Mae ein 'Strategaeth Ddigidol i Gymru' (Mawrth 2021) yn amlinellu gweledigaeth ac uchelgais glir ar gyfer dull digidol cydgysylltiedig yng Nghymru. Mae'n nodi cyfres o feysydd blaenoriaeth o dan chwe chenhadaeth sydd, o'u cymryd gyda'i gilydd, yn anelu at gyflymu manteision arloesi digidol i bobl, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau yng Nghymru. Noda'r Strategaeth yn glir y byddwn yn parhau i gymhwyso egwyddorion dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i bobl na allant gyfranogi'n ddigidol, neu sy'n penderfynu peidio â gwneud hynny, er mwyn darparu ffyrdd amgen o gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - llwybrau mynediad amgen a fydd cystal â'r rhai a gynigir ar-lein.
Un weledigaeth
Mewn unrhyw ymdrech ar y cyd mae eglurder o ran pwrpas yn allweddol. Mae manteisio ar y cyfleoedd ac ymateb i heriau cymdeithas sy'n heneiddio yn gofyn i bawb dynnu i'r un cyfeiriad. Mae'r cyfeiriad arfaethedig hwnnw wedi'i amlinellu isod.
Ein Gweledigaeth yw Cymru o blaid pobl hŷn sy'n cefnogi pobl o bob oed i fyw a heneiddio'n dda.
Rydym eisiau creu Cymru lle mae pawb yn edrych ymlaen at heneiddio. Cymru
lle y gall unigolion gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u llesiant eu hunain a theimlo'n hyderus y bydd cymorth ar gael, a hynny'n gyfleus, os bydd ei angen.
Cymru lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial nac yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y mae pobl hŷn yn eu cael.
Yn y pen draw, rydym eisiau bod yn genedl sy'n dathlu oedran ac, yn unol ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, a bod yn genedl sy'n cynnal annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunanfoddhad ac urddas pobl hŷn bob amser.
Mae'r weledigaeth genedlaethol hon ar gyfer Cymru o blaid pobl hŷn yn cwmpasu'r lleoedd y mae pobl yn gweithio, eu hawliau, eu perthnasoedd gyda'u teuluoedd a'u cymunedau lleol a chyda llywodraethau. Mae hefyd yn cwmpasu'r perthnasoedd sydd gennym ar draws y cenedlaethau a'i nod yw herio a newid y ffordd rydym yn meddwl am heneiddio.
Pedwar nod
Er mwyn sbarduno cynnydd tuag at y weledigaeth hon, rydym wedi gosod pedwar nod cenedlaethol. Y nodau hyn yw canolbwynt y strategaeth, a'r modd y bydd ei llwyddiant yn cael ei farnu yn y pen draw. Mae'r nodau'n cyd-fynd â phedwar maes Mynegai Age Watch y DU a gomisiynwyd yn benodol i gefnogi gweithrediad y strategaeth hon:
- Gwella llesiant
- Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau
- Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl
- Trechu tlodi sy'n gysylltiedig ag oedran
Drwy ganolbwyntio ar y nodau hyn, ein nod yw cefnogi pobl i fyw'r bywyd a ddewiswyd ganddynt heb ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu effaith niweidiol yn sgil rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran. Mae'r nodau'n cyfrannu at ein hymrwymiad yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i 'greu Cymru rydym i gyd eisiau byw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol' drwy ganolbwyntio'n benodol ar heneiddio. Rydym am i bob sector o gymdeithas, unigolion a chymunedau Cymru ymuno â ni i ystyried y camau y dylent eu cymryd i gynllunio ar gyfer eu dyfodol eu hunain ac i'n cefnogi i gyflawni ein gweledigaeth genedlaethol o Gymru o blaid pobl hŷn.
Tair thema drawsbynciol
Nid yw'r tair thema a ganlyn yn dod o dan un adran benodol gan eu bod yn berthnasol i'r ddogfen gyfan.
Thema 1: creu Cymru o blaid pobl hŷn
Mae'r ymateb byd-eang i boblogaeth sy'n heneiddio wedi bod yn gam tuag at greu cymunedau a dinasoedd o blaid pobl hŷn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi bod byd o blaid pobl hŷn yn galluogi pobl o bob oed i gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau cymunedol ac yn trin pawb â pharch, beth bynnag eu hoedran. Mae adroddiad 2018 y sefydliad, sy'n dwyn y teitl 'The Global Network for Age-friendly Cities and Communities' yn ymhelaethu ar hyn:
By making cities and communities age-friendly, we ensure that cities and communities are inclusive and equitable places that leave no one behind – especially the most vulnerable older people. Equitable societies, in turn, have benefits for everyone.
Yn 2010, lansiodd Sefydliad Iechyd y Byd ei Rwydwaith Byd-eang ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o blaid pobl hŷn. I ddod yn aelod o'r Rhwydwaith, rhaid i arweinwyr lleol ymrwymo i'r pedwar cam a'u gweithredu:
- ymgysylltu â rhanddeiliaid a'u deall, gan gynnwys pobl hŷn
- cynllunio'n strategol i alluogi'r holl randdeiliaid i ddatblygu cydweledigaeth
- rhoi cynllun gweithredu a waith
- mesur cynnydd y dull gweithredu o blaid pobl hŷn yn ogystal â'i effaith ar fywydau pobl
Mae'r camau hyn yn cyd-fynd â phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a dull gweithredu yn seiliedig ar hawliau ac yn gallu cefnogi cyrff cyhoeddus i'w hymgorffori. Maent yn darparu fframwaith i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i greu perthnasoedd newydd â dinasyddion a sbarduno symudiad diwylliannol tuag at ffordd fwy cydgynhyrchiol o ddylunio a darparu gwasanaethau.
Rydym am i Gymru fod yn rhan o'r symudiad byd-eang hwn tuag at gymunedau o blaid pobl hŷn ac rydym yn bwriadu gweithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i annog a chefnogi sefydlu cymunedau o blaid pobl hŷn ledled Cymru. Bydd cynnydd cyson ar y cyd ar lefel leol, o'i gyfuno, yn arwain at gynnydd sylweddol yn genedlaethol. Yn 2021-22, rydym yn darparu £550,000 rhwng awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i sicrhau eu bod o blaid pobl hŷn.
Thema 2: blaenoriaethu gwaith atal
Mae'r cynnydd mewn disgwyliad oes yng Nghymru wedi aros yn ei unfan yn ystod y blynyddoedd diwethaf ynghyd â'r cynnydd mewn 'disgwyliad oes iach.' Ar hyn o bryd mae gwahaniaeth o tua 18 mlynedd o ran disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf ac ardaloedd â'r amddifaded lleiaf. Os ydym am gyrraedd ein nod o gefnogi pob person hŷn yng Nghymru i fyw a heneiddio'n dda, rhaid inni flaenoriaethu gwaith atal, nid yn unig mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol traddodiadol, ond ar draws pob penderfynydd llesiant.
Gall gwaith atal ac ymyrraeth gynnar atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Gallant hefyd gefnogi pobl sy'n byw mewn amgylchiadau heriol i ymdopi'n well. Mae'r fenter o blaid pobl hŷn yn ymyrraeth ataliol. Mae'r rhaglen yn cefnogi cymunedau lleol i gymryd rheolaeth a chwarae mwy o ran wrth addasu eu hamgylchedd lleol i weddu'n well i'w ffordd o fyw. Mae hefyd yn cefnogi llunwyr polisïau i nodi lle mae angen iddynt flaenoriaethu adnoddau er mwyn dylunio gwasanaethau sy'n cadw pobl yn iach am gyfnod hwy. Mewn cyfnod pan fo cyllidebau cyhoeddus mor dynn, ni all y sector cyhoeddus fforddio anwybyddu'r ffactorau allweddol sy'n gwneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd pobl a'r ffactorau sydd bwysicaf iddynt.
Drwy greu cymunedau, cartrefi, systemau trafnidiaeth a lleoedd awyr agored sy'n galluogi pobl i heneiddio'n dda, ein nod yw cefnogi poblogaeth Cymru i fyw bywydau iach a chyflawn cyhyd ag y bo modd. Gall gwaith atal ac ymyrraeth gynnar hefyd roi'r sgiliau a'r wybodaeth i alluogi pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u llesiant eu hunain. Gall y symudiad tuag at Gymru o blaid pobl hŷn hefyd chwarae rhan allweddol mewn grymuso unigolion i gymryd rheolaeth dros eu ffordd o fyw ac, yn y pen draw, pa mor dda y maent yn heneiddio.
Mae'r ffocws hwn ar waith atal a gweithredu ar y cyd yn cyd-fynd yn agos â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r gofyniad y mae'n ei roi ar gyrff cyhoeddus i 'feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.'
Thema 3: dull sy'n seiliedig ar hawliau
Mae Hawliau Dynol yn hawliau cyffredinol a chydnabyddedig i bawb fel y nodir yn Neddf Hawliau Dynol 1998. Daeth y Ddeddf i rym yn y DU yn y flwyddyn 2000. Mae hawliau dynol yn wahanol i'r agenda llesiant ond mae cyfatebiaeth glos rhyngddynt ac maent yn feincnod clir ynghylch natur annerbyniol triniaeth waradwyddus a diraddiol i unrhyw un ohonom. Mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i drin pobl yn deg, yn gyfartal, gydag urddas, parch ac ymreolaeth.
Mae oedran yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n golygu na ellir trin pobl yn wahanol oherwydd eu hoedran. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhan o'r Ddeddf Cydraddoldeb. Ei nod yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn ystyried sut y gallant gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach. Mae'r ddyletswydd yn sylfaen i wneud penderfyniadau cadarn. Mae'n annog cyrff cyhoeddus i ddeall sut y bydd eu polisïau a'u gwasanaethau yn effeithio ar wahanol grwpiau o bobl â nodweddion gwarchodedig penodol.
Gall codi ymwybyddiaeth o hawliau hefyd rymuso pobl i gymryd rheolaeth a chydnabod pan fydd eu hawliau dan fygythiad. Gall diffinio hawliau dynol mewn termau syml rymuso pobl hŷn i herio a newid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru, ond mae codi ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith gweithwyr proffesiynol yr un mor bwysig.
Mae dull sy'n seiliedig ar hawliau yn cael ei lywio a'i arwain gan y fframwaith cyfreithiol a amlinellir uchod a gall drawsnewid bywydau pobl. Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn hefyd wedi llywio datblygiad y strategaeth hon a byddant yn arwain ei gweithrediad. Mabwysiadwyd yr Egwyddorion ar gyfer Pobl Hŷn gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym mis Rhagfyr 1991 ac er nad yw'r egwyddorion yn creu rhwymedigaethau cyfreithiol newydd, mae llywodraethau'n cael eu hannog i'w hymgorffori yn eu rhaglenni cenedlaethol lle bynnag y bo modd. Mae'r adroddiad 'Gwireddu Hawliau Dynol i Bobl Hŷn' a gyhoeddwyd yn 2016 ac a ddrafftiwyd gan yr Athro Simon Hoffman, yn darparu fframwaith trosfwaol ar gyfer hawliau dynol pobl hŷn mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae egwyddorion Dull o Weithredu Hawliau Pobl Hŷn fel a ganlyn:
- ymgorffori hawliau dynol pobl hŷn
- grymuso pobl hŷn
- peidio â gwahaniaethu a chydraddoldeb
- cyfranogiad
- atebolrwydd
Mae pob un o'r elfennau hyn i'w gweld yn amlwg yn y ddogfen hon drwyddi draw - rydym yn anelu at ddangos sut y byddwn yn cynnal dull sy'n seiliedig ar hawliau drwy rymuso pobl hŷn i gael dewis a rheolaeth dros sut y maent yn teithio, ble y maent yn byw ac yn gweithio, eu hincwm ac, yn y pen draw, y dewisiadau y maent yn eu gwneud wrth gynllunio ar gyfer camau diweddarach bywyd. Yng Nghymru, mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a safonau'r Gymraeg, yn darparu'r hawl i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg beidio â chael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae angen i sefydliadau cyhoeddus hefyd ystyried effaith eu penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil sy’n archwilio ‘Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru’ (Hoffman S et al, 2021). Mae canfyddiadau’r ymchwil yn amlinellu dulliau i gryfhau a gwella cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, ac mae’r adroddiad yn cynnwys 40 o argymhellion ar gyfer diwygio deddfwriaeth, polisi a chanllawiau, neu fathau eraill o ddiwygiadau, er mwyn diwallu’r amcan hwn.
Er mwyn cynnal a diogelu hawliau pobl hŷn ymhellach, rydym yn ymgorffori egwyddorion ffeministaidd ar draws polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru drwy'r Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau yng Nghymru.
Datgelodd ein hymgysylltiad â phobl hŷn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsrywiol a Chwiar/Cwestiynu (LHDTC+) a Phobl Dduon Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig fod unigolion o'r ddau grŵp yn teimlo'n fwyfwy pryderus am y newid mewn agweddau tuag at grwpiau ymylol oherwydd Brexit, sgil-effeithiau sgandal Windrush a chynnydd mewn grwpiau asgell dde eithafol ledled Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu mai Cymru fydd y genedl fwyaf LHDTC+ gyfeillgar yn Ewrop. Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ newydd ym mis Gorffennaf 2021, sy'n amlinellu ein penderfyniad i gyflawni'r uchelgais hanesyddol hon.
Ni chyflawnwyd cydraddoldeb hiliol yng Nghymru eto ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn bryd gweithredu ar fyrder. Ar y cyd ag arweinwyr polisi, partneriaid a rhanddeiliaid rydym wedi datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol sy'n cynnwys gweledigaeth ar gyfer y newid yr ydym eisiau ei weld ar gyfer y gwaith hwn. Ein gweledigaeth yw i Gymru fod yn wlad gwrth-hiliol, lle mae pawb yn cael ei drin fel dinesydd cyfartal. Rydym wedi comisiynu Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i gynnal adolygiad o'r rhwystrau, yr heriau a'r penderfyniadau a gymerir gan aelodau o'r cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig pan fydd angen gofal a chefnogaeth ffurfiol arnynt.
Mae Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol yn canolbwyntio ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mwy o gydraddoldeb yng Nghymru. Yn sail i'r fframwaith cyfan mae'r 'Model Cymdeithasol o Anabledd', sy'n cydnabod yr angen i drawsnewid cymdeithas drwy gael gwared ar rwystrau er mwyn i bobl anabl allu chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. Er nad yw pob person hŷn yn anabl, mae'r siawns o gael nam gweithredol yn cynyddu gydag oedran. Felly bydd pobl hŷn ag anabledd hefyd yn elwa o'r dull ehangach hwn o fyw'n annibynnol.
Mae'n bwysig nodi nad yw llawer o unigolion yn profi un math o wahaniaethu ar ei ben ei hun. Gallai rhagfarn ar sail oedran waethygu teimladau o ddieithrwch a brofir gan bobl sy'n byw gyda nodweddion gwarchodedig eraill fel anabledd, hil neu gyfeiriadedd rhywiol. Drwy ein cynllun cyflawni, byddwn yn ystyried sut y gallwn weithio ar draws adrannau'r llywodraeth i fynd i'r afael â natur groestoriadol gwahaniaethu ac anfantais.
Gwireddu hawliau mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Rydym eisoes yn cymryd cyfres o gamau i 'wireddu hawliau i bobl hŷn.' Ym mis Tachwedd 2019 lansiwyd ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl hŷn a gofalwyr yn ymwybodol o'u hawliau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rydym hefyd wedi gweithio gyda phobl hŷn a phartneriaid allweddol i gyd-gynhyrchu canllawiau ymarferol gan ddangos sut y gall gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau. Mae'n dangos sut y gall newidiadau syml i'r ffordd rydym yn gweithio amddiffyn hawliau dynol unigolyn a chael effaith fawr ar ei lesiant. Cynhyrchodd y grŵp hefyd fersiwn o'r canllawiau hyn i bobl hŷn. Y bwriad yw y bydd y ddwy ddogfen hon yn cael eu defnyddio gyda'i gilydd i arwain sgyrsiau a chreu dealltwriaeth gyffredin o effaith drawsnewidiol dull sy'n seiliedig ar hawliau.
Yn 2021-22, rydym yn ymgymryd â rhaglen waith i hyrwyddo hawliau pobl hŷn ymhellach a byddwn yn nodi'r camau hyn yn ein cynllun cyflawni ategol a gaiff ei gyhoeddi erbyn diwedd 2021.
Mae'r misoedd diwethaf wedi tynnu sylw at rôl hanfodol hawliau dynol i lunwyr polisïau sydd â'r dasg o gydbwyso hawliau dinasyddion â'r angen i'w hamddiffyn rhag Covid-19. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio â'r Comisiynydd Pobl Hŷn a Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i fonitro ei effaith ar bobl hŷn a chymryd camau priodol. Rydym wedi rhannu manylion y data gwyddonol a'r ymgysylltu a lywiodd benderfyniadau'n ymwneud â phobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal a byddwn yn parhau â'r berthynas waith hon i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu cryfhau wrth inni gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran
Mae dileu rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran yn hanfodol er mwyn creu Cymru o blaid pobl hŷn. Mae ymwybyddiaeth fyd-eang o effaith rhagfarn ar sail oedran ar unigolion a chymdeithasau yn cynyddu. Yn 2020 comisiynodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) adroddiad fel rhan o'i ymgyrch Fyd-eang i Frwydro yn erbyn Rhagfarn ar Sail Oedran. Canfu'r adroddiad, sy'n dwyn y teitl: Global reach of ageism on older persons’ health: A systematic review fod rhagfarn ar sail oedran yn niweidio iechyd pobl hŷn mewn 45 o wledydd ac ar draws 5 cyfandir. Cymerodd dros 7 miliwn o bobl ran yn yr astudiaeth.
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn 2018 gan Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd, That age old question: how attitudes to ageing affect our health and wellbeing, wedi cysylltu rhagfarn ar sail oedran ag agwedd negyddol tuag at heneiddio. Yn yr un modd â mathau eraill o wahaniaethu, mae rhagfarn ar sail oedran wedi'i wreiddio'n ddwfn yn normau ac arferion diwylliannol ein cymdeithas, gan gynnwys yn yr iaith a ddefnyddiwn. Yn ystod y pandemig, mae pobl hŷn wedi lleisio eu hofnau bod naratif sy'n dangos rhagfarn ar sail oedran wedi ymwreiddio mewn deialog gyhoeddus a bod stereoteipio negyddol sy'n dangos rhagfarn ar sail oedran, mewn perthynas â grwpiau oedran iau a hŷn, yn cyfrannu at hollt rhwng y cenedlaethau.
Rydym yn croesawu gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn ac Age Cymru i ganolbwyntio'n benodol ar ragfarn ar sail oedran a byddwn yn gweithio gyda nhw i ddeall achosion ac effaith hyn yn well er mwyn gwireddu ein nod o sicrhau Cymru sy'n fwy cyfartal.
Ein nod hefyd yw adnabod rhagfarn ar sail oedran a gwahaniaethu ar sail oedran drwy ein proses asesu polisïau. Mae holl bolisïau Llywodraeth Cymru yn destun Asesiad Effaith Integredig llawn, sy'n rhoi ystyriaeth lawn i'w heffaith ar bob aelod o gymdeithas. Rydym yn adolygu ein hofferyn asesu integredig a byddwn yn ymgysylltu â chomisiynwyr, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid.
Beth yw'r sefyllfa bresennol? Meincnodi sefyllfa pobl hŷn yng Nghymru
Mynegai oedran y DU
Yn 2019, comisiynwyd y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe, a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Mynegai Global AgeWatch i feincnodi sefyllfa pobl hŷn yng Nghymru yn erbyn 3 gwlad arall y DU - Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Diweddarwyd y mesur hwn yn 2021.
Defnyddiodd y Ganolfan ar gyfer Heneiddio Arloesol ystod o fesurau i greu Mynegai Oedran y DU. Mae'r canlyniadau ar gyfer Mynegai Oedran cyffredinol y DU yn dangos bod Cymru yn y safle 1af, gyda'r sgôr gyffredinol uchaf, yna'r Alban (2il), Lloegr (3ydd), a Gogledd Iwerddon yn olaf (4ydd). Mae hyn yn dangos ein bod yn gwneud llawer o bethau yn dda a dylem ymfalchïo yn y ffaith bod tystiolaeth glir i'w gweld o'n hymrwymiad i gefnogi pobl hŷn.
I gyd-fynd â'r Strategaeth hon, rydym wedi cyhoeddi canlyniadau llawn Mynegai Age UK ac adroddiad sy'n meincnodi sefyllfa pobl hŷn yng Nghymru.
Strategaeth wedi'i chyd-gynhyrchu er mwyn ymgysylltu ymhellach
Mae'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio wedi'i chyd-gynhyrchu gyda phobl hŷn a'u cynrychiolwyr. Mae hyn yn golygu bod pobl hŷn wedi cyfrannu at greu'r ddogfen hon o'r cychwyn cyntaf - maent wedi llywio ei dyluniad a'i datblygiad ac yn y pen draw byddant yn rhan o'i chyflawni.
Arweiniwyd y gwaith cychwynnol gan Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio y mae ei haelodaeth yn cynnwys 50% o bobl hŷn. Yn 2018 fe wnaeth y fforwm gynnull pum gweithgor i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol yr oedd yr aelodau’n teimlo bod yn rhaid inni eu cael yn iawn wrth gynllunio ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio: trafnidiaeth; cyfranogiad; tai; gwireddu hawliau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Roedd aelodau’r gweithgorau’n cynnwys pobl hŷn, academyddion blaenllaw, a chynrychiolwyr o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat. Cynrychiolwyd y Comisiynydd Pobl Hŷn ar bob grŵp hefyd.
Er mwyn adeiladu ar y gwaith a gychwynnwyd gan Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio, dros y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom gynnwys dros 1000 o bobl hŷn mewn sgwrs am heneiddio. Fe wnaethom ymweld â grwpiau cenedlaethol a fforymau lleol a chymerodd pobl hŷn ran hefyd mewn digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned wedi'u harwain gan Age Cymru. Fe wnaethom hefyd gomisiynu Age Cymru i gynnal grwpiau ffocws gyda phobl hŷn o grwpiau lleiafrifol. Yn ystod y pandemig fe wnaethom barhau i ymgysylltu â phobl hŷn drwy Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio, y Comisiynydd Pobl Hŷn ac arolygon o brofiadau pobl hŷn yn ystod y cyfyngiadau symud dan arweiniad Age Cymru a phum sefydliad pobl hŷn cenedlaethol - Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA), Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, y Fforwm Pensiynwyr Cenedlaethol, Cymru Egnïol a Senedd Pobl Hŷn Cymru. Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â staff awdurdodau lleol sy'n arwain ar bolisi ar gyfer pobl hŷn. Bydd hyn yn caniatáu inni fonitro'r cynnydd tuag at Gymru o blaid pobl hŷn ar lefel leol.
Mae gwaith i gynhyrchu'r strategaeth hon hefyd wedi cynnwys Gweinidogion a swyddogion o bob un o bortffolios y llywodraeth. Mae'r broses wedi gwneud inni ganolbwyntio mwy ar heneiddio a byddwn yn cynnal y momentwm hwn ac yn adeiladu arno er mwyn sicrhau bod ein gweledigaeth hirdymor i fod yn genedl o blaid pobl hŷn yn cael ei gwireddu.
Mae'r strategaeth hon yn canolbwyntio ar y pethau mawr a'r pethau bychain - y newidiadau yr ydym yn eu gwneud ar lefel system, er enghraifft i'n gwasanaethau iechyd a thrafnidiaeth, ond hefyd y pethau llai y mae pobl hŷn yn dweud wrthym sy'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau beunyddiol megis mynediad ar adegau amrywiol i apwyntiadau meddygon teulu, cludiant i'r ysbyty ac argaeledd toiledau cyhoeddus.
Cyfeirir at yr holl faterion hyn yn y ddogfen hon ac rydym yn parhau i ymgysylltu â'n rhanddeiliaid i ddrafftio cynllun cyflawni a fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2021.
Nod 1: Gwella llesiant
Mae ein system iechyd a gofal yn newid ac yn gwella er mwyn diwallu'r newid yn anghenion ein poblogaeth, sy'n cynyddu ac yn heneiddio. Yn unol â'n huchelgais i fod yn genedl o blaid pobl hŷn sy'n cynnal ac yn diogelu hawliau pobl, rydym yn gweithio i greu system iechyd a gofal cymdeithasol gwbl integredig sy'n cefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd a'u llesiant eu hunain gan deimlo'n hyderus y bydd cefnogaeth ar gael, a hynny'n gyfleus, os oes angen.
Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a lansiwyd yn 2016, yn ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau drwy ddeddfu i ddinasyddion fod yn bartner cyfartal yn eu gofal a'u cymorth. Mae 'Cymru Iachach,' a gyhoeddwyd yn 2018, yn nodi gweledigaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer 'gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu drwy un system gyfan'. Mae'n rhoi mwy o bwyslais ar atal salwch, ar gynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, ac ar alluogi pobl i fyw'n annibynnol cyhyd ag y bo modd, gyda chymorth technolegau newydd a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig a ddarperir yn agosach at adref.
Rydym wedi buddsoddi adnoddau ariannol sylweddol mewn gwaith atal ac ymyrraeth gynnar drwy'r Gronfa Gofal Integredig ers ei sefydlu yn 2014-15. Eleni rydym yn buddsoddi £89 miliwn arall yn y gronfa hon; mae £40 miliwn o hynny ar gyfer cefnogi pobl hŷn yn uniongyrchol. Mae ein buddsoddiad parhaus yn y gronfa bwysig hon yn ein galluogi i ddatblygu ystod eang o brosiectau a gwasanaethau i gefnogi pobl hŷn; mae llawer ohonynt wedi'u hanelu at leihau unigrwydd ac ynysigrwydd a chadw pobl allan o'r ysbyty neu ofal preswyl. Drwy ffyrdd newydd o weithio, darperir gofal yn aml yn y cartref, neu'n agos ato, fel y gall pobl barhau i fyw gartref yn annibynnol ac aros yn rhan o'r gymuned.
Yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, roedd y Gronfa Gofal Integredig i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, mae'r Gronfa Gofal Integredig (a'r Gronfa Trawsnewid) ill dwy wedi'u hymestyn tan fis Mawrth 2022 i ganiatáu amser i ddatblygu rhaglen gyllido ranbarthol newydd. Bydd yr estyniad hwn yn galluogi pobl hŷn ledled Cymru i barhau i elwa ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, di-dor.
Yn allweddol i gyflawni ein nod o greu Cymru o blaid pobl hŷn mae sefydliadau'r trydydd sector. Mae'r trydydd sector yn darparu gwasanaethau ataliol i rai o'r bobl hŷn sydd fwyaf ar y cyrion yn ein cymunedau. Gall eu gwasanaethau fod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion unigol a gallant rymuso pobl hŷn i reoli eu llesiant waeth beth fo'u hamgylchiadau unigol. Mae Cam 2 Grant i'r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy 2020 - 23 gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi blaenoriaethau Gweinidogion Cymru i gael perthynas newydd a chyfartal rhwng pobl ac ymarferwyr; ymyrraeth gynnar ac atal; a thrawsnewid y ffordd y mae anghenion gofal a chymorth pobl yn cael eu diwallu. Bydd llawer o'r prosiectau a ariennir yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth hon a chyfeirir at rai ohonynt yn y ddogfen hon.
Ar hyn o bryd rydym yn gwella llesiant drwy:
- Gefnogi rhaglenni a mentrau heneiddio'n iach - nod ein Rhaglen Heneiddio'n Iach yw cynyddu gweithgaredd pobl hŷn, gwrthdroi dirywiad corfforol ac eiddilwch, a helpu pobl i fyw'n annibynnol wrth iddynt heneiddio. Mae hefyd yn ceisio addysgu a grymuso pobl sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth i ddeall manteision bod yn egnïol yn ogystal â chynnwys yr elfen gymdeithasol sydd yr un mor bwysig. Drwy'r Gronfa Iach ac Egnïol, rydym wedi ymrwymo £5.4 miliwn dros dair blynedd i brosiectau sy'n cefnogi ffyrdd o fyw iach ac egnïol. Mae ein Strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn anelu at sicrhau bod yr amgylchedd yn galluogi pobl i wneud dewisiadau iachach, yn ogystal ag annog cyfleoedd i bobl hŷn fod yn iach ac yn egnïol. Mae'r pandemig Covid-19 wedi dangos pwysigrwydd y strategaeth, a bod canlyniadau gwaeth yn gysylltiedig â phwysau a dewisiadau'n ymwneud â ffordd o fyw ar draws ein poblogaeth. Bydd Cronfa Adfer Chwaraeon a Hamdden gwerth £14 miliwn yn cefnogi'r sector gyda'r heriau parhaus sy'n deillio o'r pandemig ac yn darparu cynaliadwyedd tymor hwy.
- Cyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol i fynd i'r afael ag arwahanrwydd.
- Targedu ymyriadau tuag at ardaloedd â lefelau uchel o amddifadedd a grwpiau lleiafrifol - mae rhai grwpiau ac unigolion y mae angen angen cymorth wedi'i dargedu arnynt, am amrywiol resymau, er mwyn cael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn cydnabod anghenion ein carfan o garcharorion hŷn yng Nghymru. Drwy'r Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd Carchardai (pob oed), rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safonau newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl (sy'n cynnwys ffocws ar ddementia), fframwaith trin camddefnyddio sylweddau, rheoli meddyginiaethau a rôl amgylchedd ehangach y carchar wrth gefnogi dynion yn y carchar i wella eu canlyniadau iechyd. Drwy ein Grant i'r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy 2020/23, rydym yn ariannu Women Connect First i wella mynediad at wasanaethau ataliol ar gyfer menywod hŷn o leiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae'r sefydliad yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ddarparu gweithgareddau wedi'u cydgynhyrchu sy'n briodol yn ddiwylliannol ac sy'n cefnogi'r menywod i fyw a heneiddio'n dda. Bydd hefyd yn treialu hyn mewn rhannau eraill o Gymru er mwyn datblygu model i'w gyflwyno'n genedlaethol. Rydym hefyd yn ariannu Prosiect HOPE i geisio cefnogi pobl hŷn a gofalwyr i gael mynediad at wasanaethau ataliol yn y gymuned drwy ystod o fodelau eiriolaeth wedi'u harwain gan gyfoedion, grwpiau gwirfoddol a dinasyddion. Rydym yn darparu cyllid i Race Equality First er mwyn ymgysylltu â phobl o leiafrifoedd ethnig o bob oed drwy waith eirioli un-i-un; boreau coffi galw heibio a hyrwyddwyr gwirfoddol wedi'u hyfforddi mewn eiriolaeth.
- Ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at wasanaethau Cymraeg a defnyddio eu Cymraeg ar ba gam bynnag y maent ar eu taith gyda'r iaith - rydym am greu amgylchedd lle bydd pawb eisiau defnyddio eu Cymraeg ac yn teimlo'n gyfforddus i wneud hynny ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae hyn yn bwysig i bob gwasanaeth, ond hyd yn oed yn fwy felly ym maes iechyd a gofal gan y gall ansawdd y gofal gael ei gyfaddawdu yn sgil peidio â chyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf. I lawer o bobl hŷn mae defnyddio eu Cymraeg yn fater o angen clinigol, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o ddementia neu strôc a allai golli eu sgiliau Saesneg.
- Ymgorffori dull tosturiol yn ein Cymunedau - drwy edrych ar iechyd a lles o safbwynt croesawu dinasyddiaeth ac empathi cymunedol, gan gefnogi ein dinasyddion yn uniongyrchol i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol anghydraddoldeb cymdeithasol ac ymyleiddio y gellir eu priodoli i farw, marwolaeth, profedigaeth a cholled. Mae ein siarter Cymru Garedig yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi pobl sy'n byw gyda chyflyrau cymhleth sy'n cyfyngu ar fywyd ar ddiwedd eu hoes a sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgais i wneud Cymru yn Wlad Garedig.
- Cydnabod pwysigrwydd gofal diwedd oes o ansawdd uchel drwy sefydlu rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes i ddarparu mwy o gyfeiriad canolog ac i gefnogi trawsnewid gwasanaethau yn lleol.
- Rhoi ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia ar Waith Mae'r cynllun yn ymwreiddio dull clir sy'n seiliedig ar hawliau ac er mwyn cefnogi ei weithrediad, fe wnaethom ymrwymo £10 miliwn bob blwyddyn o 2018/19 ymlaen. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu i sicrhau bod y camau gweithredu yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn berthnasol.
- Atal cwympiadau drwy gefnogi ystod o weithgareddau yn genedlaethol ac yn lleol i helpu i atal cwympiadau mewn cartrefi gofal, lleoliadau cymunedol ac ysbytai.
- Gwella cartrefi gofal drwy weithio gyda Gwelliant Cymru i gyflawni'r 'rhaglen Cartrefi Gofal Cymru'. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar dri maes allweddol - gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r teulu; diogelwch a dibynadwyedd ac arweinyddiaeth a gwaith tîm.
- Recriwtio rhagor o feddygon teulu drwy lansio'r ymgyrch farchnata Gwlad, Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw, yn y DU ac yn ehangach.
Sut y gall technoleg helpu i sbarduno gwelliant
Gall sicrhau bod pobl yn ddigidol hyderus gael effaith sylweddol ar lesiant drwy gefnogi pobl i reoli eu gofal iechyd yn annibynnol. Drwy ein rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Ein rhaglen Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, ein nod yw sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael i wella hyder digidol dinasyddion a staff rheng flaen ym mhob sector.
Weithiau, mae afiechydon yn effeithio ar ein gallu i siarad. Felly rydym wedi ariannu'r gallu i greu lleisiau synthetig wedi'u personoli yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd y rhain yn ein galluogi i ddefnyddio peiriant synthesis lleferydd wedi'i bersonoli, yn seiliedig ar ein llais dynol ein hunain os ydym yn colli'r gallu i siarad (er enghraifft, oherwydd canser y gwddf).
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y maes hwn yw:
1. Cymorth i ofalwyr di-dâl
Cymru sydd â'r gyfran uchaf yn y DU o ofalwyr hŷn a gofalwyr sy'n darparu mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Ers dechrau'r pandemig, mae mwy o bobl wedi ysgwyddo rôl ofalu - mae pobl wedi symud tŷ, wedi gadael eu teuluoedd neu wedi rhoi'r gorau i weithio i ofalu am berthnasau neu ffrindiau a'u diogelu. Mae'r lliaws o ofalwyr di-dâl wedi helpu gwasanaethau allweddol yng Nghymru i ymdopi â'r pwysau cynyddol yn sgil Covid-19.Wrth i'n cymdeithas heneiddio, mae nifer y bobl sy'n byw gydag anghenion cymhleth yn cynyddu. Felly mae'n anochel y bydd mwy o bobl hŷn yn ymgymryd â rôl ofalu. Nid dim ond rheidrwydd economaidd yw sicrhau bod cymorth ataliol ar gael i ofalwyr. Mae'n elfen allweddol o Gymru o blaid pobl hŷn sy'n ceisio cefnogi pob dinesydd i fyw a heneiddio'n dda.
Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom gyhoeddi Strategaeth newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a chyhoeddi cyllid o £3 miliwn i gynyddu amrywiaeth a mynediad at wasanaethau seibiant ledled Cymru. Rydym yn gweithio gyda gofalwyr ac aelodau o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr i gyhoeddi cynllun cyflawni i ategu'r strategaeth erbyn diwedd 2021.
Gwella mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Mae nifer cynyddol o wasanaethau iechyd a llesiant yn symud yn agosach at gartrefi pobl wrth inni helpu i greu Cymru Iachach. Er bod y pandemig Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar ddarparu gwasanaethau'r GIG a gofal cymdeithasol ac wedi newid y ffordd y mae'r cyhoedd yn cael mynediad at ofal iechyd, mae'r weledigaeth a nodwyd gennym yn Cymru Iachach yn parhau i fod yn gadarn. Byddwn yn parhau i gefnogi pobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi eu hunain, mewn ysbytai, mewn cartrefi gofal, mewn llety â chymorth neu mewn lleoliadau eraill, gan adeiladu ar ffyrdd newydd o weithio ac arloesi lle bo hynny'n briodol. Er enghraifft, roedd defnyddio technoleg fel rhan allweddol o'r ymateb i Covid-19 wedi helpu i ddarparu dewisiadau amgen i ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, lleihau'r angen i deithio a sicrhau bod pobl yn cadw mewn cysylltiad â'i gilydd.
Byddwn yn gwella mynediad at wasanaethau ymhellach drwy:
- Weithredu ar ganfyddiadau'r gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a ddechreuodd yn 2018. Oherwydd y pandemig diweddar, roedd angen oedi'r gwerthusiad dros dro, ond ailddechreuodd y gwaith ym mis Medi 2020 a bydd nawr yn cynnwys elfen ychwanegol sy'n canolbwyntio ar effeithiau Covid-19. Bydd yr adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2022, fodd bynnag, bydd nifer o adroddiadau interim allweddol hefyd yn cael eu cyhoeddi rhwng nawr a hynny.
- Cyhoeddi Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn casglu'r un data i ddangos eu bod yn cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd gofyn i awdurdodau lleol goladu data ar nifer yr asesiadau o anghenion gofal a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn lle roedd tystiolaeth o Gynnig Rhagweithiol i gynnal asesiad yn Gymraeg, lle y derbyniwyd y cynnig a lle y cynhaliwyd yr asesiad gan ddefnyddio dewis iaith yr unigolyn.
- Gwella mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol gan gynnwys meddygon teulu - mae Model Gofal Sylfaenol Cymru yn helpu pobl i ddeall sut i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach ac i aros yn annibynnol ac yn eu cartref cyhyd ag y bo modd. Ymhlith y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu mae gwaith atal, gwasanaeth 24/7, y gweithlu amlbroffesiwn, data a thechnoleg ddigidol, cyfathrebu ac ymgysylltu, gweithio mewn clystyrau a diwygio'r contractau gofal sylfaenol cenedlaethol.
- Ym mis Mawrth 2019, fe wnaethom gyflwyno safonau mynediad newydd ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu, yr ydym yn disgwyl i feddygfeydd eu cyrraedd erbyn mis Mawrth 2021. Ym mis Mawrth 2020, roedd dros hanner y Practisau yng Nghymru yn cyrraedd pob safon.
- Adolygu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol - rydym yn croesawu'r cyllid ychwanegol a mwy diogel a ddisgwylir ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2022. Bydd y rhain yn dod yn ardoll iechyd a gofal cymdeithasol o fis Ebrill 2023, ond rhaid inni aros am ganlyniad Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant Llywodraeth y DU cyn cael unrhyw sicrwydd ynghylch union swm y cyllid y bydd Cymru'n ei gael o ganlyniad. Bydd y grŵp Rhyng-Weinidogol ar dalu am ofal a fu’n cyfarfod yn rheolaidd yn ystod tymor diwethaf y Senedd yn ailymgynnull. Bydd y Grŵp yn ystyried y ffordd ymlaen o ran atebion penodol Cymreig a fydd yn bodloni'r gwahanol amgylchiadau a'r gwahanol sefyllfa yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth. Yn y Papur Gwyn, cynigiwyd ailgyfeirio arferion comisiynu tuag at reoli’r farchnad a chanolbwyntio ar ganlyniadau. Mae gan gomisiynu rôl allweddol yn y system gofal cymdeithasol wrth ddatblygu a darparu’r gofal a’r cymorth sydd ei angen ar bobl i sicrhau bod eu hawliau sylfaenol yn cael eu gwireddu. Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys ymrwymiad i sefydlu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol. Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu grwpiau technegol yn yr Hydref i gydgynhyrchu’r Fframwaith a rhoi cyngor ar sut y dylai egwyddorion a safonau cydraddoldeb a hawliau dynol gael eu cynnwys yn y fframwaith.
- Talu am ofal - mae Gofal Cymdeithasol yn fater datganoledig, ac mae'n bwysig iawn bod ein darpariaeth gofal cymdeithasol yn addas i ddiwallu anghenion Cymru. Bydd angen ystyried goblygiadau cynigion Llywodraeth y DU yn fanwl, gan gynnwys eu diwygiadau arfaethedig i'r drefn codi tâl am ofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr. Mae'r rhain yn cynnwys materion trawsffiniol a allai fod yn gymhleth, a sut mae cynigion Llywodraeth y DU yn rhyngweithio â'r system les a budd-daliadau. Nid yw'r rhain yn faterion datganoledig, ond maent yn cael effaith sylweddol ar bobl Cymru.
- Ceisio cynyddu'r cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol drwy ddatblygu modelau cyllido arloesol i sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer gofal cymdeithasol yn y tymor hwy. Mae hyn yn rhan o'n hystyriaeth ehangach o'r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu yng Nghymru.
- Cyhoeddi fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru Cefnogir y fframwaith gan grant cymorth profedigaeth o £1m a bydd yn cynnwys safonau cenedlaethol, enghreifftiau o fodelau cymorth profedigaeth presennol, a'r hyn a ddysgwyd o COVID-19.
2. Gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl
Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, ein strategaeth 10 mlynedd, a gyhoeddwyd yn 2012, yn strategaeth ar gyfer pob oedran. Mae'n atgyfnerthu'r angen i hyrwyddo gwell llesiant meddyliol ymhlith y boblogaeth gyfan ac mae'n ceisio mynd i'r afael ag anghenion pobl â phroblemau iechyd meddwl, gan sicrhau bod y bobl hynny sy'n agored i niwed sydd â'r anghenion mwyaf yn cael y flaenoriaeth briodol. Mae'n canolbwyntio ar sut i wella bywydau defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd gan ddefnyddio dull adfer a galluogi. Cefnogir y strategaeth hon gan gyfres o gynlluniau cyflawni gyda'r un olaf yn cwmpasu'r cyfnod 2019-2022.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn?
Nodwyd y tri maes hyn drwy ymgynghori â phobl hŷn a'u cynrychiolwyr a ddywedodd wrthym bod cael apwyntiadau gyda meddygon teulu (Cynghrair Henoed Cymru, 'Mynediad pobl hŷn i wasanaethau meddyg teulu') a theithio i apwyntiadau ysbyty yn gallu bod yn heriol. Nododd arolwg Age Cymru o brofiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig fod mynediad at arolwg iechyd a gofal cymdeithasol yn bryder allweddol. Rydym hefyd yn gwybod y gall pobl ei chael hi'n anodd gwneud y cysylltiad cyntaf hwnnw â gwasanaethau gofal a chymorth awdurdodau lleol. Yn unol â'n dull ataliol sy'n seiliedig ar hawliau, mae'n hanfodol ein bod yn cael y pethau hyn yn iawn. Mae'r data demograffig a barn ein rhanddeiliaid fel ei gilydd yn dangos yn glir bod angen gwell cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Gofal: 10 -14; Urddas 17 ac 18.
Nod 2: Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau
Mae tai, systemau trafnidiaeth a'r amgylchedd adeiledig yn cael effaith sylfaenol ar ba mor dda yr ydym yn byw ac yn heneiddio. Mae sicrhau ein bod yn cael yr elfennau hanfodol hyn o'n cymdeithas yn iawn yn ffactor sy'n diffinio pa mor llwyddiannus yr ydym wrth gyflawni ein gweledigaeth o Gymru o blaid pobl hŷn. Beth bynnag fo'n cefndir, ein hiechyd neu'n statws incwm, gall ein cartrefi, ein bysiau, ein trenau a'n cymunedau lleol ddylanwadu ar ba mor dda yr ydym yn byw a pha mor dda yr ydym yn ymdopi ag unrhyw amgylchiadau heriol wrth inni heneiddio.
Tai
Mae Ffyniant i Bawb yn cydnabod mai sylfeini byw'n dda yw cartref fforddiadwy o ansawdd da. Gall tai addas ddod yn fwyfwy pwysig wrth inni heneiddio, wrth i'n hanghenion newid ac wrth inni dreulio mwy o amser gartref. Fodd bynnag, wrth gynllunio ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, mae'n hanfodol ystyried anghenion a dyheadau tai pobl o bob oed.
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn nodi y dylai pobl hŷn allu byw mewn amgylcheddau sy'n ddiogel y gellir eu haddasu i ddewisiadau personol a galluoedd sy'n newid. Yn unol â'n dull sy'n seiliedig ar hawliau, rydym yn gweithio i sicrhau bod tai yng Nghymru yn cefnogi pobl i fyw'n dda ar bob cam o'u bywydau. O ystyried y cysylltiad rhwng tai ac iechyd, rhaid ystyried tai fforddiadwy o ansawdd da fel ymyrraeth ataliol.
Dylai'r maes tai gydnabod yr ystod amrywiol o anghenion ledled Cymru. Rydym am ddarparu tai mewn cymunedau sy'n galluogi pobl hŷn, beth bynnag eu cefndir, eu sefyllfa ariannol neu eu hamgylchiadau, i gyflawni eu potensial ac i fyw bywydau ystyrlon. Gall tai o ansawdd gwael greu risg i iechyd a gwaethygu cyflyrau iechyd hirdymor ac mae llawer o bobl hŷn yn ei chael hi'n anodd fforddio atgyweirio neu wella'r cartrefi y maent yn byw ynddynt.
Ar hyn o bryd, er mwyn adeiladu tai ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio, rydym yn:
Adolygu ein cyflenwad tai fforddiadwy a sicrhau bod yr holl dai newydd sy'n cael eu hariannu drwy grant gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â'r Safonau Cartrefi Gydol Oes.
- Trechu tlodi tanwydd. Lansiodd Llywodraeth Cymru ei chynllun newydd i drechu tlodi tanwydd ar 2 Mawrth. Mae'n gosod targedau uchelgeisiol ond rhai y gellir eu cyflawni ar gyfer lleihau tlodi tanwydd ymhellach erbyn 2035. Mae gwaith pellach wedi dechrau i asesu lefel tlodi tanwydd yng Nghymru yn 2021, a fydd yn llywio targedau dros dro ar gyfer tlodi tanwydd i'w hychwanegu at y cynllun.
- Buddsoddi £104 miliwn yn y Rhaglen Cartrefi Clyd rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2021 i wella hyd at 25,000 o gartrefi ychwanegol i bobl ar incwm isel neu sy'n byw yn y rhannau o Gymru lle ceir yr amddifadedd mwyaf. Byddwn yn ymgynghori ar fersiwn nesaf y rhaglen hon a chynigion i barhau â Pheilot Cyflyrau Iechyd Cynllun Nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd. Bydd hyn yn parhau â'r gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael i aelwydydd hŷn drwy'r cynllun peilot. Disgwylir i'r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd ddod i rym yng ngwanwyn 2023.
- Gwella mynediad ac argaeledd cartrefi fforddiadwy drwy adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy newydd erbyn 2021 a gweithio gydag awdurdodau lleol i ddechrau adeiladu nifer sylweddol o dai cyngor yn gyflym am y tro cyntaf ers degawdau.
- Sicrhau bod gan bobl hŷn fynediad cyfartal i addasiadau amserol o ansawdd da sy'n cefnogi eu hannibyniaeth, waeth beth yw eu deiliadaeth tai.
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth ar gyfer tai yw:
1. Cefnogi twf modelau tai newydd
Byddwn yn cefnogi twf modelau tai newydd sy'n cefnogi pobl i heneiddio'n dda. Bydd hyn yn cynnwys tai gwarchod cyfoes a thai gofal ychwanegol.
2. Cydlynu rhaglenni cyfalaf ar gyfer tai, iechyd a gofal cymdeithasol
Rydym yn gweithio'n agos â'r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn ogystal â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddarparu rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf sydd â'r gallu i ehangu yn unol â'r anghenion i sicrhau bod tai yn chwarae rhan arwyddocaol yng ngwaith y Byrddau. Credwn fod rhagor o gyfle i ymestyn byw'n annibynnol, gwneud y mwyaf o gyfraniad ymyriadau tai i wella'r modd y darperir gwasanaethau, gan liniaru'r pwysau ar y GIG a gofal cymdeithasol hefyd.
3. Sicrhau bod tai yng Nghymru o safon dderbyniol
Mae tua £60m yn cael ei wario bob blwyddyn ar addasiadau tai, ac mae llawer ohonynt yn gwneud gwelliannau sylweddol i gyflwr y stoc dai. Mae mwyafrif helaeth y defnyddwyr gwasanaethau dros 50 oed. Rydym hefyd yn buddsoddi'n sylweddol mewn datrysiadau tai ataliol drwy Raglen Gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig, gwerth £145 miliwn dros 4 blynedd, a'n Grant Tai Cymdeithasol, gwerth £250 miliwn yn 2021-22. Pobl hŷn yw prif fuddiolwyr prosiectau cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig sy'n cynnwys 300 o unedau gofal ychwanegol. Hyd yn hyn, mae'r Grant Tai Cymdeithasol wedi ariannu 53 o gynlluniau gofal ychwanegol, gan ddarparu 2,500 o unedau i bobl hŷn.
Sut y gall technoleg ysgogi gwelliant
Mae Sefydliad Awen (www.aweninstitute.com) yn brosiect gwerth £3.5 miliwn a ariennir ar y cyd rhwng y Comisiwn Ewropeaidd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dechreuodd y prosiect yn 2019 a thros y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi bod yn datblygu cyfleuster 'Labordy Byw' o'r radd flaenaf ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe, lle y gall rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys ymchwilwyr, pobl hŷn a'r diwydiannau creadigol ddod ynghyd i ddatblygu a phrofi cynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau newydd ar gyfer poblogaethau sy'n heneiddio. Mae'r gofod yn cynnwys ffug-gartref y gellir ei addasu hefyd i efelychu amgylcheddau mewnol eraill e.e. gweithleoedd neu siopau; 'gardd realiti rhithwir' i efelychu amgylcheddau allanol a phrofi technolegau realiti rhithwir newydd; a 'labordy Gaffi' sy'n ofod hamddenol ar gyfer cynnal gweithdai a 'chyd-greu' syniadau ymchwil gyda gwahanol grwpiau o bobl a busnesau.
4. Ymchwilio i sut i helpu pobl i symud
“Maen nhw'n adeiladu'r lleoedd gofal ychwanegol hyn ac rydym i gyd yn meddwl ein bod ni'n rhy ifanc, yna rydych chi'n cyrraedd 85 oed ac rydych chi'n rhy hen i symud!” (Un o fynychwyr digwyddiad ymgysylltu).
Y prif ddiwylliant yng Nghymru yw i bobl hŷn aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd. Fodd bynnag, mae angen i bobl ystyried a ellir addasu eu llety i weddu i'r newidiadau yn eu hanghenion cyn i argyfwng ddigwydd neu cyn i'w hamgylchiadau newid sy'n golygu nad yw aros lle y maent bellach yn opsiwn ymarferol. Gallai cefnogi pobl sy'n dymuno symud i wneud hynny gynyddu'r stoc dai sydd ar gael i'r cenedlaethau iau hefyd.
Roedd mynychwyr ein grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda phobl hŷn o grwpiau lleiafrifol yn cydnabod y gall symud tŷ fod yn broses feichus iawn ac roeddent yn teimlo y byddai rhyw fath o eiriolwr, i gynorthwyo rhywun i symud o gymorth mawr. Ychwanegodd aelodau'r grŵp mai'r preswylwyr ddylai wneud unrhyw benderfyniadau ynghylch y posibilrwydd o symud.
Ar hyn o bryd mae Gofal a Thrwsio Cymru yn treialu gwasanaeth 'Help i Symud' ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Sir Gaerfyrddin. Mae'n darparu gwasanaeth cwnsela a chefnogaeth emosiynol sy'n caniatáu i bobl asesu eu hanghenion tai ac ystyried gwahanol opsiynau.
Bydd gwerthuso'r prosiectau hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr am yr angen am wasanaethau Help i Symud. Byddant hefyd yn ein helpu i ddeall sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar lefel gymunedol ac a yw'r gwasanaeth yn llwyddo i wella annibyniaeth, iechyd a llesiant.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn?
Byddwn yn parhau i weithredu argymhellion y Grŵp Arbenigol ar Ddarparu Tai ar gyfer Poblogaeth sy'n Heneiddio - mae pob un o'r blaenoriaethau'n ymwneud ag argymhelliad yn yr adroddiad.
Yn gyffredinol, roedd mynychwyr ein digwyddiadau ymgysylltu yn croesawu'r syniad o fynd i dai â chymorth neu gartref gofal preswyl, pe bai angen, ond byddent yn hoffi cadw eu hannibyniaeth (fel arall roeddent yn rhagweld y byddent yn aros yn eu cartrefi cyhyd ag y bo modd, gyda chymorth ac addasiadau priodol). Dywedodd y mynychwyr wrthym y byddent yn hoffi parhau i gyfrannu at gymdeithas cyhyd ag y bo modd, ond gallai tai mewn lleoliadau gwael atal pobl rhag treulio amser yn eu cymuned leol a chyfrannu ati.
Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Annibyniaeth 5 a 6.
Mannau agored ac adeiladau
Er mwyn cefnogi ein dull sy'n seiliedig ar hawliau, rhaid i'r amgylchedd adeiledig fod yn ffafriol ac yn ddiogel i bobl hŷn gerdded ynddo a rhaid i adeiladau cyhoeddus fod yn gwbl hygyrch i bawb. Mae ein fframwaith newydd, “Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw'n Annibynnol” a'r cynllun gweithredu ategol yn nodi sut rydym yn mynd i'r afael â rhwystrau cymdeithasol i gydraddoldeb a chynhwysiant er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad i'r un cyfleoedd â phawb arall. Mae'n cefnogi creu cymunedau o blaid pobl hŷn ledled Cymru a byddwn yn cysoni gweithrediad y strategaeth hon â chamau'r cynllun gweithredu lle bo hynny'n briodol.
Ar hyn o bryd, er mwyn gwella mannau agored ac adeiladau, rydym yn:
- Buddsoddi mewn teithio llesol drwy ddarparu cyllid i awdurdodau lleol ddylunio a datblygu llwybrau sy'n cefnogi pobl i gerdded a beicio i ble bynnag y maent am fynd. Ar gyfer 2021-22 rydym wedi dyfarnu £75 miliwn o gyllid teithio gweithredol i awdurdodau lleol i gefnogi creu a chynnal llwybrau teithio llesol. Mae rhan o'r cyllid hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol uwchraddio llwybrau presennol lle mae angen mân addasiadau i gael gwared ar beryglon baglu neu rwystrau.
- Gwella mannau gwyrdd er mwyn i drigolion lleol allu elwa o'r manteision iechyd a llesiant sy'n gysylltiedig â mwy o gysylltiad ag amgylcheddau naturiol a gwell mynediad at fannau gwyrdd lleol.
- Cynnwys pobl leol yn y gwaith o wella eu cymunedau drwy barhau i gefnogi'r Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol yng Nghymru sy'n galluogi grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol a thirfeddianwyr i helpu pobl i gael mynediad at fannau gwyrdd yn eu hardaloedd lleol, bod yn berchen arnynt a'u gwella.
Mae Grangetown Werddach yn gynllun draenio cynaliadwy ôl-osod ar raddfa fawr sydd â'r nod o wneud yr ardal leol yn lle glanach a gwyrddach i fyw ynddo. Bu'r gymuned leol yn rhan o'r gwaith o ddylunio a datblygu'r cynllun. Mae'r cynllun yn brosiect partneriaeth arloesol gwerth £2 filiwn rhwng Cyngor Caerdydd, Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r prosiect yn defnyddio'r technegau draenio cynaliadwy diweddaraf i ddal, glanhau a dargyfeirio dŵr glaw yn uniongyrchol i Afon Taf yn hytrach na'i gasglu a'i bwmpio wyth milltir i waith trin dŵr ym Mro Morgannwg ac yna ei ollwng i'r môr. Dyma'r tro cyntaf i'r technegau hyn gael eu hôl-osod i amgylchedd trefol ar y raddfa hon.
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth yw:
1. Sicrhau bod ein hamgylchedd adeiledig yn ddiogel ac yn gyfeillgar i oedran
Rydym yn bwrw ymlaen â diwygio deddfwriaeth bresennol fel y gall swyddogion gorfodi awdurdodau lleol gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer cerbydau sy'n rhwystro'r droedffordd ac yn edrych ar gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 20 mya mewn ardaloedd preswyl. Gyda'r ddau fesur hyn ar waith, bydd yn haws i boblogaeth sy'n heneiddio symud o amgylch eu cymunedau, gan y byddant yn fwy diogel ac yn teimlo'n fwy diogel.
2. Gwella argaeledd toiledau cyhoeddus
Fe wnaethom gyflwyno gofyniad i bob awdurdod lleol ddarparu dull strategol o ddarparu toiledau ledled Cymru. Rydym hefyd wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i fapio'r toiledau a nodwyd yn y strategaethau toiledau lleol, ac mae hwn ar gael ar-lein.
Ar ôl inni oresgyn yr heriau sylweddol y mae'r ymateb i'r pandemig hwn yn parhau i'w cyflwyno, byddwn yn ailedrych ar ein dull o ddarparu toiledau cyhoeddus i asesu'r ffordd fwyaf effeithiol a diogel ymlaen.
Drwy'r rhaglen cymunedau o blaid pobl hŷn a'n cefnogaeth i grwpiau a fforymau pobl hŷn, byddwn yn mynd ati i sicrhau bod llais pobl hyn yn cael ei glywed pan fydd awdurdodau lleol yn cynllunio gwasanaethau allweddol, megis toiledau cyhoeddus. Er enghraifft, mae pobl hŷn wedi dweud wrthym y gellid gwneud llawer mwy i annog busnesau megis siopau a chaffis i agor eu toiledau i'r cyhoedd.
3. Ailfywiogi canol ein trefi
Byddwn yn ail-lunio ac yn ail-lansio'r holl raglenni cyfalaf adfywio presennol o 2021 fel un Gronfa Trawsnewid Trefi i greu canol trefi sy'n darparu swyddi, cartrefi, hamdden a gwasanaethau, ond sydd hefyd yn edrych yn wych, yn teimlo'n ddiogel, yn hawdd eu cyrraedd ac yn fywiog. Dylai canol trefi yng Nghymru ennyn ymdeimlad o falchder a dathlu eu treftadaeth unigol. Rydym eisiau creu profiad, a gwneud trefi yn lleoedd lle mae pobl eisiau bod.
Gall canol trefi bywiog a chyffrous ddenu pobl o bob oed. Fodd bynnag, i bobl hŷn, yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain, mae'n bosibl mai cyswllt wyneb yn wyneb mewn siopau a swyddfeydd post yw'r unig sgwrs a gânt drwy'r dydd. Gall swyddfeydd post, banciau a siopau hefyd gyfyngu ar effaith ein byd digidol ar bobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn?
Mae argaeledd toiledau cyhoeddus yn bryder cyson i lawer o bobl hŷn - nododd nifer o bobl yn ein digwyddiadau ymgysylltu a'n cyfarfodydd fod toiledau yn ffactor arwyddocaol o ran p'un a oedd pobl yn dewis gadael eu cartref neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Esboniodd un person “heb fynediad i doiledau cyhoeddus mae pobl yn ei chael hi'n fwyfwy anodd gadael y cartref ac integreiddio i fywyd y pentref.” Mae tystiolaeth yn dangos pwysigrwydd gwneud ein strydoedd a'n palmentydd yn fwy diogel ac yn fwy cyfeillgar i oedran. Er enghraifft, mae pobl dros 60 oed yn cyfrif am 20% o boblogaeth y DU, tuag 8% o weithgaredd cerddwyr, ond eto'n cyfrif am 41.5% o'r holl farwolaethau ymysg cerddwyr (Musselwhite C.B.A. 2018). Gall palmantau sydd wedi'u cynnal a'u cadw'n wael, cyfleusterau croesi gwael a goleuadau gwael, ymhlith pethau eraill, gyfrannu at y ffigur hwn (Musselwhite C.B.A, 2018).
Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Annibyniaeth 5.
Trafnidiaeth
Gall trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol hygyrch fod yn achubiaeth i bobl o bob oed ac yn aml mae'n cael ei nodi fel blaenoriaeth gan grwpiau pobl hŷn ac unigolion sy'n bobl hŷn.
Mae'n hanfodol ein bod yn creu system drafnidiaeth o blaid pobl hŷn sy'n hygyrch i bob person hŷn. Mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn cefnogi datblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cymunedau lleol a gallant ganiatáu i bobl hŷn wireddu eu hawl ddynol i annibyniaeth, cyfranogiad, gofal a hunanfoddhad. Fodd bynnag, gall toriadau i wasanaethau bysiau lleol a diffyg cydgysylltu rhwng rhwydweithiau bysiau a threnau wneud hyd yn oed teithiau byr yn anodd i bobl hŷn. Gall arwyddion, seddi a thoiledau cyhoeddus o ansawdd gwael hefyd wneud i bobl hŷn deimlo'n llai hyderus ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae COVID-19 wedi cael cryn effaith ar y galw am wasanaethau teithio. Mae hyn, ynghyd â chyngor parhaus Llywodraeth Cymru y dylai pobl weithio gartref lle bynnag y bo modd a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dim ond pan nad oes unrhyw ddull arall o deithio ar gael, wedi golygu blaenoriaethu ein cyllid i gefnogi ein diwydiant bysiau drwy'r cyfnod anodd hwn ac mae hynny'n golygu bod blaengynllunio wedi bod yn heriol iawn. Fodd bynnag, yr un yw ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer trafnidiaeth integredig, sef:
- Darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n ddiogel, yn ddibynadwy, yn brydlon, yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn hygyrch, ac sy'n diwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio.
Ar hyn o bryd, er mwyn creu rhwydwaith teithio cyhoeddus integredig, rydym yn:
- Gwella hygyrchedd - mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £200 miliwn ar draws yr holl orsafoedd rheilffordd yng Nghymru i greu mynediad heb risiau, gwell ystafelloedd aros, cysgodfannau, toiledau, goleuadau a seddi. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gwella'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig i bobl y mae angen cymorth arnynt ar eu teithiau. Rydym hefyd yn buddsoddi £25 miliwn i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau bysiau a hygyrchedd ar fysiau.
- Cyflwyno deddfwriaeth newydd mewn perthynas â Thrafnidiaeth Gyhoeddus a fydd yn rhoi'r modd i awdurdodau lleol ymateb yn hyblyg i anghenion trafnidiaeth gyhoeddus lleol.
- Ail-lunio rhwydwaith bysiau Cymru mewn ymateb i COVID-19. Lansiwyd Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru 2021 ar ôl ymgynghori'n sylweddol â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys pobl hŷn a'r rhai sy'n eu cynrychioli. Y brif weledigaeth ar gyfer y strategaeth yw system drafnidiaeth fwy 'hygyrch a chynaliadwy' sy'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau yn y Strategaeth ar Gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio.
- Parhau i gynnig teithio am ddim ar fysiau i bobl dros 60 oed - Mae'r cynllun prisiau rhatach gorfodol yn golygu y gall pobl dros 60 oed, neu'r rhai sy'n bodloni meini prawf cymhwysedd ar gyfer anabledd y Llywodraeth, deithio am ddim ar y mwyafrif o wasanaethau bysiau yng Nghymru. Mae'r cynllun, sydd wedi bod yn llwyddiannus ers ei gyflwyno yn 2002, bellach wedi'i ymestyn i gynnig gostyngiad ar brisiau tocynnau teithio neu deithio am ddim ar lawer o wasanaethau'r rheilffordd.
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth ar gyfer trafnidiaeth yw:
1. Datblygu trafnidiaeth sy'n fwy ymatebol i'r galw
Gall trafnidiaeth gymunedol fod yn ffactor sy'n penderfynu a all unigolyn barhau i fyw'r bywyd o'i ddewis ynteu a fydd yn cael ei ynysu'n gymdeithasol ac mewn perygl o fod yn unig. Mae'n darparu gwasanaeth ataliol allweddol ac mae'n elfen graidd o unrhyw gymuned sydd o blaid pobl hŷn.
Rydym eisiau ymchwilio i sut y gallwn integreiddio trafnidiaeth gymunedol i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cynorthwyo pobl i gyrraedd y gwaith ac apwyntiadau iechyd hanfodol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn ariannu prosiectau peilot newydd. Mae Tasglu'r Cymoedd yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru i benderfynu sut olwg fydd ar y cynlluniau peilot ac i ymchwilio i hyfywedd cynnal rhagor o gynlluniau yn yr ardal hon. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn bwriadu ystyried sut i wneud gwell defnydd o fysiau bach nad ydynt yn cael eu defnyddio am rannau helaeth o'r dydd, megis gwasanaethau cludiant i'r ysgol.
Mae Trafnidiaeth i Gymru yn treialu menter trafnidiaeth gymunedol “fflecsi” ledled Cymru mewn lleoliadau gwledig a threfol a fydd yn helpu i ddeall lle Fflecsi a theithio sy'n ymateb i'r galw fel rhan o'r gyfres o fesurau i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru.
2. Gwella gwasanaethau bysiau
Rydym wedi neilltuo £2.5 miliwn ar gyfer Diwygio'r Rhwydwaith Bysiau. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu inni wneud gwell defnydd o ddata i lywio ein buddsoddiad yn y dyfodol. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth werthfawr am sut y gallwn barhau i wella profiad teithwyr. Er mwyn ein cefnogi i ddatblygu ein gweledigaeth integredig ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddysgu mwy am y teithiau a wnânt.
Byddwn yn cyflwyno bysiau o ansawdd uchel yng Nghymru y gellir eu rhedeg ar ynni gwyrdd ac sydd â thechnoleg gyfoes gan gynnwys mynediad at Wi-Fi a phwyntiau gwefru.
3. Cefnogi pobl i gynllunio teithiau o ddrws i ddrws
Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym eu bod, yn y dyfodol, yn disgwyl i bobl allu cynllunio eu gwasanaethau 'o ddrws i ddrws' yn hyderus y bydd y strydoedd, y palmentydd, cyfleusterau mewn gorsafoedd a gwybodaeth yn eu cynorthwyo i gyrraedd eu cyrchfan yn ddiogel. Dyma ein gweledigaeth ar gyfer system drafnidiaeth o blaid pobl hŷn. Mae'r adran flaenorol wedi amlinellu sut rydym yn gwella ein hamgylchedd adeiledig i gefnogi'r nod hwn, ond rydym hefyd yn datblygu platfform technoleg cenedlaethol newydd a fydd, yn y dyfodol, yn caniatáu inni weithredu datrysiad prynu tocynnau drwy gyfrifon ar gyfer bysiau, trenau, llogi beiciau, parcio a theithio a mynediad at fathau eraill o drafnidiaeth. Y system hon fydd yn gosod y sylfaen ar gyfer sut mae pobl ledled Cymru yn talu am fysiau yng Nghymru ac yn cael mynediad atynt yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn edrych ar roi trefniadau cryfach ar waith ar gyfer rhwydwaith bysiau TrawsCymru i ddarparu gwasanaethau o ansawdd gwell a chysylltiadau gwell â gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau allweddol eraill mewn hybiau a chyfnewidfeydd pwysig.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn?
Mae gwella argaeledd gwasanaethau bysiau lleol bob amser yn cael ei nodi fel blaenoriaeth yn ein hymgysylltiad ehangach â phobl hŷn - fe wnaethom ofyn i'r cyfranogwyr 'beth sydd bwysicaf i chi?' a thrafnidiaeth oedd yr ymateb mwyaf poblogaidd. Adlewyrchwyd hyn yn nhrafodaethau ein gweithgor trafnidiaeth. Mae ystadegau sy'n dangos effaith cyni ar wasanaethau bysiau lleol yn ategu ein penderfyniad. Fe wnaeth y gweithgor hefyd flaenoriaethu'r angen i gynorthwyo pobl i gynllunio eu teithiau o ddrws i ddrws er mwyn caniatáu i bobl â symudedd cyfyngedig ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus.
Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Annibyniaeth 5.
Nod 3: Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl
Cyfranogiad cymunedol
Cyfranogiad cymunedol yw'r broses lle mae unigolyn yn ymgysylltu â gweithgareddau lleol a allai fod o fudd iddynt hwy a'u cymuned.
Mae mathau effeithiol o gyfranogiad cymunedol yn dibynnu ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau ac yn gallu arfer eu hawliau. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bobl gael eu grymuso a'u galluogi i ymgysylltu'n weithredol â phethau sy'n effeithio arnynt hwy neu ar eu cymuned a dylanwadu ar y pethau hynny. Dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n ystyrlon i'r unigolyn. Fodd bynnag, i gymunedau ac unigolion difreintiedig, gall diffyg adnoddau a chyfleoedd lesteirio cyfranogiad cymunedol.
Mae galluogi pobl hŷn i gymryd rhan yn effeithiol mewn gweithgaredd cymunedol yn gofyn am gefnogaeth a chyfranogiad ystod eang o bobl a sefydliadau. Efallai na fydd gan bobl hŷn yr hyder na'r adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, neu efallai eu bod yn wynebu rhwystrau i gael gafael ar wybodaeth. Gall hyn fod yn waeth mewn cymunedau sydd wedi colli gwasanaethau cymunedol allweddol traddodiadol megis banciau, siopau, swyddfeydd post a chanolfannau cymunedol a arferai weithredu fel canolfannau cymunedol anffurfiol.
Mae ymchwil wedi canfod bod pobl hŷn sy'n teimlo bod ganddynt 'bwrpas' yn fwy tebygol o gael profiad positif o heneiddio. I rai, gallai pwrpas ddeillio o waith, ond yn eu hymateb i'r ymgynghoriad, mae Cymdeithas Seicolegol Prydain hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i ystyried 'gweithgaredd ystyrlon' yn hytrach na dim ond gwaith.
Gwyddom y gall cau lleoliadau cymunedol, toriadau i wasanaethau trafnidiaeth lleol a grwpiau sy'n cael eu harwain gan y trydydd sector gyfyngu'n ddifrifol ar allu pobl hŷn i gymryd rhan mewn gweithgaredd cymunedol. Er mwyn lliniaru effaith cyni a'r pandemig, mae awdurdodau lleol yn ystyried ffyrdd newydd o weithio. Mae hyn yn cynnwys ail-ddylunio gwasanaethau rheng flaen; datblygu partneriaethau newydd gyda dinasyddion a chanolbwyntio mwy ar fesurau ataliol. Mae'n hanfodol bod llywodraethau cenedlaethol a lleol yn arwain sgyrsiau anodd rhwng cyrff statudol a dinasyddion am newidiadau mewn cyfrifoldebau. Mae Covid-19 wedi sicrhau bod y materion hyn yn flaenaf ym meddyliau'r cyhoedd. Mae'r pandemig wedi annog unigolion i ailedrych ar eu rôl yn eu cymunedau ac wedi ei gwneud yn ofynnol i bob sector addasu a datblygu ffyrdd newydd o weithio.
Yn unol â dull ataliol sy'n seiliedig ar hawliau a hyrwyddir gan y strategaeth hon, rydym yn cydnabod bod angen cymorth wedi'i dargedu mewn ardaloedd sydd wedi'u heffeithio'n benodol gan anfantais er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb cyfredol o ran cyfleoedd rhwng yr ardaloedd cyfoethocach a'r ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru. Rydym hefyd yn ymwybodol o'r effaith y gall gwahaniaethu, neu hyd yn oed cam-drin geiriol a chorfforol, ei chael ar allu unigolyn i gymryd rhan.
Nododd aelodau o'n grwpiau ffocws ei bod yn bosibl na fydd digon o bobl LHDTC+ mewn sawl rhan o Gymru i gynnal busnesau a grëwyd yn arbennig ar eu cyfer. Cydnabuwyd mai uchelgais fwy cyraeddadwy (ac un y rhoddir cynnig arni, gyda graddau amrywiol o lwyddiant), yw cynnal noson sy'n “gyfeillgar i bobl hoyw” mewn siop goffi neu dafarn.
Ar hyn o bryd, er mwyn cefnogi cyfranogiad cymunedol rydym yn:
- Buddsoddi mewn cymorth lleol sy'n bwysig i bobl hŷn - dangosodd yr ymatebion i'n hymgynghoriad sut y gall fforymau 50+ ddarparu cefnogaeth gymdeithasol ac ymarferol werthfawr i bobl hŷn. Er enghraifft, yn ystod y pandemig, roedd aelodau un fforwm yn dosbarthu pecynnau â llaw i bobl a oedd yn byw ar eu pen eu hunain gan gynnig cyfle i gael sgwrs drwy gadw pellter cymdeithasol. Dywedwyd hefyd bod rhai fforymau yn rhoi cyfle i bobl ymestyn eu rhwydweithiau cymdeithasol a chreu cyfeillgarwch, yn ogystal â dylanwadu ar bolisïau lleol a chenedlaethol.
- Gwella hyder digidol drwy ein mentrau gwirfoddoli, Cyfeillion Digidol ac Arwyr Digidol. Nod Cyfeillion Digidol yw hyfforddi unigolion sy'n darparu gwasanaethau carreg y drws i bobl hŷn i ddarparu cymorth digidol. Menter sy'n pontio'r cenedlaethau yw Arwyr Digidol i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd drwy gynorthwyo pobl ifanc i dreulio amser gyda phobl hŷn i ddangos manteision bod ar-lein iddynt. Cyn y pandemig (Mawrth 2020), roedd dros 5,000 o Arwyr Digidol (gwirfoddolwyr ifanc) wedi cael eu hyfforddi i helpu pobl hŷn mewn ysbytai a chartrefi gofal i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ar-lein allweddol. Drwy gydol y pandemig, rydym wedi addasu'r ddau fodel i geisio darparu cymorth yn rhithwir, gan helpu i sicrhau y gellir cefnogi'r rhai sydd angen help o hyd. Ein bwriad, os bydd cyfyngiadau'r pandemig yn caniatáu, yw ailgychwyn y fenter Arwyr Digidol ym mis Medi 2021 ac i'r Cyfeillion Digidol ddechrau ail-ymgysylltu'n araf wyneb yn wyneb lle y caniateir hynny.
- Hyrwyddo gwirfoddoli drwy weithio gyda phartneriaid i ddatblygu mwy o gyfleoedd i bobl wirfoddoli a chynyddu'r potensial gwirfoddoli i'r eithaf yng Nghymru. Mae gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol, mewn oriau di-dâl, at economi Cymru. Amcangyfrifir bod gwirfoddolwyr yn cyfrannu 145 miliwn o oriau bob blwyddyn, sy'n werth £1.7 biliwn (CGCC 2016). Mae hyn gyfwerth â 3.1% o Gynnyrch Domestig Gros Cymru. Dangosodd data o Arolwg Cenedlaethol Cymru (2020) fod mwyafrif y gwirfoddolwyr yng Nghymru dros 65 oed. Yn wir mae llawer o grwpiau cymunedol bron yn gwbl ddibynnol ar gyfraniadau pobl hŷn ac wedi brwydro i oroesi yn ystod y pandemig oherwydd cyfyngiadau iechyd cyhoeddus.
- Gwella mynediad at wybodaeth a chyngor - Drwy ein hymgysylltiad â phobl hŷn a'u cynrychiolwyr rydym yn gwybod y bydd y pwyntiau canlynol yn cefnogi cyfranogiad cymunedol:
- mynediad at wybodaeth gywir a chyfoes am wasanaethau a grwpiau cymunedol
- hyrwyddo cyfleoedd cymunedol i ddilyn ffordd iachach o fyw
- hyrwyddo ystod o gyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned
Rydym yn cymryd camau ar y holl bwyntiau uchod. Mae DEWIS Cymru yn gyfeiriadur llesiant cenedlaethol wedi'i ddatblygu a'i ariannu gan lywodraeth leol yng Nghymru, sydd hefyd yn berchen arno ac yn darparu adnoddau ar ei gyfer. Mae'n gallu rhannu gwybodaeth gyda 'Infoengine' (cyfeiriadur y Trydydd Sector) a Chyfeiriadur Gwasanaethau Iechyd Galw Iechyd Cymru i ddarparu un cyd-gyfeiriadur o wasanaethau lleol a chenedlaethol. Gall creu'r cyd-gyfeiriadur adnoddau hwn alluogi'r cyhoedd a staff rheng flaen i ganfod a chysylltu â'r gofal iawn, gan y gwasanaeth, y sefydliad neu'r person iawn, ar yr adeg iawn.
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth yw:
1. Mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd
Ers lansio Cam 3 y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn 2013, bu mwy o gydnabyddiaeth o effaith unigrwydd ar lesiant corfforol a meddyliol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb Cysylltu Cymunedau: Strategaeth Unigrwydd ac Ynysigrwydd ym mis Chwefror 2020.
Mae Cysylltu Cymunedau yn mynd i'r afael â'r ffyrdd y gall unigrwydd effeithio ar bobl drwy gydol eu hoes. Er bod yr hyn sy'n achosi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn gymhleth ac yn gallu amrywio ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, mae llawer o'r pwyntiau sbarduno, megis profedigaeth, ymddeoliad, rhoi'r gorau i yrru, ymgymryd â rôl ofalu ac afiechyd, yn fwy cyffredin yn ddiweddarach mewn bywyd.
Drwy Grant i'r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy 2020/21, rydym yn ariannu Gofal Mewn Galar Cruse i drawsnewid gwasanaethau profedigaeth cenedlaethol a lleol, drwy ddatblygu 'Hyb Profedigaeth.'
Rydym hefyd yn ariannu Contact the Elderly i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith pobl dros 75 oed drwy ddarparu gweithgaredd cymunedol a grwpiau cymdeithasol sy'n cael eu cyd-gynhyrchu. Bydd y prosiect yn targedu'r bobl hŷn sydd fwyaf ar y cyrion.
Wrth inni heneiddio a gadael y gweithle, gall ein rhwydweithiau cymdeithasol leihau. Mae'r adroddiad ymchwil, Retirement Transitions in Later Life, gan y Centre for Ageing Better wedi dangos mai'r prif beth y mae'r rhai sydd wedi ymddeol yn ei golli am y gwaith yw'r cysylltiad cymdeithasol a roddodd iddynt. Yn ogystal, gall yr ymdeimlad o ynysigrwydd ar ôl profedigaeth fod yn arbennig o ddwys. Gall cau mannau lle mae pobl yn cyfarfod, megis llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, tafarndai ac eglwysi ei gwneud yn fwy heriol i bobl hŷn ddatblygu a chynnal rhwydweithiau cymdeithasol.
Er bod Cysylltu Cymunedau yn ymchwilio i fater cymhleth, sef unigrwydd drwy gydol bywydau pobl, ac yn anelu at ddatblygu atebion ar draws ystod o feysydd polisi, mae'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn ystyried y mater o safbwynt cymunedau o blaid pobl hŷn. Mae'r strategaeth hon yn nodi sut yr ydym yn anelu at greu Cymru o blaid pobl hŷn sy'n adeiladu gwytnwch drwy gydol oes ac yn atal pobl rhag cael eu hynysu'n gymdeithasol. O ddeddfu ar gyfer gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddatblygu systemau teithio a thai sy'n darparu ar gyfer anghenion unigol, ein nod yw cysylltu pobl o fewn eu cymunedau lleol.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y gwaith o weithredu “Cysylltu Cymunedau” yn mynd i'r afael ag anghenion pobl hŷn sy'n unig neu sydd mewn perygl o fod yn unig.
2. Gwella mynediad at fannau cyfarfod a'u hargaeledd
Mae mannau sy'n addas i grwpiau cymunedol gyfarfod a ffynnu yn hanfodol bwysig i ddatblygu Cymru o blaid pobl hŷn. Byddwn yn annog awdurdodau lleol i weithio gyda chynghorau tref a chymuned a sefydliadau'r sector cyhoeddus i sicrhau bod lleoedd mewn adeiladau presennol a ariennir yn gyhoeddus neu a gefnogir gan y cyhoedd ar gael ar gyfer cyfranogiad cymunedol. Mae hefyd yn bwysig ystyried sut y gall hybiau cyfarfod anffurfiol megis siopau coffi, tafarndai a neuaddau eglwysi gefnogi cyfranogiad cymunedol. Dylid hefyd ystyried trafnidiaeth i fannau cyfarfod ac oddi yno.
Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig ei adeiladau i unrhyw bartner cydweithredol neu grŵp cymunedol eu defnyddio. Ymhlith y sefydliadau sy'n defnyddio'r cyfleusterau ar hyn o bryd mae clwb bingo cymunedol, grwpiau cadetiaid a gwirfoddolwyr cymunedol amrywiol. Mae'r Gwasanaeth Tân hefyd yn rhannu ei gyfleusterau gyda'r Heddlu, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, awdurdodau lleol ac unrhyw bartneriaid cydweithredol eraill.
3. Annog cysylltiad sy'n pontio'r cenedlaethau
Mae adroddiadau diweddar ac erthyglau yn y cyfryngau ar 'degwch rhwng y cenedlaethau' mewn perygl o droi un genhedlaeth yn erbyn y llall. Rhaid inni beidio â gadael i rethreg o'r fath gydio yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r cysylltiadau emosiynol sydd gennym â phobl iau yn ein teuluoedd a'n cymunedau i ennyn parch tuag at ein gilydd ac undod rhwng y cenedlaethau. Gall gwaith ar draws y cenedlaethau gefnogi'r sector statudol i ddatblygu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pob oedran ac, yn y pen draw, i gynllunio ar gyfer Cymru o blaid pobl hŷn.
Law yn llaw â gweithredu'r Strategaeth ar gyfer Unigrwydd ac Ynysigrwydd, byddwn yn annog pob bwrdd iechyd lleol ledled Cymru i sefydlu, ymwreiddio a thyfu arferion sy'n pontio'r cenedlaethau. Mae pobl hŷn wedi dweud wrthym na ddylai gwaith ar draws y cenedlaethau fod yn gyfle i “daro hen fenyw fach yn ysgafn ar ei phen”, i 'faldodi' neu i fod yn nawddoglyd tuag at bobl hŷn, neu i 'orfodi' pobl iau a hŷn i gwrdd. Dylai fod cyfleoedd gwirioneddol i rannu sgiliau a gwybodaeth.
Byddwn yn cysylltu â'r Comisiynydd Plant a'r Comisiynydd Pobl Hŷn i drafod adnoddau i gefnogi arferion sy'n pontio'r cenedlaethau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector i drefnu 'uwchgynhadledd genedlaethol' i drafod yr argymhellion a gynhwysir yn yr Adolygiad o fecanweithiau mewn arferion sy'n pontio'r cenedlaethau a pha mor effeithiol ydynt o ran lleihau unigrwydd/ynysigrwydd.
Gwyddom, yn hanesyddol, fod trosglwyddo'r Gymraeg rhwng y cenedlaethau wedi bod yn broblem mewn rhai ardaloedd ac nid yw rhai siaradwyr Cymraeg, am sawl rheswm, wedi trosglwyddo eu Cymraeg i'w plant. Felly byddwn yn ymchwilio i sut y gallwn ddefnyddio gwaith sy'n pontio'r cenedlaethau i helpu pobl iau i feithrin neu wella eu sgiliau Cymraeg yn unol â'n Polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnyddio mewn teuluoedd
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn?
Mesurwyd unigrwydd am y tro cyntaf yng Nghymru yn Arolwg Cenedlaethol 2016-17. Yn 2017-18, canfu fod 16% o’r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg, o blith ychydig dros 10,000 o bobl 16 oed a hŷn, yn unig a bod 53% o bobl wedi teimlo'n unig ar ryw adeg. Dywedodd 11% o bobl dros 75 oed eu bod yn teimlo'n unig. Mae amcangyfrifon diweddar gan Age UK (2019) yn nodi bod dros 3.6 miliwn o unigolion hŷn ym Mhrydain yn byw ar eu pen eu hunain. Er bod Cymru yn y safle 1af ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol yn y Mynegai Age UK, mae ein grwpiau ymgysylltu a gweithgorau wedi dangos yn glir bod cau lleoliadau cymunedol a diffyg trafnidiaeth gymunedol yn cyfyngu ar allu pobl hŷn i gysylltu ag eraill. Yn ein digwyddiadau ymgysylltu, roedd pobl hŷn yn awyddus i wrthweithio stereoteipiau sy'n dangos rhagfarn ar sail oedran ac roeddent am gael eu portreadu fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas gyda sgiliau a gwybodaeth sy'n werth eu rhannu.
Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: cyfranogiad 7, 8, 9.
Dod â cham-drin pobl hŷn i ben
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yn nodi y dylai pobl hŷn allu byw mewn urddas ac yn ddiogel a bod yn rhydd o gam-fanteisio a chamdriniaeth gorfforol neu feddyliol.
Fel Llywodraeth, rydym yn glir na fydd camdriniaeth nac esgeulustod o unrhyw fath yn erbyn pobl hŷn yn cael ei oddef. Mae hyn yn cynnwys sgamiau ariannol a cham-drin ac esgeulustod corfforol a meddyliol. Nid yw oedran yn lleihau hawl unigolyn i fyw gydag urddas a pharch.
Gall sgamiau gael effaith ofnadwy ar ddioddefwyr a gall pobl hŷn yn arbennig fod mewn perygl o ddioddef y math hwn o gamdriniaeth - mae tystiolaeth gan National Trading Standards yn dangos bod 85% o ddioddefwyr sgamiau stepen y drws dros 65 oed. Yn aml gall yr effaith ar iechyd a llesiant fod yn llawer mwy na'r golled ariannol. Mae pobl yn colli hyder a gallant ddod yn fwy ynysig ac ofnus. Mae hyn yn ei dro yn arwain at ddirywiad mewn iechyd meddwl ac iechyd corfforol.
Ar hyn o bryd, er mwyn atal cam-drin pobl hŷn rydym yn:
- Parhau i weithredu ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) sy'n cydnabod y gall dioddefwyr ddod o bob rhan o sbectrwm cymdeithas, gan gynnwys pobl hŷn, pob ethnigrwydd, crefydd a chred a phobl anabl.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid i ddrafftio Strategaeth Genedlaethol newydd ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a fydd hefyd yn cydnabod dioddefwyr ar draws sbectrwm cyfan cymdeithas. Mae gwaith atal, ymyrraeth gynnar ac addysg yn elfennau allweddol o'r strategaeth a gyhoeddir yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
- Ymchwilio i sut y gallwn ddarparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio o fewn y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol neu gyda phobl hŷn drwy ein Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol.
- Ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol i godi ymwybyddiaeth o sgamiau ymysg trigolion lleol, yn enwedig pobl hŷn.
- Treialu prosiect i gynyddu ein dealltwriaeth o'r ffordd orau i alluogi grwpiau amrywiol o oroeswyr i gymryd rhan mewn fframwaith ymgysylltu cenedlaethol. Byddwn yn ystyried argymhellion yn y gwerthusiadau a'r adroddiadau i sicrhau bod dioddefwyr Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ledled Cymru yn gallu dylanwadu ar bolisi, y gwasanaethau a ddarperir a'r gefnogaeth a gânt.
- Parhau i godi ymwybyddiaeth a herio agweddau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws Poblogaeth Cymru, drwy ymgyrchoedd fel “Ddylai neb fod yn ofnus gartre”, a pharhau i sicrhau bod holl ddioddefwyr a gwrthwynebwyr trais a chamdriniaeth yn gwybod pa gymorth sydd ar gael iddynt.
- Byddwn yn parhau i gefnogi gweithio mewn partneriaeth ymhlith sefydliadau er mwyn diogelu pobl Cymru a mynd i'r afael ag effaith ddinistriol sgamiau a thwyll ar ddioddefwyr a'u teuluoedd.
O ran y dyfodol, ein blaenoriaeth yw:
- Parhau i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn a phartneriaid allweddol i gyhoeddi a gweithredu cynllun cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn erbyn diwedd 2021.
- Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Urddas - 17, 18.
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Dywedodd y rhai a fynychodd ein digwyddiadau ymgysylltu, er eu bod wedi ymddeol o waith amser llawn â thâl, eu bod mor brysur ag erioed, gyda swyddi gwirfoddol, swyddi rhan-amser a rolau gofalu (am oedolion ac wyrion ac wyresau). Roeddent yn cwestiynu ystyr y cysyniad o 'ymddeol', gan na allent ragweld amser pan na fyddai ganddynt ryw fath o gyfrifoldeb tuag at eraill neu alwadau ar eu hamser.
Mae nifer y bobl sy'n gweithio y tu hwnt i oedran pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu ac mae'r canfyddiadau o ymddeol yn newid. Gall camau diweddarach bywyd gynnig cyfle i newid gyrfa, symud tŷ, teithio, ymddiddori mewn rhywbeth newydd neu wneud ffrindiau newydd. Gall hefyd ddod â heriau annisgwyl megis afiechyd, gostyngiad mewn incwm neu ymgymryd â rôl ofalu.
Mae profiad pawb o heneiddio yn wahanol, ond rydym i gyd yn dyheu am fwynhau ein henaint. I rai, gall symud o gyflogaeth amser llawn i ymddeoliad amser llawn fod yn anodd. Gall cynllunio effeithiol hwyluso'r trawsnewidiad hwn a chaniatáu i unigolion wireddu eu huchelgeisiau ar ôl oes o gyfaddawdu. Gall hefyd feithrin y gwytnwch ariannol ac emosiynol sydd ei angen i ymdopi'n dda ag amgylchiadau sy'n newid. O oedran ifanc caiff pobl eu hannog i gynilo ar gyfer eu dyfodol, ond dylid ystyried hefyd yr ystod ehangach o ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol a all gefnogi pobl i fyw a heneiddio'n dda. Mae hefyd yn hanfodol ystyried sefyllfa pobl nad ydynt wedi gallu cynilo ar gyfer eu hymddeoliad ac y gallai eu dewis yn ddiweddarach mewn bywyd fod yn gyfyngedig.
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth yw:
1. Annog unigolion i ystyried ystod o ffactorau wrth gynllunio ar gyfer camau diweddarach bywyd
Byddwn yn gweithio gyda Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio i archwilio sut y gallwn annog pobl i ystyried y ffactorau seicogymdeithasol a all eu cefnogi i heneiddio'n dda.
2. Annog cyflogwyr i ddarparu adolygiadau canol oed
Mae'r rhaglen Age at Work yng Nghymru, gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn cefnogi gweithwyr hŷn (50+) i aros mewn gwaith, i aros yn gysylltiedig, datblygu sgiliau newydd, parhau i ennill cyflog a chael bywyd gwaith llawnach. Mae'r rhaglen pum mlynedd yn cael ei darparu gan Busnes yn y Gymuned Cymru mewn partneriaeth ag Age Cymru a'i nod yw codi ymwybyddiaeth o'r angen am agenda o blaid pobl hŷn yn y llywodraeth, mewn busnes ac yn y gymdeithas ehangach.
3. Gweithio gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau i gysoni ein gwaith â gweithrediad Strategaeth Llesiant Ariannol y DU.
4. Annog cyflogwyr i ystyried eu cyfrifoldebau corfforaethol drwy gynorthwyo gweithwyr i wirfoddoli
Mae ein sgyrsiau â phobl hŷn wedi dangos y gall pontio i ymddeoliad fod yn anodd. Dywedodd rhai y byddai'n well ganddynt leihau eu horiau gwaith yn raddol fel y gallent gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ond nad oedd modd iddynt wneud hynny. Roedd y cyfranogwyr yn teimlo ei bod yn bwysig bod pobl yn datblygu cynllun ar gyfer yr hyn y maent yn bwriadu ei wneud ar ôl ymddeol, p'un a yw hynny'n golygu hobi newydd neu barhau â hobi, dysgu rhywbeth newydd neu deithio. Disgrifiodd rhai pobl y teimlad ar ôl i'w gwaith cyflogedig ddod i ben fel 'profedigaeth', a bod symud yn syth o’r gweithle i 'wneud dim' wedi arwain at golli eu hymdeimlad o bwrpas.
Byddwn yn annog cyflogwyr i ystyried eu cyfrifoldebau corfforaethol drwy gynorthwyo gweithwyr i wirfoddoli.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn
Dywedodd Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio wrthym fod yn rhaid i annog pobl i gynllunio ar gyfer eu dyfodol fod yn rhan o Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio. O ganlyniad, cafodd gweithgor ei gynnull i gynghori ar y mater. Rydym am i lywodraethau lleol a chenedlaethol weithio gyda sefydliadau'r trydydd sector a'r sector preifat i sicrhau bod gan bobl o bob oed yr hyder i fanteisio ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gynllunio'n dda ar gyfer y dyfodol.
Egwyddor y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Annibyniaeth 3.
Ymgysylltiad dinesig
Mae ymgysylltiad dinesig yn rhan hanfodol o raglen cymunedau o blaid pobl hŷn Sefydliad Iechyd y Byd.
Er mwyn ymuno â Rhwydwaith Dinasoedd a Chymunedau o blaid pobl hŷn Sefydliad Iechyd y Byd, rhaid i arweinwyr ddangos eu bod yn ymgysylltu'n effeithiol â phobl hŷn. Mae'r dull hwn hefyd yn cefnogi Pum Ffordd o Weithio Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol sy'n canolbwyntio ar gynnwys, cydweithio ac atal. Drwy wrando ar brofiadau pobl hŷn heddiw, gall cymunedau gwledig a threfol gynllunio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn unol â'n hymrwymiad i ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau ar draws gwasanaeth cyhoeddus Cymru, rydym yn gweithio i wella ymgysylltiad a chyfranogiad dinasyddion ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Caiff yr ymgyrch i integreiddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn fwy gyda gwell ymgysylltiad cyhoeddus ei adlewyrchu yn nodau Cymru Iachach.
Fel yr amlygwyd yn flaenorol, mae'r strategaeth hon wedi'i chydgynhyrchu gyda phobl hŷn a'u cynrychiolwyr a phwysleisiodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad bod yn rhaid cynnal a gwella'r dull cydgynhyrchiol hwn o gynnwys a gwrando ar bobl hŷn, a'i wella ymhellach.
Ar hyn o bryd, i gefnogi ymgysylltiad dinesig â phobl hŷn, rydym yn:
- Cefnogi sefydliadau cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn a gweithio â nhw fel eu bod mewn sefyllfa dda i ddylanwadu ar ddylunio a gweithredu polisi a gwaith cyflawni Llywodraeth Cymru.
- Cefnogi Age Alliance Cymru sy'n gynghrair o 21 o sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu cyfer.
- Cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy'n gweithredu fel llais annibynnol a hyrwyddwr dros bobl hŷn.
- Annog a chefnogi'r defnydd o baneli dinasyddion i lywio gwaith Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
- Hwyluso Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio i roi llais pobl hŷn wrth wraidd proses llunio polisïau Llywodraeth Cymru. Mae 50% o aelodau'r Fforwm yn bobl hŷn, gan gynnwys cynrychiolwyr o ystod amrywiol o gefndiroedd. Bydd gwaith y Fforwm yn cael ei lywio gan ddigwyddiadau allgymorth cymunedol a gynhelir gyda phobl hŷn nad ydynt yn draddodiadol yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd neu grwpiau ffurfiol.
O ran y dyfodol, ein blaenoriaeth yw:
2. Parhau i adolygu'r mecanweithiau ar gyfer ymgysylltu â phobl hŷn
Yn 2003, yn sgil lansio'r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn darparwyd cyllid i gefnogi fforymau 50+ ym mhob awdurdod lleol. Ers hynny, yn sgil tynhau cyllidebau awdurdodau lleol cafodd rhai fforymau anawsterau tra bod eraill wedi ffynnu. Rydym yn adolygu'r strwythurau hyn i sicrhau bod gan bob awdurdod lleol fecanweithiau cadarn ar waith ar gyfer ymgysylltu. Cefnogi'r gwaith o wireddu cymdogaethau cyfeillgar i oedran drwy ddyrannu £550,000 rhwng awdurdodau lleol yn 2021 - 22 i gefnogi eu gwaith i ddod yn gyfeillgar i oedran drwy sicrhau ymgysylltiad effeithiol â phobl hŷn.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Cyfranogiad 7, 8, 9.
Gweithwyr hŷn
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig yn nodi y dylai pobl hŷn gael cyfle i weithio neu gael mynediad at gyfleoedd eraill i gynhyrchu incwm.
Rhwng 2003 a 2018, mae nifer y bobl 50 - 64 oed mewn cyflogaeth wedi cynyddu o 56% i 69%, gyda nifer y menywod yn codi 14 pwynt canran. Yn ystod y cyfnod hwn, cododd nifer y bobl 65 oed a hŷn mewn cyflogaeth o 5% i 10% (StatsCymru Mai 2019). Ochr yn ochr â manteision ariannol cyflogaeth, gall mynd i'r gwaith gynorthwyo pobl i aros yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol am gyfnod hwy.
Mae'n rheidrwydd economaidd bod gweithwyr yng Nghymru yn cael eu cefnogi i addasu eu sgiliau i gyd-fynd â thechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg a'r farchnad swyddi sy'n newid. Gellir cyflawni hyn yn rhannol drwy arfogi'r rhai sy'n rhan o'r gweithlu â'r sgiliau y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau gwaith, ond bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu polisïau ac amgylcheddau gweithio mwy hyblyg. Os yw Cymru am gael gweithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, rhaid i gyflogwyr ystyried goblygiadau iechyd a gofal y newid demograffig hwn a nodi ffyrdd o greu gweithleoedd mwy cyfeillgar i oedran a brwydro yn erbyn stereoteipiau sy'n dangos rhagfarn ar sail oedran mewn perthynas â gweithwyr hŷn. Dylai hyn gynnwys ystyried yr hyn y byddai gweithle o blaid pobl hŷn yn ei olygu yn ymarferol.
Ar hyn o bryd, er mwyn cefnogi gweithwyr hŷn rydym yn:
- Cydnabod effaith y pandemig ar gyflogaeth ac felly ein prif flaenoriaeth fu cefnogi pobl i aros mewn swyddi a'u helpu i ddod o hyd i waith drwy ein hymrwymiad i gefnogi unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn i gael gafael ar gyngor a help i ddod o hyd i waith, cynyddu eu sgiliau a'u cymwysterau, gwella eu cyflogadwyedd, cael prentisiaeth, swydd neu ddechrau busnes.
- Mabwysiadu diffiniad a nodweddion gwaith teg y Comisiwn Gwaith Teg ar draws Llywodraeth Cymru a defnyddio hynny i hyrwyddo gwaith teg. Mae ailsgilio gweithwyr hŷn wedi'i gynnwys yn y diffiniad.
- Sicrhau bod gweithwyr hŷn yn cael eu cynrychioli mewn ffordd gadarnhaol yn ein holl ddeunydd cyfathrebu a rhaglenni prif ffrwd. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod sgiliau ac anghenion cyflogaeth gweithwyr hŷn yn cael eu hystyried o ddifrif ac anogir cyflogwyr i gadw, hyfforddi a recriwtio gweithwyr hŷn.
- Cefnogi gofalwyr sy'n gweithio drwy ariannu Gofalwyr Cymru i gynnal Hwb Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru sy'n helpu sefydliadau yng Nghymru i gefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae'r Hwb yn darparu arweiniad ymarferol, gwasanaeth ymgynghori arbenigol a hyfforddiant ynghyd â chefnogi cyflogwyr i rannu arferion gorau.
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth ar gyfer gweithwyr hŷn yw:
1. Hyrwyddo ailsgilio gweithwyr hŷn
Byddwn yn gweithio gyda Cymru'n Gweithio a phartneriaid eraill i sicrhau bod gweithwyr hŷn yn cael eu hannog i feddwl yn rhagweithiol am eu cyfleoedd gyrfa a'u hanghenion sgiliau drwy gydol eu hoes.
2. Hyrwyddo ac annog gweithleoedd o blaid pobl hŷn
Byddwn yn gweithio gyda chyflogwyr a'u cyrff cynrychioliadol i'w hannog i ddarparu gweithleoedd o blaid pobl hŷn sy'n cefnogi'r nifer cynyddol o weithwyr a gofalwyr hŷn yn ein gweithlu.
3. Cyflawni ein Cynllun Cyflogadwyedd
Sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwneud Cymru yn economi uwch-dechnoleg, gyda chyflogaeth lawn a chyflogau uchel. Nododd y cynllun yn glir hefyd bod gan gyflogwyr gyfrifoldeb i feithrin, hyfforddi a chynnal eu gweithwyr er mwyn sicrhau bod dyfodol gweithlu Cymru yn sefydlog a grymus.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn
Roedd Cymru yn y trydydd safle ym Mynegai Oedran y DU ar gyfer cyflogaeth ac addysg pobl hŷn. Yn yr holl gategorïau eraill, roedd Cymru yn yr 2il safle felly mae'n amlwg bod yn rhaid gwneud mwy i gefnogi gweithwyr a dysgwyr hŷn. Mae proffil gweithlu Cymru yn newid. Mae amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru (2019) yn dangos bod tua thraean o weithlu Cymru bellach yn 50 oed neu'n hŷn. Mae nifer cynyddol o weithwyr hŷn yn cydbwyso gwaith ochr yn ochr ag ymrwymiadau gofal neu gyflyrau iechyd. Gall ymgymryd â rôl ofalu fod yn brofiad ynysig ac i'r rheini sydd wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio neu newid i weithio'n rhan amser er mwyn gofalu am rywun, gall hynny gael effaith fawr ar eu pensiwn a'u cynilion. Gall hyn effeithio'n anghymesur ar fenywod sy'n fwy tebygol o ymgymryd â'r rôl ofalu.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Annibyniaeth 2, 3, 4.
Dysgu gydol oes
Credwn fod gan bobl o bob oed yng Nghymru hawl i ddysgu gydol oes. Mae dysgu fel math o ymgysylltiad cymdeithasol a symbyliad meddyliol yn hynod bwysig i ddysgwyr hŷn nid yn unig i'w helpu i gadw'n egnïol ac i gadw'n iach; ond hefyd i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd. Awgryma ymchwil gan Alzheimer's UK fod pobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ysgogi'r ymennydd yn llai tebygol o ddatblygu dementia o gymharu â'r rhai nad ydynt yn ymgysylltu â gweithgaredd o'r fath.
Ar hyn o bryd, er mwyn cefnogi dysgu gydol oes rydym yn:
- Darparu cyllid ar gyfer e-ddysgu digidol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu darpariaeth ar-lein ac i ddarparu adnoddau digidol i oedolion sy'n dysgu.
O ran y dyfodol, ein tair blaenoriaeth ar gyfer dysgu gydol oes yw:
1. Cyflwyno hawl newydd i ddysgu gydol oes
Mae'r Gweinidog Addysg wedi ymrwymo i archwilio sut y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno hawl newydd i ddysgu gydol oes yng Nghymru - er mwyn rhoi mynediad a chyfle i bawb yng Nghymru ddysgu drwy gydol eu hoes.
2. Cefnogi dysgu anffurfiol
Ein nod yw cefnogi darparu cyrsiau ymgysylltu cymdeithasol drwy glybiau a grwpiau dysgu hunangyfeiriedig a fydd yn cefnogi pobl i barhau i ddysgu mewn ffordd anffurfiol er budd eu hiechyd a'u llesiant.
3. Hyrwyddo hyder digidol
Mae Hyder Digidol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, fel yr amlinellwyd yn ein Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru (Mawrth 2021). Rhaid inni sicrhau bod ein polisi a'n gwersi Addysg Oedolion nid yn unig yn parhau i fod ar gael yn rhad ac am ddim i ddysgwyr, ond ar gael yn ddigidol ac oddi ar-lein a bod mynediad cyfartal i Addysg Oedolion ar draws ein holl awdurdodau lleol, sy'n hyblyg i anghenion ein dinasyddion. Mae llawer o'r ddarpariaeth a gynigir wedi'i thargedu'n benodol at ddysgwyr hŷn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu defnyddio'r dechnoleg ddigidol sy'n gyffredin yn y gymdeithas sydd ohoni.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn
Roedd Cymru yn y trydydd safle ar gyfer cyrhaeddiad addysgol pobl hŷn ym Mynegai Age Watch y DU.
Roedd aelodau o'n gweithgorau yn awyddus i bwysleisio y dylai pobl hŷn gael dewis ynglŷn â sut maen nhw'n cymryd rhan yn eu cymunedau lleol - gall clybiau anffurfiol a chlybiau dysgu hunangyfeiriedig ganiatáu i bobl ymgysylltu ar eu telerau eu hunain a helpu i liniaru effaith cyni ar fathau mwy traddodiadol o ddysgu cymunedol i oedolion. Yn olaf, mewn oes cynyddol ddigidol, mae'n bryder nad yw hanner y rhai sy'n 75 oed neu'n hŷn yn defnyddio'r rhyngrwyd (Llywodraeth Cymru 2019). Er ein bod yn cydnabod mai dewis yw defnyddio technoleg, rydym am sicrhau bod y rhai sy'n dymuno defnyddio gwasanaethau ar-lein yn cael eu cefnogi i wneud hynny.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Annibyniaeth 4; Hunanfoddhad 15, 16.
Nod 4: Trechu tlodi sy'n gysylltiedig ag oedran
Cynyddodd canran y pensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol am 4 cyfnod yn olynol gan gyrraedd 20% rhwng 2014-15 a 2016-17 cyn cwympo i 19 y cant rhwng 2015-16 a 2017-18 (StatsCymru). Er bod y ffigurau hyn yn dal i fod yn is na chanol a diwedd y 1990au, mae effaith cyni, rhenti uchel a'r economi dim oriau yn ei gwneud hi'n anodd i bobl canol oed gynilo ar gyfer eu hymddeoliad. Gallai hyn arwain at lefelau cynyddol o dlodi ymysg pensiynwyr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ar wahân i ddewisiadau anodd rhwng gwres a bwyd, gall y dewisiadau i bobl hyn ynglŷn â sut i dreulio eu hamser hamdden fod yn gyfyngedig. Dywedodd pobl hŷn wrthym fod eu sefyllfa ariannol yn cael dylanwad sylweddol ar eu bywyd cymdeithasol. Mae pobl nad ydynt yn berchen ar gar neu sy'n methu â thalu am dacsis, yn llawer llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'r nos.
Yn y cyfnod o 2015-16 i 2017-18, roedd 17 y cant o bobl o oedran gweithio a oedd yn byw mewn cartrefi lle roedd rhywun yn gweithio yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae'r cynnydd mewn tlodi mewn gwaith yn golygu bod gennym sefyllfa lle mae 'bom yn tician', ac mae hynny'n bryder. Mae pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd a chanddynt gontractau afreolaidd ac ansefydlog o bosibl yn annhebygol o allu gwneud darpariaethau ar gyfer eu dyfodol.
Mae gennym ystod o raglenni cyflogadwyedd sy'n helpu pobl i feithrin eu sgiliau a chael gyflogaeth gynaliadwy. Serch hynny, mae newidiadau i fudd-daliadau oedran gweithio a wnaed gan Lywodraeth y DU o dan ei rhaglen Diwygio Lles yn golygu bod niferoedd cynyddol o oedolion sy'n gweithio yn byw mewn tlodi.
Ar hyn o bryd, er mwyn trechu tlodi sy'n gysylltiedig ag oedran, rydym yn:
- Buddsoddi mewn rhaglenni cyflogadwyedd. Ers ei lansio ym mis Ebrill y llynedd, mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi ymgysylltu â 25,157 o gyfranogwyr hyd ddiwedd mi Mehefin 2021 ac mae 10,186 ohonynt wedi llwyddo i gael swyddi. Hyd at ddiwedd mis Mehefin 2021 roedd y rhaglen Cymunedau am Waith wedi darparu cymorth cyflogaeth i fwy na 31,875 o bobl, ac wedi helpu 12,733 o bobl i gael swyddi ledled Cymru.
- Darparu gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd cenedlaethol, 'Cymru'n Gweithio'.
- Parhau i fynegi ein pryderon i'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ynghylch effeithiau'r cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod.
- Cyfyngu ar y swm y mae'n ofynnol i bobl ei dalu am eu gofal cymdeithasol dibreswyl - er 2011 ni all awdurdod lleol godi mwy nag uchafswm wythnosol ar bobl sydd angen gofal cymdeithasol a chymorth gartref, neu yn y gymuned. Yn ogystal, mae nifer o amddiffyniadau a lwfansau ariannol ar waith i sicrhau nad yw unigolyn yn wynebu caledi ariannol pan fydd angen iddo dalu cost ei ofal dibreswyl.
- Caniatáu i'r rhai sydd mewn gofal preswyl gadw mwy o'u cyfalaf - i bobl sydd angen gofal preswyl, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno terfyn cyfalaf sy'n caniatáu iddynt gadw hyd at £50,000 o'u cynilion neu gyfalaf arall heb orfod defnyddio hwn i dalu am eu gofal neu eu llety. Dyma'r lwfans uchaf o'i fath yn y DU.
O ran y dyfodol, ein blaenoriaethau yw:
1. Cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym ar 31 Mawrth 2021. Mae'r Ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion, ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.
2. Cynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gredyd pensiwn
Efallai eich bod yn gwybod am bobl a allai fod mewn angen, ond sut mae codi hyn gyda nhw heb eu sarhau? Oherwydd y ddelwedd o fudd-daliadau, o gael eu gweld fel rhai sy'n byw yn fras ar bwrs y wlad, mae'n anodd iawn awgrymu i ffrind y dylai ei hawlio. (Un o fynychwyr digwyddiad ymgysylltu).
Yn wyneb lefelau cynyddol o dlodi, amcangyfrifir bod £214 miliwn o Gredyd Pensiwn a Budd-dal Tai (sy'n cael ei ddatgloi drwy hawliad Credyd Pensiwn) nad yw'n cael ei hawlio bob blwyddyn (Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 2019). Mae stigma yn parhau i fod yn gysylltiedig â hawlio budd-daliadau lles a gallai hynny fod yn cyfrannu at y ffigur uchel hwn. Rydym yn gwybod bod gwasanaethau cynghori yn amhrisiadwy wrth helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd drwy'r system fudd-daliadau i ddeall yr hyn y gallant fod â hawl iddo a sut i hawlio, ond dim ond pan fyddant yn wynebu argyfwng y mae llawer o bobl yn chwilio am gyngor. Dyma pam y gwnaethom ofyn i'n partneriaid yn y Gronfa Gynghori Sengl dargedu'r grwpiau sy'n methu'n gyson â chael gafael ar yr hyn y mae ganddynt hawl iddo o'r system nawdd cymdeithasol.
Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, bu partneriaid y Gronfa Gynghori Sengl yn gweithio gyda'i gilydd i gyrraedd pobl hŷn a'u gofalwyr er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o fudd-daliadau lles a'u hannog i gael mynediad at y gwasanaethau cynghori sydd eu hangen arnynt i hawlio budd-daliadau lles.
Ym mis Mawrth 2021, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch genedlaethol gyntaf i sicrhau bod pobl yn hawlio budd-daliadau gan annog pobl i wirio pa fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael ac i wneud cais amdanynt. Targedwyd pobl hŷn o fewn yr ymgyrch, a’r fideo ar Gredyd Pensiwn oedd yr un yr edrychwyd arno fwyaf ar Facebook. Cynhaliwyd yr ymgyrch am 25 diwrnod a chynorthwywyd y rhai a ymatebodd i hawlio incwm ychwanegol o fwy na £500,000.
Cynhaliodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Cynulliad Cenedlaethol ymchwiliad yn dwyn y teitl Budd-daliadau yng Nghymru: Opsiynau i'w Cyflawni'n Well yn 2019. Roedd ei adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019, yn cynnwys 17 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac un ohonynt oedd.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu “system fudd-daliadau Gymreig” gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt. Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu set o egwyddorion sy’n sail i’w dyluniad a’r dull o’u cyflwyno. Dylai’r egwyddorion hyn gael eu cydgynhyrchu gyda phobl sy’n hawlio’r budd-daliadau hyn a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru.
Rydym nawr yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid i ddyfeisio'r Siarter a fydd yn sail i system fudd-daliadau Gymreig, sy'n gweithio i bawb yng Nghymru.
3. Buddsoddi yn economi sylfaenol Cymru
Mae'r economi sylfaenol yn disgrifio'r nwyddau a'r gwasanaethau rydym i gyd yn eu defnyddio yn ein bywydau beunyddiol, beth bynnag ein cefndir neu'n hoedran. Awgryma amcangyfrifon gan ymchwilwyr academaidd fod pedair o bob deg swydd yng Nghymru a £1 o bob tair yr ydym yn eu gwario yn dod o fewn yr economi hon. Drwy fuddsoddi yn yr economi sylfaenol, gallwn wneud ein cymunedau'n gryfach ac yn wydn ac estyn allan at bobl sy'n teimlo eu bod wedi ymddieithrio neu wedi cael eu gadael ar ôl. Bydd yn ein galluogi i helpu pobl hŷn sy'n cael bywyd yn anodd heddiw, ond mae hefyd yn fuddsoddiad yn nyfodol pawb ohonom.
Yn unol â dull sy'n seiliedig ar hawliau, mae Cronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn cynnig mwy na £4 miliwn i gefnogi prosiectau sy'n datblygu economïau rhanbarthol er mwyn rhannu ffyniant yn fwy cyfartal ledled Cymru.
Rydym yn cydnabod bod pobl hŷn yn ymwneud â'r economi sylfaenol fel defnyddwyr, gweithwyr ac fel perchnogion busnes ac arloeswyr. Byddwn yn ymchwilio i sut i gefnogi pobl hŷn i ffynnu o fewn ein heconomi sy'n heneiddio.
Sut y gallai technoleg ddarparu atebion newydd
Mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn galluogi Cartrefi Cymunedol Gwynedd Cyf i ddatblygu'r seilwaith sy'n ofynnol i osod synwyryddion monitro mewn eiddo a all ymateb i sbardunau penodol fel newidiadau mewn tymheredd a symudiad. Bydd y synwyryddion yn cefnogi pobl hŷn i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi am gyfnod hwy.
Gall y synwyryddion anfon gwybodaeth 'fyw' i ddangosfwrdd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr nodi patrymau ymddygiad. Rhagwelir y byddai'r dangosfwrdd hwn yn cael ei fonitro'n ganolog gan swyddog dynodedig neu asiantaeth bartner.
Bydd y prosiect yn dod i ben erbyn 31 Mawrth 2021 a nod arweinwyr y prosiect yw lledaenu gwersi buddiol ledled Cymru i helpu i gefnogi ein cymdeithas sy'n heneiddio.
Pam rydym wedi dewis y blaenoriaethau hyn
Mae Cymru yn y trydydd safle ym Mynegai Oedran y DU ar gymorth ariannol i bobl hŷn, ond mae'r lefel uchel o gredyd pensiwn heb ei hawlio yn dangos y gallem fod yn perfformio'n well. Codwyd budd-daliadau nad ydynt yn cael eu hawlio fel problem gan bob gweithgor ac yn ein digwyddiadau ymgysylltu. Yn olaf, mae'n hanfodol nad yw pobl hŷn yn cael eu hanwybyddu mewn unrhyw fentrau newydd sy'n ymwneud ag economi Cymru. Rhaid i'r hen stereoteip o bobl hŷn heb syniadau ac atebion newydd beidio â chyfyngu ar botensial gweithwyr ac entrepreneuriaid hŷn.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn: Annibyniaeth 1, 2; Cyfranogiad 7, 8, 9; Hunanfoddhad 15, 16.
Sut y byddwn yn monitro cynnydd
O'r cychwyn cyntaf, roedd aelodau Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio a'n rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn, yn glir y dylai'r strategaeth hon ganolbwyntio ar gamau y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn.
Diwygiwyd aelodaeth, cylch gorchwyl a phwrpas Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio i sicrhau y gall y grŵp hwn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o oruchwylio gweithrediad y strategaeth hon. Bydd aelodau Fforwm Cynghori'r Gweinidog ar Heneiddio yn ein helpu i ddiffinio pwyntiau gweithredu ehangach y strategaeth hon ac yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, byddwn yn cyhoeddi strategaeth derfynol ynghyd â chynllun gweithredu a ddyluniwyd i gefnogi'r broses gyflawni.
Rydym wedi comisiynu a chynhyrchu mynegai yn benodol ar gyfer Cymru sydd wedi dylanwadu ar y gwaith o lunio'r ddogfen hon ac a fydd yn cael ei ddefnyddio i fesur ei llwyddiant. Bydd yn dangos inni beth sy'n gweithio, lle mae angen inni wella a lle mae angen inni ddatblygu mwy o ddata.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau cynnydd blynyddol.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn
Mae Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn yn annog llywodraethau i ymgorffori'r egwyddorion a ganlyn yn eu rhaglenni cenedlaethol pryd bynnag y bo hynny'n bosibl.
Annibyniaeth
1. Dylai fod gan bobl hŷn fynediad at fwyd, dŵr, lloches, dillad a gofal iechyd digonol drwy incwm, cymorth gan y teulu a'r gymuned a hunangymorth.
2. Dylai pobl hŷn gael cyfle i weithio neu gael mynediad at gyfleoedd eraill i gynhyrchu incwm.
3. Dylai pobl hŷn allu cymryd rhan yn y broses o benderfynu pryd a pha mor gyflym i adael y llafurlu.
4. Dylai fod gan bobl hŷn fynediad at raglenni addysgol a hyfforddiant priodol.
5. Dylai pobl hŷn allu byw mewn amgylcheddau sy'n ddiogel, y gellir eu haddasu i ddewisiadau personol a galluoedd sy'n newid.
6. Dylai pobl hŷn allu byw gartref cyhyd ag y bo modd.
Cyfranogiad
7. Dylai pobl hŷn barhau i fod yn rhan integredig o gymdeithas, chwarae rhan weithredol yn y gwaith o lunio a gweithredu polisïau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu llesiant a rhannu eu gwybodaeth a'u sgiliau gyda'r genhedlaeth iau.
8. Dylai pobl hŷn allu chwilio am gyfleoedd i wasanaethu'r gymuned a gwasanaethu fel gwirfoddolwyr mewn swyddi sy'n briodol i'w diddordebau a'u galluoedd, a datblygu'r cyfleoedd hynny.
9. Dylai pobl hŷn allu sefydlu mudiadau neu gymdeithasau pobl hŷn.
Gofal
10. Dylai pobl hŷn elwa o ofal ac amddiffyniad y teulu a'r gymuned yn unol â system gwerthoedd diwylliannol pob cymdeithas.
11. Dylai pobl hŷn gael mynediad at ofal iechyd i'w helpu i gynnal neu adennill y lefel orau bosibl o lesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol ac i atal neu oedi salwch.
12. Dylai pobl hŷn gael mynediad at wasanaethau cymdeithasol a chyfreithiol er mwyn gwella eu hannibyniaeth, eu diogelwch a'u gofal.
13. Dylai pobl hŷn allu defnyddio lefelau priodol o ofal sefydliadol sy'n darparu amddiffyniad, adferiad a symbyliad cymdeithasol a meddyliol mewn amgylchedd trugarog a diogel.
14. Dylai pobl hŷn allu mwynhau hawliau dynol a rhyddid sylfaenol pan fyddant yn preswylio mewn unrhyw gyfleuster lloches, gofal neu driniaeth, gan gynnwys parch llawn tuag at eu hurddas, eu credoau, eu hanghenion a'u preifatrwydd a'r hawl i wneud penderfyniadau am eu gofal ac ansawdd eu bywydau.
Hunanfoddhad.
15. Dylai pobl hŷn allu mynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu eu potensial yn llawn.
16. Dylai pobl hŷn gael mynediad at adnoddau addysgol, diwylliannol, ysbrydol a hamdden cymdeithas.
Urddas.
17. Dylai pobl hŷn allu byw mewn urddas ac yn ddiogel a bod yn rhydd o gamfanteisio a chamdriniaeth gorfforol neu feddyliol.
18. Dylid trin pobl hŷn yn deg waeth beth fo'u hoedran, rhyw, cefndir hiliol neu ethnig, anabledd neu statws arall, a dylid eu gwerthfawrogi'n annibynnol ar eu cyfraniad.