Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Ionawr 2020.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni’n ceisio eich barn ar gynigion ar gyfer Bil Partneriaeth Gymdeithasol (Cymru).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r papur gwyn hwn yn amlinellu cynigion ar gyfer Bil Partneriaeth Gymdeithasol i atgyfnerthu’r trefniadau ar gyfer partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, a darparu fframwaith i hyrwyddo cydraddoldeb cymdeithasol gwell ar gyfer gweithwyr yng Nghymru ar draws yr economi.
Bwriad y papur gwyn yw:
- sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol statudol
- rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a hyrwyddo amcanion gwaith teg
- ei gwneud yn ofynnol i rai cyrff cyhoeddus lunio strategaeth gaffael yn unol â chanllawiau statudol
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Gwybodaeth ychwanegol
Rydym wedi estyn dyddiad cau’r ymgynghoriad o 2 Ionawr 2020 i 9 Ionawr 2020. Bydd hynny’n caniatáu inni ystyried ystod ehangach o ymatebion.