Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 9 Gorffennaf gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad llafar yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu'r trefniadau ar gyfer partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, gan gyflwyno Bil Partneriaeth yn ystod tymor hwn y Cynulliad.

Heddiw rwy'n cyhoeddi ymgynghoriad ar y Papur Gwyn Cymru Fwy Cyfartal: Atgyfnerthu Partneriaeth Gymdeithasol sy'n amlinellu ein cynigion ar gyfer deddfwriaeth i greu trefniadau statudol ar gyfer partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru, ynghyd â'r darpariaethau cysylltiedig ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb cymdeithasol.

Ein nod cyffredinol wrth hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol yw gwella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus a mabwysiadu dulliau mwy cytbwys ar gyfer datblygu economi Cymru, ac mae'n rhan annatod o'n nod ehangach i leihau anghydraddoldeb.

Mae'r cynigion yn elfen allweddol o'n hymatebion i ganfyddiadau'r Comisiwn Gwaith Teg, a wnaeth gyfres o argymhellion ym mis Mawrth ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru annog arferion gwaith teg ledled Cymru.

Ochr yn ochr â’n cynigion ar gyfer Bil Partneriaeth Gymdeithasol, yn fuan byddwn yn ymgynghori ar weithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod y camau rydym yn eu cymryd yn gweithio gyda’i gilydd i greu fframwaith cryfach ar gyfer sicrhau Cymru fwy cyfartal

Mae'r ymgynghoriad ar gael yma https://llyw.cymru/cymru-fwy-cyfartal-atgyfnerthu-partneriaeth-gymdeithasol-papur-gwyn . Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 2 Ionawr 2020.