Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Fe wnaethon ni gyhoeddi Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, ym mis Gorffennaf 2017. Rydym ni bellach yn gweithio ar ail Raglen Waith y strategaeth, a hynny ar gyfer tymor y Senedd hon (2021 i 2026). Bydd y Rhaglen Waith yn sail i’n holl gynlluniau gweithredu blynyddol tan y Senedd nesaf.

Mae Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu blynyddol yn esbonio sut y byddant yn gweithredu’r cynigion a amlinellir yn eu strategaeth iaith yn ystod pob blwyddyn ariannol. Dyma’r cynllun gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023.

Wrth gyhoeddi’r Cynllun hwn ar gyfer 2022 i 2023, rhaid cydnabod bod y byd wedi newid cryn dipyn ers lansio ‘Cymraeg 2050’: mae’r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd a COVID-19 yn dal yma. Mae hyn oll yn cyflwyno amrywiol heriau i’n hiaith a hefyd nifer o gyfleoedd y byddwn ni am fanteisio arnynt yn y dyfodol. Mae ein Rhaglen Waith pum mlynedd yn ystyried y cyd-destun hwn.

Ers cyhoeddi ‘Rhaglen Waith 2021 i 2026’, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn cyfeirio at lawer o amcanion y cynlluniau hyn.

Mae disgwyl i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn ymwneud â’r Gymraeg rhwng gwanwyn 2022 a gwanwyn 2023. Pan gaiff y canlyniadau eu cyhoeddi, byddwn yn eu dadansoddi’n fanwl ac yn diweddaru’n taflwybr ystadegol a gyhoeddwyd fel rhan o ‘Cymraeg 2050’. Byddwn hefyd yn adolygu’n blaenoriaethau yn ôl y galw. Ond yr un fydd ein nod – gweithio gyda’n gilydd i gyrraedd y miliwn a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg.

Cefndir

Mae gan ‘Cymraeg 2050’ ddau brif darged:

  • nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050
  • canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013 i 2015) i 20% erbyn 2050

Mae’r targedau hyn yn darparu naratif glir i ni i gyd yng Nghymru, i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus a holl ddinasyddion ein gwlad: mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd – felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol. Yn ogystal, mae popeth a wnawn o dan y Cynllun hwn yn cofleidio gair ac ysbryd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn benodol: ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Mae ‘Cymraeg 2050’ yn seiliedig ar dair thema strategol ar gyfer gwireddu’r weledigaeth hon:

  1. cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
  2. cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
  3. creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

Byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar yr egwyddorion hyn wrth i ni weithio ar draws meysydd polisi’r Llywodraeth gan dalu sylw penodol i:

  • achub ar bob cyfle i brif-ffrydio ‘Cymraeg 2050’ ym mhob un o bortffolios y Llywodraeth
  • pwysigrwydd cynnal y Gymraeg fel y brif iaith sy’n cael ei siarad mewn

cymunedau yn y gorllewin a'r gogledd-orllewin sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg

  • datblygu’r gweithlu cyfrwng Cymraeg, yn enwedig yn y byd addysg
  • cynnal a chreu rhagor o leoedd cyfrwng Cymraeg
  • creu dinasyddion dwyieithog drwy gynnig cyfleoedd i bawb o bob oed i ddysgu Cymraeg ac i’w defnyddio’n rheolaidd

Meysydd gwaith

Thema 1: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Byddwn yn datblygu strategaeth bum mlynedd (2022 i 2027) er mwyn rhoi trosolwg o’r camau o ran taith ddysgu unigolion. Bydd yn ystyried y ddarpariaeth sydd ar gael yn y gwahanol gyfnodau dysgu gydol oes (o’r blynyddoedd cynnar, addysg statudol ac addysg ôl orfodol, yn y gweithle ac yn y gymuned), ac yn nodi blaenoriaethau er mwyn cynyddu nifer y plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n cael mynediad ati ac yn llwyddo i ddod yn ddinasyddion dwyieithog.

Y blynyddoedd cynnar

Byddwn ni’n parhau i weithio gyda Mudiad Meithrin i ehangu darpariaeth meithrin cyfrwng Cymraeg ledled y wlad, er mwyn cynnig llwybr tuag at addysg cyfrwng Cymraeg i gynifer o blant ag sy’n bosibl. Er mwyn cefnogi hyn, byddwn yn parhau i ddatblygu gweithlu’r blynyddoedd cynnar.

Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn parhau i gefnogi rhieni i ddefnyddio Cymraeg gyda’u plant, ac i ddewis gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg.

Byddwn yn parhau i weithredu ein Polisi Cenedlaethol ar gyfer Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd. Y nod yw helpu’r rhai sy’n gallu siarad Cymraeg i wneud hynny gyda’u plant, a helpu’r rhai sy’n ddihyder neu heb siarad Cymraeg ers amser i ddeall bod modd iddyn nhw hefyd siarad Cymraeg gyda’u plant.

Addysg statudol:

Bil Addysg y Gymraeg

Mae ‘Rhaglen Waith Cymraeg 2050 (2021 i 2026)’ yn ein hymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod tymor y chweched Senedd. Bydd gwaith i ddatblygu’r Bil yn parhau yn ystod 2022 i 2023.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn parhau i fod yn sail ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Byddwn yn cymeradwyo’r cynlluniau 10 mlynedd newydd yn ystod y cyfnod hwn, ac yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i fireinio ac yna gweithredu eu CSCA ar gyfer y degawd nesaf. Y nod yw i bob CSCA 10 mlynedd newydd ddod yn weithredol o fis Medi 2022.

Byddwn ni a’r awdurdodau lleol yn defnyddio ein Canllaw categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o’r gwaith hwn. Bydd yn gymorth wrth gynnig mwy o eglurder ynghylch y cynnydd ieithyddol disgwyliedig a’r deilliannau i ddisgyblion yn ôl cyfrwng addysgu’r ysgol. Bydd hyn yn ei dro yn cefnogi rhieni i wneud penderfyniadau deallus am addysg eu plant. Bydd hefyd yn annog ac yn cefnogi ysgolion i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg.

Bydd arian cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn parhau i gefnogi ymdrechion awdurdodau lleol wrth weithredu eu CSCA. Bydd cylch ariannu gwerth £30m ar gael yn ystod 2022 i 2023 i gynyddu’r ddarpariaeth addysg statudol cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

Mae trochi hwyr yn rhan hollbwysig o’r darlun hwn ac mae datblygiadau ar waith eleni. Rydym wedi buddsoddi £2.2m ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn hwyluso datblygiad neu dwf darpariaeth trochi hwyr cyfrwng Cymraeg, ac rydym yn bwriadu cefnogi’r gwaith hwn ymhellach dros gyfnod y Senedd hon. Mae enghreifftiau eisoes o awdurdodau lleol sydd, gyda chefnogaeth y consortia addysg rhanbarthol lle’n berthnasol, yn datblygu adnoddau a hyfforddiant i staff allu darparu methodoleg addysgu drochi hwyr cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â datblygu prosiectau sy'n lliniaru effeithiau COVID-19 ar ddysgwyr mewn addysg Gymraeg. Bydd hyn yn sicrhau bod gan yr holl newydd-ddyfodiaid i’r iaith fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg pan fydd ei hangen arnyn nhw a lle bynnag y maen nhw ar eu taith dysgu.

Y cwricwlwm newydd

Bydd y Cwricwlwm i Gymru yn sail i ddysgu ym mhob ysgol gynradd o fis Medi 2022, ac mewn rhai ysgolion uwchradd i ddysgwyr ym mlwyddyn 7.

Yn y Cwricwlwm i Gymru, mae cynnydd mewn dysgu yn cael ei gyflwyno fel continwwm ym mhob maes. Ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, mae disgrifiadau dysgu yn dangos cynnydd plant 3 i 16 oed o ddechrau’n ddi-iaith neu gydag ychydig o iaith tuag at hyfedredd.

Cyhoeddwyd ymgynghoriad ar Fframwaith Cymraeg anstatudol ar 14 Chwefror 2022. Mae’r fframwaith drafft yn nodi profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg er mwyn gwneud cynnydd yn y Gymraeg. Yn sgil yr ymgynghoriad, bydd y Fframwaith Cymraeg yn cael ei fireinio cyn ei gyhoeddi ym mis Medi 2022. Bydd y fframwaith, ynghyd â deunyddiau ategol, adnoddau a dysgu proffesiynol, yn cefnogi ysgolion i wella dysgu ac addysgu Cymraeg.

Addysg ôl-orfodol

Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu’r ddarpariaeth addysg uwch yn unol â’u Cynllun Academaidd diwygiedig, ac yn cydweithio gyda phrifysgolion Cymru i sicrhau bod rhagor o fyfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yn cael rhywfaint o’u cwrs yn Gymraeg. Bydd y Coleg hefyd yn cynnal dau brosiect i gefnogi agenda hyfforddi athrawon Cymraeg a dwyieithog Llywodraeth Cymru. 

Bydd y Coleg yn adeiladu ar y prosiectau strategol a gyflawnwyd eisoes i ddatblygu darpariaeth a chapasiti yn y colegau addysg bellach, gan ymestyn y cyfleoedd i ddysgwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog. I gyflawni hyn, bydd y Coleg yn cydweithio gyda phartneriaid strategol a’r sector ôl-16, gan osod seilwaith gadarn yn ei lle.

Yn 2022 i 2023, byddwn yn dyrannu £1.5m ychwanegol i’r Coleg i ehangu’r seilwaith yn y colegau ac ymestyn cefnogaeth bwrpasol i’r sector prentisiaethau mewn partneriaeth â’r prif ddarparwyr yn y maes. Y nod yw ymestyn i feysydd pellach ar draws y colegau addysg bellach a fydd yn cefnogi sefydliadau yn sgil COVID-19 i gyfrannu at waith i gryfhau’r sector chwaraeon a hamdden a gofal blynyddoedd cynnar yn ogystal ag ymestyn i’r sector amaeth.

Yn y sector prentisiaethau, bydd y Coleg yn cefnogi prosiectau strategol o’r newydd i ddatblygu capasiti ac ehangu’r ddarpariaeth ym meysydd iechyd a gofal, a gofal plant, ynghyd â datblygu isadeiledd i gefnogi datblygiad y Gymraeg ar draws y sefydliadau. Bwriad datblygu’r strwythur hwn yw galluogi mwy o ddysgwyr i siarad Cymraeg a bod yn hyderus ddwyieithog wrth symud ymlaen ar eu llwybr gyrfa.

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan) yn parhau i sicrhau ei bod yn adeiladu ar y diddordeb cynyddol sy’n bodoli i ddysgu Cymraeg, gan ddarparu ystod eang o gyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb lle’n bosib. Bydd y Ganolfan hefyd yn datblygu cyfleoedd Dysgu Cymraeg am ddim yn benodol i unigolion 16 i 25 oed. Bydd y Ganolfan hefyd yn datblygu porthol newydd ar gyfer gweithwyr sector addysg fel bod modd iddynt gael mynediad at wersi Cymraeg ar bob lefel yn rhad ac am ddim.

Bydd y Ganolfan yn parhau i weithredu prosiect Cymraeg Gwaith, gan ddarparu cyrsiau sy’n amrywio o gyrsiau blasu hunan-astudio ar-lein i gyrsiau preswyl dwys. Yn ogystal â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd ohoni, mae Cymraeg Gwaith hefyd yn caniatáu i gyrff ddarparu gwasanaethau Cymraeg gwell i'w defnyddwyr. Bydd hefyd yn cyfrannu at ein hagenda o gynyddu cyfleoedd i bobl allu defnyddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd.

Bydd y Ganolfan yn parhau i weithredu a datblygu ei phartneriaeth ffurfiol gyda ‘Say Something in Welsh’ a ‘Duolingo’ i gynyddu’r arlwy a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r rheiny sydd eisiau dysgu Cymraeg.

Bydd y Ganolfan yn arwain prosiect peilot newydd i gymell siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgolion i helpu i addysgu Cymraeg mewn ysgolion. Bydd y Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector addysg i gynnig cwrs hyfforddi i fyfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Yn y dyfodol, bydd y prosiect hefyd yn cynnwys lleoliad gwaith mewn ysgolion uwchradd. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn denu pobl ifanc i'r byd addysgu a'r sector Dysgu Cymraeg, ac yn helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion.

Adnoddau addysgol

Byddwn ni’n parhau gyda’n rhaglen i sicrhau bod adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithog ar gael i gefnogi holl feysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm newydd 3 i 16 oed, ynghyd â chymwysterau 14 i 19 oed. Byddwn yn sefydlu isadeiledd a fydd yn sicrhau y caiff adnoddau eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd yn y dyfodol.

Athrawon

Byddwn yn cyhoeddi cynllun 10 mlynedd a fydd yn cyd-fynd â chyfnod 10-mlynedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sy’n cael eu paratoi gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Mae'r cynllun wrthi'n cael ei ddatblygu ar y cyd â nifer o randdeiliaid allweddol. Bydd y Cynllun yn mynd i’r afael â'r nodau canlynol:

  • cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg
  • cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n cefnogi dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg
  • cefnogi'r gweithlu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio ar draws y cwricwlwm
  • hybu cyrsiau i wella sgiliau iaith a chodi hyder
  • datblygu capasiti arweinyddiaeth cyfrwng Cymraeg a rhoi sgiliau i bob arweinydd gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant o ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu

Thema 2: cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

Byddwn yn parhau i weithio i gynyddu defnydd o’n hiaith – i greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd: gartref, yn y gweithle neu yn ein cymunedau, boed y rheiny’n rhai daearyddol neu rithiol.

Defnydd cymunedol o’r Gymraeg

Byddwn ni’n parhau i weithredu’n hymateb i argymhellion adroddiad ‘Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg – canfyddiadau arolwg‘. Wrth wneud hyn, byddwn yn talu sylw penodol i ddatblygu cymunedol ac economaidd a’r Gymraeg, ac yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd newydd a ddaw i’n rhan yn sgil COVID-19 i gynnal a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, yn benodol yn y sector mentrau cymdeithasol a chydweithredol.

Byddwn yn parhau gydag adolygiad o’r Cynllun Grantiau i Hyrwyddo a Hwyluso Defnydd o’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod ein cynllun grant yn cyd-fynd ag amcanion ‘Cymraeg 2050’.

Byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth grant i amrywiol sefydliadau i’n cynorthwyo i gyflawni amcanion ‘Cymraeg 2050’. Rydym ni’n edrych ymlaen at weld rhai digwyddiadau mawr yn dychwelyd ar ffurf digwyddiadau byw ar faes gydag elfennau ar-lein hefyd. Yn eu plith mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, yn ogystal ag Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych, lle bydd yr Urdd yn dathlu ei ganmlwyddiant ac y bydd mynediad yn rhad ac am ddim. Byddwn yn disgwyl i’n derbynwyr grant flaenoriaethu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’u Cymraeg wyneb-yn-wyneb, ac yn cynorthwyo sefydliadau ar draws ein cymunedau i ailgychwyn eu gweithgareddau.

Polisi Trosglwyddo’r Gymraeg a’i Defnydd mewn Teuluoedd

Bwriad ein Polisi Trosglwyddo yw annog a chefnogi teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg ac i drosglwyddo’r iaith o un genhedlaeth i’r llall.

Mae Arolwg Defnydd Iaith 2013 i 2015 yn dangos yn glir bod defnyddio’r Gymraeg yn y cartref yn blentyn yn dylanwadu’n gryf ar amlder defnydd o’r Gymraeg pan yn hŷn.

Yn 2022 i 2023, byddwn yn comisiynu ymyraethau i gynnal a chynyddu trosglwyddo iaith mewn teuluoedd fel rhan o’r rhaglen sy’n rhoi’r polisi hwn ar waith. Bydd yr ymyraethau hyn yn seiliedig ar wyddoniaeth newid ymddygiad.

Mae rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cyrraedd miloedd o deuluoedd o bob math ar draws llawer o sectorau. Byddwn yn cydweithio gydag adrannau eraill ar draws y Llywodraeth i fanteisio ar y cyfleoedd y mae’r rhaglenni yn eu cynnig i gefnogi’r gwaith trosglwyddo.

Comisiwn ar Gymunedau Cymraeg

Yn sgil cyhoeddi adroddiad, ‘Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ (Mawrth 2021), fe wnaethom nodi ein bwriad i sefydlu comisiwn er mwyn ystyried dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol. Bydd y comisiwn yn arwain ar ddadansoddiad sosio-ieithyddol o sefyllfa'r iaith yn ein cymunedau gan ddatblygu model i gynorthwyo datblygwyr polisi ar faterion sy’n gysylltiedig â hyfywedd yr iaith. Rhan allweddol o’r gwaith fydd ystyried yr heriau y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu a meithrin gwell dealltwriaeth o'r heriau ieithyddol, sosio-economaidd ac ailstrwythuro cymdeithasol a wynebir yn sgil COVID-19 a Brexit.

Yn sail i hyn, bydd y comisiwn yn dadansoddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r newid ieithyddol a fu dros y degawd diwethaf. Yn sgil hyn, bydd yn ystyried pa ymyraethau sydd eu hangen heddiw, ac yn sicrhau bod ymyraethau polisi yn y dyfodol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.

Rhan ganolog o waith y comisiwn fydd datblygu modelau sy'n helpu i ddiffinio ardaloedd o ddiddordeb a sensitifrwydd ieithyddol. Bydd hyn yn cynnig dadansoddiad o’r cymorth a’r ymyraethau sydd eu hangen yn yr ardaloedd hyn i ddiogelu'r iaith, a sut y caiff yr ymyraethau ar y cyd eu defnyddio i sicrhau bod nodau polisi yn cael eu cyflawni.

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog

Byddwn ni’n parhau ac yn datblygu ein gwaith ar y rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog ar y cyd ag Academi Wales. Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i arweinwyr sefydliadau drafod sut mae ymgorffori ysbryd ‘Cymraeg 2050 yn eu sefydliadau.

Defnydd mewnol o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru

Byddwn yn adeiladu ar gynnydd y ddwy flynedd ddiwethaf o weithredu strategaeth defnydd mewnol y Llywodraeth, ‘Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd, er mwyn parhau i wireddu amcanion y strategaeth ar gyfer 2020 i 2025. Diben y gwaith yw hwyluso rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn ein gweithle, a chefnogi’r sefydliad i weithredu fwyfwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hynny’n rhan o ymrwymiad ehangach y Llywodraeth i arwain drwy esiampl, gan gefnogi rhagor o gyrff a noddir, yr awdurdodau lleol a’r gwasanaeth sifil yng Nghymru i weithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhaglen ARFer

Rydym ni’n ariannu Prifysgol Bangor i gynnal prosiect ARFer – prosiect sy’n defnyddio ‘addewidion’ ieithyddol mewn gweithleoedd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac i feithrin hyder siaradwyr Cymraeg nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn defnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Phrifysgol Bangor wrth iddynt addasu’r rhaglen ymhellach mewn ymateb i’r ffaith fod gweithleoedd wedi’u trawsnewid yn sgil COVID-19. Bydd y rhaglen yn cael ei chynnig mewn nifer o sefydliadau cyhoeddus yng ngogledd Cymru ac yn wir, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect.

Safonau’r Gymraeg

Byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i geisio lleihau rhwystrau wrth bennu Safonau’r Gymraeg. Byddwn yn mynd ati yn ystod 2022 i 2023 i gyflwyno rheoliadau yn y Senedd i wneud safonau’n benodol gymwys i reoleiddwyr iechyd a chwmnïau dŵr, a byddwn yn dechrau’r gwaith o baratoi safonau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chyrff cyhoeddus sy’n dal y tu allan i’r gyfundrefn safonau.

Thema 3: creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

Byddwn yn parhau i weithio mewn amrywiol feysydd er mwyn adeiladu seilwaith a fydd yn creu amodau ffafriol i’r Gymraeg ffynnu er mwyn i bawb gael cyfle i ddysgu’n hiaith ac i’w defnyddio.

Yr economi

Byddwn ni’n parhau i gydweithio’n eang gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill ar gyfres o gamau gweithredu sy’n deillio o waith ein Bwrdd Crwn Economi ac Iaith. Yn sgil cyhoeddi Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg drafft, byddwn hefyd yn ehangu maes gwaith y Bwrdd Crwn i gynnwys y maes tai. Bydd gwaith y Bwrdd Crwn yn edrych ar gyfraniad posibl mudiadau cymunedol a chydweithredol i ddyfodol y Gymraeg a nifer fawr o elfennau eraill.

Byddwn yn adolygu adroddiad gwerthuso rhaglen Arfor er mwyn ystyried cyfleoedd i fesur ac ehangu ymyraethau ym maes entrepreneuriaeth, twf busnesau, cadernid cymunedol a’r Gymraeg.

Fforddiadwyedd tai mewn cymunedau Cymraeg

Byddwn yn dadansoddi’r ymatebion a ddaeth i law fel rhan o’r ymgynghoriad diweddar ar y ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ drafft. Byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth i gyhoeddi cynllun terfynol a fydd yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu cymunedau o ran diffyg tai fforddiadwy i bobl leol ac effaith ail gartrefi ar ein cymunedau – yn enwedig mewn ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.

Byddwn yn rhoi sylw i gynllun peilot yn ardal Dwyfor drwy weithio ar nifer o ymyraethau i gefnogi pobl i gael mynediad at y farchnad eiddo, i rentu ac i ddod â chartrefi gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd lleol.

Byddwn yn edrych ar y system gynllunio, y system eiddo a’r system drethu yn ôl y gofyn er mwyn gwneud yn siŵr bod cartrefi fforddiadwy ar gael i bobl yn eu cymunedau, ac fel bod hynny yn ei dro yn cefnogi ffyniant y Gymraeg yn y cymunedau hynny. Bydd y gwaith hwn yn gysylltiedig ag argymhellion adroddiad ‘Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg – canfyddiadau.’

Technoleg ddigidol

Byddwn ni’n adeiladu ar ein cynnydd hyd yma gyda’n Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg. Yn ystod 2022 i 2023, byddwn ni’n parhau i wella darpariaeth technoleg lleferydd Cymraeg ac yn gweithio gyda’r sector busnes er mwyn sicrhau defnydd o’r cydrannau technoleg iaith yr ydym eisoes wedi eu creu.

Seilwaith ieithyddol

Byddwn ni’n adeiladu ar yr ymgynghoriad ar bolisi seilwaith ieithyddol drafft a gynhaliwyd yn ystod 2021, ac yn defnyddio’r ymatebion i ddatblygu camau cyntaf prosiect i greu strwythur mwy strategol a chyd-gysylltiedig i gynnal a datblygu seilwaith ieithyddol y Gymraeg. Y nod yn y pen draw yw ei gwneud yn haws i bawb wybod ble i droi wrth chwilio am gefnogaeth wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Enwau lleoedd Cymraeg

Yn ystod 2022 i 2023, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio’n eang ar y maes hwn, a bydd yr ymgynghoriad ar Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg, a ddaeth i ben ar 22 Chwefror 2022, yn bwydo i mewn i’r broses honno. Mae’n cynnwys nifer o gynigion ar gyfer enwau tai, ac yn holi pa fath o ymyraethau lleol y mae pobl am eu gweld i hyrwyddo pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg, annog pobl i'w cadw ac i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael ei gweld yn ein cymunedau. 

Yn aml, mae enwau daliadau tir ac eiddo, gan gynnwys ffermydd a thai, yn enwau hanesyddol, ac mae llawer ohonynt wedi eu cofnodi yn y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, sy’n cael ei chynnal ar ran Gweinidogion Cymru gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae’r Comisiwn wedi cynnull Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn asesu pa mor effeithiol fu’r Rhestr ers ei lansio, ac i ystyried sut y gellid ei gwella. Bydd y Grŵp yn adrodd yn ystod chwarter cyntaf 2022, ac yn cynnig argymhellion a fydd yn llywio nid yn unig y camau nesaf ar gyfer datblygu’r adnodd hollbwysig hwn, ond hefyd yn dylanwadu ar y maes yn ehangach.

Cymru a’r byd ehangach

Byddwn ni’n parhau i hyrwyddo’r Gymraeg ar y llwyfan rhyngwladol. Bydd hyn yn cynnwys chwarae rôl arweiniol mewn rhwydweithiau rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol megis y Rhwydwaith i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol (NPLD), y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a Degawd Ieithoedd Brodorol 2022 i 2032 UNESCO.

Byddwn ni’n parhau i bwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg a’n dwyieithrwydd wrth i ni hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol fel rhan o’n Strategaeth Ryngwladol.

Byddwn hefyd yn cydweithio gyda’r Urdd ar Neges Heddwch ac Ewyllys Da Cymru 2022 – thema eleni fydd Newid Hinsawdd.

Cydraddoldeb o ran hil ac ethnigrwydd

Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn ystod y gwanwyn a’r haf. Bydd y Cynllun yn cynnwys nifer o gynigion er mwyn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb hil ac ethnigrwydd yn dod yn rhan mwy

canolog fyth o’n gwaith, gan gynnwys mynediad at yr iaith. Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr agenda gwrth-hiliaeth yn cael ei mabwysiadu’n drylwyr yn holl waith ein partneriaid sy’n gweithio gyda ni i weithredu ‘Cymraeg 2050’.

Bydd Is-grŵp Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn parhau i ganolbwyntio ar faes hil ac ethnigrwydd.

Byddwn yn parhau i ddatblygu terminoleg Gymraeg ym maes hil ac ethnigrwydd ac yn rhannu’r eirfa gyda defnyddwyr ledled Cymru er mwyn hwyluso sgyrsiau gonest am y maes.

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn parhau i weithredu cwrs blasu ‘Croeso i bawb’, gan roi cyfleoedd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddysgu Cymraeg ar gyrsiau sydd wedi eu teilwra’n arbennig ar eu cyfer. Bydd y Ganolfan hefyd yn cefnogi ‘Say Something in Welshi ddarparu adnodd e-ddysgu fel bod rhai ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu dysgu Cymraeg drwy gyfrwng eu hieithoedd cyntaf hwy.

Darlledu

Byddwn yn dechrau ar y gwaith o ddatblygu'r ymrwymiadau darlledu a’r cyfryngau a nodir yn y Cytundeb Cydweithio ac yn archwilio’r posibilrwydd o greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru. Mae hyn yn cynnwys gwaith i gefnogi fframwaith yng Nghymru sy’n diwallu ein hanghenion a’n huchelgais ar gyfer y Gymraeg.

Diwylliant

Byddwn yn datblygu strategaeth ddiwylliant newydd a fydd yn arddangos holl amrywiaeth Cymru, gan wneud yn siŵr bod y Llywodraeth yn gweithio’n strategol er mwyn gweithredu chweched piler Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.’ Wrth wneud hyn, byddwn yn ymwneud yn agos ac yn ystyrlon gyda’r sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Bydd hyn yn cael blaenoriaeth yn ystod 2022. Bydd union flaenoriaethau’r strategaeth yn cael eu cytuno drwy ymgynghori’n agos gyda’r sectorau.

Mae ein cyrff cyhoeddus wedi derbyn llythyrau cylch gwaith newydd ar gyfer tymor llawn y Llywodraeth hon. Mae’r llythyrau’n pennu blaenoriaethau clir mewn perthynas â’r Gymraeg, gan gynnwys ein disgwyliad i'r Gymraeg gael ei gwreiddio'n drwyadl ym mhopeth a wnânt gan ddathlu dwyieithrwydd a galluogi pobl Cymru i ddefnyddio'r iaith fel rhan o'u bywydau bob dydd.

Ymchwil ac ystadegau

Byddwn ni’n parhau i ehangu ar ein sail dystiolaeth ymchwil ac ystadegau fel sylfaen i weithredu ‘Cymraeg 2050’.

Byddwn ni’n rhoi camau mewn lle i gynnal gwerthusiad o ‘Cymraeg 2050’, er mwyn i ni ddeall pa gynnydd rydym wedi ei wneud hyd yma tuag at wireddu amcanion y strategaeth.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n gyfrifol am y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, yn bwriadu cyhoeddi holl ddata Cyfrifiad 2021 o ddiwedd mis Mai 2022 ymlaen. Unwaith y bydd data am y Gymraeg ar gael, byddwn yn dadansoddi’r holl ganlyniadau sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ac yn ystyried diweddaru’r taflwybr ystadegol ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.