Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae’r daith i gyrraedd miliwn o siaradwyr a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050 wedi cydio yn nychymyg pobl ar hyd a lled Cymru ers i’r Llywodraeth ddiwethaf gyhoeddi strategaeth Cymraeg 2050.

Rwy’n falch iawn o’r cyfle i arwain ein hymdrech ni i barhau â’r daith tuag at y miliwn wrth i ni roi camau nesaf y strategaeth ar waith yn ystod y Senedd hon. Mae’r strategaeth ei hun a’n Rhaglen Waith yn rhan allweddol o’n hymdrech i gwrdd â’r nod llesiant cenedlaethol o weld y Gymraeg yn ffynnu.

Ry’n ni’n byw mewn cyfnod heriol ac rwy’n ymwybodol bod angen i ni droi ewyllys da tuag at y Gymraeg yn weithredu cadarn a chyflym. Mae’r ymrwymiad i wneud hyn yn rhedeg drwy’r Rhaglen hon.

Mae ein gweledigaeth ni’n un eangfrydig a chynhwysol. Ry’n ni eisiau creu dinasyddion dwyieithog sy’n hyderus i ddefnyddio Cymraeg ym mhob rhan o fywyd bob dydd. Yn syml, ry’n ni am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonon ni.

Yn naturiol, mae ein hymateb i COVID-19 a’i effaith ar y defnydd o’r Gymraeg yn ganolog i’r Rhaglen Waith, ac mae prif elfennau strategaeth Cymraeg 2050 yn glir ac yn parhau er gwaetha’r pandemig. 

Gyda strategaeth sy’n ymestyn dros gyfnod hir, roedden ni’n gwybod y gallai newidiadau mewn cymdeithas olygu bod rhaid addasu ein blaenoriaethau dros amser. Wrth gwrs, bu’n rhaid i ni wneud hynny’n gynt na’r disgwyl, ac mae’r Rhaglen Waith yma’n adlewyrchu hyn wrth i ni barhau ar y daith tuag at y miliwn.

Mae cynllunio’n greiddiol i’r Rhaglen hon. Mae’n rhaid cynllunio’n ofalus a chyda phendantrwydd er mwyn gallu cynyddu’r nifer o blant ac oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’n rhaid cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ddefnyddio’u sgiliau, ac mae’n rhaid i ni osod cyd-destunau sy’n golygu bod pobl yn gallu defnyddio’r iaith gyda’i gilydd, a hynny mewn cymunedau daearyddol neu rithiol, gweithleoedd, mannau cymdeithasol ac o fewn rhwydweithiau.

Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020 yn cael eu cyhoeddi yn ystod y Senedd yma. Mae’n hollbwysig, felly, bod hon yn Rhaglen Waith hyblyg, y gellir ei hadolygu a’i datblygu yn sgil y canlyniadau hynny, ynghyd â’r dystiolaeth ry’n ni’n ei gasglu’n barhaus. 

Mae agenda Cymraeg 2050 yn un draws-lywodraethol ac wedi’i angori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Llywodraeth gyfan wedi ymrwymo i hyn, gyda “Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg...” yn un o’r deg amcan llesiant yn ein Rhaglen Lywodraethu, ac yn gyfrifoldeb i bob un ohonon ni yn y Cabinet.

Mae’r Rhaglen hon hefyd yn cyfrannu tuag at amcanion llesiant eraill y Llywodraeth, a’n dyhead i greu Cymru gryfach, gwyrddach a thecach. Ry’n ni’n gryfach wrth ddathlu ein dwyieithrwydd fel rhan annatod o Gymru sy’n cyfrannu at ein hunaniaeth ni fel gwlad o fewn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. 

Mae’r gwaith o dyfu’r economi werdd a chreu swyddi da, agos at adref, mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn brif iaith yn ein gwneud ni’n wyrddach. 

Ac ry’n ni’n decach drwy’r gwaith ry’n ni’n ei wneud wrth gynllunio, deddfu a buddsoddi i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, fel bod pob plentyn o ba gefndir bynnag fynediad i’r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.

Felly, mae’n bleser mawr i mi gyflwyno’r Rhaglen Waith uchelgeisiol hon ar gyfer cyfnod y Senedd newydd. Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio’n eang i greu dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg a chyfle i gymaint o bobl â phosib ym mhob rhan o’r wlad fwynhau ei dysgu a’i defnyddio’n fwy hyderus nag erioed o’r blaen.

Jeremy Miles AS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyflwyniad

 

Mae Cymraeg 2050 yn strategaeth eang sydd â gweledigaeth hirdymor. Dyna pam y gwnaethon ni gyhoeddi Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2017 i 2021 ar yr un pryd â’r strategaeth, ynghyd ag ymrwymiad i baratoi rhaglenni gwaith pellach ar hyd y daith i 2050.

Gyda chyfnod y Rhaglen Waith gyntaf wedi dod i ben, rydyn ni’n amlinellu’r gwaith i barhau i wireddu Cymraeg 2050 yn ystod cyfnod y Chweched Senedd, 2021 i 2026, drwy’r ddogfen hon, yr ail Raglen Waith.

Drwy gyhoeddi’r ddogfen hon yn gynnar yn nhymor y Llywodraeth, rydyn ni’n cynnal y momentwm sydd wedi tyfu ers 2017, ac yn mynegi’n glir i’n partneriaid beth yw’n bwriad ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Mae’r ddogfen hon yn esbonio’r hyn rydyn ni am ei gyflawni rhwng 2021 a 2026. Nid yw’n gosod allan yr holl fanylion o ran y gweithgarwch neu’r ymyraethau y byddwn ni’n ymgymryd â nhw. Byddwn ni’n cyhoeddi polisïau ac yn datblygu prosiectau a rhaglenni fydd yn mynd i’r afael â’r manylion hynny yn ystod cyfnod y Rhaglen Waith, gan ymgynghori a chasglu barn, fel y bo’n briodol, gan y cyhoedd, sefydliadau ac arbenigwyr wrth wneud hynny. 

Tra bod hon yn Rhaglen 5 mlynedd, byddwn ni’n ei hadolygu o dro i dro ac yn ei diweddaru yn ôl yr angen. Bydd canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi yn ystod hanner cyntaf cyfnod y Rhaglen hon. Bydd hynny’n rhoi cyfle i ni ystyried a oes angen adolygu ein blaenoriaethau. Dyma hefyd pryd y byddwn ni’n diweddaru’r taflwybr ystadegol ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr.

Hon, felly, yw’r ddogfen sy’n dangos i bawb sut y byddwn ni’n rhoi’r cyfle i bobl ddod ynghyd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Cyd-destun

Strategaeth Cymraeg 2050

Cyhoeddwyd y strategaeth yn 2017. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld “y Gymraeg yn ffynnu”, fel rhan o gyflawni un o’r Nodau Llesiant Cenedlaethol. Mae ein strategaeth yn esbonio hyn, gyda dau darged clir: 

  • miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
  • dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050

Mae’r strategaeth yn cynnig dull gweithredu ar sail dadansoddiad o sut mae pobl yn byw eu bywydau (neu’r dull cwrs bywyd). Rydyn ni am ddeall yn well sut mae pobl yn defnyddio’r iaith, er mwyn gwybod beth sy’n dylanwadu ar y penderfyniadau maen nhw’n eu gwneud ar adegau allweddol yn eu bywydau - er enghraifft wrth symud o addysg i’r gweithle, neu wrth gael plentyn am y tro cyntaf. Rydyn ni hefyd am greu cyfleoedd sy’n ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r iaith ym mhob rhan o fywyd.

Mae’r strategaeth wedi’i rhannu’n dair thema sy’n cydblethu gyda’i gilydd. Mae’r Rhaglen Waith hon yn dilyn yr un cynllun.

  1. Cynyddu’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg
  2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg
  3. Creu amodau ffafriol - seilwaith a chyd-destun

Edrych nôl: Rhaglen Waith 2017 i 2021

Cyhoeddwyd y Rhaglen Waith gyntaf gyda’r strategaeth yn 2017. Tra bo’r strategaeth yn ddogfen weledigaeth, dogfen weithredol oedd y Rhaglen Waith. Yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Cymru 2006, ategwyd y Rhaglen Waith gan gyfres o gynlluniau gweithredu blynyddol ac adroddiadau blynyddol oedd yn nodi cynnydd, llwyddiannau a heriau.

Prif fyrdwn y Rhaglen Waith gyntaf oedd gosod sylfaen gadarn i’r dyfodol, gan gydnabod mai proses hirdymor yw cynllunio ieithyddol. Roedd y Rhaglen yn cynnwys cyfres o dargedau i’w cyflawni erbyn 2021.

  • Cyrhaeddwyd y targed o 40 grŵp meithrin ychwanegol. Roedd hyn yn 620 yn fwy o leoedd. Gwelwyd hefyd gyfraddau trosglwyddo calonogol rhwng y cyfnod meithrin ac addysg gynradd cyfrwng Cymraeg (o 86.4% yn 2015 i 2016 i 88.1% yn 2019/20).
  • Gwelwyd cynnydd o ychydig dan 1 pwynt canran (o 22.0% yn 2015 i 2016 i 22.8% yn 2020 i 2021) yn y plant Blwyddyn 2 (plant 7 oed fel arfer) a gafodd eu hasesu drwy’r Gymraeg fel iaith gyntaf[troednodyn 1]. Er nad ydym wedi cyrraedd y targed o 24% erbyn 2021, mae arwyddion calonogol mewn carfanau iau, lle cafodd 23.8% o blant dosbarthiadau Derbyn (plant 5 oed fel arfer) eu haddysgu yn Gymraeg yn 2020 i 2021.
  • Mae cyflawni’r targedau ynghylch y gweithlu addysg wedi bod yn fwy heriol. Roedd 2,789 o athrawon cynradd cyfrwng Cymraeg ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020 o gymharu â’r targed yn Cymraeg 2050 ar gyfer 2021 o 3,100, ac felly rydyn ni’n brin o 311 (10.0%). Yn 2019 i 2020 roedd 2,339 o athrawon uwchradd yn addysgu yn Gymraeg o gymharu â’r targed o 2,800 ar gyfer 2021, sy’n ddiffyg o 500 (16.5%).

Effaith pandemig COVID-19

Nododd Cymraeg 2050 y byddai angen addasu’n cynlluniau ar gyfer cyflawni’r strategaeth dros amser wrth ymateb i newidiadau cymdeithasol. Mae pandemig COVID-19 wedi golygu y bu’n rhaid i nifer o’n hymyraethau ni a’n partneriaid newid neu ddod i ben, ac y bu’n rhaid creu ymyraethau newydd. Nid ydym eto yn gwybod beth fydd holl oblygiadau’r pandemig ar gyrraedd targedau Cymraeg 2050, ond rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar sawl agwedd gan gynnwys ym maes addysg, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, a gwead sosio-economaidd cymunedau lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol. Mae’r ddogfen hon yn esbonio’r camau y byddwn ni’n eu cymryd i fynd i’r afael â’r heriau hyn.

Y taflwybr

Mae’r amcanestyniad a’r taflwybr i’r filiwn sydd yn y strategaeth yn seiliedig, yn bennaf, ar ddata’r cyfrifiad a data am y boblogaeth. Rydyn ni’n nodi y byddwn ni’n adolygu ein cynnydd yn barhaus ac yn ailymweld â’r taflwybr yn ôl yr angen.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yng Nghymru fis Mawrth 2021 a bwriad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (sy’n gyfrifol am y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr) yw cyhoeddi holl ddata Cyfrifiad 2021 o fewn 24 mis i’r cyfrifiad. Mae disgwyl i’r data am y Gymraeg felly fod ar gael erbyn mis Mawrth 2023. Bryd hynny gallwn ddiweddaru’r amcanestyniad a’r taflwybr i’r filiwn yn gyfan gwbl.

Mae data mwy diweddar am y boblogaeth eisoes ar gael fodd bynnag. Mae amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol mwyaf diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd llai yn y boblogaeth yn y cyfnod hyd at 2050 na’r hyn oedd yn sail i’r amcanestyniad a’r taflwybr gwreiddiol. Mae hyn yn wir hefyd ar gyfer plant a phobl ifanc 0 i 15 oed. Mae ein strategaeth yn nodi’n glir y dylid trin amcanestyniadau â gofal gan ei bod yn debyg y bydd maint a strwythur y boblogaeth yn newid dros amser, felly bydd yn rhaid i’n taflwybr adlewyrchu hyn.

Targedau ar gyfer y Rhaglen Waith hon

Mae’r strategaeth yn nodi cyfres o dargedau i’w cyrraedd dros wahanol gyfnodau amser tuag at 2050. Un o’r cerrig milltir allweddol ar y daith yw cyrraedd 30% o ddysgwyr[troednodyn 2] (tua 10,500 o ddysgwyr mewn grŵp blwyddyn adeg cyhoeddi’r strategaeth) mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2031. Rydyn ni ar gychwyn cyfnod o weithio gydag awdurdodau lleol ar gynlluniau 10-mlynedd i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd cyfnod y Rhaglen Waith hon yn dod i ben hanner ffordd drwy’r degawd hwnnw. Er mwyn bod ar y trywydd iawn i gwrdd â tharged 2031, ein targed erbyn 2026 yw:

  • Cynyddu’r canran o ddysgwyr blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu yn y Gymraeg o 23% (2020 i 2021) i 26% yn 2026.

Er mwyn hwyluso hynny byddwn ni’n gweithio i gyrraedd:

  • 60 o grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg ychwanegol erbyn 2026.

Byddwn ni’n adolygu’r targedau uchod yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2021 wrth i ni adolygu’r taflwybr i’r filiwn.

O ran y gweithlu addysg, byddwn ni’n diweddaru’r targedau wrth i ni adolygu’r taflwybr i’r filiwn. Bydd y targedau hynny’n adlewyrchu’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

[troednodyn 1]Noder na chasglwyd data asesiadau athrawon yn ystod 2020/21 felly mae’r data yn seiliedig ar ddata dros dro Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion ar gyfer 2020/21.

[troednodyn 2]Fel a nodir yn y Canllawiau ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (2021), mae’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo targedau y Cynlluniau hynny wedi ei seilio ar ddata blwyddyn 1 yn hytrach na blwyddyn 2. Mae hynny er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu mesur darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg cyn gynted â phosibl ac yn gyson yn ystod y broses o weithredu trefniadau newydd y cwricwlwm. Ceir rhagor o fanylion yn Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Ein hegwyddorion

Wrth i ni weithredu’r Rhaglen Waith hon bydd  yr egwyddorion canlynol yn ein harwain:

  • Mae Cymraeg 2050 yn ymdrech i’r Llywodraeth gyfan. Mae hyn yn debyg i faterion llorweddol eraill fel cydraddoldeb a newid hinsawdd ac yn y blaen, ac mae angen i ni sicrhau perchnogaeth ar bolisi iaith ar draws Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus.
  • Mae polisi iaith yn fwy na chydymffurfiaeth. Byddwn ni’n mynd ymhellach na sicrhau ein bod yn cydymffurfio â dyletswyddau ieithyddol. Rydyn ni am sicrhau bod materion polisi iaith yn rhan o ddisgwrs datblygu polisi ar draws y Llywodraeth.
  • Byddwn ni’n mynd i’r afael â materion sydd o bwys strategol i ddyfodol y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys:
    • cynnal a diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol
    • creu rhagor o gyfleoedd i blant ac oedolion ddysgu’r Gymraeg a sicrhau bod modd defnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd ar draws Cymru
  • Byddwn ni’n pwysleisio’r angen i greu cyd-destunau lle gall pobl siarad Cymraeg gyda’i gilydd.
  • Byddwn ni’n dysgu gan gynllunwyr ieithyddol yn fyd eang ac yn rhannu ein tystiolaeth ninnau gyda’n partneriaid rhyngwladol.
  • Byddwn ni’n dathlu llwyddiannau ac yn gosod cywair o anogaeth.

Strwythurau ar gyfer gweithredu

Llywodraeth Cymru

Rhaglen Waith i Lywodraeth Cymru ei chyflawni yw’r ddogfen hon a ni sy’n gyfrifol am ei gwireddu. Gweinidog y Gymraeg ac Addysg sy’n atebol i’r Senedd o ran gweithredu’r Rhaglen yn ei chyfanrwydd ac mae pob Gweinidog yn atebol am sicrhau fod eu meysydd polisi yn cyfrannu tuag at y nod.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn gorff statudol o aelodau a benodir o dro i dro o dan broses penodiadau cyhoeddus. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynghori’r Gweinidog ar weithredu Cymraeg 2050, a bydd hynny’n parhau wrth i ni weithredu’r Rhaglen Waith hon.

O fewn gweinyddiaeth y Llywodraeth, caiff y Rhaglen Waith ei gyrru gan Is-adran y Gymraeg, sy’n adrodd i Fwrdd Rhaglen Cymraeg 2050 y mae ei aelodau’n cynnwys gweision sifil o adrannau ar draws y Llywodraeth.

O fewn yr Is-adran, mae Prosiect 2050 yn uned amlddisgyblaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a chomisiynu ymyraethau ar gyfer cynyddu defnydd y Gymraeg. Gwneir hynny ar sail tystiolaeth a thrwy ymgynghori ag arbenigwyr mewn amryfal ddisgyblaethau - ym maes cynllunio ieithyddol ac mewn meysydd newid ymddygiad eraill.

Partneriaid

Er mwyn llwyddo, rhaid i ni weithio mewn partneriaeth. Bydd gan y sefydliadau trydydd sector a gaiff eu hariannu drwy’r grant hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg[troednodyn 3] rôl allweddol i’w chwarae, ynghyd â’r Mudiad Meithrin, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg.

Mae nifer o’n partneriaid grant wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. Mae hyn yn arbennig o wir am yr Urdd sy’n ail-adeiladu drwy gynnig gwasanaethau chwaraeon a chelfyddydau, rhagor o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, a chanolfannau preswyl sydd wedi’u hadnewyddu. Mae gan yr Urdd hefyd raglen canmlwyddiant gyffrous fydd yn gyfle i ddangos ei waith yn rhyngwladol.

Gyda ffocws yn y Rhaglen Waith hon ar ddefnydd y Gymraeg, bydd gan y Mentrau Iaith rôl i roi cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. O ran yr Eisteddfod Genedlaethol, mae cyfle i greu prosiectau tair blynedd yn yr ardaloedd lle cynhelir yr Eisteddfod. Gallai hynny gynnwys plethu ymweliad yr Eisteddfod gyda’r ymdrechion lleol i gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ac ehangu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg - yn ogystal â chreu cynnwys Cymraeg newydd. 

Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ill dau rôl hanfodol i’w chwarae yn yr ymdrech i gaffael a dysgu’r Gymraeg. Mae rhagor o fanylion am hyn yn yr adran nesaf.

Mae’r holl bartneriaid uchod yn bwysig, a byddwn ni hefyd yn croesawu’r cyfle i weithio gyda phartneriaid newydd. Mae’n bwysig ein bod yn denu cynulleidfaoedd newydd i’r iaith, ac yn cefnogi cymunedau a sefydliadau i gynyddu defnydd y Gymraeg.

[troednodyn 3]Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mentrau Iaith Cymru a’r Mentrau Iaith lleol, Merched y Wawr, Urdd Gobaith Cymru, y Papurau Bro.

Thema 1: cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

Rydyn ni wedi’n calonogi gan y gwaith cynllunio sydd wedi digwydd ar draws y meysydd addysg a gofal i gynyddu nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ers i ni gyhoeddi’r targed o filiwn o siaradwyr yn 2017. Mae’r ymdrechion hynny wedi arwain at gwrdd â’r targed yn ein Rhaglen Waith ddiwethaf o agor 40 o gylchoedd meithrin newydd, cynnydd bychan yn y ganran a’r niferoedd sy’n cael eu haddysg ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, a mwy o weithgareddau dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cael eu hastudio gan fyfyrwyr yn y sectorau addysg bellach, prentisiaethau ac addysg uwch. Mae mwy a mwy o oedolion yn dewis dysgu Cymraeg erbyn hyn hefyd.

Mae Cymraeg 2050 yn cynnwys targed pwysig i ni ei gyflawni erbyn 2031, sef bod 30% o ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hynny bellach yn gyfystyr ag oddeutu 9,200 o blant; ychydig o dan 1,400 yn uwch na’r ffigur cyfredol. Mae cwrdd â’r targed yn galw am gamau breision a chyflym er mwyn sicrhau bod digon o ysgolion Cymraeg ar gael ym mhob rhan o Gymru.

Wrth i ni weithio gyda’n cyd-weithwyr mewn awdurdodau lleol ar raglen sylweddol i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, byddwn ni’n sicrhau bod y system addysg yn ei chyfanrwydd yn cefnogi ac yn hwyluso’r dasg. Byddwn ni’n rhoi sylw penodol i addysg cyfrwng Cymraeg o safbwynt yr heriau a’r cyfleoedd penodol a fydd gan y sector honno yn y dyfodol. Byddwn yn sicrhau bod materion sy’n berthnasol i addysg cyfrwng Cymraeg (er enghraifft modelau trochi, yr her o gynyddu defnydd iaith, ymgysylltu â rhieni, deall beth yw bod yn ddwyieithog ac yn y blaen) yn cael eu cynnwys yng ngwaith prif ffrwd y gyfundrefn addysg. Elfen allweddol o hynny fydd gweithredu i sicrhau bod digon o athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae creu dinasyddion dwyieithog sy’n hyderus eu sgiliau Cymraeg a Saesneg yn elfen ganolog o Cymraeg 2050. Tra bo gan addysg statudol cyfrwng Cymraeg ran enfawr i’w chwarae i wireddu hynny, pwysig yw cofio nad yw’n digwydd mewn gwagle. Mae angen i ni osod yr her o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg o fewn cyd-destun yr holl ffyrdd posibl y gall pobl gaffael a dysgu’r Gymraeg. Mae angen i ni feddwl yn radical ynghylch sut mae ymwneud â chaffael a dysgu’r Gymraeg. Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi polisi cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd, ac rydyn ni wedi closio’r maes blynyddoedd cynnar gydag addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn hwyluso cynllunio. Rhaid hefyd gryfhau’r cyswllt rhwng addysg statudol ac addysg ôl-orfodol. Mae hyn yn golygu rhoi llwybrau i ddysgwyr sy’n eu galluogi i barhau i ddatblygu sgiliau Cymraeg wrth symud o un cyfnod addysg i’r llall, a sicrhau bod hynny’n parhau i mewn i’r gweithle gyda chefnogaeth y sector Cymraeg i oedolion.

Byddwn ni felly yn paratoi strategaeth pum-mlynedd sy’n dod â phob elfen o gaffael a dysgu iaith gydol oes ynghyd i greu un cynllun holistaidd. Bydd cyfnod y strategaeth yn cyd-redeg gyda hanner cyntaf cylch 10-mlynedd cynlluniau’r awdurdodau lleol i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg (y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg) yn ogystal â chynllun 10-mlynedd sydd yn yr arfaeth ar gyfer y gweithlu addysg. Byddwn ni hefyd yn datblygu cynigion ar gyfer deddfu i gefnogi’r strategaeth ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg gydol oes.  

Meysydd gweithredu 2021 i 2026

  1. Datblygu strategaeth pum-mlynedd ar gyfer caffael a dysgu’r Gymraeg gydol oes—o’r blynyddoedd cynnar, yn ystod cyfnod addysg statudol ac addysg ôl-orfodol, yn y gweithle ac yn y gymuned.
  2. Cyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg i gryfhau a chynyddu addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru a sicrhau bod y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGAau) yn cael eu cyflawni ym mhob sir er mwyn gwneud mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch a theg.
  3. Mewn cydweithrediad â nifer o randdeiliaid, datblygu a gweithredu cynllun 10-mlynedd ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg a gwella sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg er mwyn gallu diwallu anghenion lleol pob sir yn unol â’u CSGAau.
  4. Diweddaru’r targedau ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg.  
  5. Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd, sy’n cynnwys rhoi cefnogaeth i rieni sydd â sgiliau Cymraeg ddefnyddio eu Cymraeg gyda’u plant gartref.
  6. Adolygu cyfraddau trosglwyddo’r Gymraeg mewn teuluoedd yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2021.
  7. Buddsoddi bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf er mwyn ehangu’n darpariaeth blynyddoedd cynnar Cymraeg, gan gynnwys grwpiau meithrin a sesiynau blasu i rieni, gan:  
  • Gefnogi ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ymhellach drwy agor 60 Cylch Meithrin a 60 Cylch Ti a Fi newydd mewn lleoliadau newydd.
  • Ehangu’r rhaglen hyfforddiant i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar drwy gynyddu prentisiaethau, ehangu’r rhaglen Academi ac ehangu’r rhaglen Croesi’r Bont sy’n trochi ymarferwyr newydd yn y Gymraeg.
  1. Datblygu targedau o safbwynt nifer y plant mewn grwpiau meithrin cyfrwng Cymraeg a’r ganran o’r plant mewn grwpiau meithrin Cymraeg sy’n trosglwyddo i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.
  2. Symleiddio sut rydyn ni’n categoreiddio ysgolion yn ôl eu darpariaeth o’r Gymraeg er mwyn rhoi eglurder ynghylch y cynnydd ieithyddol disgwyliedig a’r deilliannau i ddisgyblion yn ôl cyfrwng addysgu’r ysgol, yn ogystal ag annog a chefnogi ysgolion i gynyddu eu darpariaeth o’r Gymraeg.
  3. Clustnodi £30m o gyllid cyfalaf i gefnogi ymdrechion awdurdodau lleol i gyflawni’u targedau ar gyfer ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.
  4. Datblygu rhwydwaith i gefnogi addysg drochi drwy gyfrwng y Gymraeg, ar sail ymchwil a thystiolaeth.
  5. Ehangu’r Rhaglen Drochi Hwyr i Ddisgyblion i sicrhau bod gan yr holl newydd-ddyfodiaid i’r iaith fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg pan fydd ei hangen arnyn nhw a lle bynnag y maen nhw ar eu taith dysgu.
  6. Cefnogi datblygiad e-sgol i sicrhau mynediad i ystod eang o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a pharhau i arloesi ym meysydd dysgu ieithoedd, trochi a chefnogi rhieni.
  7. Datblygu canllawiau clir a chefnogaeth i athrawon yn ogystal â chyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn gwella profiad a chyrhaeddiad disgyblion o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, fel rhan o weithredu Cwricwlwm i Gymru.
  8. Ehangu rôl y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a darparu llwybr dysgu iaith o’r ysgol i addysg ôl-orfodol, mewn cydweithrediad â’r consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.
  9. Ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a datblygu cynigion ar gyfer y Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg i’w roi ar sail statudol.
  10. Rhoi cyllid ychwanegol dros 5 mlynedd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach, prentisiaethau ac addysg uwch.
  11. Datblygu, ar y cyd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dargedau i gynyddu dilyniant ieithyddol rhwng addysg statudol ac addysg bellach a phrentisiaethau.
  12. Cynyddu dysgu, asesu a dilyniant drwy gyfrwng y Gymraeg drwy sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, drwy’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) arfaethedig, gyda dyletswyddau strategol yn gysylltiedig â hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.
  13. Parhau i gefnogi datblygu adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithog i gefnogi’r cwricwlwm.
  14. Cyflwyno prosiect peilot a fydd yn cymell siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgolion i helpu gydag addysgu Cymraeg mewn ysgolion.
  15. Ymateb a gweithredu yn sgil yr Adolygiad Cyflym o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd wedi ei gynnal yn 2021.
  16. Datblygu cynigion i warantu bod pobl ifanc 16-25 oed yn gallu cael mynediad am ddim i gyrsiau Cymraeg i oedolion, er mwyn iddyn nhw allu adeiladu ar y sgiliau a gawson nhw drwy addysg statudol, fel bod gan bob person ifanc yr un cyfle i ddod yn siaradwr hyderus.
  17. Sicrhau bod gan rieni fynediad at ffyrdd o ddysgu’r iaith, drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Thema 2: cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg

Mae’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg wedi cydio yn y dychymyg a sicrhau penawdau yn y wasg. Ond rydyn ni’n gwbl glir mai dim ond un ochr y geiniog yw cyrraedd y filiwn. Y llall yw cynyddu defnydd o’r Gymraeg gan y bobl hynny. Mae ail darged Cymraeg 2050, sef dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg[troednodyn 4], yn adlewyrchu hyn.

Rydyn ni’n falch o’r camau sydd eisoes wedi’u cymryd i osod cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg wrth galon ein gwaith ers cyhoeddi’r Rhaglen Waith ddiwethaf. Mae arferion defnydd iaith yn ddibynnol ar nifer fawr o ffactorau, sefyllfaoedd a chyd-destunau cymhleth a bydd ein gwaith yn adlewyrchu hyn.

Mae Cymraeg 2050 yn rhoi pwyslais ar y gweithle fel lleoliad ac amgylchedd lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg - boed hynny’n rhan ffurfiol o rôl unigolyn neu fel rhan o gymuned o bobl sy’n treulio cyfran sylweddol o’u bywyd beunyddiol gyda’i gilydd yn yr un lleoliad. Hynny yw, rydyn ni’n siarad gyda’n gilydd bob dydd wrth ein gwaith - ac mae siarad Cymraeg gyda’n gilydd yn y gwaith yn ffordd bwysig i gadarnhau a datblygu sgiliau, a sefydlu arferion o ran defnyddio’r Gymraeg.

Fel sefydliad, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos arweiniad yn y maes hwn, ac yn gynnar yn 2020 fe wnaethon ni gyhoeddi strategaeth defnydd mewnol o’r Gymraeg o’r enw 'Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd.'.  Gweledigaeth hirdymor y strategaeth yw ein bod ni’n dod yn sefydliad wirioneddol ddwyieithog erbyn 2050. Ein nod yw y bydd holl staff Llywodraeth Cymru yn gallu deall y Gymraeg o leiaf erbyn 2050, fel bod y ddwy iaith yn cael eu defnyddio’n naturiol a chyfnewidiol fel ieithoedd gweithio’r Llywodraeth.

Mae’r pwyslais hwn ar y defnydd rhyngbersonol o’r Gymraeg yn rhywbeth y byddwn ni’n ei flaenoriaethu yn ein holl ymyraethau. Ym maes busnes, er enghraifft, mae’r prif ffocws diweddar o ran cynyddu defnydd y Gymraeg wedi bod ar y gwasanaeth a gynigir gan fusnesau ac ar y tirwedd ieithyddol (arwyddion a brandio ac ati) yn y sector manwerthu. Byddwn ni’n symud y pwyslais tuag at ddefnydd iaith gan weithwyr, gyda phwyslais arbennig ar yr economi sylfaenol. Bydd hyn hefyd yn ffactor canolog yn ein gwaith i ddatblygu’r sector busnesau cydweithredol a chymdeithasol - a byddwn ni’n canolbwyntio mwy ar hyn yn y dyfodol.

Mae’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a’r trydydd sector hefyd yn allweddol o ran defnydd y Gymraeg - boed hynny rhwng gweithwyr neu rhwng gweithwyr a’r cyhoedd wrth dderbyn gwasanaethau, a byddwn ni’n gweithio gyda’r sectorau hyn i gryfhau eu cyfraniad tuag at ddyblu defnydd y Gymraeg.

Rydyn ni’n gwybod bod sefydlu arferion cadarnhaol o ran defnydd iaith ymhlith plant a phobl ifanc yn heriol, ac yn ddiweddar rydyn ni wedi cwblhau gwerthusiad o’r Siarter Iaith a’i rhaglenni cysylltiedig, sydd â’r sefydlu’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ymhlith plant a phobl ifanc. Byddwn ni’n gwneud rhagor o waith yn y maes hwn. Un her allweddol wrth weithio gyda phobl ifanc yw darparu dilyniant yn y cyfleoedd sydd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg wrth symud o fyd addysg i’r gweithle. Byddwn ni hefyd yn gweithio i sicrhau fod gwasanaethau ieuenctid yn y Gymraeg yn cael sylw teilwng wrth i ni ddatblygu fframwaith ar gyfer darpariaeth ieuenctid ar draws Cymru.

Yn ddi-os mae’r pandemig wedi newid ffyrdd o fyw ac o weithio, a byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n deall effaith hynny ar y defnydd o’r Gymraeg gan addasu’n hymyraethau yn sgil hynny. Byddwn ni’n chwilio am ffyrdd creadigol o sicrhau bod gweithio o bell, boed hynny gartref neu mewn hybiau lleol, yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Ac rydyn ni hefyd yn awyddus i adeiladu ar waith da’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn ymateb yn gyflym er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg newydd yn gallu parhau i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg ar-lein os dyna sydd fwyaf hwylus iddyn nhw.

Ar lefel gymunedol, byddwn ni’n mynd ati i weithredu yn sgil argymhellion is-grŵp Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, yn dilyn arolwg o effaith COVID-19 ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Bydd ymgorffori egwyddorion datblygu a grymuso cymunedol mewn mentrau cynllunio ieithyddol yn ganolog i’n dull gweithredu. Byddwn ni’n parhau i gefnogi gwaith ein partneriaid sy’n gweithio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae angen i bawb ohonom, yn llywodraeth ac yn gymdeithas sifil, gymryd camau er mwyn diogelu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cymuned yng Nghymru. Er mwyn adeiladu ar ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwneud hynny, byddwn ni’n sefydlu comisiwn i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Meysydd gweithredu 2021 i 2026

  1. Sefydlu a chefnogi comisiwn i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
  2. Gweithredu yn sgil argymhellion is-grŵp Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, yn dilyn arolwg cymunedol o effaith COVID-19 ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.
  3. Cefnogi cyrff cenedlaethol allweddol sy’n gweithredu i gynyddu defnydd y Gymraeg i ail-adeiladu yn dilyn y pandemig.
  4. Darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022.
  5. Cefnogi’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol i adeiladu ar y ddarpariaeth digidol a ddatblygwyd yn ystod y pandemig er mwyn cynnal a chreu cynulleidfaoedd newydd.
  6. Cefnogi grwpiau cymunedol i ail-gychwyn ac ehangu eu gweithgareddau yn dilyn y pandemig.
  7. Adolygu cynllun grant Llywodraeth Cymru i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
  8. Gosod disgwyliad ar y partneriaid rydyn ni’n eu hariannu i esblygu eu dulliau gweithredu, lle bo hynny’n bosibl, i fodel lle maent yn ysgogi cymunedau i weithredu er lles y Gymraeg.
  9. Cydweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Cyngor Chwaraeon Cymru i ddyrchafu defnydd y Gymraeg o fewn rhwydweithiau a gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a hamdden.
  10. Datblygu rhaglen newydd ar gyfer cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg gan blant a phobl ifanc, gan roi ffocws ar bontio rhwng y byd addysg, y gymuned a’r teulu.
  11. Sicrhau fod defnydd rhyngbersonol o’r Gymraeg yn brif flaenoriaeth y gwaith o hybu’r Gymraeg yn y gymuned, yn y byd busnes ac yn y gweithle.
  12. Cefnogi’r gwaith o ddatblygu busnesau cydweithredol a chymdeithasol lle mae’r Gymraeg yn ganolog i’w hethos fewnol.
  13. Sicrhau fod hybiau gweithio o bell mewn trefi ar draws Cymru yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gweithio ac iaith y gweithle.
  14. Parhau i ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gynnal prosiect Cymraeg Gwaith i gynyddu sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd.
  15. Gweithredu ein strategaeth defnydd iaith yn fewnol, Cymraeg - mae’n perthyn i ni i gyd.
  16. Cefnogi’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a’r trydydd sector i adnabod cyfleoedd i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith eu gweithluoedd a chyda’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu, gan flaenoriaethu cynllunio’r gweithlu o safbwynt sgiliau iaith a recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg.
  17. Ymateb i werthusiad ‘Mwy na Geiriau’ a datblygu rhaglen waith ar gyfer iechyd a gofal i gynyddu defnydd o’r Gymraeg a meithrin gallu i gynnig gwasanaethau Cymraeg.
  18. Ystyried effaith Safonau’r Gymraeg ar ddefnydd iaith wrth wneud penderfyniadau ynghylch paratoi Safonau pellach.
  19. Rhoi pwerau newydd i Drafnidiaeth i Gymru i integreiddio rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn well a’u rheoleiddio er mwyn iddynt fodloni Safonau’r Gymraeg.
  20. Sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio drwy ein holl waith ar draws ein hagenda cydraddoldeb, gan gychwyn drwy sicrhau fod ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol arfaethedig yn cynnwys amcanion penodol ynghylch defnyddio a dysgu’r Gymraeg ymhlith pobl o leiafrifoedd ethnig.

Sefydlu is-grŵp cydraddoldeb o dan Gyngor Partneriaeth y Gymraeg.

[troednodyn 4]Targed: Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013 i 2015) i 20 y cant erbyn 2050.

Thema 3: creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

Mae iaith yn ffenomen gymdeithasol sy’n gofyn bod cymunedau o siaradwyr yn bodoli er mwyn hwyluso’r defnydd ohoni. Yn ogystal â rhwydweithiau cryf o siaradwyr Cymraeg sy’n bodoli mewn cymunedau ar draws Cymru, rydyn ni’n ffodus fod cymunedau daearyddol lle’r Gymraeg yw’r brif iaith a siaredir gan drwch y boblogaeth mewn sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd. Mae hynny’n bwysig, gan mai yn y cymunedau hyn y caiff y Gymraeg ei siarad amlaf.

Mae’r cyfnod presennol o newid cymdeithasol ac economaidd yn sgil y pandemig ac, i’r dyfodol, yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu fod rhaid i ni ystyried sut i gynnal yr iaith yn y cymunedau hyn yn ofalus. Byddwn ni’n rhoi pwyslais ar gynnal gwead cymdeithasol cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Adeg cyhoeddi’r ddogfen hon rydyn ni wrthi’n rhoi sylw dwys ar draws y Llywodraeth i fater sydd ag iddi oblygiadau i gydbwysedd cymunedau lle ceir dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, sef y farchnad ail gartrefi a, thu hwnt i hynny, materion fforddiadwyedd yn fwy cyffredinol. Mae adroddiad diweddar ar ddatblygu polisïau newydd ym maes ail gartrefi[1] yn cynnig nifer o argymhellion ynghylch polisi trethiant a chynllunio. Rydyn ni wedi ymateb i’r adroddiad hwnnw a bwrw ymlaen gyda phwyntiau gweithredu.

Byddwn ni’n efelychu’r dull hwn o weithio ar draws y Llywodraeth wrth fynd i’r afael â materion cymhleth ac aml-haenog eraill sydd â photensial i effeithio ar gymunedau gyda chanrannau uchel o siaradwyr Cymraeg. Er enghraifft, byddwn ni’n gweithredu argymhellion y Bwrdd Crwn ar yr Iaith ac Economi er mwyn cryfhau sefyllfa economaidd cymunedau lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg, gan roi cyfle i bobl leol aros neu ddychwelyd i fyw a gweithio yn yr ardaloedd lle cawsant eu magu. Byddwn ni hefyd yn prif ffrydio’r Gymraeg mewn rhaglenni economaidd a chyflogadwyedd ac yn defnyddio ein dylanwad i gael buddion i’r Gymraeg o’n hymyraethau economaidd.

Yn ogystal â rhoi ffocws ar faterion cymdeithasegol defnyddio’r Gymraeg, byddwn ni hefyd yn parhau i weithredu i gynnal a chryfhau seilwaith yr iaith o safbwynt geiriaduron, terminoleg ac adnoddau corpws. Mae hwn yn faes pwysig a fydd yn sail i sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd - yn y cyfryngau, mewn addysg, mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ati. Ein nod yw ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r adnoddau hyn. Byddwn ni hefyd yn gweithio i warchod enwau lleoedd Cymraeg sy’n rhan annatod o’n treftadaeth.

Mae’r pandemig wedi pwysleisio pwysigrwydd technoleg i’n bywydau, ac wedi amlygu’r bylchau sy’n bodoli yn y ddarpariaeth o safbwynt y Gymraeg megis cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd rhithiol. Rydyn ni wedi cwblhau’r mwyafrif helaeth o gamau’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg a gyhoeddwyd yn 2018, ac erbyn hyn mae llawer o gydrannau technoleg iaith sy’n barod i’w defnyddio yng nghynnyrch cwmnïau technoleg i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’r sector technoleg i hwyluso defnydd y cydrannau hyn.

Er mwyn gwireddu ein dyhead i sicrhau perchnogaeth ar bolisi iaith ar draws llywodraeth yng Nghymru rydyn ni wedi sefydlu Prosiect 2050 - uned amlddisgyblaethol a fydd yn cynyddu arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol ar draws y Llywodraeth a thu hwnt. Mae’r rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog ar gyfer uwch arweinwyr y sector cyhoeddus wedi’i datblygu ar y cyd rhwng Academi Wales a Prosiect 2050.

Mae’r gwaith hwn, fel llawer o’n gwaith arall ni a’n partneriaid, yn cyfrannu tuag at sicrhau naratif ar gyfer y Gymraeg sy’n eangfrydig, croesawgar, cyfeillgar a chynhwysol. Mae’r iaith yn perthyn i bawb ac yn gyfrwng i uno pobl o wahanol gefndiroedd. Byddwn ni’n parhau â’r meddylfryd hwn wrth weithredu’r Rhaglen Waith hon. Byddwn ni hefyd yn pwysleisio hyn wrth gryfhau ein partneriaethau gyda llywodraethau ar draws y byd sydd hefyd yn gweithio i hyrwyddo a chynnal ieithoedd lleiafrifol.

Mae’n bwysig gwerthuso a gwneud gwaith ymchwil wrth wireddu amcanion y strategaeth. Cynhaliwyd rhaglen ymchwil yn ystod rhaglen waith gyntaf Cymraeg 2050. Mae allbwn yr astudiaethau a gynhaliwyd, ynghyd ag allbwn prosiectau a gwblhawyd yn y blynyddoedd cyn lansio Cymraeg 2050, yn cynnig cyfeiriad ac argymhellion ar gyfer rhaglenni i’r dyfodol mewn meysydd blaenoriaeth allweddol:

  • defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau anffurfiol a chymunedol
  • trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd
  • hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar (Cymraeg i Blant) ac ymhlith plant a phobl ifanc (y Siarter Iaith)
  • Gymraeg a’r economi

Mae’r argymhellion a gyflwynir yn yr adroddiadau ymchwil hyn hefyd yn rhoi arweiniad ar gyfer datblygu’n rhaglen ymchwil a gwerthuso yn y dyfodol—o ran nodi meysydd ymchwil a gofynion data, a’r angen i adolygu a mireinio theorïau newid sy’n sail i gynllunio a gweithredu rhaglenni.

Meysydd gweithredu 2021 i 2026

  1. Gweithredu'r dull tair elfen a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021 i roi sylw i effaith ail gartrefi ar gymunedau Cymru, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
  • Cefnogaeth: rhoi sylw i fforddiadwyedd ac argaeledd tai
  • fframwaith a system rheoleiddio: edrych ar y gyfraith gynllunio a chyflwyno cynllun cofrestru statudol ar gyfer llety gwyliau
  • cyfraniad tecach: defnyddio systemau treth lleol a chenedlaethol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i’r cymunedau lle maen nhw’n prynu
  1. Creu Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith, a gweithio gyda phartneriaid yn y cymunedau hyn i gynorthwyo pobl ifanc i sicrhau cartrefi fforddiadwy.
  2. Cyflawni pwyntiau gweithredu’r Bwrdd Crwn ar y Gymraeg a’r Economi, a pharhau i gynnull y Bwrdd er mwyn datblygu a hwyluso prif ffrydio’r Gymraeg i raglenni economaidd a chyflogadwyedd perthnasol, gan dargedu pobl ifanc i aros neu ddychwelyd i ardaloedd lle ceir canran uchel o siaradwyr Cymraeg.
  3. Cyhoeddi polisi fydd â’r nod o greu strwythur mwy strategol a chyd-gysylltiedig i gynnal a datblygu seilwaith ieithyddol y Gymraeg (geiriaduron, terminoleg, adnoddau corpws ac ati).
  4. Gweithio i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg.
  5. Gweithio gyda’r sector technoleg er mwyn sicrhau’r defnydd o’r cydrannau technoleg iaith a grëir o dan ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg.
  6. Defnyddio’r system gaffael er mwyn cynyddu faint o wasanaethau digidol Cymraeg sydd ar gael.
  7. Hyrwyddo dwyieithrwydd Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a chyfrannu i Ddegawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig 2022 i 2032.
  8. Parhau i chwarae rôl flaenllaw mewn rhwydweithiau rhyngwladol ar gyfer hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol.
  9. Meithrin gallu cynllunio ieithyddol ymhlith llunwyr polisi cyhoeddus.
  10. Ehangu’r hyfforddiant ar Arwain Mewn Gwlad Ddwyieithog i sectorau newydd.
  11. Parhau i ychwanegu at ein sail tystiolaeth am y Gymraeg a chynllunio ieithyddol, drwy ddatblygu ein rhaglen ymchwil a gwerthuso.
  12. Dadansoddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 ac Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020 er mwyn cael darlun cynhwysfawr o sefyllfa’r Gymraeg o ran gallu’r boblogaeth yn y Gymraeg a’i defnydd o’r iaith.

[1] Ail gartrefi: datblygu polisïau newydd