Sut i gael cymorth gyda chostau iechyd os ydych yn hawlio Credydau Treth Gwaith neu Gredydau Treth Plant.
Cynnwys
Credydau treth a thyystysgrifau eithrio credyd treth y GIG
Efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau gofal iechyd y GIG os ydych yn hawlio:
- Credyd Treth Gwaith (WTC)
- Credyd Treth Plant (CTC)
Os byddwch yn bodloni’r amodau cymhwyso, cewch y canlynol yn rhad ac am ddim:
- triniaeth ddeintyddol y GIG
- profion llygaid y GIG
Gallwch hefyd gael:
- talebau tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd
- ad-daliad o’r costau teithio angenrheidiol a delir i fynd i’r ysbyty ac oddi yno er mwyn i chi, eich partner neu unrhyw blant a phobl ifanc dibynnol o dan 20 oed dderbyn triniaeth gan y GIG
- ad-daliad o’r costau teithio os bydd angen i unrhyw un o’r plant fynd i’r ysbyty
Os ydych yn bodloni’r amodau cymhwyso bydd Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) yn anfon tystysgrif eithrio credyd treth y GIG. Byddant yn ei anfon yn awtomatig, nid oes rhaid ichi wneud cais amdani.
Amodau cymhwyso
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CaThEM) yn dosbarthu hysbysiadau credydau treth sy’n dweud wrth deuluoedd y gallent fod yn gymwys i gymorth arall. Dim ond CaThEM a all ddweud a ydych yn gymwys ai peidio.
Bob mis mae CaThEM yn anfon gwybodaeth at Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) ynghylch teuluoedd sydd â hawl i dystysgrif. Os ydych yn bodloni'r amodau cymhwyso, bydd yr NHSBBA yn anfon tystysgrif eithrio credyd treth y GIG atoch.
Ni all yr NHSBSA anfon tystysgrif eithrio atoch nes y bydd yn derbyn yr wybodaeth gan CaThEM. Gall hyn fod hyd at chwe wythnos ar ôl i’ch credyd treth gael ei ddyfarnu.
Os ydych yn bodloni’r amodau cymhwyso, gallwch lofnodi ffurflenni triniaeth y GIG i ddweud nad oes rhaid ichi dalu gan eich bod yn cael credydau treth. Defnyddiwch eich hysbysiad dyfarniad fel tystiolaeth o’ch hawl nes i’ch tystysgrif gyrraedd.
Os nad ydych yn siŵr am gyfanswm eich incwm at ddibenion credyd treth, gallwch ffonio Llinell Gymorth CaThEM ar 0345 300 3900.
Os ydych wedi hawlio credyd treth ond heb gael hysbysiad o’ch dyfarniad eto, dylech gysylltu â CaThEM (ac nid NHSBBA)
Ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd, rhif y Llinell Gymorth yw 0345 300 3909.
Os ydych yn parhau i fod yn ansicr a oes gennych hawl i gael Tystysgrif Eithrio Credyd Treth y GIG ai peidio, ffoniwch yr NHSBSA ar 0300 330 1347. Gwnewch yn siŵr bod eich Hysbysiad Dyfarnu Credyd Treth wrth law er mwyn i chi allu dweud wrth yr NHSBSA beth sydd arno.
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth drwy dystysgrif eithrio credyd treth y GIG
Mae’r dystysgrif eithrio credyd treth ar gyfer pobl sy’n gweithio neu sy’n anabl neu sydd â phlant.
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth trwy gredydau treth, efallai y gallwch gael help drwy'r Cynllun Incwm Isel.
Ffoniwch Linell Gymorth CaThEM ar 0345 300 3900 am gyngor ar y mathau eraill o gymorth a all fod ar gael drwy gredydau treth.
Os ydych yn colli eich tystysgrif eithrio credyd treth y GIG
Os ydych yn colli eich tystysgrif eithrio credyd treth y GIG, rhowch wybod i’r NHSBSA.
NHSBSA
Exemption Issue Office, Bridge House, 152 Pilgrim Street, Newcastle Upon Tyne, NE1 6SN.
Rhif ffôn: 0300 3301347
E-bost: nhsbsa.tc1@nhsbsa.nhs.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.