Mae dau o ddigwyddiadau diwylliannol blaenllaw Cymru wedi cael cymorth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cymru i helpu gydag effaith COVID-19.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi na fyddant yn cael eu cynnal yn haf 2020 yn ôl y bwriad, ac mae Eisteddfod Ceredigion wedi’i gohirio tan 2021.
Bydd dros £800,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i helpu gyda pharhad busnes yn ystod 2020, gan gynnwys cynllunio a pharatoi ar gyfer yr eisteddfodau yn 2021.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:
“Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ddau ddigwyddiad o bwys yng nghalendr digwyddiadau Cymru, sy'n darparu llwyfan gwych i arddangos ein celfyddydau a'n diwylliant. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r trefnwyr i’w cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn ac i’w helpu i greu dyfodol cynaliadwy.
“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ar ei ffurf bresennol wedi bod yn cynnal y digwyddiad ers ymhell dros gan mlynedd. Ar adegau anodd fel hyn, mae’n bwysig cydnabod a chynnig treftadaeth ddiwylliannol gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod a chynnig treftadaeth ddiwylliannol gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â meithrin artistiaid Cymraeg y dyfodol a darparu llwyfan ar eu cyfer a chefnogi celfyddydwaith a llenyddiaeth newydd.”
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol:
“Fel pawb arall, mae’r pandemig hwn wedi rhoi cryn ergyd i’r Eisteddfod. Nid yn unig y bu’n rhaid inni ohirio’r ŵyl am flwyddyn ond bu’n rhaid inni hefyd atal yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol yng Ngheredigion a Gwynedd am y tro.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes yr Eisteddfod.”
Dywedodd Rhys Davies, Cadeirydd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen:
"Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru fel y gallwn barhau i hyrwyddo diwylliant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a lledaenu'r neges heddwch ledled y byd. Bydd heriau i bob gŵyl yn y dyfodol, felly cydweithio yw'r allwedd. "