Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol, neu wneud trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol, i unrhyw berson ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, galluogi unrhyw berson i gael unrhyw hyfforddiant ar gyfer athrawon neu ar gyfer staff nad ydynt yn addysgwyr; neu ar gyfer hyrwyddo recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgwyr.

Mae’r canllawiau hyn yn ymdrin â grantiau cymhelliant hyfforddi athrawon sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n cychwyn ar gyrsiau amser llawn o addysg gychwynnol athrawon TAR (AB) cyn gwasanaethu, sy’n arwain at gymhwyster i addysgu yn y maes addysg bellach (“cymelliadau TAR (AB)”). Maent yn berthnasol o ran myfyrwyr cymwys yng Nghymru sy’n dechrau ar gyrsiau o’r fath rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025.

Mae’r canllawiau wedi eu dyroddi gan Weinidogion Cymru ac yn darparu gwybodaeth am y cymelliadau TAR (AB); maent yn amlinellu’r cyllid sydd ar gael, pwy sy’n gymwys i gael grant a sut y gwneir taliadau. Er nad ydynt yn ymdrin â phob agwedd, rhoddir gwybodaeth lawn isod ynglŷn â chymhwystra a’r amodau. Dyllid darllen y canllawiau hyn yn eu cyfanrwydd er mwyn cael cadarnhad ynghylch cymhwystra i gael grant.

Nid yw’r canllawiau hyn yn ymwneud â chymelliadau a gynigir ar gyrsiau addysg gychwynnol athrawon sy’n arwain at ddyfarnu Statws Athro Cymwysedig.

Myfyrwyr sy'n gwneud cais am grant

Mae Darparwyr AGA yn gyfrifol am weinyddu ac asesu cymhwysedd myfyrwyr ar gyfer grantiau cymhelliant ar ran Gweinidogion Cymru.

Gall myfyrwyr ond hawlio grant cymhelliant os ydynt:

  • yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • wedi gwneud cais drwy gwblhau’r ffurflenni datgan perthnasol

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau am eu cymhwysedd a gwneud cais am grant neu unrhyw gwestiynau am y grantiau hyn, dylent gysylltu â’u Darpariwr AGA.

Cyfrifoldebau’r Partneriaethau AGA am weinyddu’r grant

Mae Darparwyr AGA yn gyfrifol am:

  • nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • rhoi'r ffurflenni datgan i fyfyrwyr cymwys ar ddechrau'r rhaglen AGA
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
  • casglu'r holl ffurflenni datgan wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd mewn ffordd ddiogel i Lywodraeth Cymru
  • cwblhau ffurflenni hawlio tymhorol
  • sicrhau bod tystiolaeth ar gyfer y Cymhelliand Cymraeg yn cael eu casglu
  • sicrhau bod tystiolaeth yn cale eu casglu ar gyfer rheini o gymunedau mwyafrif yn fyd-eang
  • gweinyddu taliadau grant i fyfyrwyr
  • delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y grant

Caiff holl gyfrifoldebau'r Darparwyr AGA eu hamlinellu bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Os bydd gan Darparwyr AGA gwestiwn ynghylch y broses o weinyddu'r grant, dylent gysylltu â post-16workforcedevlopment@llyw.cymru

Pwy sy'n gymwys i gael y grant

I fod yn gymwys i gael cymhelliant TAR (AB), rhaid i fyfyriwr:

  1. pan dderbynnir y myfyriwr i’r cwrs, fod yn ddeiliad gradd gyntaf (Nid yw hyn yn cynnwys gradd sylfaen) o sefydliad addysg uwch yn y Deyrnas Unedig neu gymhwyster cyfwerth
  2. bod â hawl ganddo i gael cymorth o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac sydd mewn grym ar y pryd, fel y mae’r rheoliadau hynny yn gymwys i’r cwrs
  3. peidio â bod mewn unrhyw un o’r categorïau canlynol o bersonau nad oes hawl ganddynt i gael y grant hyfforddi:
    • myfyrwyr a gwblhaodd gwrs o addysg gychwynnol athrawon ar lefel addysg bellach cyn 1 Medi 2024
    • myfyrwyr sy’n cymryd Tystysgrif mewn Addysg (AB) nad yw’n gymhwyster ôl-raddedig
    • myfyrwyr TAR (AB) nad ydynt yn ddeiliaid gradd ar ddechrau’r cwrs
    • myfyrwyr TAR (AB) sy’n astudio ar gyrsiau mewn swydd
    • myfyrwyr TAR (AB) sy’n astudio yn rhan-amser
    • unrhyw un sydd eisoes yn ddeiliad Statws Athro Cymwysedig
    • unrhyw un a gyflogir i addysgu mewn unrhyw goleg addysg bellach neu sefydliad addysg arall mewn unrhyw swydd

Yn ogystal rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais am gymhelliant y Gymraeg feddu ar sgiliau Iaith Gymraeg o lefel 3 neu uwch (hunanasesiad).

Cymhelliant TAR AB mwyafrif yn fyd-eang

Bydd myfyrwyr sydd wedi datgan ar ei ffurflen cais am grant ei bod yn nodi ei bod o gefndr y mwyafrif yn fyd-eang, yn medru derbyn £1000 ychwanegol.

I fod yn gymwys ar gyfer Cymhelliant TAR AB Mwyafrif yn Fyd-Eang, uniaethu â myfyrwyr o un o’r grwpiau ethnig canlynol a datgan hynny i'w darparwr AGA:

Asiaidd:

  • Bangladeshaidd neu Fangladeshaidd Prydeinig
  • Tsieinïaidd neu Dsieinïaidd Prydeinig
  • Indiaidd neu Indiaidd Prydeinig
  • Pacistanaidd neu Bacistanaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd:

  • Affricanaidd neu Affricanaidd Prydeinig
  • Caribïaidd neu Garibïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Du arall

Grwpiau cymysg neu aml-ethnig:

  • Gwyn neu Wyn Prydeinig ac Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Affricanaidd neu Ddu Affricanaidd Prydeinig
  • Gwyn neu Wyn Prydeinig a Du Caribïaidd neu Ddu Caribïaidd Prydeinig
  • Unrhyw gefndir Cymysg neu Aml-ethnig arall

Gwyn:

  • Gwyn, Sipsiwn neu Deithwyr Gwyddelig
  • Gwyn, Roma

Grŵp ethnig arall:

  • Arabaidd

Swm y grant

Cynigir cymelliadau o hyd at £3,000 (i rai sy’n astudio yn y pynciau penodedig a restrir isod) neu hyd at £1,000 (i rai sy’n astudio mewn unrhyw bwnc arall).

Pynciau mathemateg

Mathemateg Gymhwysol

Mathemateg Gyffredinol

Mathemateg a mecaneg

Mathemateg ac ystadegaeth

Mathemateg Bur

Ystadegaeth

Pynciau gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth Gymhwysol

Bioleg

Cemeg

Cadwraeth

Gwyddor daear

Ecoleg

Electroneg

Gwyddor yr Amgylchedd

Gwyddoniaeth Gyffredinol

Daeareg

Bioleg Ddynol

Ffiseg

Gwyddor chwaraeon

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD)

Peirianwyr cyfrifiaduron

Astudiaethau cyfrifiadur(ol)

Gweithrediadau TG

Cymraeg

Sgiliau Byw – Llythrennedd a Rhifedd

Technoleg a Pheirianneg

Trydanwyr modurol

Cynnal a chadw moduron

Peirianneg dylunio a datblygu

Dylunio a Thechnoleg

Peirianneg drydanol

Electroplatio

Astudiaethau peirianneg

Peirianneg fecanyddol

Peirianneg platiau metel

Mecaneg/peirianwyr moduron

Mecaneiddio chwaraeon moduro

Peirianneg cynhyrchu a phrosesau

Peirianneg rheweiddio

Technoleg Deunyddiau Gwrthsafol

Gwneud a ffitio offer

Gosod teiars, pibelli gwacáu a ffenestri blaen

Paentio a chwistrellu cerbydau

Adeiladu cyrff cerbydau

Weldio a ffabrigo

Grant Ychwanegol ar gyfer Addysgu a Dysgu Cymraeg

Gall myfyrwyr sy'n astudio unrhyw bwnc (ac eithrio'r Gymraeg) wneud cais am grant ychwanegol o £1000.

Mae darparwyr AGA wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd o fewn 40 credyd i'r cwrs i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg.

Bydd angen cwblhau datganiad tyst 3 ffordd (tiwtor academaidd, mentor lleoliad ac athro dan hyfforddiant) sy'n cyd-fynd â thargedau clir fel tystiolaeth bod myfyriwr wedi gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i dderbyn y cymhelliant.

Dyma'r math o dystiolaeth a fyddai'n cael ei hystyried:

  • Datblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi dysgu ac addysgu
  • Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg/dwyieithog tra ar leoliad
  • Datblygu sgiliau Cymraeg eu dysgwyr
  • Datblygu'r gymuned Gymraeg ehangach o fewn eu lleoliad lleoli
  • Datblygu perthnasoedd y tu allan i'w lleoliad, ee ac o fewn lleoliad cymunedol neu Cymraeg i Oedolion

Taliadau grant

Pryd y dylid gwneud taliadau i fyfyrwyr

Telir rantiau pwnc bob tymor mewn tri rhandaliad, rhagfyr, Mawrth a Mehefin y flwyddyn astudio academaidd.

Bydd y rhai sy'n cydymffurfio'n llwyddiannus â grant y Gymraeg yn derbyn y swm llawn ochr yn ochr â'u taliad grant pwnc terfynol ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd astudio.

Bydd darparwyr yn penderfynu ar union ddyddiadau'r taliadau. Dylent sicrhau bod taliadau'n cael eu gwneud cyn diwrnod gwaith olaf y mis. Ym mis Mehefin, hwn fydd diwrnod gwaith olaf mis Mehefin neu, os yw'n gynharach, yr wythnos y daw'r rhaglen i ben.

Dim ond i'r myfyrwyr hynny sy'n mynychu'r rhaglen ar ddyddiad y taliad y dylid gwneud taliadau. Os yw unrhyw fyfyriwr wedi tynnu'n ôl neu wedi gohirio (wedi gohirio) rhaglen cyn y dyddiad talu, ni ddylid gwneud taliad.

Pa grantiau y dylid eu talu

Taliadau grant TAR AB
Swm y grant cymhelliantTaliad yr hydref i'w dalu ym mis RhagfyrTaliad gwanwyn i'w dalu ym mis MawrthTaliad yr haf a'r taliad olaf i'w dalu ym mis Mehefin
£3,000£900£900£1,200
£1,000£300£300£600
£1,000 (Cymraeg)£0£0£1,000

Os bydd person, a fyddai fel arall yn gymwys i gael cymhelliant TAR (AB), ond sydd hefyd wedi cael

  1.  rhan neu’r cyfan o gymhelliant TAR (AB), o dan y cynllun hwn neu unrhyw gynllun blaenorol yng Nghymru cyn 1 Medi 2024
  2. neu wedi cael, ar unrhyw adeg, unrhyw swm o grant a oedd yn daladwy mewn perthynas â chynlluniau cyfatebol yn Lloegr

bydd y taliad o gymhelliant TAR (AB) y bydd hawl gan y person hwnnw i’w gael, yn cael ei leihau o’r swm o grant blaenorol a dalwyd i’r person hwnnw.

Dim ond hyd at uchafswm gwerth y grant cymhelliant yn y flwyddyn academaidd yr ymunodd â'r rhaglen y bydd gan fyfyrwyr cymwys hawl iddo, oni bai bod Gweinidogion Cymru'n cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA

Rhaid i Darparwyr AGA casglu ffurflenni datgan unigol ar gyfer pob myfyriwr cymwys ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Mae'r datganiad yn cynnwys gwybodaeth sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i weinyddu a'i gwerthuso’r cynllun, a rhaid i Darparwyr AGA gallu rannu pob datganiad â Gweinidogion Cymru mewn modd diogel os gofynir

Mae'r ffurflen ddatgan yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y tudalennau gwe hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn gan ddarparwyr, ni ellir gwneud taliadau grant.

Cyn pob rhandaliad tymhorol, rhaid i Darparwyr AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau. Bydd Darparwyr AGA yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.

Bydd ffurflenni datgan a hawlio’n cael eu dosbarthu i Darparwyr AGA yn uniongyrchol. Os ydych yn darparwyr AGA a bod gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r broses dalu, cysylltwch â post-16workforcedevelopment@llyw.cymru.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailddechrau

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau yn ystod tymor, ni fydd yn gymwys i gael y taliad tymhorol hwnnw. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailafael yn ei astudiaethau yn yr un flwyddyn academaidd, fe fydd ganddo hawl i gael taliad am y cyfnod a fethwyd, hyd at uchafswm y cymhelliant. O dan yr amgylchiadau hyn bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl cwblhau ac yn ychwanegol at daliad y tymor canlynol.

Os bydd myfyriwr yn ailafael mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r un y dechreuodd ynddi, neu os bydd yn gohirio rhaglen, parheir i wneud taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn gymwys yn y flwyddyn academaidd yr ymunodd y myfyriwr â'r rhaglen, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig. 

Bydd gan unigolion sy'n tynnu'n ôl o gwrs cyn iddo gael ei gwblhau, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i gael y taliad(au) tymhorol ar gyfer tymhorau y maent wedi’u cwblhau’n llawn yn unig.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:

  1. os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr Atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
  2. os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol; neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r cwrs neu, ar ôl ei gwblhau, nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun hyfforddi athrawon yng Nghymru ar gyfer myfyrwyr TAR (AB) i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  1. ddatgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  2. bod unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  3. cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Mewn rhai amgylchiadau gall Llywodraeth Cymru dderbyn eich gwybodaeth bersonol gan y darparwyr.

Cwestiynau cyffredin gan fyfyrwyr

A yw'r grant cymhelliant yn drethadwy?

Mae Cyllid a Thollau (HMRC) yn adran anweinidogol o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gasglu trethi. Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan Cyllid a Thollau ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar gymorth arall i fyfyrwyr?

Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o'ch incwm ar gyfer darpariaethau cyllid myfyrwyr sy'n seiliedig ar incwm y cartref. Felly, ni ddylid ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm trethadwy sydd heb ei ennill; fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan eu darparwr cyllid myfyrwyr ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar fudd-daliadau?

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn adran o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt ar eich amgylchiadau unigol.

A fydd y grant cymhelliant yn sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr?

Na, ddim os ydych yn dilyn cwrs llawnamser. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn cwrs rhan-amser, bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu a ydych hefyd yn ennill cyflog (drwy waith nad yw'n gysylltiedig ag AGA) sy'n ddigon uchel i sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.

Gall ad-daliadau benthyciad gael eu sbarduno ar ôl i chi gwblhau eich cyrsiau, ennill SAC a dechrau ennill cyflog fel athro.

Cwestiynau cyffredin gan bartneriaethau AGA

Pa swm grant y dylid ei dalu?

Dylai'r myfyriwr nodi'n glir ar ei ffurflen ddatganiad pa bwnc y mae ei leoliad yn canolbwyntio ar addysgu. Cyfeiriwch at yr adran swm grant i benderfynu pa un ddylai'r myfyriwr ei dderbyn.

Beth fydd yn digwydd os bydd myfyriwr yn tynnu / atal astudiaeth?

Dylid tynnu myfyriwr o hawliad cyn gynted ag y bydd yn tynnu'n ôl o gwrs. Dim ond am unrhyw dymor y maent wedi'i gwblhau yn llawn y dylid eu talu. Gweler yr adran Gohirio (atal), tynnu'n ôl ac ail-ddechrau am ragor o wybodaeth.

Cwestiynau pellach?

Os oes gan Darparwyr AGA unrhyw gwestiynau’n ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yn yr wybodaeth hon, dylent gysylltu â Post-16workforcedevelopment@llyw.cymru.

Bydd myfyrwyr sydd ag unrhyw gwestiynau am y cymhellion yn cael eu cyfeirio at eu Partneriaeth AGA yn uniongyrchol.