Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer recriwtio neu gadw athrawon a staff nad ydynt yn addysgu. Diben y grant hwn yw annog unigolion i hyfforddi, ymuno ac aros yn y proffesiwn addysgu ac ni ddylai fod yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr. 

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol ("y Cynllun"), a wnaed gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ac sy'n cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob Cynllun yn gwneud darpariaeth i Lywodraeth Cymru dalu grantiau drwy gymhellion i fyfyrwyr cymwys ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau â blaenoriaeth). 

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â Thystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) (amser llawn a rhan-amser) sydd â Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn gymwys i hawlio'r grant hwn ar yr amod eu bod yn cwrdd â'r meini prawf.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant hwn.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni/cyrsiau hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Nodir gwybodaeth lawn am gymhwysedd ac amodau yn y cynllun cyfreithiol, y dylid ei darllen ochr yn ochr â'r wybodaeth hon. 

Gweler y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd berthnasol i wirio a ydych yn gymwys a’r meini prawf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Lluniwyd cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth 2022 (“y Cynllun”) gan Weinidogion Cymru ar Mehefin 2022. Dylid darllen copi o’r Cynllun ochr yn ochr â’r wybodaeth hon.

Rhoddir Cynllun 2022 ar waith ar 1 Medi 2022 i fyfyrwyr yng Nghymru a fydd, rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, yn dechrau ar raglenni AGA sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig mewn pynciau penodedig.

Myfyrwyr sy'n gwneud cais am grant

Mae Partneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am weinyddu ac asesu cymhwysedd myfyrwyr am grantiau cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am weinyddu y grant ar rhan Llywodraeth Cymru. 

Gall myfyrwyr ond hawlio grant cymhelliant os ydynt:

  • yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • yn astudio ar raglen gymwys
  • wedi gwneud cais drwy gwblhau’r ffurflen gofrestru berthnasol

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau am eu cymhwysedd neu wneud cais am grant, neu unrhyw gwestiynau am y grantiau hyn, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.

Rolau a chyfrifoldebau

Gweinyddir grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am bob taliad a wneir yn ystod rhaglen a phob taliad a wneir pan ddyfernir Statws Athro Cymwysedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y cymelldaliad olaf ar ôl cwblhau’r broses sefydlu’n llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am delerau ac amodau’r cynllun, ac am gasglu data i’w gwneud yn bosibl gwneud taliadau i Bartneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg.

Cyfrifoldebau Partneriaethau AGA o ran gweinyddu grantiau

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

Cyfrifoldebau Partneriaethau AGA o ran gweinyddu grantiau

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys i’r ffurflen gofrestru ar ddechrau'r rhaglen AGA
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
  • casglu'r holl ffurflenni cofrestru wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd mewn ffordd ddiogel i Lywodraeth Cymru
  • cwblhau ffurflenni hawlio yn unol â’r dyddiadau perthnasol yn ystod rhaglen a phan ddyfernir SAC* (nodir y manylion hyn yn y llythyr cynnig grant)
  • cefnogi myfyrwyr i gwblhau ffurflenni gohirio ac ailgydio yn ôl yr angen, a’u rhannu mewn ffordd ddiogel â Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r hawliadau perthnasol
  • gweinyddu taliadau grant i fyfyrwyr yn ystod eu rhaglen (Ionawr) a phan ddyfernir SAC (Gorffennaf/Awst*)
  • delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y grant
  • rhannu, mewn ffordd ddiogel, unrhyw wybodaeth ofynnol â Chyngor y Gweithlu 

Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA eu hamlinellu bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Os bydd gan Bartneriaethau AGA gwestiwn ynghylch y broses o weinyddu'r grant, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.

*Pan fydd myfyriwr yn cael ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, dylai Partneriaethau AGA gyflwyno gwybodaeth hawlio wedi'i diweddaru i Lywodraeth Cymru ar gyfer yr unigolion hynny y dyfernir SAC yn llwyddiannus iddynt er mwyn galluogi taliadau i gael eu gwneud cyn 31 Rhagfyr.

Pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynllun pynciau â blaenoriaeth

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio cyfredol o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru, ac maent ar gael i fyfyrwyr cymwys sydd ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.

Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gael ar gyfer rhaglenni llawnamser a rhan-amser. Dylai'r Partneriaethau AGA a Chyngor y Gweithlu Addysg droi at y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio berthnasol er mwyn gwirio a yw myfyriwr yn gymwys. Mae’r cynllun cyfreithiol yn amlinellu gofynion statudol y cynllun.

Rhaglenni cymwys

Mae rhaglen yn gymwys os yw’n rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd sy’n arbenigo mewn pwnc â blaenoriaeth sy’n arwain at SAC.

Pynciau â Blaenoriaeth

I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, rhaid i unigolyn fod â gradd 2.2 neu’n uwch, ac mai un o’r pynciau canlynol yw’r unig bwnc y mae’n ei astudio neu mai un o’r rhain y mae’n ei astudio’n bennaf:

  • Bioleg
  • Cemeg
  • Cymraeg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Ffiseg
  • Ieithoedd Tramor Modern
  • Mathemateg
  • Technoleg Gwybodaeth

Mae'r rhestr hon yn ymdrin â blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2023 a 2024.

Nid yw'n ofynnol bod y radd neu'r cymhwyster cyfatebol a bennir uchod yn yr un pwnc â'r hyn a astudir ar y rhaglen AGA ôl-raddedig. Rhaid i'r Partneriaethau AGA ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i asesu cymhwysedd myfyriwr.

O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.

Myfyrwyr sy’n gymwys

I fod yn gymwys am bob rhandaliad o’r grant cymhelliant, rhaid i unigolyn fodloni’r meini prawf unigol ar adeg y taliad yn unol â’r isod.

I fod yn gymwys am randaliad o’r grant cymhelliant yn ystod rhaglen, rhaid i unigolyn:

  • fod yn dilyn rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi un flwyddyn academaidd, ond cyn 1 Medi y flwyddyn academaidd ganlynol
  • bod yn fyfyriwr cymwys sy’n gymwys am gymorth ariannol o dan reoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn perthynas â’r cwrs hwnnw
  • peidio â bod yn athro cymwysedig eisoes
  • peidio â bod wedi’i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro pan fydd yn ymuno â’i raglen AGA ôl-raddedig gymwys
  • peidio â bod yn dilyn hyfforddiant a drefnwyd o dan gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, gan gynnwys y TAR cyflogedig
  • peidio â bod yn dilyn cwrs addysg bellach o unrhyw fath

I fod yn gymwys am randaliad SAC o’r grant cymhelliant, ar ôl cwblhau rhaglen AGA ac ennill SAC, rhaid i fyfyriwr:

  1. fodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA
  2. bod wedi cwblhau rhaglen AGA gymwys yn llwyddiannus ac ennill SAC yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

I fod yn gymwys am randaliad olaf y grant cymhelliant, ar ôl cwblhau’r broses sefydlu, rhaid i Athro Newydd Gymhwyso:

  1. fod wedi bodloni’r gofynion cymhwysedd ar gyfer y grant pynciau â blaenoriaeth a bod wedi derbyn yr holl gymelldaliadau cymwys yn ystod ei raglen AGA ac ar ôl ennill SAC
  2. bod wedi cwblhau proses sefydlu a chael tystysgrif sefydlu o fewn tair blynedd i ddyfarniad SAC, mewn unrhyw leoliad uwchradd a gynhelir yng Nghymru, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

Mae gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn i beidio â thalu grant cymhelliant i fyfyrwyr sydd wedi'u derbyn ar gwrs AGA achrededig ar ôl i'r targed derbyn ar gyfer y rhaglen honno gael ei gyrraedd (fel y'i hysbyswyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg). Dylai Partneriaethau AGA roi gwybod i unrhyw fyfyrwyr y mae hyn yn effeithio arnynt.

Swm y grant

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £15,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a meini prawf y rhaglen.

Taliadau grant

Pryd y dylid gwneud pa daliadau i fyfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am daliadau a wneir yn ystod rhaglen a thaliadau SAC.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y cymelldaliad olaf, a wneir pan ddyfernir bod y cyfnod sefydlu wedi’i gwblhau.

Bydd y Partneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru  yn penderfynu ar union ddyddiadau’r taliadau. (Darperir manylion yn eu llythyrau cynnig grant i helpu gyda’r bross o bennu’r dyddiadau hyn.)

Myfyrwyr llawnamser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn tri rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst** ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Myfyrwyr rhan-amser

Gwneir y cymelldaliadau o gyfanswm o £15,000 mewn pedwar rhandaliad ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA ran-amser a dechrau gyrfa myfyriwr:

  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR
  • £3,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ail flwyddyn ei gwrs TAR
  • £6,000 ym mis Gorffennaf/Awst** ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo
  • £3,000 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

**Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ddiwedd Awst, gwneir taliadau ym mis Medi.

Caiff union ddyddiadau’r taliadau eu nodi yn nhelerau ac amodau’r cytundeb grant.

Taliadau yn ystod y rhaglen

Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sy’n parhau â’u rhaglen AGA ac sydd wedi cwblhau cyfnod penodedig o’u hastudiaethau y dylid gwneud taliadau yn ystod y rhaglen.

Os bydd myfyriwr wedi tynnu’n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn bod y taliad yn ddyledus, ni ddylid gwneud y taliad. Gweler yr adran ar ‘Pryd y dylid gwneud pa daliadau i fyfyrwyr ac athrawon newydd gymhwyso’.

Taliad SAC

Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at SAC y dylid gwneud taliad SAC (pan ddyfernir y SAC). Os bydd myfyriwr yn methu ag ennill SAC, ni ddylid gwneud y taliad.

Os bydd myfyriwr wedi tynnu’n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.

Y cymelldaliad olaf

Dim ond i’r athrawon newydd gymhwyso cymwys hynny sydd wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus ac wedi cael tystysgrif sefydlu o fewn 3 blynedd i ennill eu SAC y dylid gwneud y cymelldaliad olaf.

Os bydd ANG yn methu â chwblhau cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn 3 blynedd i ennill ei SAC neu os nad yw wedi cael pob taliad blaenorol o dan y cynllun cymhelliant hwn, ni ddylid gwneud y taliad.

Cyllid blaenorol

Os yw myfyriwr wedi derbyn grant cymhelliant yn llawn neu'n rhannol o dan unrhyw gynllun blaenorol, caiff y rhandaliadau o'r grant cymhelliant hwn eu lleihau yn ôl swm y taliadau blaenorol a dderbyniwyd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i grantiau a dderbyniwyd o dan unrhyw drefniadau yn Lloegr y mae Llywodraeth Cymru yn fodlon eu bod yn cyfateb i’r rhai a wnaed mewn perthynas â grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn.

Dim ond hyd at uchafswm gwerth y grant cymhelliant yn y flwyddyn academaidd pan ddechreuodd eu hastudiaethau y bydd gan fyfyrwyr cymwys hawl iddo, oni bai bod Llywodraeth Cymru'n cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Sut caiff y taliad sefydlu ei wneud i Myfyrwyr

Dylai myfyrwyr gysylltu â ITEIncentives@gov.wales i gael gwybodaeth am y broses ac i gael y ffurflenni cywir.

Mae Llywodraeth Cymru angen y ddogfennaeth isod ar gyfer y taliad sefydlu:

  • cyflwyno ffurflenni hawlio Sefydlu (A1 ac A2) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
  • copi o dystysgrif Sefydlu a gyhoeddwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg
  • cadarnhad o gymhwysedd (i'w gwblhau gan yr ysgol sefydlu)

Ffurflenni cais sefydlu

A1: Dychwelwch y ffurflen gais hon yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru (yn ITEIncentives@gov.wales).

A2: Ar ôl cwblhau adrannau A i D o'r ffurflen hawlio sefydlu. Rhannwch y ffurflen a chopi electronig o'ch tystysgrif sefydlu gyda Pennaeth, Dirprwy Bennaeth neu bennaeth Adran, yr ysgol lle y cwblhawyd y cyfnod sefydlu.

Dylai'r ddogfennaeth uchod gael ei chyflwyno ar eich rhan gan y Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth neu'r Pennaeth Adran a lofnododd y datganiad, ar ran yr ysgol lle y cynhaliwyd eich cyfnod sefydlu.

Dychwelyd at Raglen AGA yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Dylai myfyrwyr a ddechreuodd eu rhaglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd at eu rhaglen i’w chwblhau rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023 ddarllen y telerau a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol. Bydd swm y grant, dosbarthiadau graddau, telerau ac amodau, a strwythur taliadau yn parhau’r un fath, a bydd myfyrwyr cymwys yn parhau i gael taliadau tymhorol tan fis Awst 2023, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.

Bydd myfyrwyr a ddechreuodd raglen AGA cyn Medi 2022 ac sy’n dychwelyd ar ôl Medi 2023 yn mynd yn ôl at y strwythur taliadau a nodir yn y canllawiau hyn (ni fydd taliadau tymhorol yn cael eu gwneud mwyach) Bydd cyfanswm y cymhelliant yn parhau yn unol â’r hyn a nodir yn Cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2021 a blynyddoedd blaenorol, minws unrhyw daliadau a dderbyniwyd eisoes.

Taliadau yn ystod rhaglen 2022

Os bydd myfyriwr llawnamser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau yn ystod y tymor cyntaf, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn yr un flwyddyn academaidd, caiff dderbyn y taliad a gollwyd yn dilyn tymor cyntaf ei ail flwyddyn. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl i’r myfyriwr gwblhau ei flwyddyn gyntaf ac yn ychwanegol at yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen.

Os bydd myfyriwr rhan-amser yn gohirio ei astudiaethau rhwng ail dymor ei flwyddyn gyntaf a thymor cyntaf ei ail flwyddyn, ni fydd yn gymwys i dderbyn yr ail daliad a wneir yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau o fewn ail flwyddyn academaidd ei gwrs, caiff dderbyn y taliad a gollwyd pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl dyfarnu’r SAC ac yn ychwanegol at y taliad SAC.

Ni fydd gan fyfyrwyr llawnamser sy'n tynnu'n ôl o raglen cyn diwedd y tymor cyntaf, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i unrhyw daliad.

Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n tynnu'n ôl o raglen yn ystod tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf hawl i unrhyw daliad. Ni fydd gan fyfyrwyr rhan-amser sy'n cwblhau tymor cyntaf y flwyddyn gyntaf (ac sy'n derbyn y taliad cyntaf) ond sy'n tynnu'n ôl rhwng ail dymor eu blwyddyn gyntaf a thymor cyntaf eu hail flwyddyn hawl i unrhyw daliad pellach.

Taliad SAC

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau ar ôl derbyn taliadau a wneir yn ystod y rhaglen a chyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y taliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y taliad SAC pan ddyfernir SAC iddo. O dan yr amgylchiadau hyn, gwneir y taliad ar ôl cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC (ar ôl dyfarnu’r SAC) ac yn unol â'r amodau hyn.

Bydd angen cwblhau Ffurflen Ohirio ac Ailgydio.

Os bydd myfyriwr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant yn tynnu'n ôl o raglen ar ôl derbyn y taliad cyntaf, ond cyn ennill SAC, dim ond i’r taliad a dderbyniwyd eisoes y bydd ganddo hawl.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant, nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA, hawl i gael y taliad SAC.

Y cymelldaliad olaf

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n gymwys i gael grant cymhelliant ac sy'n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y cymelldaliad olaf.

Rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu yn llwyddiannus o fewn tair blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru er mwyn parhau i fod yn gymwys i dderbyn y cymelldaliad olaf.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:

  • os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr Atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol; neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r cwrs neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei gwblhau, fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan gynllun cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael.  Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd (PN00000374) a'n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Arweiniad i fyfyrwyr

Arweiniad I Partneriaethau AGA

A yw gwladolion nad ydynt o’r DU yn gymwys i hawlio'r cymhelliant AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth?

Os bydd myfyriwr yn bodloni'r holl feini prawf ac nad yw'n dod o dan esemptiad, yna byddai'n gymwys. Dylai Partneriaethau AGA ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i asesu cymhwysedd myfyriwr.

Y prif bwynt i'w ystyried ar gyfer gwladolion nad ydynt o'r DU yw a ydynt yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu helpu i sefydlu pwy sydd â hawl i gymorth.

Gweler y cynllun cyfreithiol a'r adran ar Swm y grant.

A yw myfyrwyr sy'n gwneud TAR Gwyddoniaeth Gyffredinol yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn?

Ydy, mae pob pwnc gwyddonol, cemeg, bioleg a ffiseg yn flaenoriaeth recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer y gweithlu addysgu yng Nghymru ac mae myfyrwyr sy'n dilyn cwrs TAR yn y pynciau hyn yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn, lle mae unigolyn yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd. Mae cymhwyster yn cynnwys gwyddoniaeth gyffredinol gydag arbenigedd pwnc/pynciau, yn unrhyw un o'r tri phwnc gwyddoniaeth hyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhaglenni gwyddoniaeth sy'n galluogi myfyrwyr i brofi lleoliadau cynradd neu uwchradd, fodd bynnag dylai'r ffocws fod ar addysg wyddoniaeth uwchradd i fod â hawl i'r cymhelliant hwn.

Manylion cyswllt

Cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru os ydych chi angen cymorth neu mwy o wybodaeth.

Dylai myfyrwyr gysylltu â'u Partneriaeth AGA yn uniongyrchol.