Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi cyhoeddi Cyllideb ddrafft i Gymru sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi £420m yn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ynghyd â chyllid i ddiogelu’r economi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid ar gyfer Cymru fwy cyfartal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y Gyllideb gyntaf ers y pandemig, mae’r pecyn yn rhoi £176m yn ychwanegol i lywodraeth leol i gefnogi ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau lleol sydd wedi bod yn hanfodol ar gyfer ein hymateb i’r pandemig. Mae’r pecyn yn cynnwys hwb o £10m i’r Grant Gofal Cymdeithasol, sydd bellach yn £50m, i gydnabod effaith sylweddol y pandemig ar y sector.

Bydd buddsoddiad mewn tai cymdeithasol a thai fforddiadwy yn cynyddu i £200m y flwyddyn nesaf, gan ysgogi swyddi a hyfforddiant wrth ddarparu 3,500 yn ychwanegol o gartrefi newydd. Bydd ymgais Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd hefyd yn cael hwb yn sgil £40m arall i’r Grant Cymorth Tai.

Mewn blwyddyn ariannol anodd, bydd buddsoddiad mewn tai cymdeithasol yn cael cefnogaeth drwy 1% o gynnydd yng nghyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir. Bydd hyn yn golygu bod y trethi cymharol uwch a delir wrth brynu eiddo ychwanegol, fel ail gartrefi neu fuddsoddiadau prynu i osod, yn cefnogi tai cymdeithasol a swyddi newydd gan helpu i adfer Cymru.

Bydd gostyngiad treth wedi’i dargedu hefyd yn helpu busnesau sy’n adfer o effeithiau gwaethaf y pandemig. Ni fydd y rhan fwyaf o fusnesau sy’n prynu eiddo amhreswyl am lai na £225,000 yn talu unrhyw Dreth Trafodiadau Tir, gan fod y trothwy wedi codi 50%.

Gyda’i gilydd, bydd y newidiadau hyn yn cynhyrchu tua £13m y flwyddyn i’w fuddsoddi mewn blaenoriaethau tai cymdeithasol.

Er mwyn helpu i adeiladu dyfodol gwyrddach, bydd £40m arall yn cael ei ddarparu ar gyfer seilwaith addysg fodern, gan gynnwys £5m ar gyfer cynllun peilot ysgolion carbon sero-net, a £5m arall i ddatblygu Fforest Genedlaethol Cymru a buddsoddi mewn bioamrywiaeth ehangach. Byddwn yn parhau i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, gan roi hwb o £20m i'r cyllid ar gyfer teithio llesol, a darparu cyfanswm buddsoddiad o £274.7m mewn rheilffyrdd a'r metro. Bydd £20m arall hefyd yn cael ei neilltuo i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a chefnogi rhaglenni ynni adnewyddadwy.

Mae dros £20m wedi’i ddarparu i gefnogi’r cynnydd a ragwelir yn nifer y myfyrwyr ar draws chweched dosbarthiadau ac addysg bellach wrth i fwy o bobl aros mewn addysg ôl-orfodol, gan fuddsoddi yn nyfodol Cymru, a bydd £9.4m yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl hanfodol mewn ysgolion ac yn y gymuned.

Wrth hyrwyddo'r newid rydym am ei weld ar gyfer cymdeithas decach a mwy cyfartal, bydd £13.4m yn ychwanegol yn cael ei ddarparu i gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys £8.3m ar gyfer diwygio'r cwricwlwm, wrth ochr cymorth wedi’i dargedu i’r rhai mwyaf agored i niwed. Rydym yn buddsoddi mwy i helpu gweithwyr ar incwm isel i ailhyfforddi gyda hwb o £5.4m i'r cyrsiau am ddim a hyblyg a gynigir drwy Gyfrifon Dysgu Personol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu pecyn cychwynnol o £77m o gyllid i ymateb i Covid, er mwyn rhoi sicrwydd lle mae ei angen fwyaf, gan gynnwys sicrhau bod cynlluniau hanfodol fel prydau ysgol am ddim a gwasanaethau olrhain cysylltiadau yn cael eu hymestyn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Wrth i ni baratoi ar gyfer ein camau cyntaf y tu hwnt i’r pandemig, lluniwyd y Gyllideb hon i ddiogelu iechyd a’n heconomi, adeiladu dyfodol gwyrddach a chreu newid ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, fwy cyfartal a gwyrddach.

“Er gwaetha’r amgylchiadau mwyaf heriol i ni eu hwynebu erioed fel Llywodraeth, rwy’n falch o gyhoeddi cyllideb sy’n cyflawni ein gwerthoedd, ac sy’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer y weinyddiaeth nesaf.

“Er bod y cyllid cyfatebol y pen yng Nghymru yn parhau i fod yn is na lefelau 2010, bydd ein blaenoriaethau yn ein harwain i sicrhau sefydlogrwydd, diogelu’r hyn sydd bwysicaf a chreu’r newid sy’n hanfodol ar gyfer adferiad.”

Cyllideb Ddrafft 2021 i 2022