Y Gyllideb Atodol Gyntaf fel y'i gosodwyd gerbron Senedd Cymru gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 22 Mehefin 2021.
Dogfennau
Cynnig ynghylch y gyllideb atodol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 534 KB
Dyraniadau prif grwpiau gwariant , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 70 KB
Nodyn esboniadol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Manylion
Mae'r Gyllideb Atodol Gyntaf yn cynnig sawl newid i Gyllideb Derfynol 2021 i 2022, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 ac a ailddatganwyd yn Mai 2021 i adlewyrchu'r newidiadau i bortffolios gweinidogol. Mae'n nodi nifer o ddyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu newidiadau i linellau sylfaen gan gynnwys y rhai a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.
Ar y cyd â'r Gyllideb Atodol Gyntaf, mae gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddiweddariad bach i ragolygon trethi Cymru yn seiliedig ar ddatblygiadau diweddar yn nerbyniadau’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi.