Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae adroddiad interim wedi’i gyhoeddi gan y gweithgor a sefydlwyd i gryfhau adnoddau addysg sy’n ymwneud â chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd er mwyn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu a nodi’r bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol mewn perthynas â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Yr Athro Charlotte Williams OBE, Athro Anrhydeddus yn Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor sy’n cadeirio’r grŵp.

Gofynnwyd i’r grŵp roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o fewn y cwricwlwm ysgol.

Mae adroddiad interim y gweithgor yn nodi argymhellion ar sail cyfarfodydd tri mis cyntaf y grŵp.

Bydd adroddiad terfynol y grŵp, sydd i gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, yn mynd i’r afael â materion ehangach, gan gynnwys cyfleoedd dysgu ychwanegol ar gyfer athrawon dan hyfforddiant sy’n astudio cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Hoffwn ddiolch i’r Athro Williams ac i aelodau eraill y gweithgor am eu gwaith pwysig yn ymchwilio i’r adroddiad rhagorol hwn a’i greu.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fyddaf yn rhoi sylw manwl i’r argymhellion hyn, ac yn cyhoeddi fy ymateb yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Rwy’n croesawu’r heriau sydd wedi’u nodi a’r atebion posibl y mae’r adroddiad yn eu cynnig. Mae’n darparu cyd-destun ar gyfer y cwricwlwm cyfan.

Ym mis Hydref, fe gyhoeddais ein bod am sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o ymarferwyr a rhanddeiliaid, er mwyn rhannu’r ddealltwriaeth sydd gennym ar draws y proffesiwn addysgu, casglu gwybodaeth a chyd-greu system gymorth a datrys problemau.

Bydd nodi bylchau yn yr adnoddau sy’n ymwneud â phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a hanesion Cymru yn rhan o gylch gwaith y rhwydwaith cenedlaethol newydd. Bydd hyn yn rhoi sail well inni wrth symud ymlaen i greu adnoddau newydd a chefnogi ysgolion i’w defnyddio ar draws y cwricwlwm newydd.

Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael adroddiad terfynol yr Athro Williams ddechrau’r gwanwyn.