Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw bod cyfyngiadau coronafeirws newydd yn cael eu cyflwyno yn ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol y Gogledd – Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam – yn dilyn cynnydd mewn achosion

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm ddydd Iau 1 Hydref, i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn y pedair ardal. 

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy'n byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy a Wrecsam:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i dderbyn addysg
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o un.

Bydd y cyfyngiadau yn ychwanegol at y rheolau sy’n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:

  • Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

"Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol y Gogledd, sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint Wrecsam a Chonwy. Mae'r rhain yn gysylltiedig i raddau helaeth â phobl sy'n cymdeithasu dan do ac mae’r patrwm trosglwyddo yn debyg i'r hyn yr ydyn ni wedi’i weld yn y De. 

"Rydym wedi gweithio'n agos gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol a'r heddlu yn y Gogledd ac rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau buan i reoli lledaeniad y feirws.

"Bydd rhannau helaeth o Gymru bellach yn destun cyfyngiadau lleo,l ond rwyf am fod yn glir – nid ‘clo’ cenedlaethol yw hwn. Cyfres o gyfyngiadau lleol yw’r rhain i ymateb i gynnydd mewn achosion mewn ardaloedd unigol. 

"Mae bob amser yn anodd gwneud y penderfyniad i osod cyfyngiadau, ond rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol – yn union fel y gwelsom yng Nghaerffili a Chasnewydd, lle mae’r trigolion wedi tynnu ynghyd ac wedi dilyn y rheolau.

"Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn cefnogi ein gilydd. Nid mater o ddiogelu ein hunain yn unig yw hwn - ond diogelu ein gilydd.”

Mae'r cyfyngiadau'n cael eu cyflwyno yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o’r coronafeirws sydd wedi’u cadarnhau, a’r rheini’n gysylliedig â phobl sy'n cyfarfod dan do, yn peidio â dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol ac yn dychwelyd o wyliau'r haf mewn gwledydd tramor.

Cyfarfu Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'r heddlu ledled y Gogledd heddiw (29 Medi) i drafod y sefyllfa ar draws y rhanbarth, pa fesurau y gellid eu cymryd i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach a sut i ddiogelu iechyd pobl.

Ar hyn o bryd, ni fydd cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno yn Ynys Môn na Gwynedd, lle mae nifer yr achosion yn is.

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan yr awdurdodau lleol a’r heddlu.

Dyma’r camau i’w dilyn i Ddiogelu Cymru:

  • Cadw'ch pellter bob amser
  • Golchi'ch dwylo'n rheolaidd
  • Gweithio gartref pan allwch chi
  • Dilyn unrhyw gyfyngiadau lleol
  • Dilyn y rheolau ynghylch cwrdd â phobl 
  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.