Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cadarnhau heno y bydd cyfyngiadau coronafeirws newydd yn cael eu cyflwyno ym Mangor yn dilyn cynnydd mawr mewn achosion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw'r mesurau newydd i rym am 6pm nos Sadwrn 10 Hydref, i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws yn yr ardal. 

Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy’n byw mewn wyth ward, sydd yn ninas Bangor:

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardal na’i gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu i gael addysg
  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, am y tro. Ni fyddant yn cael ffurfio aelwyd estynedig na bod yn rhan o un, ac eithrio swigod dros dro ar gyfer pobl sengl a rhieni sengl.

Mae’r cyfyngiadau yn ychwanegol at y rheolau sy’n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:

  • Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm
  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

Mae’r ardal amddiffyn iechyd leol wedi’i thargedu ym Mangor yn cael ei chreu fel ymateb i glwstwr sylweddol o achosion sydd wedi datblygu yn y ddinas – mae’r gyfradd achosion tua 400 achos am bob 100,000 o bobl. Mae’n ymddangos bod cysylltiad agos rhwng yr achosion â phobl ifanc a’r boblogaeth o fyfyrwyr.

Yn ardal awdurdod lleol ehangach Gwynedd, mae tystiolaeth o drosglwyddo’r coronafeirws ledled y sir ond mae’r gyfradd achosion yn amrywio o 152 o achosion am bob 100,000 o bobl yn Arfon, sy’n cynnwys Bangor, i 55 o achosion am bob 100,000 o bobl yn Nwyfor a 19 o achosion am bob 100,000 o bobl ym Meirionnydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau helaeth gyda’r awdurdod lleol, Prifysgol Bangor, y GIG, Heddlu Gogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus am y sefyllfa yng Ngwynedd a’r angen am gyfyngiadau lleol ym Mangor.

Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r awdurdod lleol a’r tîm rheoli digwyddiadau am y sefyllfa ehangach yng Ngwynedd ddydd Sadwrn. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mawr mewn achosion ym Mangor, sy’n gysylltiedig i raddau helaeth â phobl sy'n cymdeithasu.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda’r awdurdod lleol, yr heddlu yng Ngogledd Cymru ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus i asesu’r angen am gyfyngiadau lleol. Rydym i gyd yn cytuno bod angen cymryd camau wedi’u targedu ym Mangor.

Rydym eisiau trafod y sefyllfa ehangach yng Ngwynedd yn fanylach fory i benderfynu a fydd angen ymestyn y cyfyngiadau lleol yn ehangach ar draws y sir.

Mae rhannau helaeth o Gymru bellach yn destun cyfyngiadau lleol, ond rwyf am fod yn glir – nid cyfyngiadau symud cenedlaethol yw’r rhain. Cyfres o gyfyngiadau lleol yw’r rhain sy’n ymateb i gynnydd mewn achosion mewn ardaloedd unigol. 

Mae bob amser yn anodd gwneud y penderfyniad i osod cyfyngiadau, ond rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn helpu i reoli lledaeniad y feirws. Mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd. Nid mater o ddiogelu ein hunain yn unig yw hwn, ond diogelu ein gilydd.

Bydd y cyfyngiadau lleol newydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Byddant yn cael eu gorfodi gan yr awdurdodau lleol a’r heddlu.

Dyma’r camau i’w dilyn i Ddiogelu Cymru:

  • Cadw'ch pellter bob amser
  • Golchi'ch dwylo'n rheolaidd
  • Gweithio gartref pan allwch chi
  • Dilyn unrhyw gyfyngiadau lleol
  • Meddwl yn ofalus ynghylch gyda phwy rydych chi’n cyfarfod a ble rydych chi’n mynd – po fwyaf o lefydd y byddwch yn mynd iddynt, y mwyaf o siawns sydd y byddwch yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws.
  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau

Yr 8 ward ym Mangor i'w cynnwys yn y cyfyngiadau lleol yw:

  • Garth
  • Hirael
  • Menai
  • Deiniol
  • Marchog
  • Glyder
  • Hendre
  • Dewi

Gweld map o ardal Bangor