Mae symptomau’r coronafeirws yn debyg iawn i symptomau heintiau anadlol eraill megis y ffliw, ac maen nhw’n cynnwys y canlynol:
- peswch cyson
- tymheredd uchel, twymyn neu’n teimlo’n oer
- colli eich synnwyr o flas neu arogl arferol, neu sylwi ar newid ynddo
- bod yn fyr eich anadl
- teimlo’n flinedig, neu’n ddiegni heb esboniad
- teimlo dolur yn y cyhyrau neu boenau nad ydynt yn gysylltiedig â gwneud ymarfer corff
- dim awydd bwyta neu golli archwaeth bwyd
- pen tost/cur pen sy’n anarferol neu sy’n para mwy o amser na’r arfer
- llwnc tost/dolur gwddf, a’r trwyn yn llawn neu’n rhedeg
- dolur rhydd
- chwydu neu’n teimlo fel chwydu
Os byddwch yn datblygu un o'r symptomau hyn, dylech ddilyn y canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol.
Gall y gwiriwr symptomau COVID-19 ar-lein (ar y GIG 111 Cymru) ddweud wrthych os oes angen help meddygol arnoch a dweud wrthych beth i’w wneud. Defnyddiwch y gwasanaeth os ydych yn teimlo na allwch ddelio gyda'ch symptomau adref neu os yw'ch cyflwr yn gwaethygu. Os nad oes gyda chi fynediad i'r we, ffoniwch 111. Ar gyfer argyfwng meddygol, ffoniwch 999.