Adroddiad yn edrych ar gyflawniadau disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, gan gynnwys gwybodaeth yn ôl rhyw a lefel cyflawniad ar gyfer 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd
Am y tro cyntaf mae’r adroddiad hwn yn cynnwys asesiadau dechreuol. Cynhelir yr asesiadau hyn wrth i’r plentyn ddechrau mewn Dosbarth Derbyn yn 4 oed. Yn flaenorol, roedd hwn wedi'i gyhoeddi ar wahân.
Deilliannau’r Cyfnod Sylfaen
Mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn cyflawni'r deilliant disgwyliedig o 5 neu’n uwch ym mhob maes dysgu, o 92.2% yn 'Natblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol' i 82.0% yn 'Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Saesneg)' yn 2019.
Cyfnod Allweddol 2
Cyflawnodd y mwyafrif o ddisgyblion o leiaf y lefel disgwyliedig (Lefel 4) neu’n uwch ym mhob pwnc. O 90.8% yng Ngwyddoniaeth i 88.4% yng Nghymraeg yn 2019.
Cyfnod Allweddol 3
Mae mwy na 9 allan o bob 10 disgybl yn cyflawni o leiaf y lefel disgwyliedig (lefel 5) neu’n uwch ym mhob pwnc yn 2019. O 92.4% yng Ngwyddoniaeth i 90.1% yn Saesneg.
Cymhariaeth gyda 2018
Roedd y canran o ddisgyblion a gyflawnodd o leiaf y lefel disgwyliedig yn is na 2018 ym mhob pwnc craidd / maes dysgu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a’r ddau Gyfnod Allweddol.
Yn dilyn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Addysg yng Ngorffennaf 2018, ac ymgynghoriad a orffennodd yn Ionawr 2018, ni fyddwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia. Mae hwn yn gam sylweddol i ffwrdd o gasglu gwybodaeth am berfformiad pobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd.
Gallai canlyniadau eleni fod yn adlewyrchiad o’r newidiadau hyn, lle mae prif bwrpas asesiadau athrawon wedi dechrau symud yn ôl i ddysgwyr unigol ac i ffwrdd o ddwyn ysgolion i gyfrif.
Bydd dadansoddiad pellach o'r canlyniadau a ddangosir yn y datganiad yma yn ôl rhyw a lefel cyrhaeddiad ar gael ar StatsCymru.
Adroddiadau
Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd, 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 915 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.