Cyfamod y Lluoedd Arfog: adroddiad blynyddol 2020
Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wneud yn ystod 2020 i sicrhau bod aelodau a chyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y gweinidog
Mae ein Hadroddiad Blynyddol, am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi cael ei ysgrifennu wrth i ni barhau i ymateb i bandemig COVID-19 yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae ein Lluoedd Arfog wedi parhau i ddarparu cymorth hanfodol i Lywodraeth Cymru, ein GIG a Byrddau Iechyd Lleol i helpu’r rheini sydd ei angen fwyaf. Diolchwn iddynt am eu cefnogaeth amhrisiadwy a pharhaus.
Drwy gydol pandemig COVID-19, drwy weithio gyda’n partneriaid, rydym wedi parhau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu ein llwyddiannau a chyflawniadau’r gymuned ehangach, er gwaethaf y ffaith ei bod yn anochel bod COVID-19 wedi effeithio ar gynnydd mewn rhai meysydd.
Rydym wedi cyflwyno’r cynllun ‘Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr’, gan gydnabod sgiliau cyn-filwyr. Rydym yn cefnogi cynllun cerdyn rheilffordd y cyn-filwyr, fel bod cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael disgownt ar deithio yn y DU. Rydym wedi datblygu argymhellion ein Hymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr a Strategaeth Cyn-filwyr y DU yng Nghymru, gan wrando ar bryderon cyn-filwyr ac ymateb iddynt.
Mae 2021 yn nodi 10 mlynedd ers i Gyfamod y Lluoedd Arfog gael ei gydnabod yn gyfreithiol. Rydym wedi gweld llawer o lwyddiannau yng Nghymru, gan gynnwys:
- rhagor o gyllid ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan alluogi cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt
- yn 2017, gwnaethom ddiystyru taliadau Pensiwn Anabledd Rhyfel a Chynllun Iawndal y Lluoedd Arfog pan fydd cyn-filwyr yn cael gofal cymdeithasol
- rydym yn ariannu Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog tan 2023, gan helpu i wreiddio canllawiau a gwasanaethau’r Cyfamod mewn Awdurdodau Lleol ledled Cymru.
Fe wnaethom ddathlu saith deg a phumed pen-blwydd Diwrnod VJ ar-lein, gan anrhydeddu cyn-filwyr yr oedd eu dewrder a’u haberth yn fodd o ddirwyn yr Ail Ryfel Byd i ben. Roedd cyfyngiadau COVID-19 wedi newid y ffordd y bu i ni nodi’r garreg filltir hon, ond nid oedd hyn yn lleihau’r parch a ddangoswyd gan bobl Cymru.
Mae cydweithio’n allweddol i gynnydd; rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth ein Grŵp Arbenigol ar y Lluoedd Arfog a phartneriaid allweddol. Bydd cydweithio a gwrando ar gymuned y Lluoedd Arfog yn ein helpu i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn parhau i ddiwallu eu hanghenion.
Adborth gan aelodau Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog
Yn ein Hadroddiad Blynyddol yn 2019, cododd aelodau Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog nifer o faterion i Lywodraeth Cymru a’r sector roi sylw iddynt.
Gofynnodd y Ffederasiynau Teuluoedd am roi mwy o amlygrwydd i lwyfan Swyddi Teuluoedd y Lluoedd Arfog ac y dylai pob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol gael eu hannog i hysbysebu swyddi gwag drwy’r porth hwn. Mae llwyfan Swyddi i Deuluoedd y Lluoedd Arfog wedi cael ei hyrwyddo ar draws y sector yng Nghymru.
Galwodd y Ffederasiynau Teuluoedd hefyd am gydnabyddiaeth o waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i alluogi mynediad haws at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) ar gyfer plant y Lluoedd Arfog. Cafodd hyn ei gynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol yn 2019; mae ardaloedd BILl eraill hefyd wedi mabwysiadu’r polisi hwn.
Teimlwyd rhywfaint o siom ynghylch yr oedi o ran cwblhau’r adolygiad o’r cod derbyniadau i ysgolion. Gobeithir y bydd yr adolygiad yn ailddechrau yn Nhymor newydd y Senedd.
Yr angen i wneud rhagor o waith i fynd i’r afael â’r problemau y mae rhai o staff y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yn eu hwynebu yng nghyswllt taliadau’r dreth gyngor. Mae trafodaethau wedi’u cynnal rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a’r Ffederasiynau Teulu. Mae’r materion wedi’u datrys erbyn hyn. Mae’r Ffederasiynau Teulu wedi cael eu gwahodd i Rwydwaith Lluoedd Arfog CLlLC i godi ymwybyddiaeth o’u rolau ac i rannu arferion da.
Gofynnwyd am eglurhad hefyd ar y polisi ynghylch rhestrau aros ar gyfer iechyd ac a fyddai aelodau o’r teulu sy’n symud i Gymru o rannau eraill o’r DU hefyd yn elwa o’r amser a fyddai’n cael ei gronni ar restrau aros. Rydym wedi cadarnhau bod y polisi yn cynnwys aelodau o’r teulu.
Codwyd cadarnhad o’r amserlenni ar gyfer gwella data ar blant y Lluoedd Arfog. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei ohirio oherwydd gwaith blaenoriaeth ar COVID-19 a diwedd Cyfnod Pontio’r UE (Brexit). Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn ailddechrau yn ystod tymor y Senedd hon.
Galwodd y GIG a GIG Cymru i Gyn-filwyr am ddiweddaru’r canllawiau ar ofal iechyd i gyn-filwyr yn y carchar er mwyn ystyried y gwaith Cefnogi Pontio Personél Milwrol (SToMP) mewn carchardai, a’r diffyg atgyfeiriadau i GIG Cymru i Gyn-filwyr gan gyn-filwyr yn y carchar. Cafodd ein cynlluniau i ddiweddaru Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Garchardai ar gyfer Cyn-filwyr eu gohirio yn 2020 yng ngoleuni pandemig COVID-19. Rydyn ni’n bwriadu ailedrych ar hyn a’i drafod â’r arweinwyr Iechyd Carchardai, fel rhan o’r cynllun adfer COVID-19 ar gyfer carchardai yng Nghymru.
Mae gwaith yn mynd rhagddo rhwng Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a’r Swyddogion Cymorth Cyn-filwyr yn y Ddalfa i roi rhagor o gyhoeddusrwydd i GIG Cymru i Gyn-filwyr yn y system cyfiawnder troseddol; i sicrhau bod y rheini sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n gadael y carchar yn gallu eu helpu i ymgysylltu â’r gwasanaeth cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
Cyfeiriodd y gwasanaeth prawf Cenedlaethol at y mater o fwrw ymlaen â chanfyddiadau’r Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr mewn perthynas â chyfiawnder troseddol. Cytunwyd bod digon o ffrydiau gwaith ar gael drwy SToMP i archwilio’r gwaith. Ers i’r prosiect SToMP ddod i ben, rhoddir ystyriaeth i’r ffordd orau o fonitro’r gefnogaeth barhaus i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog mewn carchardai.
Mae aelodau Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog yn diolch i Lywodraeth Cymru am yr adroddiad a’r datblygiadau maent yn eu gwneud o ran mynd i’r afael ag anghenion cymuned y Lluoedd Arfog ledled Cymru. Gallwn weld bod llawer o gynnydd wedi’i wneud yn arbennig o dan amgylchiadau mor anodd oherwydd COVID-19 ac mae’n braf gweld cynifer o bobl o bob rhan o’r sector yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael ag anghenion cyn-filwyr ynysig.
Rydym hefyd yn teimlo bod angen rhoi blaenoriaeth i’r meysydd canlynol yn ystod tymor y Llywodraeth hon yng Nghymru:
- Datblygu cynllun cenedlaethol i weithredu’r newidiadau sy’n ofynnol o dan Ddeddf y Lluoedd Arfog
- Gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu gwasanaethau canolfannau ailsefydlu yng Nghymru i sicrhau gwell trawsnewid i fywyd sifil
- Sicrhau bod adolygiad parhaus o’r capasiti a’r cyllid sydd eu hangen ar GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn diwallu anghenion iechyd meddwl cyn-filwyr mewn modd amserol ar gyfer apwyntiad cyntaf a thriniaeth ddilynol
- Sicrhau bod cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu’n gallu cael gafael ar driniaeth ar gyfer poen cronig yn gyson pan fydd ei hangen arnynt, ac mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw, yn agos at eu cartref ac yn wahanol i’r gwasanaeth a ddarperir gan y rhwydwaith trawma i gyn-filwyr, sydd wedi’i fwriadu ar gyfer y rheini sydd ag anableddau corfforol mawr
- Ymrwymo i gyllido Cronfa Cefnogi Plant mewn Addysg yng Nghymru yn barhaol a pharhau i fuddsoddi ym Mhrosiect SSCE Cymru i sicrhau bod plant y Lluoedd Arfog yn cael y dechrau gorau posibl
- Ehangu a chyflymu’r gwaith o gyflwyno cyfweliadau gwarantedig ar gyfer pobl sy’n Gadael Gwasanaeth y Lluoedd Arfog, Aelodau o’r Cefnlu a gwŷr/gwragedd sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer swyddi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
- Ymestyn Angen Blaenoriaeth Tai i gynnwys 5 mlynedd ar ôl gadael gwasanaeth milwrol a sicrhau bod gwŷr a gwragedd sydd wedi ysgaru neu wedi gwahanu, a phartneriaid aelodau o’r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gymorth tai ar yr un telerau â theuluoedd eraill y Lluoedd Arfog
- Diweddaru’r ‘Fframwaith Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau i Gyn-filwyr’ a darparu gwell cefnogaeth i gyn-filwyr sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau.
O ran Coffau, edrychwn ymlaen at glywed am gynlluniau Cymru ar gyfer nodi 40 mlynedd ers Rhyfel Ynysoedd y Falklands yn 2022.
Cyflwyniad
Mae ein trydydd Adroddiad Blynyddol ar Gyfamod y Lluoedd Arfog yn dangos cynnydd a chefnogaeth eang i gymuned y Lluoedd Arfog; y cynnydd a wnaed drwy gydweithio â’n partneriaid allweddol.
Yn yr un modd â’n Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2019 rydym wedi drafftio’r adroddiad hwn yn ystod heriau COVID-19. Fodd bynnag, rydym wedi parhau i ddarparu ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog. Rydym wedi newid ein dull gweithredu, gan ymgysylltu’n rhithiol â sector y Lluoedd Arfog yn unol â’r cyfyngiadau.
Mae ein llwyddiannau’n cynnwys.
Cefnogaeth COVID-19
- Mae personél y Lluoedd Arfog wedi cefnogi ein GIG a’n cymunedau. Maent wedi bod yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno brechlyn COVID-19 yn llwyddiannus ac mewn meysydd eraill, gan gynnwys cymorth i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
- Mae elusennau a mudiadau wedi addasu’r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau i sicrhau parhad y gefnogaeth. Rhwng mis Awst 2020 a mis Ionawr 2021, gwnaeth menter Cymorth Cymunedol Cangen y Lleng Brydeinig Frenhinol 1527 o alwadau i gyn-filwyr ynysig.
Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr
- Parhau i gyflawni’r argymhellion a wnaed yn ein Hymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr; monitro cynnydd drwy ein Bwrdd Rhaglen a’n Grwpiau Gweithredu.
Darpariaeth gyllido
- Darparwyd cyllid o £275,000 i alluogi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i barhau yn eu rolau tan 2023, gan gefnogi’r rheini sy’n fwy agored i niwed yn ein cymunedau.
- Rhagor o gyllid i gefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddarparu cyfanswm o £920,000 y flwyddyn o gyllid rheolaidd o 2021 ymlaen.
- Buddsoddiad pellach o £250,000 y flwyddyn i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru, i ddarparu cymorth penodol wedi’i dargedu lle mae ei angen fwyaf.
Gwybodaeth ac ymwybyddiaeth
- Cyhoeddi ein pecyn cymorth Capitalising on Military Family Talent, Tachwedd 2020.
- Datblygu ein gwefan Cyfamod Cymru, gan dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog ledled Cymru.
Cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog
- Yr ydym yn cymryd rhan yn y cynllun cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr. Gall cyn-filwyr yng Nghymru gael traean oddi ar bris tocynnau trên, tocynnau am bris gostyngol i ail ddeiliad y cerdyn a enwir, ac i blant sy’n teithio gyda deiliad y cerdyn.
- Penodwyd pedwar Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLO) ac mae eu rolau’n cynnwys ymgysylltu ag ysgolion a’u cefnogi i ddeall anghenion plant y Lluoedd Arfog. Bydd y Swyddogion hyn yn parhau yn eu swyddi tan fis Medi 2022.
Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr: crynodeb o’r cynnydd
Roedd yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr, a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2018 a mis Awst 2019, yn sgwrs ledled Cymru gyda’r nod o ganfod y bylchau mewn gwasanaethau i gyn-filwyr a’u teuluoedd. Roedd yr ymarfer hefyd yn rhan o gyfraniad Llywodraeth Cymru at Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr.
Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2020 ac yn dilyn hynny sefydlwyd strwythurau newydd i fwrw ymlaen â’r argymhellion.
Rydym wedi sefydlu tri Grŵp Gweithredu newydd gyda chynrychiolwyr sefydliadau partner i fwrw ymlaen ag argymhellion sy’n ymwneud â Chyflogaeth, Trosglwyddo a Gwybodaeth ac Ymwybyddiaeth / Cyllid. Rydym hefyd wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen a Grŵp ar Draws y Llywodraeth i fonitro sut rydym yn cyflawni.
Y cynnydd hyd yma:
- Ym mis Mai 2020, darparwyd cyllid o £85,700 ar gyfer costau staff rhwng mis Hydref 2020 a 31 Mawrth 2021 ar gyfer y tair swydd therapydd a oedd yn cael eu hariannu’n flaenorol gan Help for Heroes. Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom gyhoeddi cynnydd ychwanegol o £235,000 ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr gan ddarparu cyfanswm o £920,000 y flwyddyn o gyllid rheolaidd rhwng 2021 a 2022 ac ymlaen. Mae hyn wedi sicrhau bod triniaeth iechyd meddwl i gyn-filwyr yng Nghymru'n bodloni'r angen presennol.
- Mae £50,000 o gyllid wedi cael ei fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer prosthetyddion yng Nghymru mewn technolegau newydd, gan sicrhau bod cyn-filwyr yn cael y cymorth technolegol sydd ei angen arnynt ar sail eu prostheteg.
- Gwnaed cyhoeddiad gennym y bydd sifiliaid yn gymwys i gael pengliniau microbrosesydd yng Nghymru o fis Ebrill 2021 ymlaen; bydd hyn yn cynnwys cyn-filwyr sydd ag anafiadau nad oes modd eu priodoli i wasanaeth milwrol, yn amodol ar angen clinigol.
- Buom yn gweithio gyda Busnes yn y Gymuned a Llywodraeth yr Alban i gynhyrchu’r pecyn cymorth Capitalising on Military Family Talent sy’n tynnu sylw cyflogwyr at sut y gallant recriwtio a chadw partneriaid a gwŷr a gwragedd milwrol.
- Ddechrau 2020, bu i ni ddarparu £120,000 i 13 o elusennau a darparwyr er mwyn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yng nghymuned y Lluoedd Arfog.
- £250,000 o fuddsoddiad i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae £50,000 yn ariannu pecyn o gymorth cyffredinol a ddarperir gan SSCE Cymru ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, ynghyd â £200,000 a fydd yn cael ei reoli gan SSCE Cymru, gan weithio gydag Awdurdodau Lleol, i ddarparu cymorth penodol wedi’i dargedu lle mae ei angen fwyaf.
Bydd y gwaith hwn yn parhau a bydd y cynnydd yn cael ei fonitro.
Cymorth y lluoedd arfog yn ystod pandemig COVID-19
Mae’r llu o enghreifftiau yn cynnwys staff y Lluoedd Arfog a ddefnyddiwyd i gefnogi’r rhaglen brofi’r dref gyfan ym Merthyr Tudful, cymorth cynllunio i Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol yn ogystal â chefnogaeth i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar ffurf cymorth gyrru a chymorth anghlinigol sy’n wynebu cleifion.
Mae aelodau’r Lluoedd Arfog hefyd wedi cefnogi ein Canolfannau Brechu Torfol ar draws ardaloedd yr holl Fyrddau Iechyd gan weithio ochr yn ochr â staff presennol y GIG gan ymgymryd ag amrywiaeth o rolau, o gwrdd â chleifion a’u cyfarch i ddarparu’r brechlyn.
Mae’r Llynges Frenhinol yng Nghymru a’i Thîm Ymgysylltu Rhanbarthol wedi gweithio’n galed i addasu er mwyn bodloni a chydymffurfio â’r cyfyngiadau a osodwyd oherwydd pandemig COVID-19. Mae sefydliadau cadetiaid ledled Cymru wedi galluogi rhith-gyfleoedd i’w ‘Criwiau Llongau’ barhau i ddysgu sgiliau gwella bywyd a CV, gan barhau i ddarparu llwyfan iddynt ymgysylltu â ffrindiau mewn amgylchedd diogel. Roedd yr unedau’n darparu pecynnau gofal i Gadetiaid a brodyr a chwiorydd. Cafodd un Cadét o Sir y Fflint ei nodi’n benodol am ei waith yn cadw 2,300 o Gadetiaid yn brysur drwy gydol y cyfyngiadau symud drwy gynnal fforwm cymorth a oedd yn caniatáu i Gadetiaid a staff cymorth ddod at ei gilydd i drafod materion cyfredol. Am y gwaith hwn, dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i John Challenger, aelod o Gadetiaid y Môr, yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Cymorth gan elusennau
Mae elusennau wedi parhau i ddarparu cymorth yn ystod pandemig COVID-19, gan addasu’r ffordd y maent yn gweithio i fodloni rheoliadau newydd a pharhau i fod ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog pan fo angen.
Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi parhau i gefnogi cyn-filwyr gyda chyfarfodydd cangen ar-lein. Gwnaeth menter Cymorth Cymunedol Cangen y Lleng 1527 o alwadau i gyn-filwyr ynysig rhwng mis Awst 2020 a mis Ionawr 2021. Rhwng mis Awst 2020 a diwedd mis Chwefror 2021, derbyniodd y Lleng 76 o atgyfeiriadau newydd ar gyfer Cyngor Ariannol Dyledion Budd-daliadau yng Nghymru a chofnododd £402,860 o enillion ariannol ar gyfer cyn-filwyr a theuluoedd.
Mae Oriel VC wedi parhau i helpu’r gymuned cyn-filwyr yng Ngorllewin Cymru yn ystod Covid-19. Fel rhan o’r prosiect ‘Cyn-filwyr yn y Gymuned’ a ariennir gennym, mae’r elusen wedi bod yn cefnogi cyn-filwyr mewn ardaloedd sy’n gymdeithasol anghysbell. Wrth siarad am ei waith, dywedodd Barry John MBE, cydlynydd Oriel VC:
Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gawsom yn ystod ein prosiect yn 2020 gyda chyn-filwyr ynysig, fe wnaethom greu prosiectau awyr agored mewn mannau diogel gyda grwpiau cerdded, darganfod metel, garddio, pêl-droed cerdded a ffotograffiaeth yn y gymuned.
Wrth i’r cyfyngiadau lacio, bydd ein dau brosiect newydd “Dig for Victory D4V” a “Into the deep blue” yn arwain at gyfeiriad mwy awyr agored i ategu ein hymrwymiadau cymdeithasol yn yr oriel. Gyda Garddio a gwaith coed, cadw gwenyn, syllu ar y sêr a hyd yn oed therapi tân gwersyll, mae hyn i gyd wedi digwydd ar ôl ymgysylltu’n gadarnhaol gan drafod beth fyddai ein cyn-filwyr yn hoffi ei wneud, gan weithredu ar yr holl wybodaeth a gafwyd yn ystod ein prosiect Llywodraeth Cymru gyda’r ymgynghoriadau a’r digwyddiadau a gyflwynwyd gennym drwy’r ardaloedd gwledig gan ddenu pobl sydd weithiau’n anodd ymgysylltu â nhw.
Mae Mentor Cymheiriaid Hyb Lluoedd Arfog Ceredigion, Penparcau, wedi rhoi cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog ledled y sir yn ystod y pandemig. Mae hyn wedi cynnwys cynnal digwyddiadau coffau diwrnod VJ yn unol â chanllawiau COVID-19, danfon parseli bwyd yn Aberteifi yn ystod mis Awst 2020, a danfon 160 o barseli Nadolig ewyllys da yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae Newid Cam wedi parhau i gynnal gwasanaethau Galw Heibio ar-lein, gan gefnogi cyn-filwyr a theuluoedd yn ystod y pandemig. Mae mentoriaid cymheiriaid wedi defnyddio technoleg i ddeall yn llawn beth oedd eu defnyddwyr gwasanaeth yn ganfod oedd hawsaf i gysylltu â nhw. Mae hyn wedi cynnwys sesiynau cerdded a siarad pan oedd cyfyngiadau’n caniatáu, a oedd o fudd i staff a defnyddwyr gwasanaeth fel ei gilydd. Mae sesiynau cerdded a siarad wedi cael eu cydnabod fel elfen o gyflawni y mae Newid Cam yn bwriadu parhau i’w cynnig ar ôl pandemig COVID-19 ac wedi bod yn ychwanegiad i’w croesawu.
Mae Newid Cam hefyd wedi bod yn gweithio i sicrhau bod anghenion sylfaenol y cartref yn cael eu diwallu. Gan ddefnyddio cyllid argyfwng COVID-19 Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog, gweithiodd yr elusen gyda’r dosbarthwr bwyd lleol, Castell Howell, i ddarparu bwyd o werth uchel a nwyddau hanfodol. Cafodd cyfanswm o 189 o ddanfoniadau eu gwneud i 55 o gartrefi ledled Cymru. Roedd y ddarpariaeth hon yn rhoi cyfle i fentoriaid cymheiriaid gael sgyrsiau gwerthfawr ar garreg y drws a siarad â defnyddwyr gwasanaeth wyneb yn wyneb. Yn ogystal â helpu’r cyn-filwyr yn uniongyrchol, roedd yr elusen hefyd yn galw’n aml ar grwpiau cymunedol a banciau bwyd i’w helpu. Ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a oedd yn ymwneud â’r elfen hon o gefnogaeth, canfu Newid Cam fod cyn-filwyr yn fwy tebygol o ymrwymo i feysydd eraill o’u darpariaeth gofal fel cyfleoedd hyfforddi ar-lein.
Mae timau cymorth Woody’s Lodge wedi parhau â’u gwaith o ddarparu gwasanaethau o bell i gymuned y Lluoedd Arfog. Ers mis Awst 2020, mae Swyddogion Lles wedi cefnogi 181 o Gyn-filwyr a’u teuluoedd ledled Cymru, gyda materion fel cyllid, tai a budd-daliadau. Cafodd dau gyn-filwr digartref gefnogaeth i gael llety hefyd. Cynhaliwyd boreau coffi ‘Zoom’ ddwywaith yr wythnos a oedd yn darparu adloniant ac ymgysylltiad cymdeithasol a oedd yn helpu i fynd i’r afael â theimlo’n ynysig. Gwnaed 175 o alwadau ffôn i wirio lles cyn-filwyr ac roedd yr elusen hefyd wedi danfon nifer o barseli bwyd i'r rhai agored i niwed yn y gymuned.
Mae Woody’s Lodge wedi parhau i weithio gydag asiantaethau ac Awdurdodau Lleol eraill. Er bod y canolfannau wedi aros ar gau, roedd Woody hefyd yn gallu gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y prosiect fferm newydd yng Ngorllewin Cymru (Fferm Penlan) gydag agoriad “meddal” unwaith yr oedd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu hynny. Mae’r holl leoliadau galw heibio wedi cael eu paratoi’n barod ar gyfer yr adeg pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu codi, gan ganiatáu digwyddiadau cymdeithasol wyneb yn wyneb.
Llywodraethu ac ymgysylltu: Cyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Mae sector y Lluoedd Arfog wedi parhau i gydweithio i gynnal egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog a darparu gwasanaethau. Mae’n gwneud hyn drwy fforymau, rhwydweithiau a grwpiau.
Roedd ein strwythurau llywodraethu yn darparu craffu, adborth a chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth yn ystod 2020 i 2021 ar lefel Cymru a’r DU, gan sicrhau dull gweithredu cwbl gydlynol.
Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog
Cadeiriodd Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ym mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021. Roedd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys blaenoriaethau cyfredol Ymddiriedolaeth Forces in Mind a’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog a deddfwriaeth ar y Cyfamod.
Bwrdd Rhaglen yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr
Cyfarfu ein Bwrdd Rhaglen ym mis Ebrill 2021. Gan nodi’r cynnydd hyd yma, ystyriodd y Bwrdd ffyrdd ychwanegol o fwrw ymlaen â’r argymhellion, yn enwedig y rheini lle roedd COVID-19 wedi effeithio ar y ddarpariaeth. Mae’r Ymarfer Cwmpasu yn parhau i ddarparu elfen Cymru o Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr ac mae’n cynnwys ymgysylltu â Swyddfa Materion Cyn-filwyr Llywodraeth y DU a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC): rhwydwaith y Lluoedd Arfog
Cyfarfu rhwydwaith Lluoedd Arfog CLlLC yn ystod haf 2020. Cafodd cynrychiolwyr Llywodraeth Leol gyfle i roi adborth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar y cynigion cynnar ar gyfer y Ddyletswydd Cyfamod newydd, i’w cynnwys ym Mil y Lluoedd Arfog 2021.
Fforymau’r Lluoedd Arfog
Mae fforymau rhanbarthol a lleol y Lluoedd Arfog wedi parhau i gwrdd dros y we. Rydym wedi parhau i fynychu a gwrando ar adborth ar yr un pryd â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion fel Bil y Lluoedd Arfog a’r Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr.
Mae ein Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi parhau i gydlynu a chefnogi gwaith lleol, gan godi ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd.
Cynhadledd Flynyddol Cymru
Ar 3 Rhagfyr 2020, cynhaliwyd ein Cynhadledd y Lluoedd Arfog ar-lein am y tro cyntaf. Roedd dros 100 o gynrychiolwyr o elusennau, y Llywodraeth a phartneriaid yn y sector cyhoeddus yn bresennol. Rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol gyda chyflwyniadau gan Fighting with Pride ac Oriel VC.
Ymgysylltu â Gweinidogion
Bu’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU a chyda rhanddeiliaid ar draws sector y Lluoedd Arfog. Roedd cyfarfodydd Gweinidogol yn gyfle i dynnu sylw at arferion da a chadarnhau ein safbwyntiau ar faterion cenedlaethol sy’n effeithio ar Gymru, er enghraifft Adolygiad Integredig Llywodraeth y DU o Ddiogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Pholisi Tramor.
Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi galluogi Gweinidogion i dynnu sylw at ein cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog. Drwy gymryd rhan yn adolygiad 10 mlynedd y Lleng Brydeinig Frenhinol o’r Cyfamod, siaradodd Gweinidogion am yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Fforwm Elusennau’r Lluoedd Arfog Cymru Gyfan
Mae fforwm Elusennau’r Lluoedd Arfog Cymru Gyfan wedi parhau i gyfarfod. Mae hyn yn rhoi cyfle i elusennau drafod materion a rhannu arferion gorau. Mae presenoldeb Llywodraeth Cymru yn gyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf a chlywed yn uniongyrchol gan y rheini sy’n gweithio’n uniongyrchol â chymuned y Lluoedd Arfog.
Grwpiau a chanolfannau Cymorth i Gyn-filwyr
Mae hybiau a grwpiau cymorth wedi parhau i ddarparu mewn amgylchiadau heriol. Mae hyn wedi cynnwys grwpiau cymorth rhithiol fel Cyn-filwyr y Cymoedd, mentora gan gymheiriaid Newid Cam ac ehangu Woody’s Lodge i Fferm Penlan yng Ngheredigion. Mae cefnogaeth gan Oriel VC yn Hwlffordd, Canolfan Penparcau yn Aberystwyth a hwb cyn-filwyr Casnewydd hefyd wedi parhau, ynghyd â gwaith ein canghennau lleol o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a’r Bulldogs ym Mhort Talbot.
Data ‘Map o Angen’
Rydym yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Northumbria i sicrhau bod data sy’n ymwneud â Chymru yn cael ei gynnwys ar y Map o Angen, sef cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau sydd ar gael i’r gymuned o gyn-filwyr. Mae ymgysylltu â Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn sicrhau bod y cyfeiriadur yn parhau i fod yn gyfredol.
Ymgysylltu ar lefel y DU
Mae ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU wedi parhau, gan ein galluogi ni i gadw llygad ar ddatblygiadau ar lefel y DU a sicrhau cynrychiolaeth o Gymru pan fo angen.
Yn dilyn bwriad Llywodraeth y DU i gryfhau Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy gyfraith, fel rhan o Fil y Lluoedd Arfog 2021 rydym wedi parhau i ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn, ein harweinwyr polisi a’n timau cyfreithiol i sicrhau bod ein safbwynt polisi yn cael ei adlewyrchu yn y Bil. I gefnogi’r Bil a’i ddarpariaethau sy’n ymwneud â Chymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 18 Chwefror 2021. Yn gryno, bydd y Bil yn cyflwyno dyletswydd statudol newydd ar rai cyrff cyhoeddus i roi sylw dyledus i egwyddorion y Cyfamod wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus penodol ym meysydd tai, gofal iechyd ac addysg. Bydd y ddyletswydd yn berthnasol ledled y DU a’r bwriad yw codi ymwybyddiaeth o’r Cyfamod ymhellach ac, yn ei dro, gwella’r gwaith o gyflawni yn erbyn ei addewidion mewn meysydd allweddol.
Mae ein hymateb i adroddiad Andrew Selous ‘Living in our Shoes’ yn tynnu sylw at ein hymrwymiad i gefnogi teuluoedd personél y Lluoedd Arfog. Bydd hyn yn parhau fel rhan o’n cefnogaeth barhaus i’r Weinyddiaeth Amddiffyn wrth iddi ddatblygu ei strategaeth Teuluoedd y DU. Mae ein cynlluniau i gefnogi teuluoedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.
Rydym wedi parhau i fod yn aelod o Grŵp Cyfeirio Cyfamod Llywodraeth y DU, gan rannu arferion da a sicrhau dull gweithredu cydweithredol ym mhedair gwlad y DU a datblygu polisïau ar draws adrannau.
Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog: ein llais yn y cymunedau
Mae penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn ein helpu i weithio gydag Awdurdodau Lleol a sefydliadau lleol, gan ddarparu polisïau sy’n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r swyddi hyn hefyd yn helpu’r llif gwybodaeth rhwng ardaloedd cenedlaethol a lleol, fel ein bod ni fel Llywodraeth yn fwy ymwybodol o anghenion cymuned y Lluoedd Arfog.
Rydym wedi cadarnhau cyllid o £275,000 y flwyddyn er mwyn i’r rolau hyn barhau drwy gydol 2021 i 2023. Bydd hyn yn eu helpu i adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd wedi cael ei wneud hyd yma.
Mae eu cyflawniadau’n cynnwys.
De-orllewin Cymru: Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ymgysylltu’n well yn lleol: Mae’r cyfranogwyr yn y tri fforwm rhithiol Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ar gyfer y Lluoedd Arfog wedi cynyddu hyd at 200%.
- Cefnogi Adran Addysg Castell-nedd Port Talbot i ddod o hyd i gyllid grant i gynnal aelod o staff sy’n cefnogi Teuluoedd y Lluoedd Arfog.
- Gweithio gyda sefydliadau i helpu gyda’r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o Gyn-filwyr mewn argyfwng.
Gorllewin Cymru: Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro
- Mae cydweithio â thri Awdurdod Lleol wedi helpu i sefydlu dull gweithredu cyffredin o ran canfod anghenion tai cyn-filwyr. Yng Ngheredigion, bu’r Tîm Tai yn gweithio gyda 26 o ymgeiswyr sy’n nodi eu bod yn aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog.
- Cefnogi ehangu Woody’s Lodge i Orllewin Cymru yn eu lleoliad yng Ngheredigion, Fferm Penlan.
- Darparu gwasanaeth cyfeirio a chymorth uniongyrchol i gymuned y Lluoedd Arfog ar faterion fel tai, cymorth ariannol, cymorth i deuluoedd, cyflogaeth ac iechyd meddwl.
De-ddwyrain Cymru: Bro Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Bro Morgannwg
- Tri grŵp o gyn-filwyr rhithiol wedi’u sefydlu i gryfhau perthnasoedd a mynd i’r afael ag unigrwydd.
- Mae cylchlythyr Rhondda Cynon Taf yn ei le; mae gwaith yn mynd rhagddo i lunio cylchlythyr Merthyr Tudful, gan rannu gwybodaeth yn lleol ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog.
- Cysylltodd dros 250 o ddefnyddwyr gwasanaeth yn ystod y cyfyngiadau symud i gynnig cymorth a chyngor, gan godi ymwybyddiaeth o rif llinell gymorth COVID-19.
- Cais llwyddiannus am gyllid i Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i brynu offer TG i gefnogi’r rheini yng Nghymuned y Lluoedd Arfog sy’n wynebu arwahanrwydd cymdeithasol.
Gwent: Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent
- Sicrhawyd £19,440 gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i ddarparu cyrsiau Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Gymuned y Lluoedd Arfog a sefydliadau cymorth.
- Gweithiwyd ar y cyd ar Fore Coffi Rhithiol i Gyn-filwyr; yn y broses o gyflwyno Canolfan i Gyn-filwyr ym mhob Awdurdod Lleol gyda chefnogaeth un o sefydliadau’r Lluoedd Arfog: Caerffili Newid Cam, Blaenau Gwent Newid Cam, Casnewydd canolfan cyn-filwyr Casnewydd a GIG i Gyn-filwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae canolfannau wrthi’n cael eu datblygu yn Nhorfaen a Sir Fynwy gyda phartneriaid i’w cadarnhau.
- Darparwyd hyfforddiant i dros 200 o staff Awdurdodau Lleol, Heddlu Gwent, y Bwrdd Iechyd a sesiwn bwrpasol ar gyfer 32 aelod o staff yn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam
- Cryfhau’r ymgysylltu â’r Bwrdd Rhanbarthol Hunanladdiad. Mae’r cydgysylltydd rhanbarth bellach wedi dod yn aelod o grŵp strategol Fforwm Lluoedd Arfog Gogledd Cymru.
- Sicrhawyd cyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl ledled Gogledd Cymru.
- Wedi cofrestru gyda Refernet; cydweithio â’r Canolfannau Cyngor ar Bopeth yng Ngogledd Cymru i dynnu sylw at anghenion a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog.
Canolbarth Cymru: Powys
- Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi’i benodi yn ystod gwanwyn 2021.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo i godi ymwybyddiaeth o’r apwyntiad a chyfeirio at gymorth sydd ar gael ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog
Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog: llwyddiannau
Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ddarparu rhaglenni cyllido sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU. Ers ei sefydlu ym mis Mai 2015, gyda chyllid o £10 miliwn y flwyddyn gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae Cymru wedi gwneud cais llwyddiannus am £6,060,078 hyd yma yn cynnwys:
- Rhaglen Canolfannau Cymunedol i Gyn-filwyr 2019 i 2020. Llwyddodd Cymru i sicrhau £281,044 o gyllid drwy ei 68 o geisiadau llwyddiannus; 9.8% o gyfanswm y cyllid a ddyrannwyd.
- Chwalu’r Rhwystrau i Fywyd Teuluol 2019 i 2020. Llwyddodd Cymru i sicrhau £749,000 o gyllid drwy ei 4 o geisiadau llwyddiannus; 10.4% o gyfanswm y cyllid a ddyrannwyd.
- Forces Communities Together 2020. Llwyddodd Cymru i sicrhau £91,133 o gyllid drwy ei 13 o geisiadau llwyddiannus; 10.6% o gyfanswm y cyllid a ddyrannwyd.
- Y rhaglen Llwybrau Cadarnhaol 2020. Llwyddodd Cymru i sicrhau £945,000 o gyllid drwy ei 16 o geisiadau llwyddiannus; 10.9% o gyfanswm y cyllid a ddyrannwyd.
- Grantiau Integreiddio Cymunedau Lleol 2020 i 2021. Llwyddodd Cymru i sicrhau £342,427 o gyllid drwy ei 19 o geisiadau llwyddiannus; 14.1% o gyfanswm y cyllid a ddyrannwyd.
Enghraifft o arfer da
Penodi Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLO)
Ar y cyd â 160fed Brigâd (Cymru), sicrhaodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) £338,000 o gyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i benodi pedwar RSLO ar gyfer prosiect dwy flynedd yn dechrau ym mis Medi 2020.
Mae’r RSLO ar gyfer plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru wedi gwneud cynnydd sylweddol. Yn cynnwys y canlynol:
- cynnal ymweliadau ag ysgolion: Mae 55 o ysgolion wedi cael ymweliad cychwynnol ac mae ymweliadau pellach wedi’u trefnu
- datblygu a chyflwyno pecyn hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer addysgwyr: wedi’i gyflwyno i 64 aelod o staff o 30 ysgol
- cefnogi Awdurdodau Lleol i nodi niferoedd plant y Lluoedd Arfog
- datblygu proses rheoli achosion ar gyfer ymyriadau plant y Lluoedd Arfog
- gwella ymgysylltiad SSCE Cymru â sefydliadau’r Lluoedd Arfog
- gweithredu strategaeth cyfryngau cymdeithasol: gan arwain at gynnydd o 312% yn ymweliadau proffil Twitter SSCE Cymru
- ymgysylltu ag ysgolion a’u cefnogi i ddeall anghenion eu plant y Lluoedd Arfog.
Ein hymrwymiadau 2019 i 2020: cynnydd hyd yma
Iechyd a lles
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Adolygu’r capasiti yn GIG Cymru i Gyn-filwyr i ehangu’r gwasanaeth ymhellach ar gyfer cyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd meddwl. |
Cwblhawyd. Rydym wedi parhau i gefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr gyda bron i £700,000 y flwyddyn. Darparwyd cyllid o £85,700 ar gyfer y tair swydd therapydd a ariannwyd yn flaenorol gan Help for Heroes. Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom gyhoeddi cynnydd ychwanegol o £235,000 ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr gan ddarparu cyfanswm o £920,000 y flwyddyn o gyllid rheolaidd o 2021 ymlaen. |
Adolygu ein Canllawiau ar Gyfamod y Lluoedd Arfog – Blaenoriaeth Gofal Iechyd i Gyn-filwyr, sy’n hyrwyddo’r broses o ganfod cyn-filwyr gan y GIG ac yn galluogi cyn-filwyr i gael mynediad at driniaeth flaenoriaethol os yw eu cyflwr yn ganlyniad i’w cyfnod yn y Lluoedd Arfog. |
Parhaus. Cafodd yr adolygiad o ‘Cyfamod y Lluoedd Arfog – Canllawiau ar Flaenoriaeth Gofal Iechyd i Gyn-filwyr’ ei ohirio oherwydd pandemig COVID-19. Bydd bellach yn cael ei gynnal yn ystod y flwyddyn adrodd nesaf. |
Parhau i fonitro darpariaeth cymorth i’n cyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes. |
Parhaus. Mae Fforwm Prostheteg y Lluoedd Arfog yn parhau i fonitro cefnogaeth i gyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes a’u teuluoedd. Gwnaed cyhoeddiad gennym y bydd sifiliaid yn gymwys i gael pengliniau Microbrosesydd yng Nghymru o fis Ebrill 2021 ymlaen; bydd hyn yn cynnwys cyn-filwyr sydd ag anafiadau nad oes modd eu priodoli i wasanaeth milwrol, yn amodol ar angen clinigol. |
Gweithio gyda darparwyr presennol i hyrwyddo gwasanaethau cymorth camddefnyddio sylweddau i gymuned y Lluoedd Arfog. |
Parhaus. Mae’r gwaith hwn yn parhau ac mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd. |
Parhau i hyrwyddo ein Strategaeth Siarad â Fi 2 yn y sector i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu i fynd i’r afael â hunanladdiad a hunan-niweidio. |
Parhaus. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a chydlynwyr Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Rhanbarthol wedi codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu i fynd i’r afael â hunanladdiad a hunan-niweidio. Gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl yn cael ei ddarparu i bob un o’r 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru a 9 Awdurdod Lleol yn Ne Cymru. |
Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr mewn perthynas â gofal iechyd. |
Parhaus. Mae Fforwm Hyrwyddwyr Byrddau Iechyd Lleol Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfarfod, gan ganiatáu i weithwyr iechyd proffesiynol rannu gwybodaeth a phrofiadau i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r cynnydd o ran cwmpasu argymhellion iechyd yn cynnwys:
|
Addysg
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Byddwn yn parhau i weithio i wella’r data a gesglir am blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. |
Parhaus. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gasglu data ar nifer plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Bu SSCE Cymru yn gweithio gyda phob un o’r 22 Awdurdod Lleol a’r ysgolion annibynnol yng Nghymru i gynnal gweithgaredd casglu data, er mwyn rhoi cipolwg ar nifer a lleoliad plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru ym mis Mawrth 2021. Nododd y data 2,146 o blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru bryd hynny. |
Parhau i gefnogi prosiect SSCE Cymru, gan ddarparu adnoddau ac arweiniad gwerthfawr i blant, teuluoedd ac ysgolion y Lluoedd Arfog. |
Cwblhawyd. Rydym wedi darparu £250,000 o gyllid i SSCE Cymru i gefnogi plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Ar y cyd â’r 160fed Brigâd (Cymru), bu SSCE Cymru yn llwyddiannus yn y cais i benodi pedwar Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol Plant y Lluoedd Arfog (RSLO) a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae’r RSLO yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion i ddarparu hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth. |
Tai
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Asesu canllawiau tai i sicrhau bod egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog yn parhau i gael eu hadlewyrchu. |
Parhaus. Mae pandemig COVID-19 a’r ymateb i ddigartrefedd brys wedi disodli’r adolygiad arfaethedig o’n canllawiau ar dai. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2021 a 2022, ac yn cynnwys yr angen posibl am ddiwygio deddfwriaethol, a fyddai’n galw am ddiwygio dogfennau cyfarwyddyd cyfredol. |
Gweithredu argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr sy’n ymwneud â darparu tai ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog. |
Parhaus. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys adrannau tai, i gefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog. Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn darparu hyfforddiant i staff rheng flaen ynghylch cymuned y Lluoedd Arfog, er mwyn cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth. |
Budd-daliadau a Chyllid
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r manteision a’r ddarpariaeth sydd ar gael i aelodau cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheini sy’n derbyn taliadau iawndal. |
Parhaus. Mae ein Grŵp Gweithredu Gwybodaeth, Ymwybyddiaeth a Chyllid wedi nodi cymorth penodol sydd yn ei le ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog. Mae’r wybodaeth hon wedi cael ei rhannu’n ehangach drwy ein Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog. |
Gweithredu argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr sy’n ymwneud â darparu cymorth ariannol ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog. |
Parhaus. Drwy fod yn aelod o’r Grŵp Gweithredu Gwybodaeth, Ymwybyddiaeth a Chyllid, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae hyn wedi cynnwys rhannu hyfforddiant a digwyddiadau ar draws pob rhan o Gymru drwy swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog. Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi penodi Arweinydd newydd ar gyfer y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn ogystal â 3 Hyrwyddwr penodol ar gyfer y Lluoedd Arfog sy’n gweithio yn eu strwythur ardal. |
Parhau i ddarparu teithio am ddim ar fysiau i gyn-filwyr sydd wedi cael anaf yn ystod eu gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog. |
Cwblhawyd.Mae gan gyn-filwyr sy’n derbyn budd-daliadau a ddarperir dan Gynllun Iawndal Ar Gadw y Lluoedd Arfog hawl i gael bathodyn glas. Mae hyn hefyd yn cynnwys y rheini sydd â nam gwybyddol pan fyddant yn derbyn y budd-dal perthnasol. Yn 2011, darparwyd hwn i’r rheini a oedd yn derbyn Cynlluniau Iawndal y Lluoedd Arfog. |
Cymorth wrth ddychwelyd i fywyd sifil
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Ariannu a chefnogi gwaith Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, i nodi materion allweddol i’w rhoi ar waith yng ngwaith Cwmpasu Cyn-filwyr a Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog. | Cwblhawyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £275,000 o gyllid ychwanegol i Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog tan 2023. |
Parhau i fwrw ymlaen â gwaith gyda phartneriaid allweddol drwy Grŵp Gwybodaeth, Ymwybyddiaeth a Chyllid yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr i ganfod y mecanwaith mwyaf effeithiol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. |
Parhaus. Er mwyn gwella llif gwybodaeth, mae cylchlythyr newydd Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn helpu i ganfod y gefnogaeth sydd ar gael. Mae Gwefan newydd ar gyfer Cyfamod Cymru yn cael ei datblygu i’w lansio yn ystod haf 2021. Bydd yn cysylltu ag adnoddau presennol fel y Veterans’ Gateway. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth leol a chenedlaethol wedi’i diweddaru i gymuned y Lluoedd Arfog a darparwyr Gwasanaeth. Mae tudalen twitter ar gyfer Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru wedi cael ei lansio, ac mae’n adnodd ychwanegol ar gyfer diweddariadau. |
Bwrw ymlaen â gwaith y Grŵp Gweithredu ar Bontio i sicrhau dull cydweithredol o gefnogi a darparu gwasanaethau i gyn-filwyr a’u teuluoedd y mae angen cymorth arnynt ar ôl dychwelyd i fywyd sifil. |
Parhaus. Mae’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) yn parhau i ddarparu cefnogaeth i’r rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. Mae Digwyddiadau Cyflogaeth Rhithiol nawr yn cael eu cynnal bob mis. Mae’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) wedi cyhoeddi ein canllaw Croeso i Gymru, sy’n tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i’r rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog. |
Gweithio gyda’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a Phencadlys 160fed Brigâd (Cymru) i ddatblygu Canllaw Adsefydlu Cymru.. |
Parhaus. Mae gwaith wedi symud yn ei flaen ar Ganllaw Adsefydlu newydd i Gymru er mwyn casglu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru. Bydd hwn yn cael ei lansio yn ystod wythnos y Lluoedd Arfog a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a bydd yn derbyn cyhoeddusrwydd ymysg y rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. |
Cyflogaeth a sgiliau
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Cyhoeddi atodiad ar gefnogi gwŷr a gwragedd y rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd milwrol, mewn partneriaeth â BITC a Llywodraeth yr Alban. |
Cwblhawyd. Cafodd y pecyn Capitalising on Military Family Talent ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2020. |
Gweithredu argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr sy’n ymwneud â darparu cyflogaeth ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog |
Parhaus. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnal digwyddiad i gyflogwyr cyn-filwyr. Mae aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Gyflogaeth yn gweithio gyda 160fed Brigâd (Cymru) a’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) i hyrwyddo sgiliau staff y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd a’u cysylltu â chyflogwyr. Cynhelir y digwyddiad yn ystod yr hydref 2021. |
Bwrw ymlaen â’r gwaith sy’n cael ei wneud i gyflwyno’r Cynllun Symud Ymlaen at Waith a’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad i Lywodraeth Cymru. |
Cwblhawyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr’. Bydd cyn-filwyr sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer swydd yn symud ymlaen i gam nesaf y broses ddethol. |
Llywodraethu
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Parhau i weithio gydag adrannau’r DU a’r gwledydd datganoledig ar gynigion ar gyfer Deddfwriaeth newydd ar Gyfamod y Lluoedd Arfog. |
Parhaus. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd gyda’r holl ofynion sy’n ymwneud â Deddfwriaeth yng Nghymru. I gefnogi’r Bil a’i ddarpariaethau sy’n ymwneud â Chymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 18 Chwefror 2021. Bydd y Senedd yn trafod darpariaethau’r Bil sy’n berthnasol i Gymru. |
Gweithio gyda phartneriaid yn y DU i sicrhau bod yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr yn parhau i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid yn y DU i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt o ran Cyfamod y Lluoedd Arfog. |
Parhaus. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad cynnydd blynyddol yn erbyn yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr. Cafodd hwn ei gyflwyno i Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ym mis Mawrth. Mae hyn wedi parhau drwy gydol pandemig COVID-19. |
Coffáu
Gweithredu | Cynnydd |
---|---|
Byddwn yn gweithio gyda CLlLC, partneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd milwrol, Llywodraeth Leol a’r Trydydd Sector ar gynlluniau ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Byddwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer y digwyddiadau hynny. |
Parhaus. Cytunwyd ar gynllun pum mlynedd gyda CLlLC ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru i gynnal diwrnod cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fod i gynnal Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yn 2021; oherwydd pandemig COVID-19, mae’r digwyddiad wedi cael ei ohirio tan fis Mehefin 2022. Byddwn yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid i nodi digwyddiad eleni yn ddigidol. |
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid allweddol i gefnogi digwyddiadau Coffau, gan gynnwys Brwydr Prydain a’r Cofio. |
Parhaus. Cymerodd y Prif Weinidog ran yn nigwyddiad Cenedlaethol VJ75 yng Nghadeirlan Llandaf. Rhoddodd Llywodraeth Cymru ystyriaeth i’r cyfnod Cofio mewn perthynas â rheoliadau COVID-19 Cymru a chyhoeddodd ganllawiau ar gyfer digwyddiadau lleol. Buom yn gweithio gyda Race Council Cymru, 160fed Brigâd (Cymru) a’r Lleng Brydeinig Frenhinol i gynnal digwyddiad coffa i gydnabod aberth personél du a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a’u teuluoedd yn y Lluoedd Arfog. Cymerodd y Prif Weinidog ran yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru ar Sul y Cofio. |
Iechyd
Er bod y rhan fwyaf o bersonél y Lluoedd Arfog yn gadael y lluoedd yn iach ac yn barod i symud ymlaen i gam nesaf eu bywydau, gall eraill ddychwelyd o faes y gad neu adael y Lluoedd Arfog gydag anghenion gofal iechyd cymhleth. Efallai na fydd y rhain yn ymddangos am flynyddoedd ar ôl i’r unigolyn adael y Lluoedd Arfog. Rydym yn gweithio’n barhaus i sicrhau bod y ddarpariaeth gofal iechyd yn diwallu anghenion y rheini sydd angen cymorth.
Ystyriaeth arbennig i driniaeth y GIG ar gyfer salwch neu anafiadau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth
Yn 2017, ni oedd y wlad gyntaf i ddiweddaru ei chanllawiau triniaeth ystyriaeth arbennig i adlewyrchu Cyfamod y Lluoedd Arfog. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban i ystyried sut y bydd y ddeddfwriaeth newydd ar y Cyfamod, gan gyflwyno dyletswydd i roi sylw dyledus iddo mewn rhai amgylchiadau, yn dylanwadu ar ein canllawiau yn y dyfodol. Ar ôl eu cyhoeddi, bydd y canllawiau hyn yn rhoi cyfle arall i atgyfnerthu ein hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog a’r ystyriaeth arbennig i driniaeth cyn-filwyr ar gyfer cyflyrau meddygol sy’n gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog.
GIG Cymru i Gyn-filwyr
Rydym yn parhau i gefnogi GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ym mis Mawrth 2021, fe wnaethom gytuno ar gyfanswm cyllid rheolaidd i GIG Cymru i Gyn-filwyr o 2021 ymlaen, sef £920,000 y flwyddyn. Mae hyn yn dangos cynnydd o 35% yng nghyllid y llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth gwerthfawr iawn hwn i gyn-filwyr yng Nghymru.
Rhwng mis Awst 2020 a mis Mawrth 2021 roedd 369 o atgyfeiriadau i’r gwasanaeth.
Nifer yr atgyfeiriadau | Awst 2020 | Medi 2020 | Hydref 2020 | Tachwedd 2020 | Rhagfyr 2020 | Ionawr 2021 | Chwefror 2021 |
Mawrth 2021 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aneurin Bevan | 9 | 6 | 10 | 12 | 3 | 8 | 5 | 8 |
Betsi Cadwaladr |
4 | 9 | 13 | 14 | 7 | 5 | 6 | 6 |
Caerdydd a’r Fro | 5 | 8 | 4 | 5 | 3 | 7 | 4 | 6 |
Cwm Taf Morgannwg | 9 | 11 | 5 | 10 | 9 | 11 | 11 | 14 |
Hywel Dda | 6 | 6 | 7 | 4 | 7 | 6 | 9 | 4 |
Bae Abertawe | 8 | 10 | 11 | 14 | 8 | 8 | 5 | 9 |
Cyfanswm | 41 | 50 | 50 | 59 | 37 | 45 | 40 | 47 |
Nifer Yn Cael Triniaeth | Awst 2020 | Medi 2020 | Hydref 2020 | Tachwedd 2020 | Rhagfyr 2020 | Ionawr 2021 | Chwefror 2021 | Mawrth 2021 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aneurin Bevan | 32 | 30 | 35 | 28 | 30 | 29 | 27 | 26 |
Betsi Cadwaladr |
44 | 42 | 42 | 36 | 27 | 30 | 32 | 26 |
Caerdydd a’r Fro | 28 | 29 | 29 | 29 | 28 | 27 | 28 | 31 |
Cwm Taf Morgannwg | 24 | 24 | 30 | 30 | 25 | 16 | 19 | 18 |
Hywel Dda | 14 | 14 | 16 | 16 | 17 | 20 | 19 | 14 |
Bae Abertawe | 30 | 31 | 33 | 26 | 21 | 21 | 22 | 27 |
Cyfanswm | 172 | 170 | 185 | 165 | 148 | 143 | 147 | 142 |
Nifer yr Asesiadau a Gwblhawyd | Awst 2020 | Medi 2020 | Hydref 2020 | Tachwedd 2020 | Rhagfyr 2020 | Ionawr 2021 | Chwefror 2021 | Mawrth 2021 |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Aneurin Bevan | 2 | 9 | 2 | 9 | 2 | 4 | 3 | 7 |
Betsi Cadwaladr |
7 | 8 | 3 | 5 | 9 | 8 | 6 | 1 |
Caerdydd a’r Fro | 3 | 4 | 2 | 9 | 5 | 3 | 2 | 5 |
Cwm Taf Morgannwg | 10 | 3 | 10 | 2 | 3 | 6 | 6 | 4 |
Hywel Dda | 7 | 3 | 2 | 2 | 1 | 1 | 1 | 7 |
Bae Abertawe | 8 | 5 | 4 | 4 | 4 | 6 | 5 | 4 |
Cyfanswm | 37 | 32 | 23 | 31 | 24 | 28 | 23 | 28 |
Astudiaeth Achos
Mae Victor yn 41 oed ac nid oedd y gwasanaethau iechyd meddwl yn gwybod amdano o’r blaen. Cafodd ei gyfeirio gan ei gyn-wraig, drwy wefan GIG Cymru i Gyn-filwyr, oherwydd pryderon am symptomau Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Roedd Victor yn dioddef hunllefau rheolaidd ac ôl-fflachiau a oedd yn gysylltiedig â gwrthdrawiad traffig ar y ffordd yn Bosnia. Adeg yr asesiad, roedd hefyd yn profi straen personol o ganlyniad i broblemau llety, gwaith a gofalu. Roedd cyfyngiadau pandemig COVID-19 wedi achosi teimladau o unigrwydd a gorbryder.
Defnyddiwyd Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau Llygad (EMDR) i helpu Victor i brosesu ei atgofion o’r ddamwain yn Bosnia, yn ogystal â’r eiliadau emosiynol cysylltiedig â digwyddiadau dilynol. Roedd hefyd yn gweithio gyda mentor cymheiriaid Newid Cam i reoli ei faterion cymdeithasol a rhoddodd Victor ei ganiatâd i’r ddwy asiantaeth gydweithio i’w gefnogi.
Aeth y dull EMDR yn dda; llwyddodd Victor i leihau lefel y trallod wrth ddwyn y digwyddiad i gof, a daeth ei hunllefau i ben. Drwy weithio ar y cyd, fe wnaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr a Newid Cam annog Victor i ailgydio mewn gweithgareddau corfforol er mwyn rhoi hwb i’w hwyliau, darparu gofal holistaidd a datrys ei broblem o ran tai.
Mae Victor wedi gorffen ei driniaeth ar gyfer PTSD. Mae ei seicometreg yn dangos newidiadau cyn ac ar ôl y therapi, sy’n dangos gwelliant sylweddol yn ei gyflwr meddyliol.
Mae Victor bellach yn fwy egnïol yn gorfforol gyda gwelliant nodedig mewn cymhelliant a lleihau dicter.
Cefnogaeth i’r rhai sydd wedi colli braich neu goes
O fis Ebrill 2021, daeth sifiliaid yn gymwys ar gyfer pengliniau Microbrosesydd, gan wella iechyd tymor hir, byw’n annibynnol ac ansawdd bywyd drwy ddarparu’r symudedd a’r gweithredu gorau bosibl. Mae hyn yn cynnwys cyn-filwyr sydd ag anafiadau nad oes modd eu priodoli i wasanaeth milwrol, sy’n destun angen clinigol, ac fe’i codwyd gan BLESMA, yr elusen filwrol ar gyfer cyn-filwyr heb aelodau, yn ystod yr Ymarfer Cwmpasu. Roedd pengliniau microbrosesydd eisoes ar gael i gyn-filwyr a anafwyd yn y lluoedd arfog, drwy bolisi Prostheteg Cyn-filwyr Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Tom Hall, Cymru a’r Gorllewin:
Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i’n haelodau yng Nghymru. Bydd y cyllid, yn arbennig, yn helpu nifer o’n haelodau sydd wedi colli aelod uwchben y pen-glin nad oes modd eu priodoli i wasanaeth milwrol, a bydd yn eu galluogi i fyw bywydau mwy annibynnol.
Nodi’r gymuned AF
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi cynhyrchu Pecyn Gofal Iechyd i Gyn-filwyr fel adnodd i gefnogi meddygfeydd meddygon teulu ar sut i ddelio ag anghenion gofal iechyd cyn-filwyr. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i edrych ar ddatblygu adnodd ar gyfer Cymru. Mae’r gwaith o gyflwyno ar draws Byrddau Iechyd wedi cael ei ohirio yn ystod pandemig COVID-19 a bydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad o ganllawiau Cylchlythyr Iechyd Cymru ar Flaenoriaeth Glinigol.
Nofio am ddim
Ym mis Chwefror 2016, lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun swyddogol yn cynnig nofio am ddim i gyn-filwyr ac aelodau yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Cafodd y cynllun ei gyflwyno’n genedlaethol o fis Tachwedd 2015 ymlaen, gyda phob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru â chynllun lleol yn ei le erbyn mis Ionawr 2016. Ym mis Mawrth 2021, cytunodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar gyllid o £45,000 ym mlynyddoedd ariannol 2021 a 2022 i barhau i gefnogi cynllun Nofio am Ddim i’r Lluoedd Arfog am flwyddyn arall.
Asesiad o Anghenion Iechyd Cyn-filwyr
Gan gydnabod anghenion gofal iechyd amrywiol cyn-filwyr, lluniodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ‘giplun’ o’r anghenion hyn. Mae’r ciplun yn tynnu sylw at y ffaith bod gan gyn-filwyr broffil iechyd tebyg i’r boblogaeth sifil a’i nod yw darparu gwell dealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar gyn-filwyr a’u teuluoedd, tynnu sylw at y bylchau yn ein gwybodaeth, ac archwilio arferion gorau ac a argymhellir i ddylanwadu ar waith a gwasanaethau yn y dyfodol.
Cefnogaeth filwrol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cynhaliwyd prosiect peilot rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Ysbyty Maes 203 (Cymru) rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2020.
Bu cyfanswm o 7 aelod o staff milwrol o Ysbyty Maes 203 (Cymru) yn cymryd rhan yn y cynllun peilot, a oedd yn cynnwys 2 Gynorthwyydd Gofal Iechyd a 5 Technegydd Meddygol Maes y Gad, fel rhan o leoliad clinigol yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro.
Yn ystod y prosiect peilot, cwblhaodd y 7 cyfranogwr milwrol hyfforddiant sgiliau ar gyfer gofal, gan wella eu sgiliau clinigol a’u galluogi i weithio mewn meysydd clinigol. Roedd hyn yn rhoi cefnogaeth yr oedd ei hangen yn fawr i’r Bwrdd Iechyd ac yn sicrhau bod y rhai a oedd yn gysylltiedig yn gallu cynnal eu cymwyseddau milwrol. Roedd hefyd yn rhoi cipolwg gwerthfawr i gyfranogwyr a oedd o bosibl yn ystyried y Bwrdd Iechyd fel cyflogwr yn y dyfodol.
Yn seiliedig ar lwyddiant y peilot, mae gwaith yn mynd rhagddo gydag Ysbyty Maes 203 (Cymru) i gwblhau trefniant ffurfiol ar gyfer rhagor o gyfleoedd hyfforddi.
Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr (VTN) Cymru
Mae wedi bod yn weithredol ers dros flwyddyn. Mae Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru yn derbyn atgyfeiriadau gan gyn-filwyr sydd ag anafiadau corfforol cymhleth oherwydd eu gwasanaeth a allai fod angen triniaeth arbenigol. Mae sawl atgyfeiriad wedi’i dderbyn erbyn hyn. Cafodd y gwaith o lywodraethu VTN Cymru ei drosglwyddo i Rwydwaith Trawma Mawr De Cymru yn ystod diwedd 2020.
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae Gwasanaeth Therapi Cyn-filwyr Powys wedi addasu ei ymyriad therapiwtig seiliedig ar drawma o’r enw EMDR (Symudiad Llygaid) i gydymffurfio â rheoliadau COVID-19. Gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu wyneb yn wyneb yn unig yw hwn, a bu’r therapyddion yn arbrofi gyda gwahanol dechnegau gan ddod o hyd i ffyrdd arloesol o ddarparu therapi symud llygaid a thechnegau taro arloesol drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau. Mae’r ymateb gan gleifion, gan gynnwys y rhai sydd ag anhwylder straen wedi trawma, wedi bod yn gadarnhaol iawn. Wrth symud ymlaen, bydd y gwasanaeth yn parhau i ddefnyddio technoleg ac ymgysylltu wyneb yn wyneb fel ffordd o ddarparu’r cymorth hwn.
Bu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn llwyddiannus mewn cais i ‘Llwybrau Cadarnhaol’ - Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i greu gardd ‘Tawelwch Meddwl’ (‘At Ease’) ar safle Ysbyty Bronllys. Edrychodd dull cydweithredol ar anghenion cyn-filwyr. Yn ogystal â’r ardd, mae’r prosiect hefyd yn cysylltu â’r uned iechyd meddwl i gleifion mewnol yn Ysbyty Bronllys i ddarparu gweithgareddau awyr agored i gleifion ar y ward.
Deintyddiaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthi’n sefydlu Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru yn ardal Bangor ar hyn o bryd. Bydd hyn yn ffocws ar gyfer gwella ansawdd a darpariaeth gwasanaethau deintyddol y GIG ledled Gogledd Cymru, darparu mwy o wasanaethau’r GIG, a chefnogi hyfforddiant ac addysg i’r rhai sy’n cofrestru ar gyfer deintyddiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu’r Academi, gan gynnwys darparu cyllid rheolaidd ychwanegol o £250,000 y flwyddyn. Mae hwn yn wasanaeth cyhoeddus; mae ar gael i bawb, gan gynnwys cymuned y Lluoedd Arfog.
Cymorth hunanladdiad
Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yng Ngogledd Cymru, Gwent a Chwm Taf wedi sicrhau cyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl. Wedi’i anelu at sefydliadau sy’n gweithio gyda chymuned y Lluoedd Arfog, bydd unigolion sy’n mynychu’r hyfforddiant yn ennill cymwysterau cydnabyddedig mewn Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
Addysg a Sgiliau
Rydym yn cydnabod, ar ôl dychwelyd i fywyd sifil, y gallai’r rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr fod eisiau ehangu ac adeiladu ar y sgiliau a enillwyd yn ystod y Gwasanaeth. Rydym hefyd yn cefnogi anghenion addysgol plant y Lluoedd Arfog, a allai wynebu heriau addysgol penodol o ganlyniad i leoliad a symudedd rhieni.
Cronfa Cefnogi Plant mewn Addysg
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021, mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi darparu £250,000 o gyllid i gefnogi plant personél y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Darparwyd £50,000 tuag at weinyddu Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg (SSCE) Cymru tra dosbarthwyd £200,000 rhwng y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn cael ei ddylanwadu gan nifer plant y Lluoedd Arfog a nodwyd ym mhob un. Bu pob Awdurdod Lleol yn gweithio gyda’u Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ac SSCE Cymru i lunio cynllun ariannu a oedd yn canolbwyntio ar ganfod anghenion plant y Lluoedd Arfog a phrosiectau a fyddai’n cael effaith gynaliadwy.
Mae enghreifftiau’n cynnwys darparu gweithdai rhithiol ar ôl ysgol yng Nghasnewydd ar gyfer plant y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, gan roi cyfle i blant y Lluoedd Arfog rannu eu teimladau mewn ffordd ddiogel ac adeiladol. Yng Nghonwy, defnyddir y cyllid i sefydlu ystafell feithrin, gan greu lle diogel i blant y Lluoedd Arfog fynychu sesiynau unigol a derbyn cefnogaeth fugeiliol.
Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg (SSCE) Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu rhaglen Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg (SSCE) Cymru, a’i chenhadaeth yw darparu’r cymorth addysgol gorau posibl i blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Eleni cynhaliodd SSCE Cymru arolwg gyda rhieni/gofalwyr plant y Lluoedd Arfog. Rhoi cyfle iddynt rannu eu profiadau o fyw yng Nghymru neu symud i Gymru, yr effaith y mae eu ffordd o fyw yn ei chael ar addysg eu plant a’r gefnogaeth y maent wedi’i chael gan ysgolion. Y gwaith ymchwil hwn oedd trydedd elfen prosiect ymchwil ehangach gan SSCE Cymru a gynhaliwyd dros y ddwy flynedd diwethaf, gan gynnwys arolwg ysgolion a grwpiau trafod gyda phlant y Lluoedd Arfog.
Ym mis Mai 2021, lansiodd SSCE Cymru ganllaw newydd i deuluoedd y Lluoedd Arfog. Nod y Canllaw yw darparu gwybodaeth am addysg a byw yng Nghymru a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion, rhieni, gofalwyr a phlant y Lluoedd Arfog. Datblygwyd strwythur a chynnwys Canllaw Teulu’r Lluoedd Arfog ar sail canfyddiadau adroddiad canfyddiadau arolwg rhieni/gofalwyr SSCE Cymru. I ddarllen mwy am y canllaw a’r cymorth sydd ar gael.
Ar y cyd â Phencadlys 160fed Brigâd (Cymru), sicrhaodd SSCE Cymru gyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, i gyflwyno pedwar Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLO) ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru ar gyfer prosiect dwy flynedd a ddechreuodd ym mis Medi 2020. Mae’r RSLO yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i ddeall anghenion plant y Lluoedd Arfog a gwreiddio gweithgareddau i sicrhau systemau cefnogi cynaliadwy. Ers iddynt gael eu penodi, mae’r Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol yn datblygu cysylltiadau gyda Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog; gan weithio ar y cyd i sicrhau cysondeb o ran negeseuon.
Casglu data ar blant y Lluoedd Arfog
Mae gwaith wedi ei wneud i ystyried casglu data ar blant y Lluoedd Arfog. Mae’r gwaith hwn wedi cael ei ohirio oherwydd gwaith blaenoriaeth ar Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio’r UE (Brexit).
Fodd bynnag, mae SSCE Cymru a’r RSLO yng Nghymru wedi gweithio gyda phob un o’r 22 o Awdurdod Lleol i gynnal gweithgaredd casglu data a oedd yn rhoi cipolwg o blant y Lluoedd Arfog ym mis Chwefror 2021. Canfu’r gweithgarwch hwn dros 2,000 o blant y Lluoedd Arfog mewn oddeutu 500 o ysgolion yng Nghymru.
Addysg Bellach ac Addysg Uwch
Rydym yn gefnogol i bawb sy’n dymuno gwella eu haddysg a’u sgiliau.
Yn ystod y blynyddoedd ariannol 2020 i 2021, darparwyd cyfanswm o £133,972 tuag at y Cynllun Addysg Bellach ac Uwch gan alluogi’r rheini sy’n gadael y Lluoedd Arfog ledled Cymru i elwa o addysg bellach/ uwch.
Yn ystod y blynyddoedd ariannol 2020 i 2021, cyfrannodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o £73,650 tuag at Gynllun Ysgoloriaeth Profedigaeth y Lluoedd Arfog, gan roi cyfle i blant y rheini sydd wedi marw tra’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog gael dechrau da mewn bywyd drwy ysgoloriaethau.
Cod Derbyn i Ysgolion
Mae plant gweithwyr y Lluoedd Arfog sy’n cael eu derbyn y tu allan i’r cylch derbyn arferol wedi’u heithrio o gyfyngiadau maint dosbarthiadau babanod. Yn ogystal, gan gydnabod bod teuluoedd staff personél Lluoedd Arfog y DU yn cael eu symud yn aml o fewn y DU ac o dramor ar fyr rybudd, rhaid i awdurdodau derbyn plant y lluoedd arfog ddyrannu lle mewn ysgol ymlaen llaw, os yw’r ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf pan fydd teulu’r Lluoedd Arfog yn symud i’w cartref newydd.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r Cod cyn y cyfyngiadau COVID-19 presennol ac nid oes cynlluniau i newid y trefniadau hyn sy’n sicrhau nad yw plant y Lluoedd Arfog dan anfantais. Cafodd cynlluniau i ymgynghori ar newidiadau digyswllt i’r Cod Derbyniadau Ysgol eu gohirio oherwydd effaith COVID19. Gobeithir ailgydio yn yr adolygiad dan y weinyddiaeth newydd. Bydd ymgyngoreion yn cael cyfle i gyflwyno eu safbwyntiau ar unrhyw agwedd ar y Cod fel rhan o unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol, gan gynnwys mewn perthynas â derbyn plant y Lluoedd Arfog.
Cynghrair SCiP
Mae Hyb Cymru Cynghrair Datblygiad Plant y Lluoedd Arfog (SCiP) wedi parhau i ddatblygu. Hyd yma, mae dros hanner cant o bartneriaid a rhanddeiliaid yn mynychu’r cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn i archwilio’r ffordd orau o gefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog drwy gydol cwrs eu bywyd addysgol.
Gyda’i gilydd, mae Prifysgol De Cymru a SSCE Cymru wedi datblygu diwrnod ar-lein a elwir y Lluoedd Creadigol i ymgysylltu â phlant y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, gan amlinellu manteision Addysg Uwch i helpu gyda phontio i fywyd y tu allan i’r lluoedd arfog. Hefyd ar waith mae prosiect ledled y DU i gyflwyno a gwerthuso’r pecyn Bywydau Ffyniannus, sy’n ceisio rhoi cefnogaeth ac arweiniad i ysgolion drwy gydol addysg plant y Lluoedd Arfog.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Bydd system newydd ar gyfer cefnogi dysgwyr, gan gynnwys plant y Lluoedd Arfog, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn cael ei rhoi ar waith fesul cam o fis Medi 2021.
Mae Pennod 18 Cod ADY Cymru yn cynnwys canllawiau sy’n ymwneud â darpariaeth addysgol plant y Lluoedd Arfog sydd ag ADY. Mae’r Cod ADY hefyd yn nodi dyletswyddau penodol ar gyfer ysgolion a gynhelir, colegau ac awdurdodau lleol wrth benderfynu ar ADY ac wrth baratoi neu adolygu cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc y Lluoedd Arfog.
Tai
Mae cael gafael ar lety fforddiadwy addas wrth adael y Lluoedd Arfog yn hanfodol er mwyn pontio’n llwyddiannus.
Ar y cyd â’n partneriaid, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod y ddarpariaeth dai yn diwallu anghenion cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Cymorth Alabare a Phartneriaeth Cyn-filwyr Cymru
Mae elusennau ac asiantaethau yng Nghymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth wedi’i theilwra i’r gymuned Cyn-filwyr yng Nghymru. Mae Partneriaeth Cyn-filwyr Cymru a Homes for Veterans Cymru (Alabare Christian Care and Support) yn cydweithio i helpu cyn-filwyr i gael tai â chymorth a rhoi sylw i unrhyw gymorth parhaus sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, iechyd corfforol ac emosiynol, dyled a rhwystrau rhag byw’n llwyddiannus. Mae’r sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i asesu anghenion y cyn-filwr a’r teulu, ac yn darparu cynllun cymorth sy’n galluogi’r cyn-filwr i reoli eu cartref yn llwyddiannus. Mae Alabaré Homes for Veterans Cymru hefyd yn darparu prosiectau Menter Gymdeithasol, Boots on the ground a Field Kitchen, i gefnogi cyn-filwyr i gael gwaith a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
Cod Canllawiau Tai
Mae pandemig COVID-19 a’r ymateb i ddigartrefedd brys wedi disodli’r adolygiad arfaethedig o’n canllawiau ar dai. Bydd y gwaith hwn yn parhau yn 2021 a 2022, ac yn cynnwys yr angen posibl am ddiwygio deddfwriaethol, a fyddai’n cynnwys diwygio dogfennau cyfarwyddyd cyfredol.
Cymorth tai
Yn ystod pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol ac wedi darparu cyllid ychwanegol iddynt, i sicrhau nad oes neb, gan gynnwys cyn-filwyr, yn cael eu gadael heb lety addas a’r cymorth sydd ei angen arnynt i gadw’n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19. Mae Awdurdodau Lleol a’u partneriaid wedi cefnogi pobl heb gartref i fyw mewn llety dros dro, gyda dros 9,000 o unigolion yn elwa o hyn ers mis Mawrth 2020.
Mae Awdurdodau Lleol wedi, ac yn parhau i allu cael gafael ar gyllid ar sail anghenion drwy ein Cronfa Galedi Awdurdodau Lleol i dalu am lety dros dro, yn ogystal â’r cymorth cofleidiol hanfodol i gadw pobl yn ddiogel. Hefyd, gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddiad sylweddol o hyd at £50 miliwn yn ychwanegol ym mlynyddoedd ariannol 2020 i 2021 yng ngham nesaf ein hymateb i ddigartrefedd, sy’n golygu mwy na dim ond sicrhau nad oes angen i neb ddychwelyd i gysgu allan ond yn hytrach mae’n ymwneud â dechrau trawsnewid gwasanaethau yn y tymor hir, gan gynnwys gwreiddio ailgartrefu cyflym.
Er mwyn adeiladu ar y camau sylweddol rydym wedi’u cymryd tuag at ein nod tymor hir o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £40 miliwn yn ychwanegol yn y Grant Cymorth Tai, gan ddod â chyfanswm y grant i £116.7 miliwn yn ystod 2021 i 2022.
Byddwn yn parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod gan bobl le diogel i fyw ynddo wrth i ni weithio tuag at ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y rheini yn y sector tai, i gefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog ac i ddarparu hyfforddiant i staff rheng flaen ynghylch cymuned y Lluoedd Arfog, er mwyn cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth.
Casglu data
Fel rhan o’r agenda trawsnewid, rydym yn cynnal prosiect data cymorth digartrefedd a thai ar hyn o bryd i sicrhau bod ein hanghenion data ar gyfer y dyfodol yn cael eu deall a’u mynegi’n glir. Bydd hyn yn sicrhau bod casglu data yn sail i ddatblygu polisi ac yn gwella’r modd y darperir gwasanaethau. Mae hefyd yn ceisio sicrhau casgliad cyson a chydlynol o ddata i gefnogi ein nod polisi cyffredinol i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Bydd yr angen i gasglu data yng nghyswllt cymuned y Lluoedd Arfog yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith hwn.
Yng Ngorllewin Cymru, mae’r Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog wedi bod yn cydweithio â’r tri Awdurdod Lleol i sefydlu dull cyffredin o ganfod anghenion tai’r Lluoedd Arfog, gan gasglu set o ddata dibynadwy o gymuned y Lluoedd Arfog ar restrau aros.
Mae arferion gorau eraill Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog wedi cynnwys gweithio gyda chydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol i ganfod nifer y bobl yng nghymuned y Lluoedd Arfog sy’n cael cymorth gan Cefnogi Pobl.
Budd-daliadau a Chyllid
Yr ydym yn ymwybodol o’r heriau y gall pobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr eu hwynebu wrth geisio cael budd-daliadau. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid a thrwy’r Grŵp Gweithredu Gwybodaeth, Ymwybyddiaeth a Chyllid, rydym yn gweithio’n barhaus i sicrhau bod y broses hon mor syml â phosibl.
Cerdyn Rheilffordd i Gyn-filwyr
Yr ydym yn cymryd rhan lawn yn y cynllun cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr. Bydd y cerdyn rheilffordd newydd yn caniatáu i gyn-filwyr yng Nghymru gael traean oddi ar bris tocynnau trên, gan ddarparu tocynnau am bris gostyngol i ail ddeiliad y cerdyn a enwir, ac i blant sy’n teithio gyda deiliad y cerdyn.
CADW
Mae’n bosibl y bydd yr holl bersonél sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yn cael tocyn diwrnod ar gyfradd ostyngol ym mhob un o safleoedd Cadw sydd â staff. Mae’r cardiau adnabod sy’n cael eu derbyn yn cynnwys cardiau adnabod milwrol y Lluoedd Arfog, cerdyn Cyn-filwr y Lluoedd Arfog, cerdyn Disgownt Amddiffyn a chardiau milwyr sydd wedi ymddeol o’r tu allan i’r DU.
Y Cynnig Gofal Plant
Rydym yn sylweddoli bod gofal plant yn un o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio yng Nghymru. Drwy ein Cynnig Gofal Plant sy’n cael ei ariannu rydyn ni’n darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae addysg gynnar rhan amser yn rhad ac am ddim i bob plentyn 3 a 4 oed, gydag Awdurdodau Lleol yn cynnig o leiaf 10 awr i ddysgwyr. Mae’r gwahaniaeth yn cael ei bontio wedyn gan ofal plant a ariennir gan y llywodraeth. Mae’r cymorth hwn ar gael ar draws pob Awdurdod Lleol yng Nghymru a gall rhieni sy’n gweithio fanteisio arno.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru yn sicrhau bod darpariaeth ar gael ar gyfer cyn-filwyr, personél y lluoedd arfog a’u teuluoedd y mae angen cyngor a chefnogaeth arnynt.
Ledled Cymru, mae Un Pwynt Cyswllt ar gyfer y Lluoedd Arfog (SPoC) ym mhob un o’r 59 safle Canolfan Byd Gwaith, gyda chefnogaeth Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog a Hyrwyddwr Cymru. Mae’r swyddi hyn yn llywio agenda’r Lluoedd Arfog ar draws tair Ardal yr Adran Gwaith a Phensiynau ac maent yn gweithio’n agos gyda SPoC y safle i sicrhau bod ein cynnig yn diwallu anghenion y gymuned hon. Yn ogystal â’r ystod lawn o wasanaethau Canolfan Byd Gwaith sydd ar gael ar hyn o bryd, maent yn darparu lefel ychwanegol o gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog er mwyn cael gafael ar fudd-daliadau, dod o hyd i waith ac fel porth i wasanaethau a sefydliadau cymorth eraill.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei chynrychioli ar Grwpiau Gweithredu Ymarfer Cwmpasu Llywodraeth Cymru ac mae wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth o’r cymorth ariannol a’r gwasanaethau eraill y gall aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog gael gafael arnynt.
Gwasanaeth Arian, Cyngor a Phensiynau
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn darparu arweiniad diduedd ar arian a phensiynau i bobl Cymru a ledled y DU. Mae MaPS yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru, gan gynnwys elusennau’r Lluoedd Arfog, Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, Veterans’ Gateway ac eraill i sicrhau bod canllawiau pensiwn ac arian dwyieithog yn cael eu hyrwyddo ac yn hawdd cael gafael arnynt i gefnogi cyn-filwyr, personél y lluoedd arfog a’u teuluoedd, gan eu galluogi i wneud y penderfyniadau ariannol cywir drwy gydol eu bywydau a gwneud y gorau o’u harian.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Strategaeth 10 mlynedd MaPS y DU ar gyfer Lles Ariannol, a fydd yn cynnwys ffocws clir ar les ariannol pobl yng Nghymru, gan gynnwys cymuned y Lluoedd Arfog.
Cymorth ar ôl dychwelyd i fywyd sifil a chyfiawnder troseddol
Mae’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog yn trosglwyddo’n dda ac yn integreiddio’n ôl i fywyd cymunedol yn effeithiol. Mae cael y cymorth iawn ar waith ar ôl dychwelyd i fywyd sifil yn hanfodol i drawsnewid llwyddiannus ac mae’n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i roi sylw iddo, gan weithio ar y cyd â’n partneriaid allweddol i sicrhau bod pobl sy’n gadael y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd sy’n dychwelyd i Gymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y cymorth sydd ar gael ar lefel leol.
Canllaw Adsefydlu Cymru
Ar y cyd ag 16eg Brigâd (Cymru) a’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd, rydym yn datblygu Canllaw Adsefydlu newydd i Gymru er mwyn casglu gwybodaeth ddefnyddiol am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a bydd yn derbyn cyhoeddusrwydd ymysg y rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.
Gwasanaethau Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog (DTS)
Mae’r Gwasanaethau Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog (DTS) wedi cefnogi cleientiaid yng Nghymru ers deunaw mis; gan ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y sector milwrol, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Mae’r Swyddog sy’n gyfrifol am DTS yn cadeirio Grŵp Gweithredu Ymarfer Cwmpasu Pontio Cyn-filwyr Llywodraeth Cymru i sicrhau bod profiad cyn-filwyr yn cael ei adlewyrchu yn y camau a gymerir.
Mae DTS wedi derbyn ychydig dros 400 o atgyfeiriadau ledled y DU ers ei lansio gyda chyfran o’r cleientiaid hyn yn setlo yng Nghymru. Darperir cefnogaeth ar gyfer hyd at ddwy flynedd ar ôl rhyddhau o’r lluoedd arfog ac mae natur a dwysedd y gefnogaeth yn amrywio o achos i achos.
STOMP
Daeth Cam 2 y prosiect Cefnogi Pontio Gweithwyr Milwrol (SToMP) i ben ar 31 Mawrth 2021, gan nodi diwedd cyfnod o bedair blynedd llwyddiannus i’r prosiect. Wedi’i ffurfio yn 2016, prif nodau’r prosiect oedd dylunio, gweithredu a gwreiddio dull system gyfan cyson o ganfod a chefnogi Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog ledled Cymru, o’u harestio i’r adeg y byddant yn gadael y system cyfiawnder troseddol; a cheisio atal pobl rhag mynd i mewn i’r system cyfiawnder troseddol yn y lle cyntaf.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhaglen dreigl wedi darparu sesiynau briffio cynhwysfawr i’r holl asiantaethau cyfiawnder troseddol sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog, a’r gefnogaeth sydd ar gael i Ddalfa’r Heddlu, Iechyd, y Llysoedd, carchardai, y gwasanaeth prawf a’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol, yn ogystal â chynhyrchu pecyn hyfforddi PowerPoint pwrpasol ar gyfer hyfforddwyr yr Heddlu i’w gyflwyno i recriwtiaid newydd.
Cynhyrchwyd cyfres o gynhyrchion data hefyd i helpu i wella a monitro’r broses adnabod ac i ddeall yn well beth yw anghenion ein cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog.
Wrth symud ymlaen, bydd Partneriaeth Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM) Cymru yn parhau i ymateb i argymhellion gwerthuso’r prosiect, cynnal y cyflawniadau hyd yma, monitro cofnodi a chynnal cysylltiadau i sicrhau parhad arferion gweithio ar y cyd rhwng Elusennau’r Lluoedd Arfog a phartneriaid cyfiawnder troseddol.
Cymorth i Deuluoedd
Yn 2020, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiwygio a diweddaru’r ddogfen Croeso i Gymru sy’n cydnabod y gwahaniaeth mewn polisïau sy’n bodoli ar draws gwledydd y DU. Rydym wedi parhau i hyrwyddo hyn yn eang er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael. Yn dilyn trafodaethau yn ein Grŵp Gweithredu Ymarfer Cwmpasu Pontio, mae’r adroddiad hwn bellach ar gael ar wefan y Partneriaethau Pontio Gyrfaoedd.
Cyn-filwyr LGBT+ Brwydro gyda Balchder
Ym mis Hydrefn 2021 bydd Fighting with Pride (FWP) yn dathlu ei blwyddyn gyntaf fel elusen gofrestredig; mae’n gweithio gyda sefydliadau Cyn-filwyr ledled Cymru ar ystod eang o weithgareddau.
Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, yr haf hwn, mae FWP yn dod â Chyn-filwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LGBT+) o bob cwr o’r DU at ei gilydd ar gyfer eu rhaglen ‘Out and About’ i Gyn-filwyr LGBT+ yn Eryri. Bydd y rhaglen yn galluogi cyfeillio, cyfle i lawer siarad am amseroedd yn y gorffennol a myfyrio ar yrfaoedd a gollwyd a chymryd eu camau cyntaf ar y daith i ailymuno â’r teulu milwrol.
Mae FWP wedi cael croeso cynnes gan sefydliadau Cyn-filwyr ledled Cymru. Ym mis Rhagfyr 2020, rhoddodd FWP anerchiad i’n cynhadledd flynyddol ar Gyfamod Cymru lle clywodd dros 100 o elusennau, cyrff sector cyhoeddus a darparwyr cymorth y Lluoedd Arfog am waith yr elusen.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd FWP, mewn partneriaeth â RBL a’r Veterans Gateway, yn creu llinell gymorth 24/7 i helpu i gysylltu Cyn-filwyr LGBT+ â sefydliadau lle byddant yn cael croeso cynnes.
Mae FWP yn awyddus i gysylltu â Chyn-filwyr LGBT+ a sefydliadau i Gyn-filwyr ledled Cymru.
Veterans Gateway
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo’r Veterans’ Gateway drwy ein cyhoeddiadau, ac ymgysylltu â phartneriaid. Mae’r siart ganlynol yn dangos canran y digwyddiadau yn ymwneud â Chymru ar amrywiaeth o bynciau, mis Awst 2020 i fis Ebrill 2021.
Categori | Cymru | Pob Man |
---|---|---|
Cyllid | 45% | 31% |
Gwybodaeth Arall | 25% | 44% |
Lles meddyliol | 9% | 8% |
Tai | 9% | 8% |
Teulu a Chymuned | 4% | 3% |
Cyflogaeth | 3% | 3% |
Iechyd corfforol | 3% | 2% |
Byw’n annibynnol | 2% | 1% |
Nifer y digwyddiadau yng Nghymru oedd 520 a 15,216 ledled y DU. Nifer y buddiolwyr yng Nghymru oedd 414 a 12,316 ledled y DU.
Astudiaethau achos
Rheswm am yr alwad: Gwnaed ymholiad am bensiwn ar gyfer cyn-filwr a fu’n gwasanaethu rhwng 1988 a 1996. Roedd y cyn-filwr eisiau gwybod faint fyddai ei bensiwn a phryd y byddai’n ei gael. Cyfeiriwyd at Gymdeithas Pensiynau’r Lluoedd, a oedd yn gallu esbonio’r meini prawf a ffurflen hawlio i sicrhau ei ragolwg.
Rheswm am yr alwad: Galwodd cyn-filwr a’i ferch gan fod y cyn-filwr yn chwilio am gefnogaeth allgymorth oherwydd ei iechyd meddwl a arweiniodd at broblemau yfed alcohol. Roedd y problemau yn cael eu gwaethygu oherwydd dementia ei wraig. Cyfeiriwyd yn uniongyrchol at y Lleng Brydeinig Frenhinol er mwyn darparu cefnogaeth allgymorth.
Cyflogaeth a Sgiliau
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cyfoeth o sgiliau a phrofiad y mae personél y Lluoedd Arfog yn dod gyda hwy i’r gweithle. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i godi ymwybyddiaeth o fanteision cyflogi cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog.
Pecynnau Cymorth Cyflogaeth
Rydym yn cydnabod bod gan wŷr a gwragedd y rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd milwrol gyfoeth o sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu cynnig i ddarpar gyflogaeth. Wedi’i ddatblygu ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, mae ein dogfen ‘Capitalising on Military Family Talent’ yn cydnabod y sgiliau unigryw hyn, gan gynnig cyngor ymarferol i fusnesau sy’n dymuno recriwtio partneriaid y rhai sy’n gwasanaethau yn y lluoedd milwrol. Dysgwch fwy ynghylch sut y gall cyflogwyr elwa o recriwtio gwŷr a gwragedd y rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd milwrol.
Mae’r ddogfen yn rhan o gyfres o ddogfennau, ein Llwybr Cyflogaeth, sy’n egluro’r dewisiadau cyflogaeth sydd ar gael i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a darparwyr gwasanaethau sy’n gallu cynnig cymorth, ynghyd â’n Pecyn Cymorth i Gyflogwyr sy’n rhoi canllawiau clir i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a chyflogwyr ar fanteision ychwanegol cyflogi cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog.
Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr
Mae cyflogaeth o ansawdd da yn ffactor allweddol er mwyn i’r rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr bontio’n llwyddiannus yn ôl i fywyd sifil, a chyfrannu at y cymunedau y maent yn ymgartrefu ynddynt.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ei chynllun ‘Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr’, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ein cynllun ‘Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr’ ym mis Tachwedd 2020. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, bu cryn ddiddordeb ymysg cyn-filwyr mewn sicrhau cyflogaeth gyda Llywodraeth Cymru.
Digwyddiadau i Gyflogwyr Cyn-filwyr
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnal digwyddiad i gyflogwyr cyn-filwyr. Mae aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Gyflogaeth yn gweithio gyda 160fed Brigâd (Cymru) a’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) i hyrwyddo sgiliau personél y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd a’u cysylltu â chyflogwyr.
Mae’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd wedi cyflwyno Digwyddiadau Ymgysylltu Rhithiol Rhanbarthol i Gymru mewn partneriaeth â rhanbarth y De Orllewin yn Lloegr. Mae’r digwyddiadau’n cynnig cyfle i gyn-filwyr siarad â chyflogwyr posibl.
Cynllun Cydnabod Cyflogwyr
Yn 2020, roedd naw o gyflogwyr yng Nghymru ymysg y 127 o gyflogwyr yn genedlaethol a gafodd Wobr ar y lefel uchaf dan y Cynllun am gefnogi’r Lluoedd Arfog.
Enillwyr Gwobr Aur 2020 oedd:
- Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf
- Prifysgol Caerdydd
- Enbarr Enterprises Ltd
- Forces Fitness
- Hire A Hero
- Cyngor Sir Fynwy
- Heddlu Gogledd Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Cafodd 13 o fusnesau yng Nghymru eu cydnabod hefyd am eu cefnogaeth i Amddiffyn a chawsant Wobr Arian.
Gyrfa Cymru
Mae gweithio mewn partneriaeth â’r asiantaethau cymorth i gyn-filwyr wedi gwella’r cymorth i gyn-filwyr a ddarperir gan Gyrfa Cymru. Mae hyn wedi arwain at Cymru’n Gweithio yn datblygu system gofnodi newydd i helpu i adnabod cwsmeriaid sy’n gyn-filwyr neu sy’n dod o deulu cyn-filwyr. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn ystod hydref 2021.
Coffáu
Rydym yn falch o Gymru, ein cenedl fywiog sydd â’i hiaith, ei threftadaeth a’i hunaniaeth ddiwylliannol ei hun. Mae hyn yn cynnwys traddodiad milwrol balch.
Mae ein Lluoedd Arfog yn parhau i gyfrannu’n helaeth at y cymunedau lle maent yn byw ac yn setlo. Rydyn ni’n anrhydeddu ac yn cydnabod yr aberth maen nhw wedi’i wneud yn ystod gwrthdaro.
Rydym yn gwbl gefnogol i ddigwyddiadau Cofio ledled Cymru, ac fel ffordd o ddiolch i gymuned ehangach y Lluoedd Arfog, rydym yn parhau i ddarparu £20,000 y flwyddyn i gefnogi digwyddiad Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Fel pob agwedd ar fywyd, effeithiwyd ar y Cofio yn ystod y cyfnod adrodd hwn hefyd. Gan weithio ar y cyd â’r Lleng Brydeinig Frenhinol a phartneriaid, roeddem yn gallu sicrhau bod digwyddiadau cenedlaethol yn cael eu coffáu a’u cydnabod mewn ffordd ddiogel o ran COVID-19.
Canllawiau Cofio
Roeddem yn cydnabod y byddai llawer o bobl yn dymuno nodi’r Cofio a’r angen i wneud hynny’n ddiogel o fewn y rheoliadau. Gan weithio’n agos gyda’n cydweithwyr polisi a’n tîm cyfreithiol, fe wnaethom ddatblygu cyngor ac arweiniad ar gyfer y Cofio i helpu partneriaid i gynllunio gweithgareddau. Rhannwyd y canllawiau’n eang ar draws ein holl rwydweithiau.
Yr Ŵyl Goffa Genedlaethol
Am y tro cyntaf ers ei sefydlu, roedd Gŵyl Goffa Genedlaethol Cymru yn ddigwyddiad a recordiwyd ymlaen llaw. Cafodd ei darlledu ddydd Sadwrn 31 Hydref ac roedd yn cynnwys adloniant, darlleniadau, myfyrdodau personol a’r Gwasanaeth Coffa teimladwy. Rhoddodd deyrnged hefyd i VE a VJ75 yn ogystal â Brwydr Prydain 80 ac ymateb y Lluoedd Arfog i bandemig COVID-19.
Diwrnod VJ
Unwaith eto, tarfodd COVID-19 ar y digwyddiadau mawr a drefnwyd. Drwy weithio gyda’n partneriaid, llwyddwyd i sicrhau bod yr achlysur yn cael ei gydnabod yn briodol.
Gan gadw at y cyfyngiadau, cyfrannodd y Prif Weinidog at ddigwyddiad Cenedlaethol VJ75 yng Nghadeirlan Llandaf yng Nghaerdydd, a ddarlledwyd ar wefan yr Eglwys Gadeiriol.
Yr oeddem hefyd yn gallu hwyluso cyfleoedd i’r cyn-filwyr a fu’n gwasanaethu yn ystod Diwrnod VJ rannu eu straeon gyda’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol.
Gwasanaeth coffa lleiafrifoedd ethnig
Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Race Council Cymru, 160fed Brigâd (Cymru) a’r Lleng Brydeinig Frenhinol i ddarparu gwasanaeth coffa i leiafrif ethnig. Wedi’i gynnal yng Nghofeb Ryfel Gerddi Alexandra, gyda Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru yn bresennol, rhoddodd y gwasanaeth deyrnged i aberth personél a theuluoedd aelodau BAME o’r Lluoedd Arfog.
Sul y Cofio
Cymerodd y Prif Weinidog ran yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru ar Sul y Cofio. Gan adlewyrchu’r cyfyngiadau a oedd ar waith, cafodd y digwyddiad ei goffáu’n wahanol eleni, gyda llawer o bobl yn gwylio ar-lein gartref.
Ymrwymiadau i’r dyfodol: beth fyddwn ni’n ei wneud dros y flwyddyn nesaf
Byddwn yn gweithio gyda fforwm Hyrwyddwyr ein Byrddau Iechyd Lleol i ddechrau cyflwyno’r cynllun achredu meddygon teulu yng Nghymru.
Byddwn yn adolygu ac yn cyhoeddi ein Cyfamod y Lluoedd Arfog newydd, Canllawiau Gofal Iechyd sy’n Flaenoriaeth i Gyn-filwyr, yn amodol ar ddatblygiadau yn y DU gan gynnwys Bil y Lluoedd Arfog.
Iechyd a lles
Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr mewn perthynas â gofal iechyd.
Byddwn yn parhau â’n Fforwm Prostheteg y Lluoedd Arfog, gan fonitro ac ymateb i faterion sy’n ymwneud ag anghenion iechyd cyn-filwyr sydd wedi colli braich neu goes.
Byddwn yn gweithio gyda’n Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a’n partneriaid, gan gynnwys cydlynwyr rhanbarthol ar hunanladdiad ac atal hunan-niweidio, i hyrwyddo hyfforddiant cymorth cyntaf ym maes cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Addysg
Byddwn yn parhau i archwilio gwelliannau i gasglu data ar blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru, gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel SSCE Cymru.
Byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid allweddol sy’n gweithio gyda theuluoedd y Lluoedd Arfog i fonitro eu profiad o dderbyniadau i Ysgolion yng Nghymru.
Byddwn yn cefnogi fforymau cynghrair MODLAP a SCIP yng Nghymru.
Tai
Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr mewn perthynas â thai.
Budd-daliadau a Chyllid
Byddwn yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Arian, Cyngor a Phensiynau (MAPS), yr Adran Gwaith a Phensiynau a darparwyr eraill i hyrwyddo gwasanaethau cymorth ariannol drwy ymgyrch wedi’i thargedu at gymuned y Lluoedd Arfog.
Byddwn yn parhau i ddarparu consesiynau teithio i gyn-filwyr a theuluoedd yn unol â’r cynlluniau presennol.
Cymorth wrth ddychwelyd i fywyd sifil
Byddwn yn cyhoeddi Canllaw Adsefydlu Cymru ar y cyd â’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd a’r 160fed Brigâd (Cymru).
Byddwn yn darparu cyllid grant i gefnogi prosiectau lleol y Lluoedd Arfog drwy ein rhwydwaith o Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog.
Drwy Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog, byddwn yn sicrhau bod Awdurdodau Lleol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gallu cael gafael ar hyfforddiant ar gyfer staff rheng flaen er mwyn cynyddu gwybodaeth am gymuned y Lluoedd Arfog.
Cyfiawnder Troseddol
Byddwn yn dod â Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog a’r rheini sy’n cefnogi cyn-filwyr yn y carchar at ei gilydd i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.
Byddwn yn gweithio gyda Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, IOM Cymru a phartneriaid eraill i gyflawni argymhellion yr Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr.
Cyflogaeth a sgiliau
Byddwn yn gweithio gydag aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Gyflogaeth i gynnal digwyddiad Cyflogaeth i Gyn-filwyr.
Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r cynllun Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr er mwyn rhoi cyfleoedd cyflogaeth i gyn-filwyr yn Llywodraeth Cymru.
Cymorth i Deuluoedd
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i lunio strategaeth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yn y DU.
Byddwn yn parhau i gwrdd â’r Ffederasiynau Teuluoedd ac yn sicrhau bod safbwyntiau teuluoedd y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael eu clywed.
Coffáu
Byddwn yn gweithio gyda CLlLC, partneriaid milwrol, Llywodraeth Leol a’r Trydydd Sector ar gynlluniau ar gyfer dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Byddwn yn nodi 80 mlynedd ers Brwydr Prydain a Chanmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Llywodraethu
Drwy ein strwythurau llywodraethu sefydledig, byddwn yn sicrhau bod sefydliadau partner yn cael cyfle i godi materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.
Byddwn yn rhoi mewnbwn Cymru i adroddiad blynyddol Cyfamod y DU.
Byddwn yn gweithio gyda Swyddfa Materion Cyn-filwyr Llywodraeth y DU i barhau i gyflawni Strategaeth y DU ar gyfer ein Cyn-filwyr.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Cyfamod newydd, gan baratoi ar gyfer ei gweithredu.
Casgliad
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun cynhwysfawr o’r gwaith sy’n cael ei wneud ledled Cymru i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae cydweithio â’n partneriaid wedi ein helpu i ddatblygu mentrau er gwaethaf yr amgylchiadau heriol parhaus. Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu’r cynlluniau hynny y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arnynt.
Mae ein hymrwymiad i gymuned y Lluoedd Arfog yn parhau’n gadarn. Gyda chefnogaeth barhaus ein partneriaid, byddwn yn parhau i yrru’r agenda hon yn ei blaen.
Eleni, hoffwn dynnu sylw’n arbennig at y gwaith amhrisiadwy parhaus sy’n cael ei wneud gan filwyr yn ymateb ein gwlad i COVID-19.
Gan addasu eu dulliau darparu i adlewyrchu rheoliadau, mae ein helusennau a’n cyn-filwyr hefyd wedi parhau i ddarparu cymorth y mae mawr ei angen yn y cymunedau. Drwy ddarparu gweithgareddau awyr agored gan VC Gallery, fel therapi tân gwersyll a garddio, llwyddwyd i ymgysylltu’n gadarnhaol â phawb a gymerodd ran; gan gefnogi’r rhai sy’n fwy agored i niwed ac yn fwy anodd eu cyrraedd. Mae Newid Cam wedi cynnig cymorth parhaus drwy ddarparu ei wasanaeth galw heibio ar-lein, ac roedd darparu danfoniadau bwyd hanfodol yn rhoi’r cyfle i fentoriaid cymheiriaid gael sgyrsiau gwerthfawr ar garreg y drws gyda phob cyn-filwr.
Mae llawer o enghreifftiau eraill i’w nodi; diolchwn i’r holl unigolion a sefydliadau, gan gynnwys elusennau’r Lluoedd Arfog, sydd wedi mynd y tu hwnt i ddarparu cefnogaeth y mae mawr ei hangen yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Fel y mae’r adroddiad hwn yn helpu i’w ddangos, mae Llywodraeth Cymru yn parhau wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, a bydd yn parhau i weithio gyda Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog ac eraill i ddarparu’r cymorth sydd ei angen.