Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni peirianneg o Abertawe wedi addasu’r ffordd mae’n gweithio ac mae bellach yn gwneud masgiau llawfeddygol, gan greu swyddi newydd ac ategu ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu faint o gyfarpar diogelu personol – cyfarpar sydd ei angen yn fawr iawn – sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda chymorth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Cymorth COVID-19: Ymchwil, Datblygu ac Arloesi mae Brother wedi ymuno â chwmnïau ledled Cymru sy’n gwneud cyfarpar diogelu personol hanfodol fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws.

Mae diwydiant cyfarpar diogelu personol Cymru bellach yn cynnwys 25 cwmni sy’n cynhyrchu feisorau wyneb wedi eu hailbwrpasu, naw cwmni sy’n gwneud masgiau wyneb a chwe chwmni sy’n gwneud sgrybs meddygol.

Diolch i’r ymdrechion enfawr hyn gan fusnesau, mae Cymru yn cynyddu ei chapasiti ar gyfer cynhyrchu cyfarpar diogelu personol, gan sicrhau cyflenwad cyson o amrediad eang o eitemau.

I hwyluso’r gwaith o gynhyrchu cyfarpar diogelu personol, mae Brother wedi agor ffatri newydd ym Mhontardawe lle, o dan yr enw Blu Thomas Medical, mae’n cynhyrchu masgiau llawn ardystiedig â nod CE ar gyfer y GIG, lleoliadau gofal, y sector cyhoeddus ehangach a diwydiant.

Mae gan y cyfleuster y capasiti i weithredu pedair cell weithgynhyrchu y disgwylir iddynt gynhyrchu hanner miliwn o fasgiau wyneb bob dydd. Disgwylir y bydd 20 swydd newydd yn cael eu creu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu Brother i sefydlu’r ffatri a dechrau cynhyrchu’n gyflym, gan ddarparu dros £250k gan ei Chronfa Cymorth COVID-19: Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

“Ers dechrau’r pandemig rydyn ni wedi gweld busnesau ledled Cymru yn derbyn yr her o helpu pob un ohonon ni i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

“Mae ymdrechion busnesau Cymru wir wedi bod yn wych. Yn fras, mae llawer o gwmnïau wedi newid y ffordd maen nhw’n gweithio, ac yn hytrach na pharhau i wneud eu cynhyrchion arferol, maen nhw wedi bod yn arloesol wrth feddwl am ffyrdd o ddiogelu ac arbed bywydau rhag y feirws.

“Mae Brother yn enghraifft ragorol o’r ffordd mae busnesau wedi derbyn yr her. Mae gallu’r cwmni i gynhyrchu masgiau’n golygu bod ganddo rôl allweddol i’w chwarae wrth sicrhau cyflenwad cyson o gyfarpar diogelu personol yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol.

“Hoffwn i ddiolch iddyn nhw a phob busnes arall sy’n rhan o’r gwaith hwn am bopeth maen nhw’n ei wneud i’n helpu ni i fod yn hunanddibynnol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o eitemau o gyfarpar diogelu personol.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Brother, Blu Thomas:

“Rydyn ni wedi symud yn gyflym i sefydlu’r cyfleuster hwn. Mae staff Brother wedi dangos eu hymrwymiad mawr i’r prosiect hwn drwy ddefnyddio eu harbenigedd mewn peirianneg i alluogi’r cwmni i gynhyrchu’r eitemau hyn.

“Allen ni ddim bod wedi gwneud hyn helpu cymorth gwych gan nifer o sefydliadau sydd wedi ein helpu i gyrraedd y pwynt hwn, yn benodol Llywodraeth Cymru, y Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phrifysgol Caerdydd.

“Gyda’r masgiau llawn ardystiedig â nod CE bellach yn cael eu cynhyrchu, ac ynghyd â’r cwmnïau eraill sydd wedi addasu i gynhyrchu offer hanfodol, bydd Cymru mewn sefyllfa well i ymdrin ag unrhyw argyfwng yn y dyfodol.