Neidio i'r prif gynnwy

Mae Transcend Packaging yn addasu’r ffordd y mae’n gweithio i gynhyrchu miliwn o amddiffynwyr wyneb yr wythnos mewn ymateb i gais i weithredu gan Brif Weinidog Cymru i gefnogi GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae amddiffynwyr wyneb Transcend wedi’u cymeradwyo fel cyfarpar sy’n diogelu rhag y coronafeirws a byddant hefyd yn cael eu defnyddio mewn ffatrïoedd a gweithleoedd eraill.

Mae’r amddiffynwyr yn cael eu cynhyrchu yn ffatri’r cwmni yn Ystrad Mynach lle y mae fel arfer yn gwneud gwellt papur a phecynnau cynaliadwy eraill ar gyfer bwytai gwasanaeth cyflym mwyaf blaenllaw’r byd.

Bydd tua miliwn o amddiffynwyr wyneb yn cael eu gwneud i gychwyn, ond gall y cwmni gynyddu hynny i bron dau filiwn yr wythnos i ateb y galw yn y dyfodol.

Ddechrau mis Ebrill, gofynnodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i bob busnes yng Nghymru a allai helpu i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) i helpu i greu cadwyn gyflenwi newydd a wneir yng Nghymru.

Wrth siarad heddiw, dywedodd: 

Mae Transcend Packaging yn enghraifft wych o’r hyn y gall busnes ei wneud i addasu’r ffordd y mae’n gweithio i gefnogi ein hymateb i bandemig y coronafeirws.

Hoffwn ddiolch i’r cwmni am bopeth y mae’n ei wneud ac am ymgymryd â’r her.

Mae Transcend yn ymuno â nifer cynyddol o unigolion a chwmnïau sy’n barod i gefnogi a gwneud y cyfarpar sydd ei angen arnom i helpu ein gweithwyr gwych yn y maes iechyd a gofal. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pob cynnig o gymorth.

Mae amddiffynwyr wyneb Transcend yn cael eu profi a’u dosbarthu yn GIG Cymru a mannau eraill o’r DU a gwledydd o amgylch y byd.

Mae’r cwmni yn gyflogwr allweddol yn ne-ddwyrain Cymru ac mae wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol tuag at ei gynlluniau twf.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: 

Mae Transcend Packaging yn fusnes pwysig yn Sir Caerffili ac rwy’n canmol y ffordd y mae wedi newid ei ffordd o weithio i ddatblygu cynnyrch hanfodol, a fydd yn helpu i gefnogi a diogelu cymaint o bobl.

Rydyn ni yng nghanol argyfwng byd-eang ond rydyn ni wedi gweld cwmnïau yn ymateb i’r her yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae’r gwaith pwysig yr ydyn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ei wneud gyda chwmnïau yng Nghymru i gefnogi ein hymdrech o ran creu PPE, yn dangos yr hyn sy’n bosibl ar frys ac wrth weithio ar y cyd.

Dywedodd Lorenzo Angelucci, Prif Weithredwr Transcend Packaging: 

Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o’r anawsterau cenedlaethol o ran dod o hyd i PPE – fel gweithgynhyrchwr pecynnau gwnaethom osod her i’n hunain i weld yr hyn allem ei wneud i helpu.

Rydyn ni’n falch o fod wedi dylunio a chynhyrchu amddiffynnwr wyneb sydd wedi’i gymeradwyo’n rheoleiddiol â nod CE ac mae modd cynhyrchu llawer ohonynt yn gyflym am bris isel.

Bydd yr amddiffynwyr wyneb hyn yn diogelu pobl ar draws Cymru a thu hwnt rhag Covid-19, gan gynnwys ein staff dewr yn y GIG, gweithwyr cartrefi gofal, staff manwerthu a bwytai a gweithwyr eraill ar y rheng flaen.

Ein nod yw darparu cymaint â phosibl o amddiffynwyr i weithwyr allweddol a dylem fod yn gallu cynhyrchu rhwng un a dau filiwn o amddiffynwyr wyneb yr wythnos, gyhyd ag y mae’r angen amdanynt yn parhau.